Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011

(a gyflwynwyd gan adran 7)

ATODLEN 2LL+CYMHOLIADAU GAN Y COMISIYNYDD

This schedule has no associated Explanatory Notes

CyflwyniadLL+C

1Mae'r Atodlen hon yn gymwys i ymholiadau o dan adran 7.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 2 para. 1 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I2Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(e)

Cylch gorchwylLL+C

2Cyn cynnal ymholiad, rhaid i'r Comisiynydd baratoi cylch gorchwyl i'r ymholiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 2 para. 2 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I4Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(e)

3(1)Mae'r paragraff hwn yn gymwys os yw'r cylch gorchwyl yn ymwneud â pherson penodol neu gategori o berson.

(2)Rhaid i'r cylch gorchwyl bennu'r person hwnnw neu'r categori o berson.

(3)Cyn setlo'r cylch gorchwyl, rhaid i'r Comisiynydd—

(a)hysbysu pob person perthnasol o'r cylch gorchwyl arfaethedig,

(b)rhoi cyfle i bob person perthnasol gyflwyno sylwadau am y cylch gorchwyl arfaethedig, ac

(c)ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynir.

(4)Ar ôl setlo'r cylch gorchwyl (ac yntau wedi cydymffurfio ag is-baragraff (3)), rhaid i'r Comisiynydd—

(a)cyhoeddi cylch gorchwyl yr ymholiad mewn modd sydd yn nhyb y Comisiynydd yn debygol o ddwyn yr ymholiad i sylw personau y mae a wnelo'r ymholiad â hwy, neu sy'n debygol o fod yn bersonau a chanddynt fuddiant ynddo, a

(b)hysbysu'r canlynol am y cylch gorchwyl—

(i)pob person perthnasol, a

(ii)Gweinidogion Cymru.

(5)Yn y paragraff hwn ystyr “person perthnasol” yw—

(a)person a bennir yng nghylch gorchwyl ymholiad, a

(b)o ran categori o bersonau a bennir yng nghylch gorchwyl ymholiad, pob person y mae'r Comisiynydd o'r farn ei fod yn dod o fewn y categori hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 2 para. 3 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I6Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(e)

4(1)Mae'r paragraff hwn yn gymwys os nad yw'r cylch gorchwyl yn ymwneud â pherson penodol neu gategori o berson.

(2)Rhaid i'r Comisiynydd—

(a)cyhoeddi cylch gorchwyl yr ymholiad mewn modd sy'n debygol yn nhyb y Comisiynydd o ddwyn yr ymholiad i sylw personau y mae a wnelo'r ymholiad â hwy neu sy'n debygol o fod yn bersonau a chanddynt fuddiant ynddo, a

(b)hysbysu Gweinidogion Cymru am y cylch gorchwyl.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 2 para. 4 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I8Atod. 2 para. 4 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(e)

5Mae paragraff 3 neu 4 yn gymwys i unrhyw newid yn y cylch gorchwyl fel y byddai'r paragraff yn gymwys pe byddai'r newid yn y cylch gorchwyl yn gyfystyr â pharatoi'r cylch gorchwyl hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 2 para. 5 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I10Atod. 2 para. 5 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(e)

SylwadauLL+C

6(1)Rhaid i'r Comisiynydd wneud trefniadau ar gyfer rhoi cyfle i bersonau wneud sylwadau mewn perthynas ag ymholiadau.

(2)Rhaid i'r trefniadau roi cyfle i'r personau canlynol wneud sylwadau yn ystod ymholiad—

(a)pob person—

(i)a bennir yn y cylch gorchwyl, neu

(ii)sy'n dod o fewn categori o berson a bennir yn y cylch gorchwyl, a

(b)Gweinidogion Cymru.

