Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011

2011 mccc 4

Mesur gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud darpariaeth ar gyfer ac mewn cysylltiad â hybu aelodaeth a rhoi cymorth i aelodaeth cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol; darparu staff ac adnoddau eraill gan gynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol mewn cysylltiad â gwasanaethau democrataidd y cynghorau; absenoldeb teuluol i aelodau o gynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol; trefniadau llywodraethu cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol; cyflawni swyddogaethau cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol gan bwyllgorau a chan aelodau; pwyllgorau trosolwg a chraffu cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol; pwyllgorau archwilio cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol; cymunedau a chynghorau cymuned; pensiynau a thaliadau eraill i aelodau o gynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol, cynghorau cymuned, awdurdodau Parciau Cenedlaethol, ac awdurdodau tân ac achub; cydlafurio mewn llywodraeth leol; ac at ddibenion cysylltiedig.

Mae'r Mesur hwn, a basiwyd gan Gynulliad Cendlaethol Cymru ar 15 Mawrth 2011 ac a gymeradwywyd gan Ei Mawrhydi yn Ei Chyngor ar 10 Mai 2011, yn deddfu'r darpariaethau a ganlyn: