Search Legislation

Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011

Statws

This is the original version (as it was originally enacted).

Legislation Crest

Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011

2011 mccc 2

MESUR gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud darpariaeth ynghylch ac mewn cysylltiad â rhoi effaith bellach yng Nghymru i'r hawliau a'r rhwymedigaethau a roddir yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn; ac at ddibenion cysylltiedig.

Mae'r Mesur hwn, a basiwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 18 Ionawr 2011 ac a gymeradwywyd gan Ei Mawrhydi yn Ei Chyngor ar [16 Mawrth 2011], yn deddfu'r darpariaethau a ganlyn:

1Dyletswydd i roi sylw dyledus i'r Confensiwn ar Hawliau'r Plentyn

(1)Oddi ar ddechrau Mai 2014, rhaid i Weinidogion Cymru, wrth arfer unrhyw un neu ragor o'u swyddogaethau, roi sylw dyledus i ofynion—

(a)Rhan I o'r Confensiwn,

(b)erthyglau 1 i 7 o'r Protocol Dewisol i'r Confensiwn ar Hawliau'r Plentyn ar dynnu plant i mewn i wrthdaro arfog, ac eithrio erthygl 6(2), ac

(c)erthyglau 1 i 10 o'r Protocol Dewisol i'r Confensiwn ar Hawliau'r Plentyn ar werthu plant, puteindra plant a phornograffi plant.

(2)Oddi ar ddechrau Mai 2012 hyd at ddiwedd Ebrill 2014, rhaid i Weinidogion Cymru, wrth wneud unrhyw benderfyniad sydd yn dod o fewn is-adran (3), roi sylw dyledus i ofynion Rhan I o'r Confensiwn a'r Protocolau.

(3)Mae penderfyniad yn dod o dan yr is-adran hon os yw'r penderfyniad yn ymwneud ag unrhyw un neu ragor o'r canlynol—

(a)darpariaeth y bwriedir ei chynnwys mewn deddfiad;

(b)fformiwleiddio polisi newydd;

(c)adolygiad o bolisi sydd eisoes mewn bod neu newid i bolisi sydd eisoes mewn bod.

(4)Mae cyfeiriadau yn y Mesur hwn at ddyletswydd Gweinidogion Cymru o dan yr adran hon yn cyfeirio—

(a)oddi ar ddechrau Mai 2012 hyd at ddiwedd Ebrill 2014, at y ddyletswydd yn is adran (2); a

(b)oddi ar ddechrau Mai 2014, at y ddyletswydd yn is-adran (1).

(5)Mae'r adran hon yn gymwys i'r Prif Weinidog ac i Weinidogion Cymru fel ei gilydd (ac mae unrhyw gyfeiriad yn y Mesur hwn at y ddyletswydd o dan yr adran hon i'w ddarllen yn unol â hynny).

2Cynllun y plant

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru wneud cynllun (“cynllun y plant”) sy'n gosod y trefniadau y maent wedi eu gwneud, neu y maent yn bwriadu eu gwneud, at ddiben sicrhau cydymffurfiaeth â'r ddyletswydd o dan adran 1.

(2)Caiff y cynllun—

(a)ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi adroddiadau ar weithrediad y cynllun neu ar unrhyw fater arall a grybwyllir ynddo (yn ychwanegol at yr adroddiadau sy'n ofynnol o dan adran 4(1)), a

(b)pennu materion y mae'n rhaid eu cynnwys yn yr adroddiadau hynny neu mewn adroddiadau o dan adran 4(1).

(3)Caiff y cynllun gynnwys unrhyw faterion eraill y mae Gweinidogion Cymru yn barnu eu bod yn briodol.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru, cyn pen chwe mis ar ôl i'r Pwyllgor wneud unrhyw awgrym neu argymhelliad cyffredinol o dan erthygl 45(d) seiliedig ar adroddiad gan y DU, ystyried p'un ai i adolygu neu ail-wneud y cynllun yng ngoleuni'r awgrym hwnnw neu'r argymhelliad hwnnw.

(5)Caiff Gweinidogion Cymru adolygu neu ail-wneud y cynllun ar unrhyw adeg.

(6)Yn yr adran hon—

(a)ystyr “y Pwyllgor” yw'r Pwyllgor ar Hawliau'r Plentyn a sefydlwyd o dan erthygl 43(1);

(b)ystyr “adroddiad gan y DU” yw adroddiad a gyflwynir gan y Deyrnas Unedig o dan erthygl 44(1)(b); ac

(c)mae unrhyw gyfeiriad at erthygl yn gyfeiriad at yr erthygl honno o'r Confensiwn.

3Llunio a chyhoeddi'r cynllun

(1)Wrth lunio, ail-wneud neu adolygu cynllun y plant, rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i—

(a)unrhyw adroddiad gan y Pwyllgor o dan erthygl 44(5) neu astudiaeth a wneir o dan erthygl 45(c);

(b)unrhyw adroddiadau, awgrymiadau, argymhellion cyffredinol neu ddogfennau eraill a ddyroddir gan y Pwyllgor sy'n ymwneud â rhoi'r Confensiwn neu'r Protocolau ar waith gan y Deyrnas Unedig.

(2)Wrth lunio, ail-wneud neu adolygu cynllun y plant, caiff Gweinidogion Cymru roi sylw i unrhyw ddogfennau eraill (p'un a ddyroddir hwy gan y Pwyllgor ai peidio) ac i unrhyw faterion eraill sydd yn eu barn hwy yn berthnasol.

(3)Cyn gwneud, ail-wneud neu adolygu cynllun y plant, rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi drafft o'r—

(a)cynllun, neu

(b)pan fônt yn bwriadu adolygu'r cynllun, naill ai'r adolygiadau neu'r cynllun fel y'i adolygwyd.

(4)Wrth lunio drafft i'w gyhoeddi o dan is-adran (3), rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod—

(a)plant a phobl ifanc,

(b)Comisiynydd Plant Cymru, ac

(c)unrhyw bobl neu gyrff eraill y mae Gweinidogion Cymru yn barnu eu bod yn briodol,

yn cael rhan mewn llunio'r drafft.

(5)Cyn gwneud, ail-wneud neu adolygu cynllun y plant, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r bobl a ganlyn ynghylch y drafft a gyhoeddir o dan is-adran (3)—

(a)plant a phobl ifanc,

(b)Comisiynydd Plant Cymru, ac

(c)unrhyw bobl neu gyrff eraill y mae Gweinidogion Cymru yn barnu eu bod yn briodol.

(6)Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â gwneud, ail-wneud nac adolygu cynllun y plant oni bai bod drafft o'r—

(a)cynllun, neu

(b)pan fônt yn bwriadu adolygu'r cynllun, naill ai'r adolygiadau neu'r cynllun fel y'i adolygwyd,

wedi ei osod gerbron y Cynulliad ac wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad gan y Cynulliad.

(7)Rhaid i Weinidogion Cymru osod drafft o'r cynllun gerbron y Cynulliad (yn unol ag is-adran (6)(a)) ar neu cyn 31 Mawrth 2012.

(8)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi cynllun y plant pan fyddant yn ei wneud a phryd bynnag y byddont yn ei ail-wneud; ac, os ydynt yn adolygu'r cynllun heb ei ail-wneud, rhaid iddynt gyhoeddi naill ai'r adolygiadau neu'r cynllun fel y'i adolygwyd (fel sy'n briodol yn eu barn hwy).

(9)Os yw Gweinidogion Cymru yn cyhoeddi cynllun neu adolygiadau o dan is-adran (8) rhaid iddynt osod copi o'r cynllun neu'r adolygiadau gerbron y Cynulliad.

(10)Yn yr adran hon—

(a)ystyr “y Pwyllgor” yw'r Pwyllgor ar Hawliau'r Plentyn a sefydlwyd o dan erthygl 43(1); a

(b)mae unrhyw gyfeiriad at erthygl yn gyfeiriad at yr erthygl honno o'r Confensiwn.

4Adroddiadau

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)ar neu cyn 31 Ionawr 2013, a

(b)ar neu cyn diwedd pob cyfnod dilynol o bum mlynedd, neu o unrhyw hyd arall a bennir yng nghynllun y plant,

gyhoeddi adroddiad ar sut y maent hwy a'r Prif Weinidog wedi cydymffurfio â'r ddyletswydd o dan adran 1.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi unrhyw adroddiadau eraill sy'n ofynnol yn unol ag adran 2(2)(a).

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru osod gerbron y Cynulliad gopi o bob adroddiad a gyhoeddir o dan is-adran (1) neu (2).

5Dyletswydd i hybu gwybodaeth o'r Confensiwn

Rhaid i Weinidogion Cymru gymryd y camau priodol i hybu gwybodaeth a dealltwriaeth o'r Confensiwn a'r Protocolau ymhlith y cyhoedd (gan gynnwys plant).

6Pŵer i ddiwygio deddfwriaeth etc

(1)Mae'r adran hon yn gymwys os yw adroddiad a gyhoeddir o dan 4(1) neu (2) yn dod i'r casgliad y byddai'n ddymunol, at ddibenion rhoi effaith bellach neu effaith well i'r hawliau a'r rhwymedigaethau a nodir yn Rhan I o'r Confensiwn a'r Protocolau, i ddiwygio deddfiad neu offeryn uchelfreiniol.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru wneud drwy orchymyn unrhyw ddiwygiadau i'r deddfiad hwnnw neu i'r offeryn hwnnw sydd yn eu barn hwy yn briodol yn sgil yr adroddiad.

(3)Ond ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud gorchymyn o dan is-adran (2) os nad yw'r ddarpariaeth a wneir gan y gorchymyn o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad ar y pryd.

(4)Cyn gwneud gorchymyn o dan is-adran (2) rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r bobl hynny neu â'r cyrff hynny sydd ym marn Gweinidogion Cymru yn briodol.

7Cymhwyso i bobl ifanc

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru ystyried p'un a gaiff ac (os felly) i ba raddau a chyda pha ddiwygiadau y caiff—

(a)gofynion Rhan I o'r Confensiwn a'r Protocolau fod yn berthnasol i bobl ifanc, a

(b)gofynion y Mesur hwn gael eu cymhwyso o ran pobl ifanc.

(2)Rhaid i gynllun y plant (pan wneir ef yn gyntaf) gynnwys datganiad ar fwriadau Gweinidogion Cymru i ymgynghori ar y materion a grybwyllir yn is-adran (1).

(3)Caiff Gweinidogion Cymru, wrth ymgynghori ar y materion a grybwyllir yn is-adran (1), ymgynghori ar unrhyw fater arall sy'n ymwneud â phobl ifanc sydd yn eu barn hwy yn briodol.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi adroddiad ar eu casgliadau o dan is-adran (1).

(5)Rhaid i Weinidogion Cymru osod gerbron y Cynulliad gopi o unrhyw adroddiad a gyhoeddir o dan is-adran (4).

(6)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn —

(a)gymhwyso unrhyw ddarpariaeth yn y Mesur hwn o ran pobl ifanc;

(b)wneud unrhyw ddarpariaeth arall sydd yn eu barn hwy yn briodol er mwyn rhoi effaith, o ran pobl ifanc, i unrhyw un neu ragor o'r gofynion yn Rhan I o'r Confensiwn a'r Protocolau.

(7)Caiff gorchymyn o dan is-adran (6)(a) wneud unrhyw addasiadau o'r darpariaethau a gymhwysir ganddo sydd yn briodol ym marn Gweinidogion Cymru.

(8)Cyn gwneud gorchymyn o dan is-adran (6) rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)gyhoeddi drafft o'r gorchymyn, a

(b)ymgynghori ar y drafft â'r bobl neu'r cyrff sydd yn eu barn hwy yn briodol.

8Y Confensiwn ar Hawliau'r Plentyn

(1)Yn y Mesur hwn—

(a)ystyr “y Confensiwn” yw Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn a fabwysiadwyd ac a agorwyd i'w lofnodi, ei gadarnhau a'i gytuno gan benderfyniad y Cynulliad Cyffredinol 44/25 20 Tachwedd 1989, a

(b)ystyr “y Protocolau” yw'r Protocolau Dewisol a grybwyllir yn adran 1(1)(b) ac (c).

(2)Yn yr Atodlen i'r Mesur hwn—

(a)mae Rhan 1 yn rhoi testun Rhan I o'r Confensiwn,

(b)mae Rhan 2 yn rhoi testun erthyglau'r Protocolau y cyfeirir atynt yn adran 1(1)(b) ac (c), a

(c)mae Rhan 3 yn rhoi testun y datganiadau gan y Deyrnas Unedig i'r Confensiwn a'r Protocolau.

(3)At ddibenion y Mesur hwn, mae'r Confensiwn a'r Protocolau i'w trin fel petai iddynt effaith—

(a)fel y'u rhoddir am y tro yn Rhannau 1 a 2 o'r Atodlen, ond

(b)yn ddarostyngedig i unrhyw ddatganiad neu neilltuad fel y'u rhoddir am y tro yn Rhan 3 o'r Atodlen.

(4)Mae is-adran (5) yn gymwys os yw'r Deyrnas Unedig wedi llofnodi neu wedi mynegi fel arall ei chytundeb i—

(a)diwygiad i'r Confensiwn neu i brotocol a roddir am y tro yn yr Atodlen, neu

(b)protocol ychwanegol i'r Confensiwn.

Ond nid yw'r is-adran honno yn gymwys os yw is-adran (7) yn gymwys o ran y diwygiad neu'r protocol.

(5)Caiff Gweinidogion Cymru wneud drwy orchymyn ddiwygiadau i adran 1(1), 8(1), 8(2) neu 8(3) o'r Mesur hwn neu i'r Atodlen i'r Mesur hwn i adlewyrchu—

(a)y diwygiad neu'r protocol, a

(b)unrhyw ddatganiad neu neilltuad gan y Deyrnas Unedig i'r diwygiad neu i'r protocol.

(6)Mae is-adran (7) yn gymwys os yw'r Deyrnas Unedig wedi cadarnhau—

(a)diwygiad i'r Confensiwn neu i brotocol a roddir am y tro yn yr Atodlen, neu

(b)protocol ychwanegol i'r Confensiwn.

(7)Rhaid i Weinidogion Cymru wneud drwy orchymyn ddiwygiadau i adran 1(1), 8(1), 8(2) neu 8(3) o'r Mesur hwn neu i'r Atodlen i'r Mesur hwn i adlewyrchu—

(a)y diwygiad neu'r protocol, a

(b)unrhyw ddatganiad neu neilltuad gan y Deyrnas Unedig i'r diwygiad neu i'r protocol.

(8)Rhaid i Weinidogion Cymru wneud drwy orchymyn ddiwygiadau i Ran 3 o'r Atodlen i adlewyrchu unrhyw weithred o ddiwygio neu dynnu yn ôl o unrhyw ddatganiad neu neilltuad a roddir am y tro yn y Rhan honno.

9Darpariaethau dehongli eraill

Yn y Mesur hwn  

  • ystyr “y Cynulliad” (the Assembly) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

  • ystyr “deddfiad” (enactment) yw—

    (i)

    Deddf Seneddol,

    (ii)

    Mesur neu Ddeddf Cynulliad,

    (iii)

    is-ddeddfwriaeth o fewn ystyr adran 21(1) o Ddeddf Dehongli 1978 (p. 30), neu

    (iv)

    is-ddeddfwriaeth a wneir o dan unrhyw un o Fesurau neu Ddeddfau'r Cynulliad;

  • ystyr “plentyn” (child) yw person nad yw wedi cyrraedd 18 oed;

  • ystyr “pobl ifanc” (young person) yw pobl sydd wedi cyrraedd 18 oed ond nid 25 oed.

10Gorchmynion

(1)Mae unrhyw orchymyn o dan y Mesur hwn i'w wneud drwy offeryn statudol.

(2)Rhaid i offeryn statudol sy'n cynnwys gorchymyn o dan adran 6 neu 7 beidio â chael ei wneud oni bai bod drafft o'r offeryn wedi cael ei osod gerbron y Cynulliad a'i gymeradwyo drwy benderfyniad gan y Cynulliad.

(3)Ni chaniateir i unrhyw drafodion gael eu cynnal yn y Cynulliad er mwyn cymeradwyo drafft offeryn sy'n cynnwys gorchymyn o dan adran 6 neu 7 cyn diwedd y cyfnod o 40 niwrnod fel y'i diffinnir yn is-adran (6).

(4)Rhaid i ddrafft o offeryn statudol sy'n cynnwys gorchymyn o dan adran 8 gael ei osod gerbron y Cynulliad cyn i'r offeryn gael ei wneud a rhaid peidio â gwneud yr offeryn cyn diwedd y cyfnod o 40 niwrnod fel y'i diffinnir yn is-adran (6).

(5)Nid yw adran 6(1) o Ddeddf Offerynnau Statudol 1946 yn gymwys i ddrafft o offeryn sy'n cynnwys gorchymyn o dan adran 8.

(6)At ddibenion is-adrannau (3) a (4), mae'r cyfnod o 40 niwrnod yn dechrau ar y diwrnod pryd y gosodir yr offeryn drafft gerbron y Cynulliad, heb gymryd i ystyriaeth unrhyw amser pryd y bydd y Cynulliad wedi ei ddiddymu neu ar doriad am fwy na phedwar diwrnod.

11Cychwyn

Daw'r Mesur hwn i rym ar ddiwedd y cyfnod o ddau fis sy'n dechrau ar y diwrnod pan gymeradwyir ef gan Ei Mawrhydi yn ei Chyngor.

12Enw byr

Enw'r Mesur hwn yw Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011.

(a gyflwynwyd gan adran 8)

YR ATODLENY CONFENSIWN, Y PROTOCOLAU, Y DATGANIADAU A'r NEILLTUADAU

RHAN 1RHAN I O'R CONFENSIWN

Erthygl 1

At ddibenion y Confensiwn presennol, mae plentyn yn golygu pob bod dynol sydd o dan ddeunaw mlwydd oed oni ddeuir i lawn oed yn gynt o dan y gyfraith sy'n gymwysadwy i'r plentyn.

Erthygl 2

1Rhaid i Bartïon Gwladwriaethau barchu'r hawliau sydd wedi eu nodi yn y Confensiwn presennol a'u sicrhau i bob plentyn o fewn eu hawdurdodaeth heb gamwahaniaethu o unrhyw fath, ni waeth beth fo hil, lliw, rhyw, iaith, crefydd, barn wleidyddol neu farn arall, tarddiad cenedlaethol, ethnig neu gymdeithasol, eiddo, anabledd, genedigaeth neu statws arall y plentyn neu ei riant neu ei warcheidwad cyfreithiol.

2Rhaid i Bartïon Gwladwriaethau gymryd pob mesur priodol i sicrhau bod y plentyn yn cael ei amddiffyn rhag pob ffurf ar gamwahaniaethu neu gosbi ar sail statws, gweithgareddau, barnau datganedig, neu gredoau rhieni, gwarcheidwaid cyfreithiol, neu aelodau teulu'r plentyn.

Erthygl 3

1Ym mhob gweithred sy'n ymwneud â phlant, p'un a ymgymerir â hwy gan sefydliadau lles cymdeithasol cyhoeddus neu breifat, llysoedd barn, awdurdodau gweinyddol neu gyrff deddfwriaethol, rhaid i les pennaf y plentyn fod yn brif ystyriaeth.

2Mae Partïon Gwladwriaethau yn ymrwymo i sicrhau i'r plentyn yr amddiffyniad a'r gofal sy'n angenrheidiol i'w lesiant, gan ystyried hawliau a dyletswyddau ei rieni, ei warcheidwaid cyfreithiol, neu unigolion eraill sydd â chyfrifoldeb cyfreithiol drosto, ac, i'r perwyl hwn, rhaid iddynt gymryd pob mesur deddfwriaethol a gweinyddol sy'n briodol.

3Rhaid i Bartïon Gwladwriaethau sicrhau y bydd y sefydliadau, y gwasanaethau a'r cyfleusterau sy'n gyfrifol am ofalu am blant neu am eu hamddiffyn yn cydymffurfio â'r safonau a sefydlwyd gan awdurdodau cymwys, yn enwedig ym meysydd diogelwch, iechyd, yn nifer ac addasrwydd eu staff, yn ogystal â goruchwyliaeth gymwys.

Erthygl 4

Rhaid i Bartïon Gwladwriaethau ymgymryd â phob mesur deddfwriaethol a gweinyddol sy'n briodol a phob mesur priodol arall ar gyfer gweithredu'r hawliau a gydnabyddir yn y Confensiwn presennol. O ran hawliau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol, rhaid i Bartïon Gwladwriaethau ymgymryd â'r mesurau hynny hyd eithaf maint yr adnoddau sydd ar gael iddynt, a phan fo angen, o fewn fframwaith cydweithredu rhyngwladol.

Erthygl 5

Rhaid i Bartïon Gwladwriaethau barchu cyfrifoldebau, hawliau a dyletswyddau rhieni neu, pan fo'n gymwysadwy, aelodau'r teulu estynedig neu'r gymuned fel y darperir ar gyfer hynny yn ôl yr arfer lleol, gwarcheidwaid cyfreithiol neu bersonau eraill sy'n gyfrifol am y plentyn yn ôl y gyfraith, i ddarparu, mewn modd sy'n gyson â gallueddau datblygol y plentyn, gyfarwyddyd a chanllawiau priodol i'r plentyn arfer yr hawliau a gydnabyddir yn y Confensiwn presennol.

Erthygl 6

1Mae Partïon Gwladwriaethau yn cydnabod bod gan bob plentyn hawl gynhenid i fywyd.

2Rhaid i Bartïon Gwladwriaethau sicrhau i'r graddau eithaf sy'n bosibl y bydd y plentyn yn goroesi ac yn datblygu.

Erthygl 7

1Rhaid i'r plentyn gael ei gofrestru yn union ar ôl ei eni a bydd ganddo hawl o ddyddiad ei eni i gael enw, hawl i gael cenedligrwydd a chyn belled ag y bo modd, hawl i adnabod ei rieni ac i gael gofal ganddynt.

2Rhaid i Bartïon Gwladwriaethau sicrhau bod yr hawliau hyn yn cael eu gweithredu'n unol â'u cyfraith genedlaethol a'u rhwymedigaethau o dan yr offerynnau rhyngwladol perthnasol yn y maes hwn, yn enwedig pan fyddai'r plentyn fel arall heb wladwriaeth.