(3)Caiff trefniadau o dan y paragraff hwn gynnwys trefniadau ar gyfer sylwadau llafar ymysg pethau eraill.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 2 para. 6 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I12Atod. 2 para. 6 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(e)

7(1)Rhaid i'r Comisiynydd ystyried sylwadau a wneir mewn perthynas ag ymholiad—

(a)gan berson—

(i)a bennir yn y cylch gorchwyl, neu

(ii)sy'n dod o fewn categori o berson a bennir yn y cylch gorchwyl, neu

(b)gan gynghorydd cyfreithiol sy'n gweithredu ar ran person sy'n dod o fewn paragraff (a)(i) neu (ii), neu

(c)gan Weinidogion Cymru.

(2)Rhaid i'r Comisiynydd ystyried sylwadau a wneir mewn perthynas ag ymholiad gan unrhyw berson arall, onid yw'n briodol, yn nhyb y Comisiynydd, i wrthod gwneud hynny.

(3)Os yw'r Comisiynydd yn gwrthod ystyried sylwadau a gyflwynir mewn perthynas ag ymholiad, rhaid iddo roi hysbysiad ysgrifenedig am y canlynol i'r person a gyflwynodd y sylwadau—

(a)y penderfyniad i wrthod ystyried y sylwadau, a

(b)y rhesymau dros y penderfyniad.

(4)Yn y paragraff hwn ystyr “cynghorydd cyfreithiol” yw—

(a)person sydd, at ddibenion Deddf Gwasanaethau Cyfreithiol 2007, yn berson awdurdodedig, neu'n gyfreithiwr Ewropeaidd sy'n berson esempt yn rhinwedd paragraff 7 o Atodlen 3 i'r Ddeddf honno, mewn perthynas â gweithgaredd sy'n golygu arfer hawl i ymddangos mewn achos neu ymladd achos (o fewn ystyr y Ddeddf honno), a

(b)adfocad neu gyfreithiwr yn yr Alban.

Gwybodaeth Cychwyn

I13Atod. 2 para. 7 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I14Atod. 2 para. 7 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(e)

Adroddiadau ar ymholiadauLL+C

8(1)Rhaid i'r Comisiynydd lunio adroddiad o'i ganfyddiadau ar unrhyw ymholiad.

(2)Ni chaniateir i'r adroddiad—

(a)ei gwneud yn hysbys beth yw'r methiant i gydymffurfio â gofyniad perthnasol (o fewn ystyr Rhan 5) gan berson y mae'n hysbys pwy ydyw, neu y gall fod yn hysbys pwy ydyw, yn rhinwedd yr adroddiad, neu

(b)cyfeirio fel arall at weithgareddau person y mae'n hysbys pwy ydyw, neu y gall fod yn hysbys pwy ydyw, yn rhinwedd yr adroddiad, oni bai bod y Comisiynydd o'r farn—

(i)na fyddai'r cyfeiriad yn niweidio'r person, neu

(ii)bod y cyfeiriad yn angenrheidiol er mwyn i'r adroddiad adlewyrchu canlyniadau'r ymholiad yn ddigonol (gan ystyried cylch gorchwyl yr ymholiad).

(3)Rhaid i'r Comisiynydd anfon drafft o'r adroddiad at Weinidogion Cymru.

(4)Os yw'r cylch gorchwyl yn pennu person penodol neu gategori o berson, rhaid i'r Comisiynydd hefyd anfon drafft o'r adroddiad at bob person perthnasol.

(5)Rhaid i'r Comisiynydd—

(a)rhoi cyfle i Weinidogion Cymru, ac i unrhyw berson arall yr anfonir drafft o adroddiad ato, i wneud sylwadau am yr adroddiad drafft, a

(b)ystyried unrhyw sylwadau a wneir.

(6)Ar ôl setlo'r adroddiad (ac yntau wedi cydymffurfio ag is-baragraff (5)), rhaid i'r Comisiynydd ei gyhoeddi.

(7)Nid yw'r paragraff hwn yn effeithio ar gymhwyso Deddf Diogelu Data 1998 i'r Comisiynydd.

(8)Yn y paragraff hwn mae i “person perthnasol” yr un ystyr ag a roddir ym mharagraff 3.

Gwybodaeth Cychwyn

I15Atod. 2 para. 8 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)