41Safonau gwahanol yn ymwneud ag ymddygiad penodolLL+C
This section has no associated Explanatory Notes
(1)Mae'r adran hon yn gymwys os bydd rheoliadau o dan unrhyw un neu ragor o baragraffau (a) i (e) o adran 26(1) yn pennu nifer o safonau o'r math y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw mewn perthynas ag ymddygiad penodol.
(2)Caiff rheoliadau o dan adran 39 ddarparu ar gyfer un neu ragor o'r canlynol—
(a)i un safon fod yn benodol gymwys i un person, i ddau berson neu i ragor, neu i grŵp o bersonau;
(b)i ddwy safon neu ragor fod yn benodol gymwys i un person, i ddau berson neu i ragor, neu i grŵp o bersonau;
(c)i safonau gwahanol fod yn benodol gymwys i bersonau gwahanol.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 41 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)
I2A. 41 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(i)