Erthygl 8

1Mae Partïon Gwladwriaethau yn ymrwymo i barchu hawl y plentyn i gadw ei hunaniaeth, gan gynnwys ei genedligrwydd, ei enw a'i berthnasau teuluol fel y'u cydnabyddir gan y gyfraith heb amhariad anghyfreithlon.

2Pan fo plentyn wedi ei amddifadu'n anghyfreithlon o rai neu bob un o elfennau ei hunaniaeth, rhaid i Bartïon Gwladwriaethau ddarparu cymorth ac amddiffyniad priodol, gyda golwg ar ailsefydlu'n gyflym ei hunaniaeth.

Erthygl 9

1Rhaid i Bartïon Gwladwriaethau sicrhau na chaiff plentyn ei wahanu oddi wrth ei rieni yn erbyn eu hewyllys, ac eithrio pan fo awdurdodau cymwys, yn ddarostyngedig i adolygiad barnwrol, yn penderfynu, yn unol â'r gyfraith a'r gweithdrefnau sy'n gymwysadwy, fod angen y gwahanu hwnnw er lles pennaf y plentyn. Gall penderfyniad o'r fath fod yn angenrheidiol mewn achos penodol megis un sy'n golygu bod y plentyn yn cael ei cam-drin neu ei esgeuluso gan y rhieni, neu un lle mae'r rhieni'n byw ar wahân a bod rhaid gwneud penderfyniad ynghylch preswylfan y plentyn.

2Mewn unrhyw reithdrefn yn unol â pharagraff 1 o'r erthygl bresennol, rhaid i bob parti sydd â buddiant gael cyfle i gymryd rhan yn y rheithdrefn ac i wneud eu sylwadau'n hysbys.

3Rhaid i Bartïon Gwladwriaethau barchu hawl plentyn sydd wedi ei wahanu oddi wrth un o'i rieni neu'r ddau ohonynt i gadw perthynas bersonol a chysylltiad uniongyrchol â'r ddau riant yn rheolaidd, ac eithrio os yw'n groes i les pennaf y plentyn.

4Pan fo'r gwahanu hwnnw yn ganlyniad i unrhyw gamau a gychwynnwyd gan Barti Gwladwriaeth, megis cadwad, carchariad, alltudiaeth, allgludiad neu farwolaeth (gan gynnwys marwolaeth sy'n deillio o unrhyw achos tra bo'r person yn nalfa'r Wladwriaeth) un rhiant neu'r ddau ohonynt neu'r plentyn, rhaid i'r Parti Gwladwriaeth, ar archiad, ddarparu i'r rhieni, y plentyn neu, os yw'n briodol, aelod arall o'r teulu yr wybodaeth hanfodol ynghylch lleoliad aelod(au) absennol y teulu oni fyddai darparu'r wybodaeth yn niweidiol i lesiant y plentyn. Rhaid i Bartïon Gwladwriaethau sicrhau ymhellach na fyddai cyflwyno'r archiad hwnnw ynddo'i hun yn peri unrhyw ganlyniadau andwyol i'r person(au) o dan sylw.

Erthygl 10

1Yn unol ag ymrwymiad y Partïon Gwladwriaethau o dan erthygl 9, paragraff 1, rhaid i geisiadau gan blentyn neu ei rieni i ddod i mewn i diriogaeth Parti Gwladwriaeth neu ymadael â hi at ddiben ailuno gael eu trin gan Bartïon Gwladwriaethau mewn modd cadarnhaol, dyngarol a hwylus. Rhaid i Bartïon Gwladwriaethau sicrhau ymhellach na fyddai cyflwyno'r archiad hwnnw yn peri unrhyw ganlyniadau andwyol i'r ceiswyr nac i aelodau o'u teulu.

2Bydd gan blentyn y mae ei rieni yn preswylio mewn gwahanol Wladwriaethau hawl i gadw yn rheolaidd, oddigerth o dan amgylchiadau eithriadol, berthynas bersonol a chysylltiadau uniongyrchol â'r ddau riant. I'r perwyl hwnnw ac yn unol ag ymrwymiad Partïon Gwladwriaethau o dan erthygl 9, paragraff 2, rhaid i Bartïon Gwladwriaethau barchu hawl y plentyn a'i rieni i adael unrhyw wlad, gan gynnwys gwlad eu hunain, ac i fynd i mewn i'w gwlad eu hunain. Yr unig gyfyngiadau y bydd yr hawl i adael unrhyw wlad yn ddarostyngedig iddynt yw'r cyfyngiadau sydd wedi eu rhagnodi gan y gyfraith ac sy'n angenrheidiol i warchod diogeledd gwladol, trefn gyhoeddus (ordre public), iechyd neu foesau cyhoeddus neu hawliau a rhyddidau personau eraill ac sy'n gyson â'r hawliau eraill a gydnabyddir yn y Confensiwn presennol.

Erthygl 11

1Rhaid i Bartïon Gwladwriaethau gymryd mesurau i ymladd y weithred anghyfreithlon o symud plant dramor a pheidio â'u dychwelyd.

2I'r perwyl hwn, rhaid i Bartïon Gwladwriaethau hybu'r broses o gwblhau cytundebau dwyochrog neu amlochrog neu gydsynio â chytundebau sy'n bodoli eisoes.

Erthygl 12

1Rhaid i Bartïon Gwladwriaethau sicrhau i'r plentyn sy'n gallu ffurfio ei farn ei hun hawl i leisio'r farn honno'n ddirwystr ym mhob mater sy'n effeithio arno, a bod pwys priodol yn cael ei roi ar farn y plentyn yn ôl ei oedran a'i aeddfedrwydd.

2At y diben hwn, rhaid rhoi cyfle i'r plentyn yn benodol i gael gwrandawiad mewn unrhyw reithdrefn farnwrol a gweinyddol sy'n effeithio arno, naill ai'n uniongyrchol, neu drwy gynrychiolydd neu gorff priodol, mewn modd sy'n gyson â rheolau gweithdrefnol y gyfraith genedlaethol.

Erthygl 13

1Bydd gan y plentyn hawl i ryddid mynegiant. Bydd yr hawl hon yn cynnwys rhyddid i geisio, cael a rhoi gwybodaeth a syniadau o bob math, ni waeth beth fo'r ffiniau, naill ai ar lafar, mewn ysgrifen neu mewn print, ar ffurf celfyddyd, neu drwy unrhyw gyfrwng arall a ddewisir gan y plentyn.

2Caiff y dull o arfer yr hawl hon fod yn ddarostyngedig i gyfyngiadau, ond ni fydd y rhain ond y rhai a ddarperir drwy'r gyfraith ac sy'n angenrheidiol:

(a)i barchu hawliau neu enwau da personau eraill; neu

(b)i warchod diogeledd gwladol neu drefn gyhoeddus (ordre public), neu iechyd neu foesau cyhoeddus.

Erthygl 14

1Rhaid i Bartïon Gwladwriaethau barchu hawl y plentyn i ryddid meddwl, cydwybod a chrefydd.

2Rhaid i Bartïon Gwladwriaethau barchu hawliau a dyletswyddau'r rhieni a phan fo'n gymwysadwy, gwarcheidwaid cyfreithiol, i roi cyfarwyddyd i'r plentyn i arfer ei hawl mewn modd sy'n gyson â gallueddau datblygol y plentyn.

3Yr unig gyfyngiadau y caiff rhyddid unigolyn i amlygu ei grefydd fod yn ddarostyngedig iddynt yw'r cyfyngiadau sydd wedi eu rhagnodi gan y gyfraith ac sy'n angenrheidiol i warchod diogelwch, trefn, iechyd neu foesau cyhoeddus, neu hawliau a rhyddidau personau eraill.

Erthygl 15

1Mae Partïon Gwladwriaethau yn cydnabod hawliau'r plentyn i gael rhyddid i ymgysylltu a rhyddid i ymgynnull yn heddychlon.

2Ni chaniateir i unrhyw gyfyngiadau gael eu gosod ar y dull o arfer yr hawliau hyn ac eithrio'r rhai a osodir i gydymffurfio â'r gyfraith ac sy'n angenrheidiol mewn cymdeithas ddemocrataidd er budd diogeledd gwladol neu ddiogelwch cyhoeddus, trefn gyhoeddus (ordre public), diogelu iechyd neu foesau cyhoeddus neu amddiffyn hawliau a rhyddidau personau eraill.

Erthygl 16

1Ni chaniateir i unrhyw blentyn gael ei orfodi i ddioddef ymyrraeth fympwyol neu anghyfreithlon â'i breifatrwydd, â'i deulu, â'i gartref na'i ohebiaeth nac ymosodiadau anghyfreithlon ar ei anrhydedd a'i enw da.

2Mae gan y plentyn hawl i gael ei amddiffyn gan y gyfraith yn erbyn unrhyw ymyrraeth neu ymosodiadau o'r fath.

Erthygl 17

Mae Partïon Gwladwriaethau yn cydnabod y swyddogaeth bwysig sy'n cael ei chyflawni gan y cyfryngau torfol a rhaid iddynt sicrhau bod modd i'r plentyn gael gafael ar wybodaeth a deunyddiau o amryfal ffynonellau cenedlaethol a rhyngwladol, yn enwedig y rhai sydd wedi eu hanelu at hybu ei lesiant cymdeithasol, ysbrydol a moesol a'i iechyd corfforol a'i iechyd meddwl.

I'r perwyl hwn, rhaid i Bartïon Gwladwriaethau:

(a)annog y cyfryngau torfol i ledaenu gwybodaeth a deunyddiau a fyddai o fudd cymdeithasol a diwylliannol i'r plentyn ac yn unol ag ysbryd erthygl 29;

(b)annog cydweithrediad rhyngwladol i gynhyrchu, cyfnewid a lledaenu gwybodaeth a deunyddiau o'r fath o amryfal ffynonellau diwylliannol, cenedlaethol a rhyngwladol;

(c)hyrwyddo'r broses o gynhyrchu a lledaenu llyfrau plant;

(d)annog y cyfryngau torfol i roi sylw penodol i anghenion ieithyddol plentyn sy'n perthyn i grŵp lleiafrifol neu sy'n blentyn brodorol;

(e)hyrwyddo'r broses o lunio canllawiau priodol i amddiffyn y plentyn rhag gwybodaeth a deunyddiau a fyddai'n niweidiol i'w lesiant, gan gadw mewn cof ddarpariaethau erthyglau 13 a 18.

Erthygl 18

1Rhaid i Bartïon Gwladwriaethau wneud eu gorau glas i sicrhau y cydnabyddir yr egwyddor bod gan y ddau riant gyfrifoldebau cyffredin dros fagwraeth a datblygiad y plentyn. Mae gan rieni neu, yn ôl y digwydd, warcheidwaid cyfreithiol, y prif gyfrifoldeb dros fagwraeth a datblygiad y plentyn. Eu consýrn sylfaenol hwy fydd lles pennaf y plentyn.

2Er mwyn gwarantu a hybu'r hawliau sydd wedi eu nodi yn y Confensiwn presennol, rhaid i Bartïon Gwladwriaethau roi cymorth priodol i rieni a gwarcheidwaid cyfreithiol i gyflawni eu cyfrifoldebau magu plant a rhaid iddynt sicrhau bod sefydliadau, cyfleusterau a gwasanaethau'n cael eu datblygu i ofalu dros blant.

3Rhaid i Bartïon Gwladwriaethau gymryd pob mesur priodol i sicrhau bod gan blant rhieni sy'n gweithio hawl i fanteisio ar wasanaethau a chyfleusterau gofal plant y maent yn gymwys i'w cael.

Erthygl 19

1Rhaid i Bartïon Gwladwriaethau gymryd pob mesur deddfwriaethol, gweinyddol, cymdeithasol ac addysgol sy'n briodol i amddiffyn y plentyn rhag pob ffurf gorfforol neu feddyliol ar drais, anaf neu gamdriniaeth, esgeulustod neu driniaeth esgeulus, camarfer neu gamfanteisio, gan gynnwys camdriniaeth rywiol, tra bo yng ngofal rhiant (rhieni), gwarcheidwad (gwarcheidwaid) neu unrhyw berson arall sydd â gofal dros y plentyn.

2Dylai'r mesurau amddiffynnol hynny gynnwys, fel y bo'n briodol, weithdrefnau effeithiol ar gyfer sefydlu rhaglenni cymdeithasol i roi cymorth angenrheidiol i'r plentyn ac i'r rhai sydd â gofal drosto, yn ogystal ag ar gyfer ffurfiau eraill ar atal ac ar gyfer canfod achosion o gam-drin plant fel y'u disgrifiwyd cyn hyn, hysbysu o'r achosion hynny, eu hatgyfeirio, ymchwilio iddynt, eu trin a'u dilyn ac, fel y bo'n briodol, ar gyfer cyfranogiad barnwrol.

Erthygl 20

1Bydd hawlogaeth gan blentyn sydd wedi ei amddifadu dros dro neu'n barhaol o'i amgylchfyd teuluol, neu nad oes modd caniatáu iddo, er lles pennaf ef ei hun, aros yn yr amgylchfyd hwnnw, i gael amddiffyniad a chymorth arbennig a ddarperir gan y Wladwriaeth.

2Rhaid i Bartïon Gwladwriaethau, yn unol â'u cyfreithiau cenedlaethol, sicrhau gofal amgen i blentyn o'r fath.

3Gallai'r gofal hwnnw gynnwys, ymhlith pethau eraill, leoliad maeth, caffala cyfraith Islamaidd, mabwysiad neu, os yw'n angenrheidiol, lleoliad mewn sefydliadau addas ar gyfer gofalu am blant. Wrth bwyso a mesur datrysiadau, rhaid rhoi sylw priodol i'r ffaith ei bod yn ddymunol cael parhad ym magwraeth plentyn ac i'w gefndir ethnig, crefyddol, diwylliannol ac ieithyddol.

Erthygl 21

Rhaid i Bartïon Gwladwriaethau sy'n cydnabod ac yn/neu'n caniatáu'r system fabwysiadu sicrhau mai'r ystyriaeth oruchaf fydd lles pennaf y plentyn a rhaid iddynt:

(a)sicrhau bod mabwysiad plentyn yn cael ei awdurdodi gan neb ond awdurdodau cymwys sy'n penderfynu, yn unol â'r gyfraith a'r gweithdrefnau sy'n gymwysadwy ac ar sail pob gwybodaeth berthnasol a dibynadwy, y gellir caniatáu'r mabwysiad oherwydd statws y plentyn o ran rhieni, perthnasau a gwarcheidwaid cyfreithiol a bod y personau o dan sylw, os yw'n ofynnol iddynt wneud hynny, wedi cydsynio'n ddeallus â'r mabwysiad ar sail unrhyw gwnsela a oedd yn angenrheidiol;

(b)cydnabod y gellir ystyried mabwysiad trawswladol fel dull amgen o ofalu am blentyn, os na ellir ei leoli mewn teulu maeth neu deulu mabwysiadol neu os na ellir gofalu am y plentyn mewn unrhyw ffordd addas yn y wlad y tarddodd ohoni;

(c)sicrhau bod y plentyn y mae mabwysiad trawswladol yn ymwneud ag ef yn mwynhau trefniadau diogelu a safonau sy'n cyfateb i'r rhai sy'n bodoli yn achos mabwysiadu cenedlaethol;

(d)cymryd pob mesur priodol i sicrhau, yn achos mabwysiad trawswladol, na fydd y lleoliad yn arwain at elw ariannol amhriodol i'r rhai sy'n ymwneud â'r mabwysiad hwnnw;

(e)hybu, pan fo'n briodol, amcanion yr erthygl bresennol drwy gwblhau trefniadau neu gytundebau dwyochrog neu amlochrog, ac ymdrechu, o fewn y fframwaith hwn, i sicrhau bod lleoliad y plentyn mewn gwlad arall yn cael ei gyflawni gan awdurdodau neu gyrff cymwys.

Erthygl 22

1Rhaid i Bartïon Gwladwriaethau gymryd mesurau priodol i sicrhau y caiff plentyn sy'n ceisio statws ffoadur neu sy'n cael ei ystyried yn ffoadur yn unol â chyfraith ryngwladol neu ddomestig a gweithdrefnau rhyngwladol neu ddomestig sy'n gymwysadwy, p'un a yw'n dod heb neb gydag ef neu'n dod gyda'i rieni neu unrhyw berson arall, amddiffyniad priodol a chymorth dyngarol i fwynhau'r hawliau cymwysadwy sydd wedi eu nodi yn y Confensiwn presennol ac mewn offerynnau hawliau dynol rhyngwladol eraill neu offerynnau dyngarol rhyngwladol eraill y mae'r Gwladwriaethau a enwyd yn Bartïon iddynt.

2At y diben hwn, rhaid i Bartïon Gwladwriaethau gydweithredu, yn ôl yr hyn sy'n briodol yn eu barn hwy, ag unrhyw ymdrechion gan y Cenhedloedd Unedig a sefydliadau rhynglywodraethol neu anllywodraethol cymwys eraill sy'n cydweithredu gyda'r Cenhedloedd Unedig i amddiffyn a chynorthwyo'r plentyn hwnnw ac i olrhain rhieni unrhyw blentyn sy'n ffoadur neu aelodau eraill o'i deulu er mwyn cael gwybodaeth a fyddai'n angenrheidiol iddo ailymuno â'i deulu. Mewn achosion lle na ellir dod o hyd i unrhyw rieni neu aelodau eraill o'r teulu, rhaid rhoi i'r plentyn yr un amddiffyniad ag unrhyw blentyn arall sydd wedi ei amddifadu'n barhaol neu dros dro o'i amgylchfyd teuluol am unrhyw reswm, fel a nodwyd yn y Confensiwn presennol.

Erthygl 23

1Mae Partïon Gwladwriaethau yn cydnabod y dylai plentyn sydd ag anabledd meddyliol neu gorfforol fwynhau bywyd llawn a gweddus, mewn amodau sy'n sicrhau urddas, yn hybu hunanddibyniaeth ac yn hwyluso cyfranogiad gweithredol y plentyn yn y gymuned.

2Mae Partïon Gwladwriaethau yn cydnabod hawl y plentyn anabl i gael gofal arbennig a rhaid iddynt hyrwyddo'r broses, yn ddarostyngedig i'r adnoddau sydd ar gael, o estyn i'r plentyn cymwys a'r rhai sy'n gyfrifol dros ofalu amdano, y cymorth y mae cais yn cael ei wneud amdano ac sy'n briodol i gyflwr y plentyn ac i amgylchiadau'r rhieni neu'r personau eraill sy'n gofalu am y plentyn a rhaid iddynt sicrhau y caiff y cymorth hwnnw ei estyn iddo.

3Gan gydnabod anghenion arbennig plentyn anabl, rhaid i gymorth a estynnir yn unol â pharagraff 2 o'r erthygl bresennol gael ei roi yn ddi-dâl, pryd bynnag y bo'n bosibl, gan ystyried adnoddau ariannol y rhieni neu'r personau eraill sy'n gofalu am y plentyn, a rhaid iddo fod wedi ei gynllunio i sicrhau bod y plentyn anabl yn cael mynediad effeithiol at addysg, hyfforddiant, gwasanaethau gofal iechyd, gwasanaethau adsefydlu, cyfleoedd i baratoi ar gyfer cyflogaeth a chyfleoedd hamdden, a'i fod yn eu cael, a hynny mewn modd sy'n ei gwneud hi'n hwylus i'r plentyn integreiddio i'r graddau llawnaf posibl â'r gymdeithas ac i ddatblygu fel unigolyn, gan gynnwys datblygu yn ddiwylliannol ac yn ysbrydol.

4Rhaid i Bartïon Gwladwriaethau hybu, yn ysbryd cydweithrediad rhyngwladol, y broses o gyfnewid gwybodaeth briodol ym maes gofal iechyd ataliol ac ym maes triniaeth feddygol, seicolegol a gweithredol plant anabl, gan gynnwys lledaenu gwybodaeth ynghylch dulliau adsefydlu, addysg a gwasanaethau galwedigaethol a mynediad at yr wybodaeth honno, gan anelu at alluogi Partïon Gwladwriaethau i wella eu galluoedd a'u sgiliau ac ehangu eu profiad yn y meysydd hyn. Yn hyn o beth, rhaid rhoi sylw penodol i anghenion gwledydd sy'n datblygu.

Erthygl 24

1Mae Partïon Gwladwriaethau yn cydnabod hawl y plentyn i fwynhau'r safon iechyd uchaf y gellir ei chyrraedd ac i gael cyfleusterau ar gyfer trin afiechyd ac adfer i iechyd. Rhaid i Bartïon Gwladwriaethau ymdrechu i sicrhau na chaiff unrhyw blentyn ei amddifadu o'i hawl i gael mynediad at y gwasanaethau gofal iechyd hynny.

2Rhaid i Bartïon Gwladwriaethau fwrw ymlaen â gweithredu'r hawl hon yn llawn ac, yn benodol, rhaid iddynt gymryd mesurau priodol i wneud y canlynol:

(a)lleihau cyfradd marwolaethau babanod a phlant;

(b)sicrhau bod cymorth meddygol a gofal iechyd angenrheidiol yn cael eu darparu i bob plentyn gyda phwyslais ar ddatblygu gofal iechyd sylfaenol;

(c)ymladd afiechydon a diffyg maeth, gan gynnwys o fewn fframwaith gofal iechyd sylfaenol, drwy, ymhlith pethau eraill, ddefnyddio technoleg sydd ar gael yn rhwydd a thrwy ddarparu digon o fwydydd maethlon a dŵr yfed glân, gan ystyried peryglon a risgiau llygredd amgylcheddol;

(d)sicrhau gofal iechyd priodol i famau cyn geni ac ar ôl geni plant;

(e)sicrhau bod pob segment cymdeithas, yn enwedig rhieni a phlant, yn wybodus, yn gallu cael mynediad at addysg ynghylch iechyd a maeth plant, manteision bwydo ar y fron, hylendid a glanweithdra amgylcheddol ac atal damweiniau ac yn cael cymorth i ddefnyddio gwybodaeth sylfaenol am y materion hynny;

(f)datblygu gofal iechyd ataliol, llunio canllawiau i rieni a datblygu addysg a gwasanaethau ynghylch cynllunio teulu.

3Rhaid i Bartïon Gwladwriaethau gymryd pob mesur effeithiol a phriodol gyda golwg ar ddiddymu arferion traddodiadol sy'n niweidiol i iechyd plant.

4Mae Partïon Gwladwriaethau yn ymrwymo i hybu ac annog cydweithrediad rhyngwladol gyda golwg ar sicrhau'n raddol wireddiad llawn yr hawl a gydnabyddir yn yr erthygl hon. Yn hyn o beth, rhaid rhoi sylw penodol i anghenion gwledydd sy'n datblygu.

Erthygl 25

Mae Partïon Gwladwriaethau yn cydnabod hawl plentyn, sydd wedi ei leoli gan yr awdurdodau cymwys er mwyn gofalu am ei iechyd corfforol neu feddyliol, diogelu neu drin yr iechyd hwnnw, i gael adolygiad o bryd i'w gilydd o'r driniaeth sy'n cael ei rhoi i'r plentyn ac o'r holl amgylchiadau eraill sy'n berthnasol i'w leoliad.

Erthygl 26

1Rhaid i Partïon Gwladwriaethau gydnabod yn achos pob plentyn ei hawl i gael budd nawdd cymdeithasol, gan gynnwys yswiriant cymdeithasol, a rhaid iddynt gymryd y mesurau angenrheidiol i sicrhau bod yr hawl hon yn cael ei gwireddu'n llawn yn unol â'u cyfraith genedlaethol.

2Pan fo'n briodol, dylid caniatáu'r budd-daliadau, gan ystyried adnoddau ac amgylchiadau'r plentyn a'r personau sydd â chyfrifoldeb dros gynnal y plentyn, yn ogystal ag unrhyw ystyriaeth arall sy'n berthnasol i gais am fudd-daliadau a wneir gan neu ar ran y plentyn.

Erthygl 27

1Mae Partïon Gwladwriaethau yn cydnabod hawl pob plentyn i gael safon byw sy'n ddigonol ar gyfer datblygiad corfforol, meddyliol, ysbrydol, moesol a chymdeithasol y plentyn.

2Y rhiant (rhieni) neu'r personau eraill sy'n gyfrifol am y plentyn sy'n bennaf cyfrifol am sicrhau, o fewn eu galluoedd a'u gallueddau ariannol, yr amodau byw sy'n angenrheidiol i ddatblygiad y plentyn.

3Rhaid i Bartïon Gwladwriaethau, yn unol â'r amodau cenedlaethol ac o fewn eu moddion, gymryd mesurau priodol i gynorthwyo rhieni a phersonau eraill sy'n gyfrifol am y plentyn i weithredu'r hawl hon ac, os bydd angen, rhaid i Bartïon Gwladwriaethau roi cymorth materol a darparu rhaglenni cynnal, yn enwedig mewn perthynas â maeth, dillad a thai.

4Rhaid i Bartïon Gwladwriaethau gymryd pob mesur priodol i sicrhau bod cynhaliaeth i'r plentyn yn cael ei hadennill o'r rhieni neu'r personau eraill sydd â chyfrifoldeb ariannol dros y plentyn, o fewn y Parti Gwladwriaeth ac oddi dramor. Yn benodol, pan fo'r person sydd â chyfrifoldeb ariannol dros y plentyn yn byw mewn Gwladwriaeth sy'n wahanol i un y plentyn, rhaid i'r Partïon Gwladwriaethau hybu'r broses o gydsynio â chytundebau rhyngwladol neu gwblhau'r cytundebau hynny, yn ogystal â gwneud trefniadau priodol eraill.

Erthygl 28

1Mae Partïon Gwladwriaethau yn cydnabod hawl y plentyn i gael addysg, a chyda golwg ar sicrhau'r hawl hon yn raddol ac ar sail cyfle cyfartal, rhaid iddynt, yn benodol:

(a)gwneud addysg gynradd yn orfodol a threfnu iddi fod ar gael yn ddi-dâl i bawb;

(b)hybu datblygiad gwahanol ffurfiau ar addysg uwchradd, gan gynnwys addysg gyffredinol a galwedigaethol, trefnu iddynt fod ar gael ac o fewn cyrraedd pob plentyn, a chymryd mesurau priodol megis cyflwyno addysg ddi-dâl a chynnig cymorth ariannol pan fo angen;

(c)trefnu bod addysg uwch o fewn cyrraedd pawb ar sail galluedd drwy bob ffordd bosibl;

(d)trefnu bod gwybodaeth a chanllawiau addysgol a galwedigaethol ar gael ac o fewn cyrraedd pob plentyn;

(e)cymryd mesurau i annog presenoldeb rheolaidd mewn ysgolion ac i leihau cyfraddau gadael yn rhy gynnar.

2Rhaid i Bartïon Gwladwriaethau gymryd pob mesur priodol i sicrhau y caiff disgyblaeth ysgol ei gweinyddu mewn modd sy'n gyson ag urddas ddynol y plentyn ac yn cydymffurfio â'r Confensiwn presennol.

3Rhaid i Bartïon Gwladwriaethau hybu a annog cydweithrediad rhyngwladol mewn materion sy'n ymwneud ag addysg, yn enwedig gyda golwg ar gyfrannu at y broses o gael gwared ar anwybodaeth ac anllythrennedd ledled y byd a hwyluso mynediad at wybodaeth wyddonol a thechnegol a dulliau addysgu modern. Yn hyn o beth, rhaid rhoi sylw penodol i anghenion gwledydd sy'n datblygu.

Erthygl 29

1Mae Partïon Gwladwriaethau yn cytuno bod rhaid cyfeirio addysg y plentyn at y canlynol:

(a)datblygu personoliaeth, doniau a galluoedd meddyliol a chorfforol y plentyn hyd eithaf eu potensial;

(b)magu parch at hawliau dynol a rhyddidau sylfaenol, ac at yr egwyddorion sydd wedi eu corffori yn Siarter y Cenhedloedd Unedig;

(c)magu parch at rieni'r plentyn, ei hunaniaeth ddiwylliannol, ei iaith a'i werthoedd ei hun, at werthoedd cenedlaethol y wlad lle mae'r plentyn yn byw, y wlad y gall ei fod yn tarddu ohoni, ac at wareiddiadau sy'n wahanol i un ei hun;

(d)paratoi'r plentyn ar gyfer bywyd cyfrifol mewn cymdeithas rydd, mewn ysbryd dealltwriaeth, heddwch, goddefgarwch, cydraddoldeb rhwng y rhywiau, a chyfeillgarwch ymhlith yr holl bobloedd, grwpiau ethnig, cenedlaethol a chrefyddol a phersonau o darddiad brodorol;

(e)magu parch at yr amgylchedd naturiol.

2Rhaid peidio â dehongli unrhyw ran o'r erthygl bresennol nac erthygl 28 yn y fath fodd ag i amharu ar ryddid unigolion a chyrff i sefydlu a chyfarwyddo sefydliadau addysgol, a bydd hynny'n ddarostyngedig bob amser i'r rheidrwydd i ddilyn yr egwyddor a nodwyd ym mharagraff 1 o'r erthygl bresennol ac i'r gofynion bod rhaid i'r addysg a roddir yn y sefydliadau hynny gydymffurfio ag unrhyw safonau gofynnol a osodir gan y Wladwriaeth.

Erthygl 30

Yn y Gwladwriaethau hynny lle mae lleiafrifoedd ethnig, crefyddol neu ieithyddol neu bersonau o darddiad brodorol yn bodoli, rhaid peidio â gwrthod hawl i blentyn sy'n perthyn i'r lleiafrif hwnnw, neu sy'n frodor, i fwynhau mewn cymuned ag aelodau eraill o'i grŵp, ei ddiwylliant ei hun, i broffesu ac arfer ei grefydd ei hun, neu i ddefnyddio ei iaith ei hun.

Erthygl 31

1Mae Partïon Gwladwriaethau yn cydnabod hawl y plentyn i orffwys a chael hamdden, i chwarae ac ymroi i weithgareddau adloniadol sy'n briodol i oedran y plentyn ac i gymryd rhan ddirwystr mewn bywyd diwylliannol a'r celfyddydau.

2Rhaid i Bartïon Gwladwriaethau barchu a hybu hawl y plentyn i gymryd rhan lawn mewn bywyd diwylliannol a chelfyddydol a rhaid iddynt hyrwyddo'r broses o ddarparu cyfleoedd priodol a chyfartal ar gyfer gweithgareddau diwylliannol, celfyddydol ac adloniadol a gweithgareddau hamdden.

Erthygl 32

1Mae Partïon Gwladwriaethau yn cydnabod hawl y plentyn i gael ei amddiffyn rhag unrhyw gamfanteisio economaidd a rhag cyflawni unrhyw waith sy'n debyg o fod yn beryglus neu o amharu ag addysg y plentyn, neu o niweidio iechyd y plentyn neu ei ddatblygiad corfforol, meddyliol, ysbrydol, moesol neu gymdeithasol.

2Rhaid i Bartïon Gwladwriaethau gymryd mesurau deddfwriaethol, gweinyddol, cymdeithasol ac addysgol i sicrhau bod yr erthygl bresennol yn cael ei gweithredu. I'r perwyl hwn, a chan roi sylw i ddarpariaethau perthnasol offerynnau rhyngwladol eraill, rhaid i Bartïon Gwladwriaethau, yn benodol:

(a)darparu ar gyfer oedran isaf neu oedrannau isaf i gael derbyniad i gyflogaeth;

(b)darparu ar gyfer rheoleiddio oriau ac amodau cyflogaeth yn briodol;

(c)darparu ar gyfer cosbau priodol neu sancsiynau eraill i sicrhau y caiff yr erthygl bresennol ei gorfodi'n effeithiol.

Erthygl 33

Rhaid i Bartïon Gwladwriaethau gymryd pob mesur priodol, gan gynnwys mesurau deddfwriaethol, gweinyddol, cymdeithasol ac addysgol, i amddiffyn plant rhag unrhyw ddefnydd anghyfreithlon ar gyffuriau narcotig a sylweddau seicotropig fel y'u diffinnir yn y cytuniadau rhyngwladol perthnasol, ac i atal unrhyw ddefnydd ar blant yn y gwaith anghyfreithlon o gynhyrchu a masnachu'r sylweddau hynny.

Erthygl 34

Mae Partïon Gwladwriaethau yn ymrwymo i amddiffyn y plentyn rhag pob ffurf ar gamfanteisio'n rhywiol a cham-drin yn rhywiol. At y dibenion hyn, rhaid i Bartïon Gwladwriaethau gymryd yn benodol bob mesur cenedlaethol, dwyochrog ac amlochrog sy'n briodol i atal unrhyw berson neu bersonau rhag:

(a)cymell neu orfodi plentyn i ymgymryd ag unrhyw weithgaredd rhywiol anghyfreithlon;

(b)camfanteisio ar blant drwy eu defnyddio mewn gweithgareddau puteinio neu arferion rhywiol anghyfreithlon eraill;

(c)camfanteisio ar blant drwy eu defnyddio mewn perfformiadau a deunyddiau pornograffig.

Erthygl 35

Rhaid i Bartïon Gwladwriaethau gymryd pob mesur cenedlaethol, dwyochrog ac amlochrog i atal herwgydio, gwerthu neu fasnachu plant at unrhyw ddiben neu ar unrhyw ffurf.

Erthygl 36

Rhaid i Bartïon Gwladwriaethau amddiffyn y plentyn rhag unrhyw ffurf arall ar gamfanteisio sy'n niweidiol i unrhyw agweddau ar les y plentyn.

Erthygl 37

Rhaid i Bartïon Gwladwriaethau sicrhau:

(a)na chaiff unrhyw blentyn ei arteithio na'i orfodi i ddioddef triniaeth arall neu gosb arall sydd yn greulon, yn annynol neu'n ddiraddiol. Rhaid peidio â gosod cosb ddienyddio neu garcharu am oes heb bosibilrwydd o ryddhad am dramgwyddau a gyflawnwyd gan bersonau sydd o dan ddeunaw mlwydd oed;

(b)na chaiff unrhyw blentyn ei amddifadu yn anghyfreithlon neu'n fympwyol o'i ryddid. Rhaid i'r broses o arestio, cadw neu garcharu plentyn gydymffurfio â'r gyfraith a rhaid peidio â'i defnyddio ond pan fetho popeth arall a rhaid ei defnyddio am y cyfnod priodol byrraf;

(c)y caiff pob plentyn a amddifadir o'i ryddid ei drin â dyngarwch a pharch at urddas gynhenid y person dynol, ac mewn modd sy'n cymryd i ystyriaeth anghenion personau o'i oedran. Yn benodol, rhaid i bob plentyn a amddifadir o'i ryddid gael ei wahanu oddi wrth oedolion oni fernir y byddai er lles pennaf y plentyn i beidio â gwneud hynny a chael hawl i gadw cysylltiad â'i deulu drwy ohebiaeth ac ymweliadau, oddigerth mewn amgylchiadau eithriadol;

(d)bydd gan bob plentyn a amddifadir o'i ryddid hawl i gael mynediad buan at gymorth cyfreithiol a chymorth priodol arall, yn ogystal â hawl i herio cyfreithlondeb y weithred o'i amddifadu o'i ryddid gerbron llys neu awdurdod cymwys, annibynnol a diduedd arall, ac i gael penderfyniad buan ar unrhyw achos o'r fath.

Erthygl 38

1Mae Partïon Gwladwriaethau yn ymrwymo i barchu rheolau cyfraith ddyngarol ryngwladol sy'n gymwysadwy iddynt mewn gwrthdrawiadau arfog sy'n berthnasol i'r plentyn ac i sicrhau bod y rheolau hynny'n cael eu parchu.

2Rhaid i Bartïon Gwladwriaethau gymryd pob mesur dichonadwy i sicrhau na fydd personau sydd heb gyrraedd pymtheng mlwydd oed yn cymryd rhan uniongyrchol mewn ymladdiadau.

3Rhaid i Bartïon Gwladwriaethau ymatal rhag recriwtio unrhyw berson sydd heb gyrraedd pymtheng mlwydd oed i'w lluoedd arfog. Wrth recriwtio ymhlith y personau hynny sydd wedi cyrraedd pymtheng mlwydd oed ond nad ydynt wedi cyrraedd deunaw mlwydd oed, rhaid i Bartïon Gwladwriaethau ymdrechu i roi blaenoriaeth i'r rhai hynaf.

4Yn unol â'u rhwymedigaethau o dan gyfraith ddyngarol ryngwladol i amddiffyn y boblogaeth sifil mewn gwrthdrawiadau arfog, rhaid i Bartïon Gwladwriaethau gymryd pob mesur dichonadwy i sicrhau bod plant y mae gwrthdaro arfog yn effeithio arnynt yn cael gofal ac yn cael eu hamddiffyn.

Erthygl 39

Rhaid i Bartïon Gwladwriaethau gymryd pob mesur priodol i hybu adferiad corfforol a seicolegol ac ailintegreiddiad cymdeithasol plentyn sydd wedi dioddef gan: unrhyw ffurf ar esgeuluso, camfanteisio neu gam-drin; arteithio neu unrhyw ffurf arall ar driniaeth neu gosb sy'n greulon, yn annynol neu'n ddiraddiol; neu gan wrthdrawiadau arfog. Rhaid i'r cyfryw adferiad ac ailintegreiddiad ddigwydd mewn amgylchedd sy'n meithrin iechyd, hunan-barch ac urddas y plentyn.

Erthygl 40

1Mae Partïon Gwladwriaethau yn cydnabod yr hawl sydd gan bob plentyn yr honnir neu y cydnabyddir ei fod wedi torri'r gyfraith trosedd, neu y cyhuddir ef o wneud hynny, i gael ei drin mewn modd sy'n gyson â dyrchafu synnwyr y plentyn o'i urddas a'i werth, sy'n atgyfnerthu parch y plentyn at hawliau dynol a rhyddidau sylfaenol personau eraill sy'n cymryd i ystyriaeth oedran y plentyn a'r ffaith ei bod yn ddymunol hybu ailintegreiddiad y plentyn a bod y plentyn yn derbyn rôl adeiladol mewn cymdeithas.

2I'r perwyl hwn, ac o roi sylw i ddarpariaethau perthnasol offerynnau rhyngwladol, rhaid i Bartïon Gwladwriaethau sicrhau, yn benodol:

(a)na fydd unrhyw honiad, cyhuddiad na chydnabyddiaeth bod unrhyw blentyn wedi torri'r gyfraith trosedd oherwydd gweithredoedd neu anweithiau nad oeddent wedi eu gwahardd gan y gyfraith genedlaethol neu ryngwladol adeg eu cyflawni;

(b)bod gan bob plentyn, yr honnir ei fod wedi torri'r gyfraith trosedd neu y cyhuddir ef o wneud hynny, y gwarantau canlynol o leiaf:

(i)ei fod yn cael ei ragdybio'n ddieuog hyd nes y profir ei fod yn euog yn ôl y gyfraith.

(ii)ei fod yn cael ei hysbysu'n fuan ac yn uniongyrchol o'r cyhuddiadau yn ei erbyn, ac, os yw'n briodol, drwy ei rieni neu ei warcheidwaid cyfreithiol, ac i gael cymorth cyfreithiol neu gymorth priodol arall i baratoi a chyflwyno ei amddiffyniad;

(iii)ei fod yn cael awdurdod neu gorff barnwrol sy'n gymwys, yn annibynnol ac yn ddiduedd i benderfynu'r mater mewn gwrandawiad teg yn ôl y gyfraith, ym mhresenoldeb cynhorthwy cyfreithiol neu gynhorthwy priodol arall ac, oni fernir nad yw er lles pennaf y plentyn, yn benodol, o ystyried ei oedran neu ei sefyllfa, ei rieni neu ei warcheidwaid cyfreithiol;

(iv)ei fod yn peidio â chael ei orfodi i roi tystiolaeth neu i gyffesu ei fod yn euog; ei fod yn cael holi tystion gelyniaethus neu beri iddynt gael eu holi ac yn cael sicrhau bod tystion ar ei ran yn cymryd rhan ac yn cael eu holi o dan amodau cydraddoldeb;

(v)os bernir ei fod wedi torri'r gyfraith trosedd, ei fod yn cael awdurdod neu gorff barnwrol uwch yn ôl y gyfraith sy'n gymwys, yn annibynnol ac yn ddiduedd i adolygu'r penderfyniad hwn ac unrhyw fesurau a osodir o ganlyniad iddo;

(vi)ei fod yn cael cynhorthwy di-dâl cyfieithydd os nad yw'r plentyn yn gallu deall neu siarad yr iaith sy'n cael ei defnyddio;

(vii)bod ei breifatrwydd yn cael ei barchu'n llawn ym mhob cam o'r rheithdrefn.

3Rhaid i Bartïon Gwladwriaethau geisio hybu'r broses o sefydlu cyfreithiau, gweithdrefnau, awdurdodau a sefydliadau sy'n gymwysadwy yn benodol i blant yr honnir neu y cydnabyddir eu bod wedi torri'r gyfraith trosedd, neu y cyhuddir hwy o wneud hynny, ac, yn benodol:

(a)pennu oedran isaf y rhagdybir na fydd galluedd gan blant sydd oddi tano i dorri'r gyfraith trosedd;

(b)pryd bynnag y bo'n briodol ac yn ddymunol, mesurau i ymdrin â phlant o'r fath heb ddefnyddio rheithdrefn farnwrol, ar yr amod bod hawliau dynol a threfniadau diogelu cyfreithiol yn cael eu parchu'n llawn.

4Rhaid i amryw o drefniadaethau, megis gorchmynion gofalu, cyfarwyddo a goruchwylio; cwnsela; profiannaeth; gofal maeth; addysg a rhaglenni hyfforddiant galwedigaethol a dewisiadau eraill heblaw gofal sefydliadol fod ar gael i sicrhau bod plant yn cael eu trin mewn modd sy'n briodol i'w llesiant ac yn gymesur â'u hamgylchiadau a'r tramgwydd.

Erthygl 41

Ni fydd dim yn y Confensiwn presennol yn effeithio ar unrhyw ddarpariaethau sy'n fwy ffafriol i wireddu hawliau'r plentyn ac a allai fod wedi eu cynnwys:

(a)yng nghyfraith Parti Gwladwriaeth; neu

(b)mewn cyfraith ryngwladol sydd mewn grym ar gyfer y Wladwriaeth honno.

RHAN 2PROTOCOLAU

PROTOCOL DEWISOL I'R CONFENSIWN AR HAWLIAU'R PLENTYN YNGHYLCH TYNNU PLANT I MEWN I WRTHDARO ARFOG

Erthygl 1

Rhaid i Bartïon Gwladwriaethau gymryd pob mesur dichonadwy i sicrhau na fydd aelodau o'u lluoedd arfog sydd heb gyrraedd 18 mlwydd oed yn cymryd rhan uniongyrchol mewn ymladdiadau.

Erthygl 2

Rhaid i Bartïon Gwladwriaethau sicrhau na chaiff personau nad ydynt wedi cyrraedd 18 mlwydd oed eu recriwtio dan orfodaeth i'w lluoedd arfog.

Erthygl 3

1Rhaid i Bartïon Gwladwriaethau godi'r oedran isaf ar gyfer recriwtio personau o'u gwirfodd i'w lluoedd arfog cenedlaethol o'r hyn a nodwyd yn erthygl 38, paragraff 3, o'r Confensiwn ar Hawliau'r Plentyn, gan ystyried yr egwyddorion sydd wedi eu cynnwys yn yr erthygl honno a chydnabod bod gan bersonau sydd o dan 18 mlwydd oed hawlogaeth o dan y Confensiwn i gael amddiffyniad arbennig.

2Rhaid i bob Parti Gwladwriaeth adneuo datganiad rhwymol pan gadarnheir neu pan gytunir y Protocol hwn sy'n nodi'r oedran isaf y bydd yn caniatáu recriwtio gwirfoddol i'w luoedd arfog cenedlaethol a disgrifiad o'r trefniadau diogelu y mae wedi eu mabwysiadu i sicrhau na chaiff y recriwtio hwnnw ei fforsio na'i dirio.

3Rhaid i Bartïon Gwladwriaethau sy'n caniatáu recriwtio gwirfoddol i'w lluoedd arfog cenedlaethol gadw trefniadau diogelu i sicrhau, o leiaf:

(a)bod y recriwtio hwnnw'n wirioneddol wirfoddol;

(b)bod y recriwtio hwnnw'n cael ei wneud gyda chydsyniad deallus rhieni'r person neu ei warcheidwaid cyfreithiol;

(c)bod gan y personau hynny wybodaeth lawn am y dyletswyddau sydd ynghlwm wrth wasanaeth milwrol o'r fath;

(d)bod y personau hynny'n darparu prawf dibynadwy o'u hoedran cyn iddynt gael eu derbyn i wasanaeth milwrol cenedlaethol.

4Caiff pob Parti Gwladwriaeth atgyfnerthu ei ddatganiad ar unrhyw bryd drwy hysbysiad i'r perwyl hwnnw sydd wedi ei gyfeirio at Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, a bydd yn rhaid iddo yntau hysbysu pob Parti Gwladwriaeth. Daw'r hysbysiad hwnnw'n weithredol ar y dyddiad y daw i law'r Ysgrifennydd Cyffredinol.

5Nid yw'r gofyniad i godi'r oedran ym mharagraff 1 o'r erthygl bresennol yn gymwys i ysgolion sy'n cael eu rhedeg gan luoedd arfog y Partïon Gwladwriaethau neu sydd o dan eu rheolaeth, a hynny'n unol ag erthyglau 28 a 29 y Confensiwn ar Hawliau'r Plentyn.

Erthygl 4

1Ni ddylai grwpiau arfog sydd ar wahân i luoedd arfog Gwladwriaeth, o dan unrhyw amgylchiadau, recriwtio na defnyddio mewn ymladdiadau bersonau sydd o dan 18 mlwydd oed.

2Rhaid i Bartïon Gwladwriaethau gymryd pob mesur dichonadwy i atal y cyfryw recriwtio a defnyddio, gan gynnwys mabwysiadu mesurau cyfreithiol sy'n angenrheidiol i wahardd a throseddoli arferion o'r fath.

3Ni fydd cymhwyso'r erthygl bresennol o dan y Protocol hwn yn effeithio ar statws cyfreithiol unrhyw barti mewn gwrthdrawiad arfog.

Erthygl 5

Rhaid peidio â dehongli unrhyw beth yn y Protocol presennol fel petai'n rhagwahardd darpariaethau yng nghyfraith Parti Gwladwriaeth neu mewn offerynnau rhyngwladol a chyfraith ddyngarol ryngwladol sy'n fwy ffafriol i wireddu hawliau'r plentyn.

Erthygl 6

1Rhaid i bob Parti Gwladwriaeth gymryd pob mesur cyfreithiol, pob mesur gweinyddol a phob mesur arall sy'n angenrheidiol i sicrhau bod darpariaethau'r Protocol hwn yn cael eu gweithredu a'u gorfodi'n effeithiol o fewn ei awdurdodaeth.

2

3Rhaid i Bartïon Gwladwriaethau gymryd pob mesur dichonadwy i sicrhau y bydd personau o fewn eu hawdurdodaeth sydd wedi eu recriwtio neu wedi eu defnyddio mewn ymladdiadau yn groes i'r Protocol presennol yn cael eu dadfyddino neu eu gollwng o'u gwasanaeth mewn modd arall. Rhaid i Bartïon Gwladwriaethau roi, pan fo'n angenrheidiol, bob cymorth priodol i'r personau hyn er mwyn iddynt ymadfer yn gorfforol ac yn seicolegol ac ailintegreiddio â'r gymdeithas.

Erthygl 7

1Rhaid i Bartïon Gwladwriaethau gydweithredu i weithredu'r Protocol presennol, gan gynnwys cydweithredu ym maes atal unrhyw weithgaredd sy'n groes i'r Protocol ac adsefydlu ac ailintegreiddio â'r gymdeithas bersonau sy'n ddioddefwyr gweithredoedd sy'n groes i'r Protocol hwn, gan gynnwys drwy gydweithrediad technegol a chymorth ariannol. Ymgymerir â'r gwaith cynorthwyo a chydweithredu hwnnw gan ymgynghori â'r Partïon Gwladwriaethau o dan sylw a chyrff rhyngwladol perthnasol.

2Rhaid i Bartïon Gwladwriaethau sydd mewn sefyllfa i wneud hynny roi'r cymorth hwnnw drwy raglenni amlochrog, rhaglenni dwyochrog neu raglenni eraill neu, ymhlith eraill, drwy gronfa wirfoddol a sefydlir yn unol â rheolau'r Cynulliad Cyffredinol.

PROTOCOL DEWISOL I'R CONFENSIWN AR HAWLIAU'R PLENTYN AR WERTHU PLANT, PUTEINDRA PLANT A PHORNOGRAFFI PLANT

Erthygl 1

Rhaid i Bartïon Gwladwriaethau wahardd gwerthu plant, puteindra plant a phornograffi plant fel y darperir ar eu cyfer gan y Protocol presennol.

Erthygl 2

At ddibenion y Protocol presennol:

(a)mae gwerthu plant yn golygu unrhyw weithred neu drafodiad a ddefnyddir gan unrhyw unigolyn neu grŵp o bersonau i drosglwyddo plentyn i un arall am dâl neu unrhyw gydnabyddiaeth arall;

(b)mae puteindra plant yn golygu defnyddio plentyn mewn gweithgareddau rhywiol am dâl neu unrhyw ffurf arall ar gydnabyddiaeth;

(c)mae pornograffi plant yn golygu unrhyw bortread, drwy ba fodd bynnag, o blentyn sy'n ymgymryd â gweithgareddau rhywiol diamwys real neu ddynwaredol neu unrhyw bortread o rannau rhywiol plentyn at ddibenion rhywiol yn bennaf.

Erthygl 3

1Rhaid i bob Parti Gwladwriaeth sicrhau, o leiaf, fod y gweithredoedd a'r gweithgareddau canlynol wedi eu cwmpasu'n llawn o dan ei gyfraith trosedd, p'un a yw'r tramgwyddau hynny wedi eu cyflawni yn fewnwladol neu'n drawswladol neu ar sail unigol neu gyfundrefnol:

(a)yng nghyd-destun gwerthu plant fel y diffiniwyd y term hwnnw yn erthygl 2:

(i)cynnig, traddodi neu dderbyn plentyn, drwy ba ddull bynnag, at ddibenion:

a.camfanteisio'n rhywiol ar y plentyn;

b.trosglwyddo organau'r plentyn am elw;

c.cymryd y plentyn ymlaen i wneud llafur gorfod;

(ii)cymell cydsynio yn amhriodol, fel canolwr, i fabwysiadu plentyn gan dorri offerynnau cyfreithiol rhyngwladol cymwysadwy am fabwysiadu;

(b)cynnig, sicrhau, caffael neu ddarparu plentyn ar gyfer puteindra plant, fel y'i diffiniwyd yn erthygl 2;

(c)cynhyrchu, dosbarthu, lledaenu, mewnforio, allforio, cynnig, gwerthu neu feddiannu at y dibenion uchod bornograffi plant fel y'i diffiniwyd yn erthygl 2.

2Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau cyfraith genedlaethol Parti Gwladwriaeth, bydd yr un peth yn gymwys i ymgais i gyflawni unrhyw un o'r gweithredoedd hyn ac i gydgynllwynio i gyflawni unrhyw un o'r gweithredoedd hyn neu i gymryd rhan ynddynt.

3Rhaid i bob Parti Gwladwriaeth wneud y tramgwyddau hyn yn rhai y gellir eu cosbi â chosbau priodol sy'n cymryd i ystyriaeth eu natur ddifrifol.

4Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau ei gyfraith genedlaethol, rhaid i bob Parti Gwladwriaeth gymryd mesurau, pan fo'n briodol, i sefydlu atebolrwydd personau cyfreithiol am dramgwyddau a sefydlwyd ym mharagraff 1 o'r erthygl bresennol. Yn ddarostyngedig i egwyddorion cyfreithiol y Parti Gwladwriaeth, gall yr atebolrwydd hwn sydd ar bersonau cyfreithiol fod yn droseddol, yn sifil neu'n weinyddol.

5Rhaid i Bartïon Gwladwriaethau gymryd pob mesur cyfreithiol a gweinyddol sy'n briodol i sicrhau bod pob person sy'n ymwneud â mabwysiadu plentyn yn gweithredu'n unol â'r offerynnau cyfreithiol rhyngwladol sy'n gymwysadwy.

Erthygl 4

1Rhaid i bob Parti Gwladwriaeth gymryd unrhyw fesurau sy'n angenrheidiol i sefydlu ei awdurdodaeth dros y tramgwyddau y cyfeiriwyd atynt yn erthygl 3, paragraff 1, pan fo'r tramgwyddau'n cael eu cyflawni yn ei diriogaeth neu ar fwrdd llong neu awyren sydd wedi ei chofrestru yn y Wladwriaeth honno.

2Caiff pob Parti Gwladwriaeth gymryd unrhyw fesurau sy'n angenrheidiol i sefydlu ei awdurdodaeth dros y tramgwyddau y cyfeiriwyd atynt yn erthygl 3, paragraff 1, yn yr achosion canlynol:

(a)pan fo'r tramgwyddwr honedig yn wladolyn y Wladwriaeth honno neu'n berson y mae ganddo ei breswylfan arferol yn ei thiriogaeth;

(b)pan fo'r dioddefwr yn wladolyn y Wladwriaeth honno.

3Rhaid i bob Parti Gwladwriaeth gymryd hefyd unrhyw fesurau sy'n angenrheidiol i sefydlu ei awdurdodaeth dros y tramgwyddau uchod pan fo'r tramgwyddwr honedig yn bresennol yn ei diriogaeth ac nad yw'n ei estraddodi i Barti Gwladwriaeth arall ar y sail nad yw'r tramgwydd wedi ei gyflawni gan un o'i wladolion.

4Nid yw'r Protocol hwnnw yn eithrio unrhyw awdurdodaeth droseddol sy'n cael ei harfer yn unol â chyfraith fewnol.

Erthygl 5

1Rhaid barnu bod y tramgwyddau y cyfeiriwyd atynt yn erthygl 3, paragraff 1, wedi eu cynnwys fel tramgwyddau estradoddadwy mewn unrhyw gytuniad estraddodi sy'n bodoli rhwng Partïon Gwladwriaethau a rhaid eu cynnwys fel tramgwyddau estradoddadwy ym mhob cytuniad estraddodi a gwblheir rhyngddynt wedi hynny, yn unol â'r amodau a nodir yn y cytuniadau hynny.

2Os yw Parti Gwladwriaeth sy'n gwneud estraddodi'n amodol ar fodolaeth cytuniad yn cael cais am estraddodiad oddi wrth Barti Gwladwriaeth arall nad oes ganddo unrhyw gytuniad estraddodi ag ef, caiff ystyried y Protocol hwn yn sail gyfreithiol dros estraddodi mewn perthynas â'r tramgwyddau hynny. Bydd estraddodi'n ddarostyngedig i'r amodau a ddarperir o dan gyfraith y Wladwriaeth y gwneir y cais iddo.

3Rhaid i Bartïon Gwladwriaethau nad ydynt yn gwneud estraddodi'n amodol ar fodolaeth cytuniad gydnabod rhyngddynt fod y tramgwyddau hynny'n dramgwyddau estradoddadwy yn ddarostyngedig i'r amodau y darperir ar eu cyfer o dan gyfraith y Wladwriaeth y gwneir y cais iddo.

4Rhaid ymdrin â'r tramgwyddau hynny, at ddibenion estraddodi rhwng Partïon Gwladwriaethau, fel petaent wedi eu cyflawni nid yn unig yn y man lle y digwyddasant ond hefyd yn nhiriogaethau'r Gwladwriaethau y mae'n ofynnol iddynt sefydlu eu hawdurdodaeth yn unol ag erthygl 4.

5Os yw cais am estraddodi'n cael ei wneud mewn cysylltiad â thramgwydd a ddisgrifiwyd yn erthygl 3, paragraff 1, ac os nad yw'r Parti Gwladwriaeth y gwnaed y cais iddo yn estraddodi ar sail cenedligrwydd y tramgwyddwr neu os nad ewyllysia wneud hynny, rhaid i'r Wladwriaeth honno gymryd mesurau addas i gyflwyno'r achos i'w awdurdodau cymwys at ddibenion erlyn.

Erthygl 6

1Rhaid i Bartïon Gwladwriaethau roi i'w gilydd y cymorth mwyaf mewn cysylltiad ag ymchwiliadau neu achosion troseddol neu achosion estraddodi a ddygir mewn perthynas â'r tramgwyddau a nodwyd yn erthygl 3, paragraff 1, gan gynnwys cymorth i gael dystiolaeth at eu gwasanaeth a fyddai'n angenrheidiol ar gyfer yr achosion.

2Rhaid i Bartïon Gwladwriaethau gyflawni eu rhwymedigaethau o dan baragraff 1 o'r erthygl bresennol yn unol ag unrhyw gytuniadau neu drefniadau eraill ynghylch cymorth cyfreithiol i'w gilydd a all fodoli rhyngddynt. Yn absenoldeb cytuniadau neu drefniadau o'r fath, rhaid i Bartïon Gwladwriaethau roi cymorth i'w gilydd yn unol â'u cyfraith ddomestig.

Erthygl 7

Rhaid i Bartïon Gwladwriaethau, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau eu cyfraith genedlaethol:

(a)cymryd mesurau i ddarparu ar gyfer ymafael yn y canlynol a'u hatafaelu, fel y bo'n briodol:

(i)nwyddau, megis deunyddiau, asedau a chyfryngiadau eraill a ddefnyddiwyd i gyflawni neu hwyluso tramgwyddau o dan y Protocol presennol;

(ii)yr enillion sy'n tarddu o'r tramgwyddau hynny;

(b)cyflawni ceisiadau gan Barti Gwladwriaeth arall am ymafael yn y nwyddau neu'r enillion y cyfeiriwyd atynt yn is-baragraff (a)(i) neu am eu hatafaelu;

(c)cymryd mesurau sydd wedi eu hanelu at gau, dros dro neu yn derfynol, fangreoedd a ddefnyddiwyd i gyflawni'r tramgwyddau hynny.

Erthygl 8

1Rhaid i Bartïon Gwladwriaethau fabwysiadu mesurau priodol i amddiffyn hawliau a buddiannau plant sydd wedi bod yn ddioddefwyr yr arferion a waherddir o dan y Protocol presennol ym mhob cam yn y broses cyfiawnder troseddol, a hynny'n benodol drwy wneud y canlynol:

(a)cydnabod hyglwyfedd plant sy'n ddioddefwyr ac addasu gweithdrefnau i gydnabod eu hanghenion arbennig, gan gynnwys eu hanghenion arbennig fel tystion;

(b)hysbysu plant sy'n ddioddefwyr o'u hawliau, eu rôl a chwmpas, amseriad a chynnydd y rheithdrefn ac o'r penderfyniad ar eu hachosion;

(c)caniatáu i sylwadau, anghenion a phryderon plant sy'n ddioddefwyr gael eu cyflwyno a'u hystyried mewn rheithdrefnau lle'r effeithir ar eu buddiannau personol, mewn modd sy'n gyson â rheolau gweithdrefnol y gyfraith genedlaethol;

(d)darparu gwasanaethau cymorth priodol i blant sy'n ddioddefwyr drwy gydol y broses gyfreithiol;

(e)diogelu, fel y bo'n briodol, breifatrwydd a hunaniaeth plant sy'n ddioddefwyr a chymryd mesurau'n unol â'r gyfraith genedlaethol i osgoi lledaenu'n amhriodol wybodaeth a allai arwain at ganfod pwy yw'r plant sy'n ddioddefwyr;

(f)darparu, mewn achosion priodol, ar gyfer diogelu plant sy'n ddioddefwyr, yn ogystal â'u teuluoedd a'r rhai sy'n tystiolaethu ar eu rhan, rhag bygylu a dial;

(g)osgoi oedi diangen cyn penderfynu achosion ac ufuddhau i orchmynion neu archddyfarniadau sy'n rhoi iawndal i blant sy'n ddioddefwyr.

2Rhaid i Bartïon Gwladwriaethau sicrhau na fydd ansicrwydd ynghylch oedran gwirioneddol y dioddefwr yn atal camau i gychwyn ymchwiliadau troseddol, gan gynnwys ymchwiliadau sydd wedi eu hanelu at gadarnhau oedran y dioddefwr.

3Rhaid i Bartïon Gwladwriaethau sicrhau, yn y modd y mae plant sy'n ddioddefwyr y tramgwyddau a ddisgrifir yn y Protocol presennol yn cael eu trin gan y system cyfiawnder troseddol, mai lles pennaf y plentyn fydd y prif ystyriaeth.

4Rhaid i Bartïon Gwladwriaethau gymryd mesurau i sicrhau hyfforddiant priodol, yn enwedig hyfforddiant cyfreithiol a seicolegol, ar gyfer y personau sy'n gweithio gyda dioddefwyr y tramgwyddau a waherddir o dan y Protocol presennol.

5Rhaid i Bartïon Gwladwriaethau fabwysiadu mesurau, mewn achosion priodol, er mwyn amddiffyn diogelwch ac uniondeb y personau a'r/neu'r cyrff sy'n ymwneud ag atal a/neu amddiffyn ac adsefydlu ddioddefwyr y tramgwyddau hynny.

6Rhaid peidio â dehongli unrhyw beth yn yr erthygl bresennol fel petai'n niweidiol i hawliau'r cyhuddedig i gael prawf teg a diduedd neu'n anghyson â'r hawliau hynny.

Erthygl 9

1Rhaid i Bartïon Gwladwriaethau fabwysiadu neu gryfhau, gweithredu a lledaenu cyfreithiau, mesurau gweinyddol, polisïau a rhaglenni cymdeithasol i atal y tramgwyddau y cyfeirir atynt yn y Protocol presennol. Rhaid rhoi sylw penodol i amddiffyn plant sy'n arbennig o hyglwyf gan yr arferion hyn.

2Rhaid i Bartïon Gwladwriaethau hybu ymhlith y cyhoedd yn gyffredinol, gan gynnwys plant, drwy wybodaeth drwy bob modd priodol, addysg briodol a hyfforddiant priodol, ymwybyddiaeth o'r mesurau i atal y tramgwyddau y cyfeirir atynt yn y Protocol presennol ac o'u heffeithiau andwyol. Wrth gyflawni eu rhwymedigaethau o dan yr erthygl hon, rhaid i Bartïon Gwladwriaethau hyrwyddo'r broses o gael y gymuned ac yn benodol, plant a phlant sy'n ddioddefwyr, i fod yn rhan o'r rhaglenni gwybodaeth, addysgu a hyfforddi hynny, gan gynnwys ar lefel ryngwladol.

3Rhaid i Bartïon Gwladwriaethau gymryd pob mesur dichonadwy gan anelu at sicrhau pob cymorth priodol i ddioddefwyr y tramgwyddau hynny, gan gynnwys eu hailintegreiddiad cymdeithasol llawn a'u hadferiad corfforol a seicolegol llawn.

4Rhaid i Bartïon Gwladwriaethau sicrhau bod gan bob plentyn sy'n ddioddefwr gan y tramgwyddau a ddisgrifir yn y Protocol presennol fynediad at weithdrefnau digonol i geisio, heb unrhyw gamwahaniaethu, iawndal oddi wrth y rhai a fu'n gyfrifol yn ôl y gyfraith.

5Rhaid i Bartïon Gwladwriaethau gymryd mesurau priodol sydd wedi eu hanelu at wahardd yn effeithiol y broses o gynhyrchu a lledaenu deunydd sy'n hysbysebu'r tramgwyddau a ddisgrifir yn y Protocol presennol.

Erthygl 10

1Rhaid i Bartïon Gwladwriaethau gymryd yr holl gamau sy'n angenrheidiol i gryfhau cydweithrediad rhyngwladol drwy drefniadau amlochrog, rhanbarthol a dwyochrog ar gyfer atal y rhai sy'n gyfrifol am weithredoedd sy'n cynnwys gwerthu plant, puteindra plant, pornograffi plant a thwristiaeth rhyw plant ac ar gyfer eu datgelu, ymchwilio iddynt, eu herlyn a'u cosbi. Rhaid i Bartïon Gwladwriaethau hybu cydweithrediad a chydlyniad rhyngwladol hefyd rhwng eu hawdurdodau, cyrff anllywodraethol cenedlaethol a rhyngwladol a chyrff rhyngwladol.

2Rhaid i Bartïon Gwladwriaethau hybu cydweithrediad rhyngwladol i gynorthwyo plant sy'n ddioddefwyr i ymadfer yn gorfforol ac yn seicolegol, i ailintegreiddio â'r gymdeithas ac i ddychwelyd i'w mamwlad.

3Rhaid i Bartïon Gwladwriaethau hybu gwaith i gryfhau cydweithrediad rhyngwladol er mwyn mynd i'r afael â'r achosion sylfaenol, megis tlodi a thanddatblygu, sy'n cyfrannu at hyglwyfedd plant gan weithgareddau gwerthu plant, puteindra plant, pornograffi plant a thwristiaeth rhyw plant.

4Rhaid i Bartïon Gwladwriaethau sydd mewn sefyllfa i wneud hynny roi cymorth ariannol, cymorth technegol neu gymorth arall drwy raglenni amlochrog, rhanbarthol, dwyochrog neu raglenni eraill sy'n bodoli eisoes.

RHAN 3DATGANIADAU A NEILLTUADAU

Datganiadau

(a)Mae'r Deyrnas Unedig yn dehongli'r Confensiwn fel un sy'n gymwysadwy yn dilyn genedigaeth fyw yn unig.

(b)Mae'r Deyrnas Unedig yn dehongli'r cyfeiriadau yn y Confensiwn at “rieni” i olygu neb ond y personau hynny, sydd, fel mater o gyfraith genedlaethol, yn cael eu trin fel rhieni. Mae hyn yn cynnwys achosion lle mae'r gyfraith yn ystyried y plentyn yn blentyn ag un rhiant yn unig, er enghraifft pan fo plentyn wedi ei fabwysiadu gan un person yn unig ac mewn achosion penodol lle caiff plentyn ei genhedlu mewn modd gwahanol i ganlyniad cyfathrach rhywiol gan y fenyw sy'n esgor arno a bod hithau'n cael ei thrin fel yr unig riant.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Show Explanatory Notes for Sections: Displays relevant parts of the explanatory notes interweaved within the legislation content.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Assembly Government department responsible for the subject matter of the Measure to explain what the Measure sets out to achieve and to make the Measure accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Measures of the National Assembly for Wales.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources