Search Legislation

Nodiadau Esboniadol i Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011

Cyflwyniad

1.Mae'r Nodiadau Esboniadol hyn yn ymwneud â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 fel y'i pasiwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 15 Mawrth 2011 ac y’i cymeradwywyd gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor ar 10 Mai 2011.

2.Maent wedi eu llunio gan Adran Cyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol Llywodraeth Cynulliad Cymru er mwyn cynorthwyo'r sawl sy’n darllen y Mesur arfaethedig a helpu i lywio dadl arno. Nid ydynt yn ffurfio rhan o'r Mesur drafft nac wedi eu hategu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

3.Dylid darllen y Nodiadau Esboniadol ar y cyd â'r Mesur arfaethedig. Nid ydynt, ac ni fwriedir iddynt fod, yn ddisgrifiad cynhwysfawr o'r Mesur.  Felly, os nad yw'n ymddangos bod angen unrhyw esboniad neu sylw ar adran neu ran o adran, nis rhoddir.

4.Mae 10 rhan i'r nodiadau esboniadol:

  • Rhannau 1-2 – Cryfhau democratiaeth leol; Absenoldeb teuluol ar gyfer aelodau awdurdodau lleol;

  • Rhannau 3-5 – Trefniadau llywodraethu, newidiadau i drefniadau gweithrediaeth a'r broses o gyflawni swyddogaethau gan bwyllgorau a chynghorwyr;

  • Rhan 6 – Trosolwg a Chraffu;

  • Rhan 7 – Cymunedau a chynghorau cymuned;

  • Rhan 8 – Aelodau: Taliadau a Phensiynau;

  • Rhan 9 – Cydlafurio a Chyfuno;

  • Rhan 10 – Cyffredinol.

5.Mae'r pwerau i wneud Mesur o'r fath wedi eu cynnwys ym Materion 12.1 a 12.5 i 12.17 o Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

6.Defnyddir y termau a ganlyn yn y Nodiadau hyn:

  • Comisiwn Cymru – Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru

  • Cyngor cymuned - i gyfeirio at gyngor cymuned neu gyngor tref yng Nghymru

  • Deddf 1972 – Deddf Llywodraeth Leol 1972

  • Deddf 2000 – Deddf Llywodraeth Leol 2000

  • Mesur 2009 – Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009

  • Prif gyngor - i gyfeirio at gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru

Esboniad Ar Adrannau

Rhan 1 – Cryfhau democratiaeth leol

Adran 1 - Dyletswydd i gynnal arolwg

7.Mae'n ei gwneud yn ofynnol i bob prif gyngor yng Nghymru gynnal arolwg o ymgeiswyr na fu iddynt lwyddo i gael eu hethol yn gynghorwyr mewn etholiadau cyffredin ar gyfer prif gynghorau a chynghorau cymuned yng Nghymru (a gynhelir fel rheol ar yr un pryd bob pedair blynedd), a hefyd o'r personau hynny y llwyddwyd i'w hethol yn gynghorwyr yn yr etholiadau hynny.

8.Mae'r arolwg wedi ei fwriadu i gwmpasu amryw o faterion ac i helpu i roi gwybod i wneuthurwyr polisi am lwyddiant neu fethiant mentrau i hyrwyddo ystod ehangach o bersonau i ymgeisio mewn etholiadau ar gyfer cynghorau. Rhagnodir cwestiynau'r arolwg, ffurflen yr arolwg a modd crynhoi’r wybodaeth mewn rheoliadau sydd i'w gwneud gan Weinidogion Cymru.

9.Rhaid i'r awdurdod lleol sy'n ymgymryd â'r arolwg sicrhau bod cynghorwyr ac ymgeiswyr yn gallu darparu'r wybodaeth yn ddienw; nid yw cynghorwyr ac ymgeiswyr o dan unrhyw orfodaeth i ymateb i'r arolwg.

Adran 2 – Cwblhau arolwg a chyhoeddi gwybodaeth

10.Mae’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gwblhau'r arolwg a darparu'r wybodaeth sydd wedi ei chrynhoi ganddynt i Weinidogion Cymru cyn pen chwe mis ar ôl dyddiad yr etholiadau y mae'r arolwg yn ymwneud â hwy. Caiff yr awdurdodau lleol gyhoeddi'r wybodaeth y maent wedi ei chrynhoi.

11.Rhaid i Weinidogion Cymru grynhoi'r wybodaeth a geir a'i chyhoeddi cyn pen deuddeng mis ar ôl dyddiad yr etholiadau y mae'r arolwg yn ymwneud â hwy. Caiff Gweinidogion Cymru rannu'r wybodaeth fel y'i ceir oddi wrth yr awdurdodau lleol (h.y. cyn unrhyw grynhoi pellach gan Weinidogion Cymru) ag unrhyw gorff sy'n cynrychioli llywodraeth leol yng Nghymru.

12.Wrth gyhoeddi neu rannu unrhyw wybodaeth o'r arolwg, rhaid i Weinidogion Cymru ac awdurdod lleol sicrhau na chaiff unrhyw un a gyfrannodd at yr arolwg ei enwi a sicrhau na fyddai modd ei adnabod mewn unrhyw ffordd.

Adran 3 – Canllawiau ynghylch arolygon

13.Mae’n rhoi pŵer i Weinidogion Cymru ddyroddi canllawiau am arolygon ac yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol roi sylw i'r canllawiau hynny.

Adran 4 – Mynychu cyfarfodydd o bell

14.Effaith yr adran hon yw ehangu cyfeiriad mewn unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys cyfeiriad sydd wedi ei gynnwys yn y Mesur ac mewn is-ddeddfwriaeth) at gyfarfod o awdurdod lleol i gynnwys aelodau o awdurdod lleol sy'n ei fynychu o bell cyhyd ag y caiff pob un o'r amodau, a nodir yn is-adran (3), ei fodloni.

15.Rhaid i reolau sefydlog awdurdod lleol sicrhau, i bob pwrpas, fod nifer yr aelodau sy'n mynychu'r cyfarfod mewn gwirionedd (h.y. sy'n mynychu'r cyfarfod yn y man lle y mae'r cyfarfod yn cael ei gynnal) yn fwy na nifer y rhai sy'n ei fynychu o bell. Yn ychwanegol, caiff yr awdurdod lleol wneud rheolau sefydlog eraill ynghylch mynychu o bell.

16.Diben y newid yw cyflwyno mwy o hyblygrwydd ar gyfer trefniadau cyfarfodydd er mwyn darparu ar gyfer anghenion cynghorwyr o gefndiroedd mwy amrywiol.

17.Rhaid i awdurdodau lleol roi sylw i ganllawiau y caiff Gweinidogion Cymru eu dyroddi ynglŷn â mynychu o bell.

Adran 5 – Adroddiadau blynyddol gan aelodau o awdurdod lleol

18.Mae'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol wneud trefniadau i gyhoeddi adroddiadau blynyddol gan ei aelodau a chan aelodau o'i weithrediaeth ar eu gweithgareddau yn unol â'r naill rôl neu'r llall neu'r ddwy yn y flwyddyn y mae'r adroddiad yn ymwneud â hi.

19.Caiff y trefniadau a wneir gan yr awdurdod gynnwys amodau ynghylch cynnwys adroddiad y mae'n rhaid eu bodloni gan y person sy'n ei lunio a rhaid i'r awdurdod roi cyhoeddusrwydd i'r trefniadau hynny. Rhaid i awdurdodau lleol roi sylw i ganllawiau y caiff Gweinidogion eu dyroddi am adroddiadau blynyddol.

Adran 6 – Amseru cyfarfodydd cyngor

20.Mae'n rhoi pŵer i Weinidogion Cymru ddyroddi canllawiau ynghylch amseru cyfarfodydd awdurdod lleol (gan gynnwys cyfarfodydd unrhyw bwyllgor neu is-bwyllgor) gyda golwg ar gyflwyno trefniadau mwy hyblyg i ddarparu ar gyfer cynghorwyr o gefndiroedd mwy amrywiol. Mae'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol roi sylw i'r canllawiau hynny.

Adran 7 – Hyfforddi a datblygu aelodau o awdurdod lleol

21.Mae'n rhoi dyletswydd ar brif gynghorau i sicrhau y darperir cyfleoedd hyfforddi a datblygu rhesymol i'w haelodau. Rhaid i bob prif gyngor roi ar gael i'w aelodau adolygiad blynyddol o'u hanghenion hyfforddi a datblygu, gan gynnwys cyfle am gyfweliad gyda pherson y bernir ei fod yn briodol gymwys i gynghori ar y mater hwnnw. Rhaid i awdurdodau lleol roi sylw i ganllawiau y caiff Gweinidogion Cymru eu dyroddi ar y materion hyn.

Adran 8 – Pennaeth gwasanaethau democrataidd

22.Mae'n ei gwneud yn ofynnol i Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd pob prif gyngor ddynodi un o swyddogion yr awdurdod i fod yn Bennaeth Gwasanaethau Democrataidd (“PGD”), ond ni chaniateir i bennaeth ei wasanaeth cyflogedig, ei swyddog monitro na’i brif swyddog cyllid gael ei ddynodi yn y cyswllt hwn.

23.Caiff y PGD drefnu i'r swyddogaethau gwasanaethau democrataidd gael eu cyflawni gan staff  a rhaid darparu i'r PGD y staff, y llety a’r adnoddau eraill sydd, ym marn y PGD, yn ddigon i ganiatáu i swyddogaethau’r PGD gael eu cyflawni.

24.Diben y swydd yw sicrhau bod digon o gymorth yn cael ei roi i gynghorwyr y tu allan i'r weithrediaeth i'w galluogi i gyflawni eu dyletswyddau yn effeithiol, a hynny gyda'r ddarpariaeth angenrheidiol o ran gweinyddu ac ymchwilio.

Adran 9 – Swyddogaethau gwasanaethau democrataidd

25.Mae'n nodi'r swyddogaethau a ymddiriedir i Bennaeth Gwasanaethau Democrataidd, gan gynnwys:–

a)

rhoi cymorth a chyngor i'r awdurdod mewn perthynas â'i gyfarfodydd;

b)

rhoi cymorth a chyngor i bwyllgorau (gan gynnwys cyd-bwyllgorau ac is-bwyllgorau, ond heb gynnwys y pwyllgor trosolwg a chraffu a'r pwyllgor gwasanaethau democrataidd);

c)

hybu rôl pwyllgor(au) trosolwg a chraffu'r awdurdod;

d)

rhoi cymorth a chyngor i bwyllgor(au) trosolwg a chraffu'r awdurdod ac aelodau o'r pwyllgor hwnnw neu'r pwyllgorau hynny, ac yn yr un modd i bwyllgor gwasanaethau democrataidd yr awdurdod;

e)

rhoi cymorth a chyngor, mewn perthynas â swyddogaethau pwyllgor(au) trosolwg a chraffu'r awdurdod, i aelodau'r awdurdod, aelodau'r weithrediaeth a swyddogion yr awdurdod;

f)

rhoi cymorth a chyngor i aelodau o'r awdurdod i gyflawni ei rôl fel aelod o'r awdurdod. Nid yw hyn yn ymestyn i roi cymorth a chyngor i aelod i gyflawni ei swyddogaeth fel aelod o'r weithrediaeth (ac eithrio ar gyfer y swyddogaethau hynny a gofnodwyd gan (e) uchod), a/neu gyngor ynghylch a ddylai swyddogaethau'r awdurdod gael eu harfer neu fod wedi eu harfer mewn perthynas â mater sy'n cael ei ystyried, neu sydd i'w ystyried, mewn cyfarfod o'r awdurdod neu bwyllgor o'r awdurdod (gan gynnwys cyd-bwyllgor neu is-bwyllgor); ac

g)

gwneud adroddiadau a argymhellion ynghylch materion staffio sy'n ymwneud â chyflawni swyddogaethau gwasanaethau democrataidd.

26.Caniateir i swyddogaethau eraill y PGD gael eu rhagnodi mewn rheoliadau gan Weinidogion Cymru; ac mae is-ddeddfwriaeth o'r fath i ddilyn y weithdrefn gadarnhaol. Nid yw “cyngor” yn (a) a (b) uchod yn cynnwys cyngor ynghylch sut y dylai swyddogaeth yr awdurdod gael, neu fod wedi cael, ei harfer. Nid oes dim yn yr adran hon sy'n effeithio ar ddyletswydd pennaeth gwasanaeth cyflogedig yr awdurdod.

Adran 10 – Dyletswydd i fabwysiadu rheolau sefydlog ynghylch rheoli staff

27.Mae'n galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ymgorffori mewn rheolau sefydlog ddarpariaethau rhagnodedig ynghylch rheoli staff a ddarperir i'r PGD ac addasiadau eraill i reolau sefydlog yr awdurdod sy’n ymwneud â rheoli staff. Ni fyddai modd i'r rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru gwmpasu penodi, diswyddo staff na disgyblu'r staff y cyfeirir atynt.

Adran 11 – Awdurdodau lleol i benodi pwyllgorau gwasanaethau democrataidd

28.Mae'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol benodi pwyllgor o'r cyngor i ddynodi Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, arolygu gwaith y Gwasanaethau Democrataidd, sicrhau bod digon o adnoddau ar gyfer y gwaith a chyflwyno adroddiad i'r cyngor llawn yn unol â hynny.

Adran 12 – Aelodaeth

29.Mae'n nodi'r aelodaeth o'r pwyllgor gwasanaethau democrataidd. Mae aelodaeth o'r pwyllgor wedi ei chyfyngu i gynghorwyr (dim aelodau cyfetholedig), dim ond un aelod o weithrediaeth y cyngor a gaiff fod yn aelod, ac ni chaiff pennaeth gweithrediaeth y cyngor fod yn aelod o'r pwyllgor. Ni chaiff y cadeirydd fod yn aelod o’r grŵp gweithredol (ac eithrio mewn awdurdodau lle y mae pob grŵp gwleidyddol yn cael ei gynrychioli ar weithrediaeth yr awdurdod ac yn yr achos hwnnw ni chaiff y cadeirydd fod yn aelod o’r weithrediaeth). Rhaid i aelodaeth y pwyllgor adlewyrchu'r cydbwysedd gwleidyddol ar y cyngor llawn yn unol ag adran 15 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989.

Adran 13 – Is-bwyllgorau

30.Mae'n caniatáu i'r pwyllgor gwasanaethau democrataidd sefydlu is-bwyllgorau, a gaiff gyflawni ei swyddogaethau.

Adran 14 – Trafodion etc

31.Mae'n nodi darpariaethau sy'n llywodraethu trafodion pwyllgorau gwasanaethau democrataidd, gan gynnwys: y dylai'r cadeirydd gael ei benodi gan y cyngor llawn; bod rhaid i’r cadeirydd beidio â bod yn aelod o grŵp sy’n rhan o weithrediaeth y cyngor; ac eithrio pan fo pob grŵp wedi ei gynrychioli ar y weithrediaeth (ac yn yr achos hwnnw rhaid i’r cadeirydd beidio bod yn aelod o’r weithrediaeth); y dylai cadeiryddion unrhyw is-bwyllgorau gael eu penodi gan y pwyllgor gwasanaethau democrataidd; nad oes unrhyw gyfyngiadau ar bleidleisio ar gyfer aelodau o'r pwyllgor neu'r is-bwyllgorau; y caiff y pwyllgor (ac is-bwyllgor) alw tystion ( a fydd o dan ddyletswydd i'w fynychu os ydynt yn aelodau'r awdurdod neu'n swyddogion i’r awdurdod, ond ni orfodir tyst o unrhyw ddisgrifiad i ateb unrhyw gwestiwn y byddai hawl ganddynt i wrthod ei ateb mewn achos llys, neu mewn cysylltiad ag achos o'r fath, yng Nghymru a Lloegr); ac y bydd cyfarfodydd, papurau a chofnodion y pwyllgor (a'r is-bwyllgor) hwnnw yn ddarostyngedig i'r gofynion ynghylch mynediad, cyhoeddi ac arolygu a nodir yn Rhan VA o Ddeddf 1972.

Adran 15 – Cynnal cyfarfodydd: pa mor aml

32.Mae'n ei gwneud yn ofynnol i'r pwyllgor gwasanaethau democrataidd gyfarfod o leiaf unwaith ym mhob blwyddyn galendr, ond caiff gyfarfod yn amlach na hynny. Yn ychwanegol, rhaid i'r pwyllgor gwasanaethau democrataidd gyfarfod os bydd yr awdurdod lleol yn penderfynu y dylai wneud hynny, neu fod traean o leiaf o'i aelodau yn galw am gyfarfod yn y modd a nodir.

Adran 16 – Cyflawni swyddogaethau

33.Mae'n cyfyngu ar y swyddogaethau y caiff y pwyllgor gwasanaethau democrataidd eu harfer i'r rhai a nodir yn y bennod hon o'r mesur; rhaid i'r pwyllgor (ac unrhyw is-bwyllgorau) roi sylw i unrhyw ganllawiau y caiff Gweinidogion Cymru eu dyroddi ar gyflawni swyddogaethau.

Adran 17 – Terfynu aelodaeth pan fo person yn peidio â bod yn aelod o awdurdod

34.Bydd aelodaeth cynghorydd o bwyllgor (neu is-bwyllgor) gwasanaethau democrataidd yn peidio os bydd y cynghorydd hwnnw'n peidio â bod yn aelod o'r cyngor, ond ni effeithir arno os yw aelodaeth y cynghorydd o'r cyngor wedi peidio am fod tymor ei swydd fel cynghorydd wedi dirwyn i ben a'i fod yn cael ei ailethol yn yr etholiadau nesaf (mae hyn yn ddarostyngedig i reolau sefydlog yr awdurdod neu'r pwyllgor/is-bwyllgor gwasanaethau democrataidd).

Adran 18 – Adroddiadau ac argymhellion gan bennaeth y gwasanaethau democrataidd

35.Mae'n ei gwneud yn ofynnol i bennaeth y gwasanaethau democrataidd anfon copi o unrhyw adroddiad neu argymhellion a luniwyd ganddo am y materion staffio sy'n ymwneud â chyflawni swyddogaethau gwasanaethau democrataidd at bob aelod o'r pwyllgor gwasanaethau democrataidd. Rhaid cynnal cyfarfod o'r pwyllgor i ystyried adroddiadau neu argymhellion o'r fath cyn pen tri mis ar ôl iddynt gael eu hanfon at aelodau'r pwyllgor.

Adran 19 – Adroddiadau ac argymhellion gan bwyllgorau gwasanaethau democrataidd

36.Os bydd pwyllgor gwasanaethau democrataidd yn llunio unrhyw adroddiad neu'n gwneud argymhellion ynghylch darparu staff, llety ac adnoddau eraill sy'n cael eu darparu gan yr awdurdod lleol ar gyfer cyflawni swyddogaethau gwasanaethau democrataidd, rhaid anfon copi at bob aelod o'r awdurdod nad yw'n aelod o'r pwyllgor cyn gynted ag y bo'n ymarferol. Rhaid cynnal cyfarfod o'r cyngor llawn i ystyried yr adroddiadau neu'r argymhellion hynny cyn pen tri mis ar ôl iddynt gael eu hanfon at aelodau o'r awdurdod.

Adran 20 – Swyddogaethau awdurdod lleol nad ydynt i'w dirprwyo

37.Mae'r adran hon yn sicrhau na chaiff yr awdurdod lleol ddirprwyo’r dyletswyddau a'r swyddogaethau a roddir iddo gan y Mesur hwn parthed: dynodi pennaeth y gwasanaethau democrataidd; darparu staff, llety ac adnoddau eraill iddo; penodi pwyllgor gwasanaethau democrataidd, ei aelodau (gan gydymffurfio â'r darpariaethau) a'i gadeirydd; penderfynu y dylai pwyllgor gwasanaethau democrataidd gyfarfod; ac ystyried adroddiad neu argymhellion a luniwyd gan y  pwyllgor gwasanaethau democrataidd.

Adran 21 – Swydd pennaeth gwasanaethau democrataidd i fod yn swydd o dan gyfyngiadau gwleidyddol

38.Mae'n diwygio adran 2(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 i gynnwys pennaeth gwasanaethau democrataidd fel swydd o dan gyfyngiadau gwleidyddol. Effaith hyn yw atal deiliad y swydd rhag cael unrhyw rôl wleidyddol weithgar naill ai y tu mewn neu y tu allan i'r gweithle. Caiff cyflogeion o dan gyfyngiadau gwleidyddol eu hanghymhwyso’n awtomatig rhag ymgeisio am swydd etholedig neu ddal swydd o'r fath ac mae'n rhaid i'r cyfyngiadau hyn gael eu hymgorffori fel telerau yng nghontract cyflogi'r cyflogai o dan adran 3 o Reoliadau Llywodraeth Leol (Cyfyngiadau Gwleidyddol) 1990.

Adran 22 – Ystyr “aelod”

39.Mae'n darparu bod cyfeiriad, yn y Rhan hon o’r Mesur, at aelod etholedig yn cynnwys aelod o weithrediaeth awdurdod lleol ond nid yw’n cynnwys maer etholedig.

Rhan 2 – Absenoldeb teuluol ar gyfer aelodau awdurdodau lleol

40.Mae'r darpariaethau yn y Rhan hon o'r Mesur yn rhoi ar gael i aelodau o brif gynghorau (gan gynnwys aelodau o'r weithrediaeth) hawl i absenoldeb mamolaeth, absenoldeb newydd-anedig, absenoldeb mabwysiadu ac absenoldeb rhiant (“absenoldeb teuluol”) i roi cymorth i gynghorwyr a'r rhai sydd am ymgeisio mewn etholiad ac y gall fod ganddynt gyfrifoldebau teuluol.

Adran 23 – Yr hawl i absenoldeb teuluol

41.Mae'n sefydlu hawl i gynghorwyr prif gyngor gael absenoldeb teuluol ac yn nodi'r mathau gwahanol o absenoldeb teuluol.

Adran 24 – Absenoldeb mamolaeth

42.Mae'n rhoi hawl i gynghorydd gael cyfnod o hyd at 26 wythnos o absenoldeb mamolaeth os yw'r cynghorydd wedi geni plentyn ac yn bodloni amodau rhagnodedig. Mae'r adran yn darparu i'r manylion sy'n ymwneud ag absenoldeb mamolaeth gael eu nodi mewn rheoliadau, a thrwy hynny mae'n caniatáu i Weinidogion Cymru ymateb i unrhyw newidiadau a wneir yn y drefn ehangach ym maes cyflogaeth.

Adran 25 – Absenoldeb newydd-anedig

43.Mae'n rhoi hawl i gynghorydd gael hyd at ddwy wythnos o absenoldeb yn achos cynghorydd sy'n bodloni amodau mewn perthynas ag “absenoldeb newydd-anedig”.  Rhaid cymryd yr absenoldeb o fewn cyfnod o 56 o ddiwrnodau gan ddechrau gyda genedigaeth plentyn y mae gan y cynghorydd berthynas ag ef yn y modd a nodir mewn amodau rhagnodedig.  Mae'r adran yn darparu bod y manylion sy'n ymwneud ag absenoldeb newydd-anedig yn cael eu nodi mewn rheoliadau, a thrwy hynny mae'n caniatáu i Weinidogion Cymru ymateb i unrhyw newidiadau a wneir yn y drefn ehangach ym maes cyflogaeth ac adlewyrchu unrhyw newidiadau o’r fath.

Adran 26 – Absenoldeb mabwysiadydd

44.Mae'r adran hon yn rhoi hawl i gynghorydd sy'n bodloni amodau rhagnodedig gael cyfnod o absenoldeb pan fo'r cynghorydd hwnnw (p'un ai'n unigol neu ar y cyd â pherson arall) yn mabwysiadu plentyn. Bydd y cyfnod o absenoldeb yn gyfnod o hyd at ddwy wythnos. Mae'r adran yn darparu bod y manylion sy'n ymwneud ag absenoldeb mabwysiadydd yn cael eu nodi mewn rheoliadau, a thrwy hynny mae'n caniatáu i Weinidogion Cymru ymateb i unrhyw newidiadau a wneir yn y drefn ehangach ym maes cyflogaeth ac adlewyrchu unrhyw newidiadau o’r fath.

Adran 27 – Absenoldeb mabwysiadu newydd

45.Mae'r adran hon yn rhoi hawl i gynghorydd gael cyfnod o absenoldeb os partner person sydd i fabwysiadu plentyn yw'r cynghorydd hwnnw. Mae absenoldeb mabwysiadu newydd ar gael i berson at ddibenion gofalu am blentyn sydd wedi ei fabwysiadu neu roi cymorth i'r person sydd i fabwysiadu'r plentyn. Mae rheoliadau i osod yr amodau y mae'n rhaid i berson eu bodloni ynglŷn â'i berthynas â pherson sydd i fabwysiadu plentyn a'i berthynas â'r plentyn sydd i'w leoli ar gyfer ei fabwysiadu er mwyn cymhwyso ar gyfer absenoldeb mabwysiadu newydd. Bydd y cyfnod o absenoldeb yn gyfnod o hyd at ddwy wythnos. Mae'r adran yn darparu  bod y manylion sy'n ymwneud ag absenoldeb mabwysiadu newydd yn cael eu nodi mewn rheoliadau, a thrwy hynny mae'n caniatáu i Weinidogion Cymru ymateb i unrhyw newidiadau a wneir yn y drefn ehangach ym maes cyflogaeth ac adlewyrchu unrhyw newidiadau o’r fath.

Adran 28 – Absenoldeb rhiant

46.Mae'n rhoi hawl i gynghorydd gael cyfnod o absenoldeb o hyd at dri mis os oes gan gynghorydd gyfrifoldebau dros blentyn neu os yw'n disgwyl cael cyfrifoldebau o'r fath (“absenoldeb rhiant”).  Mae'r adran yn darparu bod Gweinidogion Cymru yn gwneud rheoliadau sy'n nodi manylion absenoldeb rhiant.

Adran 29 – Rheoliadau atodol

47.Mae’n galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy’n nodi manylion a gofynion gweinyddol penodol ar gyfer awdurdodau lleol ac aelodau o awdurdodau lleol mewn cysylltiad â’r hawliau newydd a gyflwynir gan y darpariaethau yn y Rhan hon.

Adran 30 – Canllawiau

48.Mae'n rhoi pŵer i Weinidogion Cymru ddyroddi canllawiau ar hawliau i absenoldeb teuluol y mae'n rhaid i brif gynghorau roi sylw iddynt.

Adran 31 – Diwygio Deddf Llywodraeth Leol 1972

49.Mae’n diwygio adran 85 o Ddeddf 1972 fel na fydd cyfnod o “absenoldeb teuluol” (fel y darperir ar ei gyfer gan y Mesur hwn), ynddo'i hun, yn peri i gynghorydd fod yn agored i ofyniad iddo adael ei swydd yn rhinwedd y ffaith nad yw wedi mynychu cyfarfodydd cyngor am chwe mis.

50.Mae'r adran 85 bresennol o Ddeddf 1972 yn dweud y bydd cynghorydd yn peidio â dal ei swydd os bydd yn methu â mynychu unrhyw un neu rai o gyfarfodydd ei awdurdod yn ystod cyfnod o chwe mis yn olynol heb reswm a gymeradwywyd gan yr awdurdod. Mae'r is-adran newydd (3C), a fewnosodir yn adran 85 o Ddeddf 1972, yn sicrhau na chaiff absenoldeb teuluol ei gymryd i ystyriaeth i gyfrifo cyfnod absenoldeb o chwe mis. Mae'r adran newydd (3D) yn darparu y ceir cymryd i ystyriaeth, wrth gyfrifo'r cyfnod absenoldeb o chwe mis, y cyfnodau yn union cyn ac yn union ar ôl y cyfnod o absenoldeb teuluol.

Adran 32 - Diwygio Deddf Llywodraeth Leol 2000

51.Mae’n diwygio adran 11 o Ddeddf 1972 i ganiatáu i derfyn statudol ar faint gweithrediaeth awdurdod lleol gael ei godi i ganiatáu i rywun gael ei benodi dros dro yn lle aelod gweithredol sy’n cymryd absenoldeb teuluol yn ôl y ddarpariaeth yn Rhan 2 o’r Mesur hwn.  Darpariaeth alluogi yw hon felly nid oes rhaid penodi aelod ychwanegol.

Adran 33 – Dehongli Rhan 2

52.Mae'n darparu dehongliad o dermau penodol a ddefnyddir yn y Rhan hon o'r Mesur.

Rhan 3 – Trefniadau Llywodraethu sydd ar gael

Adran 34 – Diddymu gweithrediaeth maer a rheolwr cyngor

53.Mae’n diwygio Deddf 2000 i ddileu opsiwn y weithrediaeth maer a rheolwr cyngor o’r trefniadau gweithrediaeth sydd ar gael yng Nghymru.

Adran 35 –Awdurdodau i roi trefniadau gweithrediaeth yn lle trefniadau amgen

54.Mae’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol yng Nghymru sy’n gweithredu trefniadau amgen (y cyfeirir atynt hefyd fel y “Pedwerydd Opsiwn”) i roi’r gorau i wneud hynny ac i ddechrau gweithredu yn lle hynny ffurf a ganiateir, sef ffurf ar drefniadau gweithrediaeth.  Mae’r weithdrefn ar gyfer y trosiad o drefniadau amgen i drefniadau gweithrediaeth wedi ei nodi yn Atodlen 1 i’r Mesur hwn y mae’r adran hon yn rhoi ei heffaith iddo. Wrth gydymffurfio â’r adran hon a’r Atodlen, bydd yn rhaid i unrhyw awdurdod lleol y mae arno angen roi’r newid ar waith gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru.  Mae paragraff 13(2) o Ran 2 o’r Atodlen yn caniatáu i Weinidogion Cymru ddarparu, drwy orchymyn, i’r awdurdod lleol roi’r gorau i weithredu trefniadau amgen a dechrau gweithredu trefniadau gweithrediaeth yn unol ag adran 35.

Atodlen 1 – Newid trefniadau amgen yn drefniadau gweithrediaeth

55.Mae adran 35 yn rhoi effaith i’r Atodlen hon sy’n nodi’n fanwl  y weithdrefn y bydd yn rhaid i awdurdod lleol, sydd ar hyn o bryd yn gweithredu trefniadau amgen, ei dilyn pan fydd yn gwneud y newid i drefniadau gweithrediaeth fel sy’n ofynnol yn adran 35 o’r Mesur hwn. Mae paragraff 13(2) o Ran 3 o’r Atodlen yn rhoi i Weinidogion Cymru bŵer diofyn i’w gwneud yn ofynnol drwy orchymyn i awdurdod lleol roi’r gorau i weithredu trefniadau amgen ac i ddechrau gweithredu ffurf benodedig ar drefniadau gweithrediaeth pan fo awdurdod yn methu â gwneud y newid yn unol ag adran 35.

Adran 36 – Darpariaeth ganlyniadol etc

56.Mae’n gwneud diwygiadau canlyniadol i ddarpariaethau yn Neddf  2000 i adlewyrchu’r ffaith bod y trefniadau amgen presennol yn cael eu dileu yng Nghymru.  Nid oes angen mwyach yr adran 29(3) bresennol o Ddeddf 2000 sy’n caniatáu i awdurdodau lleol yng Nghymru newid o drefniadau gweithrediaeth i drefniadau amgen; mae’r newidiadau eraill yn dileu cyfeiriadau at weithdrefnau mewn perthynas â gweithredu trefniadau amgen a fydd wedi darfod amdanynt pan gaiff yr opsiwn hwnnw ei ddileu.

57.Mae is-adrannau (5) – (8) yn caniatáu i awdurdod lleol sydd ar hyn o bryd yn gweithredu trefniadau amgen barhau i wneud hynny ar ôl i’r darpariaethau yn y Mesur ddod i rym. Effaith hynny yw caniatáu cyfnod trosiannol i awdurdod sy’n gweithredu trefniadau amgen; maent yn cysylltu â’r gofyniad ym mharagraff 2(4) o Atodlen 1 i’r Mesur hwn sy’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol fod wedi newid o drefniadau amgen i drefniadau gweithrediaeth cyn pen chwe mis ar ôl y dyddiad y daw adran 35 yn y Mesur hwn i rym.

Rhan 4 – Newidiadau mewn Trefniadau Gweithrediaeth

Adran 37 – Y pŵer i fabwysiadu ffurf wahanol ar weithrediaeth

58.Mae’n gwneud darpariaeth newydd i symleiddio’r weithdrefn i awdurdod lleol sydd eisoes yn gweithredu un ffurf ar drefniadau gweithrediaeth a ganiateir newid i ffurf arall ar drefniadau gweithrediaeth, ond yn ei alluogi i wneud newid o’r fath unwaith yn unig rhwng etholiadau cyffredin. Mae’r gweithdrefnau newydd yn golygu na fydd angen mwyach i awdurdod ymgynghori’n ffurfiol ag etholwyr lleol na llunio cynigion wrth gefn.

Adran 38 – Y cynigion ar gyfer mabwysiadu ffurf wahanol ar weithrediaethAdran 39 – Cynnwys y cynigionAdran 40 – RefferendaAdran 41 – Yr amserlen ar gyfer rhoi’r cynigion ar waith: dim refferendwmAdran 42 – Yr amserlen ar gyfer rhoi’r cynigion ar waith: refferendwmAdran 43 – Cyhoeddusrwydd i’r cynigionAdran 44 – Rhoi’r cynigion ar waithAdran 45 – Camau gweithredu os yw’r newid yn cael ei wrthod mewn refferendwm

59.Mae’r adrannau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer awdurdod lleol sydd am newid o un ffurf ar drefniadau gweithrediaeth i un arall, ac yn nodi’r gweithdrefnau y mae’n ofynnol i’r awdurdod hwnnw eu dilyn, a chynnwys y cynigion ar gyfer y newid y mae’n rhaid iddo eu paratoi a’u hanfon at Weinidogion Cymru (gweler adran 38).

60.Os yw’r newid arfaethedig yn newid i ffurf ar drefniadau gweithrediaeth sy’n cynnwys maer etholedig, rhaid i’r cynigion gynnwys darpariaeth ar gyfer refferendwm o etholwyr llywodraeth leol yn yr awdurdod o dan sylw i gymeradwyo’r newid arfaethedig, ond rhaid peidio â chynnal refferendwm os yw’r newid y newid i unrhyw ffurf arall ar drefniadau gweithrediaeth (adran 40).  Mae gofyniad i gynnal refferendwm yn ddarostyngedig i’r cyfyngiad yn adran 45 o Ddeddf 2000 na chaniateir i refferendwm ar drefniadau gweithrediaeth gael ei gynnal fwy nag unwaith mewn unrhyw gyfnod o bum mlynedd. Mae’r amserlenni ar gyfer rhoi ar waith newid y cytunwyd arno wedi eu nodi yn adrannau 41 a 42.  Os yw awdurdod yn cymeradwyo newid nad yw’n ofynnol cael cymeradwyaeth ar ei gyfer mewn refferendwm, rhaid iddo roi cyhoeddusrwydd i’r newid arfaethedig yn y modd a nodir yn adran 43.

61.Os oes rhaid cynnal refferendwm a bod y newid yn cael ei wrthod gan y pleidleiswyr, ni chaiff yr awdurdod roi’r newid ar waith (adran 44). Rhaid iddo ddilyn y weithdrefn yn adran 45 a pharhau i weithredu ei drefniadau gweithrediaeth presennol.

Adran 46 – Newid mewn trefniadau gweithrediaeth y mae'n ofynnol ei gymeradwyo mewn refferendwm

62.Mae’r adran hon yn darparu ei bod yn ofynnol i newid mewn trefniadau gweithrediaeth gael ei gymeradwyo mewn refferendwm os yw naill ai’r model presennol neu’r model arfaethedig yn weithrediaeth maer a chabinet.

Adran 47 – Dehongli

63.Mae’r adran hon yn diffinio termau penodol a ddefnyddir yn y Bennod hon o’r Mesur.

Adran 48 – Y pŵer i amrywio'r ffurf bresennol ar weithrediaethAdran 49 – Y cynigion ar gyfer amrywio'r ffurf ar weithrediaethAdran 50 – Cynnwys y cynigionAdran 51 – Rhoi’r cynigion ar waithAdran 52 – Y pwerau sy'n caniatáu amrywio pwerau gweithrediaeth

64.Mae’r adrannau hyn yn cyflwyno darpariaeth newydd i alluogi awdurdod lleol sy’n gweithredu trefniadau gweithrediaeth i amrywio’r trefniadau fel eu bod yn wahanol i’r trefniadau presennol ond yn dal i weithredu â’r un model.

Adran 53 – Ffurfiau ar weithrediaeth

65.Mae’n egluro mai at ddibenion y Rhan hon y mae dwy ffurf ar weithrediaeth yng Nghymru.

Adran 54 – Darpariaeth ganlyniadol etc

66.Mae’r adran hon yn cynnwys diwygiadau canlyniadol i adrannau o Ddeddf 2000 sy’n ymwneud â’r Rhan hon o’r Mesur. Mae Adran 30 o Ddeddf 2000 yn nodi’r gweithdrefnau presennol ar gyfer newid trefniadau gweithrediaeth, sydd wedi eu disodli gan y darpariaethau yn y Rhan hon ynghylch newid trefniadau gweithrediaeth a’u hamrywio.  Diben mewnosod yr adran 33ZA newydd yw cyfeirio darllenwyr at y darpariaethau ar gyfer newid trefniadau llywodraethu yng Nghymru yn y rhan hon o’r Mesur. Mae’r diwygiad i adran 45 o Ddeddf 2000 yn ehangu’r diffiniad o refferendwm i gynnwys y darpariaethau a fewnosodir gan y Mesur hwn.

Rhan 5 – Swyddogaethau Awdurdod Lleol: Cyflawni gan Bwyllgorau a Chynghorwyr

Adran 55 – Yr ardal a gwmpesir ac aelodaethAdran 56 – Arfer swyddogaethau gan gynghorwyrAdran 57 – Darpariaeth ganlyniadol

67.Mae'r adrannau hyn yn galluogi awdurdodau lleol yng Nghymru i gael mwy o hyblygrwydd o ran y ffordd y caniateir i swyddogaethau gweithrediaeth yr awdurdod hwnnw gael eu cyflawni. Mae adran 15 o Ddeddf 2000 yn gwneud darpariaeth ynglŷn â chyflawni swyddogaethau ar gyfer gweithrediaeth arweinydd a chabinet yng Nghymru. Mae adran 15(2) o Ddeddf 2000 yn darparu y caniateir i unrhyw swyddogaethau sy'n gyfrifoldeb y weithrediaeth gael eu cyflawni gan (a) y weithrediaeth, (b) unrhyw aelod o'r weithrediaeth, (c) unrhyw bwyllgor i'r weithrediaeth a (d) unrhyw swyddogion i'r awdurdod.

68.Mae adran 55 o'r Mesur yn diwygio'r ddarpariaeth bresennol yn adran 18 o Ddeddf 2000 i roi i awdurdodau fwy o hyblygrwydd ynghylch aelodaeth o bwyllgor ardal sy'n cyflawni swyddogaethau penodedig yn ei ran ef o ardal yr awdurdod. Ar hyn o bryd, mae pwyllgor ardal yn bodloni'r amodau os yw'r aelodau o'r pwyllgor sy'n gynghorwyr wedi eu hethol ar gyfer adrannau etholiadol sy'n dod yn gyfan gwbl neu'n rhannol o fewn y rhan honno. Yn ôl yr amodau presennol ar gyfer ardal, rhaid i'r ardal a gwmpesir gan y pwyllgor ardal beidio â bod yn fwy na dwy ran o bump o ardal gyfan yr awdurdod a phoblogaeth y rhan honno yn yr un modd.

69.Mae adran 56 yn gwneud darpariaeth newydd i alluogi aelod o awdurdod lleol sy'n cynrychioli'r weithrediaeth neu'r awdurdod ar gorff allanol i wneud penderfyniadau mewn perthynas â swyddogaethau sy'n gyfrifoldeb gweithrediaeth yr awdurdod, ar yr amod bod y weithrediaeth neu'r awdurdod wedi cyflawni'r swyddogaethau hynny'n ffurfiol i'r aelod. Nid oes unrhyw bŵer i ddarparu ar gyfer hynny ar hyn o bryd.

70.Mae adran 57 yn gwneud newidiadau canlyniadol i Ddeddf 1972 a Deddf 2000.  Mae'r diwygiadau i Ddeddf 1972 yn darparu bod aelodau sy'n arfer swyddogaethau yn gwneud cofnodion ysgrifenedig o benderfyniadau ac yn eu darparu i'r awdurdod.   Mae'r newidiadau i Ddeddf 2000 yn caniatáu i swyddogaethau gweithrediaeth gael eu cyflawni'n unol â'r darpariaethau newydd ynghylch aelodau ac i'r aelodau hynny gael eu galw gerbron pwyllgor trosolwg a chraffu i ateb cwestiynau am y swyddogaethau hynny.

Rhan 6 – Trosolwg a Chraffu

Adran 58 – Y cyd-bwyllgorau trosolwg a chraffu

71.Mae'r adran hon yn rhoi pŵer i weinidogion Cymru ddarparu drwy reoliad y caiff dau brif gyngor neu ragor sefydlu un neu ragor o gyd-bwyllgorau trosolwg a chraffu (CTChau), a threfnu i'r pwyllgor neu'r pwyllgorau lunio adroddiadau neu wneud argymhellion i unrhyw un neu rai o'r prif gynghorau sy'n sefydlu'r pwyllgor, ac i weithrediaethau'r cynghorau hynny.

72.Caiff y CTChau lunio adroddiadau a gwneud argymhellion am unrhyw fater, ond nid ynghylch materion trosedd ac anhrefn, y gallai pwyllgor trosedd ac anhrefn lunio adroddiad neu wneud argymhellion amdanynt yn rhinwedd adran 19(1)(b) neu (3)(a) o Ddeddf yr Heddlu a Chyfiawnder 2006.

73.Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth i CTChau gael pwerau sy'n cyfateb i rai pwyllgorau trosolwg a chraffu nad ydynt yn gyd-bwyllgorau, yn y modd a nodir mewn deddfwriaeth sy'n bodoli eisoes ac fel y darperir ar ei gyfer yn y Mesur hwn.

Adran 59 – Craffu ar bersonau dynodedigAdran 60 – Hysbysu personau dynodedig am adroddiad neu argymhellion

74.Mae'r adrannau hyn yn cryfhau safle pwyllgorau trosolwg a chraffu (ac yn sgil hynny, safle CTChau) drwy adeiladu ar y pŵer presennol i lunio adroddiadau a gwneud argymhellion yn adran 21(2)(e) o Ddeddf 2000, fel ei bod yn ofynnol i bwyllgorau graffu a chyflwyno adroddiad ar faterion sy'n ymwneud â “pherson dynodedig” (gweler adran 61). Y prif newidiadau eraill yw pwerau newydd ar gyfer pwyllgor: ei gwneud yn ofynnol i wybodaeth gael ei rhoi (gofyniad y mae'n rhaid cydymffurfio ag ef); i anfon copi o adroddiad neu argymhellion at berson dynodedig; ac i ofyn i'r person hwnnw roi sylw i'r adroddiad neu'r argymhellion.

Adran 61 – Personau dynodedig

75.Mae'n caniatáu i Weinidogion Cymru ddynodi drwy orchymyn y personau hynny neu'r categorïau hynny o bersonau (“person dynodedig”) y caniateir i bwyllgor trosolwg a chraffu i awdurdod lleol graffu ar eu cyfrifoldebau neu eu swyddogaethau.  Effaith yr amodau yn is-adrannau (3) i (5) yw cyfyngu'r pŵer dynodi i bersonau sy'n darparu i’r cyhoedd wasanaethau, nwyddau neu gyfleusterau, hyd yn oed os nad yw'r gwaith darparu hwnnw'n cael ei gyflawni'n uniongyrchol gan y personau hynny.

Adran 62 – Rhoi sylw i safbwyntiau’r cyhoedd

76.Mae'n cyflwyno darpariaeth i'w gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol wneud trefniadau i alluogi'r cyhoedd i fynegi eu barn mewn perthynas ag unrhyw fater sy'n cael ei ystyried gan y pwyllgor.

Adran 63 – Cyfeirio materion at bwyllgor trosolwg a chraffu etc

77.Mae'n diwygio adran 21A o Ddeddf 2000 i alluogi cynghorydd prif gyngor yng Nghymru i gyfeirio mater at bwyllgor trosolwg a chraffu sy'n ymwneud â chyflawni unrhyw un neu rai o swyddogaethau'r cyngor neu sy'n effeithio ar y cyfan neu ran o'r ardal etholiadol y mae'r cynghorydd yn ei chynrychioli. Rhaid i'r pwyllgor ystyried y mater ac adrodd yn ôl i'r aelod.

Adran 64 – Y ddyletswydd i ymateb i bwyllgor trosolwg a chraffu

78.Mae'n gymhwyso o ran Cymru y ddarpariaeth yn adran 21B o Ddeddf 2000 sy'n nodi'r camau y mae'r rhaid i bwyllgor trosolwg a chraffu eu cymryd i hysbysu'r awdurdod neu'r weithrediaeth am adroddiad y mae wedi ei lunio a'r camau y mae'n rhaid i’r awdurdod neu’r weithrediaeth eu cymryd i ymateb.

Adran 65 – Darpariaeth ganlyniadol i adrannau 62 a 63

79.Mae'n estyn y diffiniad o wybodaeth sy'n esempt rhag cael ei chyhoeddi mewn adroddiadau etc pwyllgor trosolwg a chraffu i gynnwys yr hyn sydd wedi ei esemptio o dan adran 186 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006.

Adran 66 – Y ddarpariaeth mewn rheolau sefydlog ynghylch penodi personau i gadeirio pwyllgorauAdran 67 – Yr adegau pan fo penodiadau i’w gwneud gan bwyllgorAdran 68 – Yr adegau pan fo penodiadau i’w gwneud gan grŵp nad yw’n grŵp gweithrediaethAdran 69 – Sut y mae penodiadau i’w gwneud mewn achosion eraill

80.Mae'r adrannau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol wneud darpariaeth yn ei reolau sefydlog ar gyfer penodi cadeiryddion i bwyllgorau trosolwg a chraffu'r awdurdod (y “weithdrefn benodi”). Mae'r adrannau'n nodi hefyd pwy fydd yn penodi'r cadeiryddion, penderfyniad sy'n dibynnu ar nifer y grwpiau gwleidyddol sydd â chynrychiolwyr yn yr awdurdod hwnnw a chyfansoddiad gweithrediaeth yr awdurdod.  Bydd y pwyllgorau eu hunain yn penodi eu cadeiryddion o dan yr amgylchiadau a ddisgrifir yn adran 67;  bydd y grŵp gwleidyddol anweithredol yn gwneud hynny os yr amgylchiadau yn adran 68 yw'r amgylchiadau hynny.  Mae adran 69 yn cyflwyno'r trefniadau a fydd yn gymwys mewn achosion eraill.

Adran 70 – Y penodiadau sydd i’w gwneud gan grwpiau gwleidyddolAdran 71 – Methiant i wneud penodiadau yn unol ag adran 69Adran 72 – Newidiadau yng nghyfansoddiad gweithrediaethAdran 73 – Swyddi gwag achlysurol ymhlith cadeiryddion pwyllgorAdran 74 – Yr awdurdod yn penderfynu ar ddarpariaeth benodi

81.Mae'r adrannau hyn yn nodi'r gweithdrefnau ar gyfer awdurdodau pan na fo adrannau 67 na 68 yn gymwys, sef yn gyffredinol yr awdurdodau hynny y mae eu haelodaeth wedi ei rhannu rhwng nifer o grwpiau gwleidyddol.

82.Nod bras yr adrannau hyn yw'r gofyniad i awdurdodau lleol wneud darpariaeth ar gyfer dyrannu nifer y cadeiryddion pwyllgorau craffu yn gyfrannol, ynghyd â'r amod ychwanegol na chaiff y grŵp (neu'r grwpiau) gwleidyddol sy'n ffurfio gweithrediaeth y cyngor ddyrannu mwy o gadeiryddion craffu i'w grŵp (grwpiau) na'r nifer sy'n gyfrannol i'w gynrychiolaeth (gyfun) yn y cyngor llawn (h.y. yr holl aelodau, p'un a ydynt yn aelodau o grwpiau gwleidyddol ai peidio). Os nad yw'r hawl i gadeiryddion y grŵp (grwpiau) yn y weithrediaeth yn rhif cyfan, mae'r nifer y mae gan y grŵp (grwpiau) hawl i’w gael i'w dalgrynnu i lawr i'r rhif cyfan agosaf.  Mae'r egwyddorion ar gyfer dyrannu cadeiryddion craffu i grwpiau gwleidyddol sy'n ffurfio'r weithrediaeth i'w cael yn is-adran (3) newydd adran 70.

83.Mae gweddill y cadeiryddion craffu i'w dyrannu wedyn i grwpiau gwleidyddol yr wrthblaid, a dyraniad pob grŵp  gwrthblaid i fod yn gyfrannol i gryfder y grŵp hwnnw o ran nifer o fewn cyfanswm cyfunol y grwpiau gwrthblaid (is-adran (4) o adran 70).  Ni ddylai'r broses o gyfrifo cadeiryddion craffu ar gyfer grwpiau gwrthblaid gymryd i ystyriaeth gynghorwyr nad ydynt yn aelodau o grwpiau gwleidyddol yn yr awdurdod.

84.Mae adran 71 yn nodi beth sydd i ddigwydd os na chaiff unrhyw gadeiryddion pwyllgor eu penodi'n unol ag adran 70. Ni chaiff grŵp (grwpiau) yr weithrediaeth gael mwy o benodiadau. Caiff y grŵp (grwpiau) gwrthblaid sydd wedi llwyr ddefnyddio eu dyraniad cychwynnol o benodiadau gael penodiadau ychwanegol yn gyfrannol i nifer eu penodiadau cychwynnol. Os yw pob un o'r grwpiau gwrthblaid wedi methu â llwyr ddefnyddio ei ddyraniad cychwynnol o benodiadau neu os oes gan grŵp gwrthblaid hawl i benodiad ychwanegol ond nad yw'n ei ddefnyddio, bydd y pŵer penodi yn yr achosion hyn yn dod i ran y pwyllgorau.

85.Os bydd cyfansoddiad y weithrediaeth yn newid, rhaid ailedrych ar ddyraniad y cadeiryddion craffu ac efallai y bydd angen gwneud newidiadau i'r dyraniadau, fel a nodir yn adran 72.  Mae'r weithdrefn ar gyfer sefyllfa pan fo swydd cadeirydd craffu yn dod yn wag wedi ei nodi yn adran 73.

86.Mae adran 74 yn caniatáu i awdurdod lleol hepgor y gofyniad i ddilyn y gweithdrefnau uchod os cytunir ar weithdrefn benodi amgen gan bob grŵp gwleidyddol, ar yr amod na fydd y weithdrefn amgen yn arwain at y canlyniad bod y blaid fwyafrifol yn dyrannu nifer mwy o gadeiryddion craffu o'u plaid hwy na'r hyn a fyddai gweithdrefn 70 yn ei ganiatáu.

Adran 75 – Darpariaeth atodol a dehongli

87.Mae'n galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau ynghylch y weithdrefn benodi ar gyfer dyrannu cadeiryddion pwyllgorau craffu ac i ddyroddi canllawiau neu gyfarwyddiadau.  Mae'r adran hefyd yn diffinio termau penodol a ddefnyddir yn adrannau 66 i 75 ac yn mewnosod is-adran (10A) newydd yn adran 21 o Ddeddf 2000 i gyfeirio darllenwyr at adrannau 66 i 75 o'r Mesur.

Adran 76 – Canllawiau a chyfarwyddiadau ynghylch cyfethol

88.Mae'r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol roi sylw i unrhyw ganllawiau neu gyfarwyddyd ynghylch cyfethol a ddyroddir gan Weinidogion Cymru.

Adran 77 – Blaengynlluniau a gwybodaeth arall am benderfyniadau

89.Mae'n galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth i'w gwneud yn ofynnol i gyhoeddi blaengynllunia pwyllgorau ac is-bwyllgorau trosolwg a chraffu.

Adran 78 – Gwahardd pleidleisio o dan gyfarwyddyd chwip plaid a datgan cyfarwyddyd gwaharddedig chwip plaid

90.Mae'n gwahardd defnyddio chwip mewn cyfarfodydd pwyllgorau trosolwg a chraffu. Mae'r adran yn nodi gweithdrefn ar gyfer datgan, penderfynu a chofnodi chwip plaid gwaharddedig mewn cyfarfodydd pwyllgor craffu a chanlyniadau rhoi chwip plaid gwaharddedig

Adran 79 – Canllawiau a chyfarwyddiadau

91.Mae'n galluogi Gweinidogion Cymru i ddyroddi canllawiau neu roi cyfarwyddiadau ynghylch pwyllgorau trosolwg a chraffu.

Adran 80 – Dehongli'r Bennod hon

92.Mae'r adran hon yn diffinio termau penodol a ddefnyddir yn y Bennod hon.

Adran 81 – Awdurdodau lleol i benodi pwyllgorau archwilioAdran 82 – AelodaethAdran 83 – Trafodion etcAdran 84 – Cyfarfodydd: pa mor aml i’w cynnalAdran 85 – CanllawiauAdran 86 – Terfynu aelodaeth aelod pan fydd yn peidio â bod yn aelod o awdurdodAdran 87 – Dehongli etc

93.Mae'r adrannau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol benodi pwyllgor archwilio i adolygu materion ariannol yr awdurdod a’r swyddogaethau eraill a nodir yn adran 81, gan gynnwys llunio adroddiadau a gwneud argymhellion mewn perthynas â'r rhain, a chraffu ar y materion a’r swyddogaethau hynny. Ar hyn o bryd nid oes unrhyw ofyniad statudol i awdurdodau lleol yng Nghymru gael pwyllgor o'r fath.

94.Rhaid i gadeirydd y pwyllgor archwilio beidio â bod yn aelod o grŵp sy’n rhan o weithrediaeth y cyngor, ac eithrio pan fo pob grŵp wedi ei gynrychioli ar y weithrediaeth (ac yn yr achos hwnnw rhaid i’r cadeirydd beidio â bod yn aelod o’r weithrediaeth).

95.Mae'r adrannau yn gwneud darpariaeth ar gyfer swyddogaethau, aelodaeth, cadeirydd, trafodion, pa mor aml i gynnal cyfarfodydd, cyflawni swyddogaethau a therfynu aelodaeth. Mae adran 85 yn caniatáu i Weinidogion Cymru ddyroddi canllawiau am swyddogaethau ac aelodaeth pwyllgorau archwilio a’r rheini’n ganllawiau y mae’n rhaid i awdurdodau lleol a phwyllgorau archwilio roi sylw iddynt. Mae adran 87 yn diffinio termau penodol a ddefnyddir yn y Bennod hon.

Rhan 7 –Cymunedau a Chynghorau cymuned

96.Mae'r adrannau ym Mhenodau 1 a 2 o Ran 7 o'r Mesur yn adolygu'r trefniadau a nodir yn Neddf 1972 i alw a threfnu cyfarfodydd cymunedol a phleidleisio cymunedol yng Nghymru i'w gwneud yn fwy cynrychioliadol o'r farn leol.

Adran 88 – Cynnull cyfarfodydd cymunedol gan etholwyr llywodraeth leol

97.Mae adran 88 yn diwygio'r ddarpariaeth bresennol ym mharagraff 30 o Atodlen 12 i Ddeddf 1972 i gynnull cyfarfodydd cymunedol.

98.Mae is-adran (1) o'r adran newydd 88 yn ailddeddfu'r darpariaethau presennol ym mharagraff 30(1) o Atodlen 12 i'r graddau y maent yn caniatáu, mewn cymunedau a chanddynt gyngor cymuned, i gyfarfod cymunedol gael ei gynnull gan gadeirydd y cyngor neu gan ddau gynghorydd sy'n cynrychioli'r gymuned ar y cyngor.  Mae'r sbardunau hyn dros gynnull cyfarfod cymunedol heb eu newid. Effaith is-adrannau 1(b) - (e) yw, pan fo cyfarfodydd cymunedol yn cael eu cynnull yn y ffordd hon, bod y gofynion presennol i roi hysbysiad cyhoeddus yn cael eu hailgymhwyso. Yn unol â hynny, os mater cyffredinol yw busnes y cyfarfod cymunedol, rhaid rhoi hysbysiad o saith niwrnod o leiaf; os y mater gerbron yw bodolaeth cyngor cymunedol neu grwpio cymuned â chymunedau eraill (h.y. yn unol ag adrannau 27A-27L o Ddeddf 1972 fel y'u mewnosodir gan y Mesur) rhaid rhoi hysbysiad o ddeng niwrnod ar hugain o leiaf.

99.Ar ben hynny, mae'r diwygiad i baragraff 30(1) o Atodlen 12 yn dileu'r darpariaethau presennol sy'n caniatáu i gyfarfod cymunedol gael ei gynnull gan chwe etholwr llywodraeth leol (p'un a oes gan y gymuned o dan sylw gyngor cymuned ai peidio).  Mae is-adran (2) o'r adran 88 newydd yn cyflwyno trothwyon newydd, sef 10% o etholwyr llywodraeth leol y gymuned honno neu 50 o etholwyr, p'un bynnag o'r ddau sydd isaf.

Adran 89 – Hysbysiad am gyfarfod cymunedol a gafodd ei gynnull gan etholwyr llywodraeth leol

100.Mae’n mewnosod paragraff 30B newydd yn Atodlen 12 i Ddeddf 1972 sy'n rhoi'r wybodaeth y mae'n ofynnol i'w darparu i alluogi'r cyngor lleol perthnasol i benderfynu a gafodd cyfarfod cymunedol ei gynnull yn briodol pan fo cynullwyr y cyfarfod yn etholwyr llywodraeth leol.  Cyngor cymuned mewn cymunedau lle y mae cyngor cymuned yn bod a'r prif gyngor lle nad oes un yn bod yw'r cyngor lleol perthnasol y mae'n rhaid rhoi hysbysiad am gyfarfod cymunedol iddo.

101.Nodir yr wybodaeth y mae’n ofynnol i'w chynnwys mewn hysbysiad yn is-adrannau (2) - (7). Mae'r darpariaethau yn caniatáu i'r hysbysiad gael ei roi ar ffurf electronig i brif gyngor (ar yr amod ei fod yn bodloni'r gofynion technegol a osodir gan y prif gyngor o dan adran 90) ac i'r etholwyr sy'n cefnogi cynnull cyfarfod cymunedol i aros yn ddienw os cofrestrwyd hwy yn ddienw ar y gofrestr o etholwyr llywodraeth leol.

Mae adran 90 – Y cyfleuster ar gyfer darparu hysbysiadau electronig am gynnull cyfarfodydd cymunedol

102.Mae’n ei gwneud yn ofynnol i brif gyngor roi cyfleusterau ar gael er mwyn dosbarthu hysbysiadau am gyfarfodydd cymunedol yn electronig. Ar ben hynny, mae'n ofynnol i'r cyngor osod y gofynion ar gyfer cynllun hysbysiadau electronig, fel dilysu llofnod electronig, a rhoi cyhoeddusrwydd priodol i’r gofynion hynny.

Adran 91 – Camau gweithredu ar ôl cael hysbysiad am gynnull gyfarfod cymunedol

103.Mae’n  ei gwneud yn ofynnol i'r cyngor sy'n cael yr hysbysiad y manylir arno yn adran 89  ystyried p'un a fodlonwyd y gofynion gosodedig a'r trothwy sbardun cychwynnol ai peidio. Os yw'r cyngor o'r farn iddynt gael eu bodloni, rhaid i'r cyngor rhoi hysbysiad cyhoeddus yn unol â'r adran newydd 92. Os yw'r cyngor o'r farn na fodlonwyd y gofynion, rhaid iddo roi hysbysiad i'r cynullwyr a datgan pam y mae o'r farn honno.

Adran 92 – Hysbysiad cyhoeddus am gyfarfod cymunedol

104.Mae'n ei gwneud yn ofynnol, cyn pen deng niwrnod ar hugain ar ôl penderfynu bod y gofynion i gynnull cyfarfod cymunedol wedi eu bodloni, i'r cyngor perthnasol roi hysbysiad cyhoeddus y cynhelir y cyfarfod cymunedol.

105.Os  mater cyffredinol yw busnes y cyfarfod cymunedol, rhaid rhoi hysbysiad o saith niwrnod o leiaf; os y mater gerbron yw bodolaeth cyngor cymunedol neu grwpio cymuned â chymunedau eraill (h.y. yn unol ag adrannau 27A-27L o Ddeddf 1972 fel y'u mewnosodir gan y Mesur), rhaid rhoi hysbysiad o ddeng niwrnod ar hugain o leiaf. Mae'r adran hefyd yn pennu manylion y mae'n ofynnol eu cynnwys yn yr hysbysiad a sut y dylid cyhoeddi'r hysbysiad.

Adran 93 – Galw am bleidleisio cymunedol

106.Mae'r adran hon yn rhoi yn lle paragraff 34(4) o Atodlen 12 i Ddeddf 1972 ddarpariaeth sy'n codi'r trothwyon sy'n ofynnol er mwyn i gyfarfod cymunedol fynnu pleidleisio cymunedol. Mae'r trothwyon presennol yn ei gwneud yn ofynnol bod galw am bleidleisio yn cael ei gefnogi gan ddim llai na deg neu draean o'r etholwyr llywodraeth leol sy'n bresennol yn y cyfarfod cymunedol, p'un bynnag yw'r isaf. Yn eu lle, rhoddir mwyafrif o'r etholwyr llywodraeth leol sy'n bresennol, a'r mwyafrif hwnnw yn ffurfio 10% o'r etholwyr llywodraeth leol ar gyfer y gymuned honno neu 150 o'r etholwyr, p'un bynnag yw'r lleiaf.

Adran 94 – Hysbysiad sydd i'w roi gan y swyddog canlyniadau ar ôl cymryd pleidlais o ganlyniad i gyfarfod cymunedol

107.Mae'n cyflwyno darpariaeth newydd sy'n gosod y weithdrefn hysbysu yn sgil pleidleisio cymunedol a sbardunwyd gan gyfarfod cymunedol a phan oedd mwyafrif o etholwyr oedd yn pleidleisio o blaid y cwestiwn a osodwyd. Nid oes rhaid cymhwyso'r gofynion hysbysu os oedd y pleidleisio ar gwestiwn o fath y byddai'n amhriodol i'r cyngor ymateb iddo a bod y math hwnnw wedi ei bennu mewn rheoliadau gan Weinidogion Cymru (yr is-baragraff 38A(2) newydd o Atodlen 12 i Ddeddf 1972).

Adran 95 – Penderfyniad swyddog monitro o ran y cyngor y mae'r pleidleisio'n ymwneud â'i swyddogaethau

108.Mae'n ei gwneud yn ofynnol i'r swyddog monitro y rhoddwyd canlyniad y pleidleisio cymunedol iddo benderfynu, cyn pen 14 o ddiwrnodau ar ôl cael hysbysiad, y cyngor y mae cwestiwn y pleidleisio yn ymwneud â'i swyddogaethau. Yna, rhaid i'r swyddog monitro roi hysbysiad, fel y'i nodir yn y paragraff newydd, i'r cyngor perthnasol cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

Adran 96 – Ystyried canlyniad pleidleisio cymunedol gan gyngor cymuned

109.Mae'n ei gwneud yn ofynnol i gyngor cymuned ystyried canlyniadau pleidleisio, yn dilyn hysbysiad o dan baragraff 38B newydd o Atodlen 12 i Ddeddf 1972, mewn cyfarfod o'r cyngor.

Adran 97 – Y camau gweithredu sydd i'w cymryd yn dilyn ystyriaeth gan gyngor cymuned o ganlyniadau pleidleisio cymunedol penodol

110.Mae'n ei gwneud yn ofynnol i'r cyngor cymuned hysbysu cynullwyr y cyfarfod cymunedol a sbardunodd y pleidleisio am ba gamau gweithredu (os o gwbl) y mae'r cyngor yn bwriadu eu cymryd mewn ymateb i'r pleidleisio. Mae is-baragraff 1(a) o baragraff 29A newydd o Atodlen 12 i Ddeddf 1972 yn ei gwneud yn glir nad oes disgwyliad cyfreithiol y bydd y cyngor cymuned yn cymryd unrhyw gamau gweithredu mewn ymateb i'r pleidleisio. Dim ond pan fo'r pleidleisio cymunedol wedi ei sbarduno mewn cyfarfod cymunedol o etholwyr llywodraeth leol y mae angen cymryd y camau gweithredu hyn.

Adran 98 – Prif gyngor yn ystyried canlyniad pleidleisio cymunedol

111.Mae'n cyflwyno adran 33B newydd i Ddeddf 1972 sy'n ei gwneud yn ofynnol i brif gyngor, sydd wedi cael hysbysiad o dan baragraff 38B newydd, ystyried canlyniad y pleidleisio cymunedol a phenderfynu pa gamau gweithredu y bydd yn eu cymryd.  Mae'n ofynnol i'r cyngor, cyn pen dau fis ar ôl cael hysbysiad, gyflawni o leiaf un o'r camau gweithredu a nodir yn yr is-adran (4) newydd, ond caiff gyflawni mwy nag un.

Adran 99 – Prif gyngor yn egluro'i ymateb i bleidleisio cymunedol

112.Mae'n ei gwneud yn ofynnol i brif gyngor roi hysbysiad, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, am y camau gweithredu y mae wedi eu cymryd, ac o bosibl yn bwriadu eu cymryd, mewn ymateb i bleidleisio cymunedol. Mae'r adran hon yn nodi bod pwy all gael hysbysiad o'r fath, a hynny i’w benderfynu yn ôl yr amgylchiadau.

Adran 100 – Diddymu darpariaethau presennol ynghylch sefydlu a diddymu cynghorau cymuned etc.

113.Mae'n diddymu'r darpariaethau presennol yn adrannau 28 i 29B o Ddeddf 1972 sy'n llywodraethu'r gweithdrefnau i sefydlu a diddymu cynghorau cymuned (gan gynnwys grwpiau o gymunedau), i wneud lle i’r darpariaethau newydd a nodir yn y Mesur hwn. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ystyried bod y darpariaethau presennol yn ddianghenraid o gymhleth a bod datblygiad cynghorau cymuned yn cael ei rwystro gan y trothwyon presennol sy'n gymwys i rai o'r gweithdrefnau i sefydlu neu ddiddymu cyngor cymuned. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru o'r farn bod y trothwyon presennol i sefydlu cyngor cymuned yn rhy uchel a bod y trothwyon ar gyfer diddymu cyngor cymuned yn rhy isel.

Adran 101 – Pŵer cyfarfod cymunedol i wneud cais am orchymyn i sefydlu cyngor cymuned

114.Mae'n cyflwyno adran 27A newydd yn Neddf 1972 i osod yr amodau y mae'n rhaid eu bodloni cyn y caiff cyfarfod cymunedol wneud cais i'r prif gyngor dros ei ardal am orchymyn i sefydlu cyngor cymuned ar gyfer yr ardal.  Mae'r is-adrannau (4) -(6) newydd yn ailddeddfu amodau sy'n gymwys o dan y darpariaethau presennol. Mae is-adrannau (2) a (3) newydd yn gostwng y trothwy ar gyfer cyfarfod cymuned sy'n pleidleisio i sefydlu cyngor cymunedol i'w gwneud yn ofynnol i 10% o etholwyr llywodraeth leol y gymuned neu 150 o'r etholwyr (p'un bynnag o'r ddau sydd isaf) fod yn bresennol ac yn pleidleisio yn y cyfarfod.  Y trothwy presennol yw 30% o etholwyr llywodraeth leol y gymuned neu 300 o'r etholwyr (p'un bynnag o'r ddau sydd isaf).

Adran 102 – Gorchmynion i sefydlu cynghorau cymuned ar wahân gyfer cymunedau

115.Mae'n cyflwyno adran 27B newydd yn Neddf 1972 i nodi'r camau gweithredu y mae'n rhaid i brif gyngor eu cymryd pan fydd yn cael cais oddi wrth gyfarfod cymunedol i sefydlu cyngor cymuned ar wahân i ardal y gymuned.

Adran 103 – Pŵer cyfarfod cymunedol i wneud cais am orchymyn i ddiddymu ei gyngor cymuned ar wahân

116.Mae'n cyflwyno adran 27C newydd yn Neddf 1972 i osod yr amodau y mae'n rhaid eu bodloni cyn y caiff cyfarfod cymunedol wneud cais i'r prif gyngor dros ei ardal am orchymyn i ddiddymu cyngor cymuned ar gyfer yr ardal sydd eisoes mewn bod.   Mae'r is-adrannau (2) - (5) newydd yn ailddeddfu amodau sy'n gymwys o dan y darpariaethau presennol. Mae’r trothwy ar gyfer cyfarfod cymunedol yn pleidleisio i ddiddymu cyngor cymuned yn aros yn 30% o etholwyr llywodraeth leol y gymuned neu’n 300 o'r etholwyr (p'un bynnag o'r ddau sydd isaf) yn bresennol yn ac yn pleidleisio yn y cyfarfod.  Mae is-adran (6) newydd yn cyflwyno trothwy newydd sy'n ei gwneud yn ofynnol bod o leiaf ddau draean o'r rheini sy'n pleidleisio yn y pleidleisio cymunedol yn cefnogi'r cynnig i ddiddymu cyngor cymuned. Ar hyn o bryd, mae angen mwyafrif syml.

Adran 104 – Gorchmynion i ddiddymu cynghorau cymuned ar wahân ar gyfer cymunedau

117.Mae'n cyflwyno adran 27D newydd yn Neddf 1972 i nodi'r camau gweithredu y mae'n rhaid i brif gyngor eu cymryd pan fydd wedi cael cais oddi wrth gyfarfod cymunedol am orchymyn i ddiddymu cyngor cymuned ar wahân i ardal y gymuned.

Adran 105 – Pŵer cyfarfod cymunedol i wneud cais am orchymyn yn grwpio ei gymuned ynghyd â chymunedau eraill o dan gyngor cymuned cyffredin

118.Mae'n cyflwyno adran 27E newydd yn Neddf 1972 i osod yr amodau y mae'n rhaid eu bodloni cyn y caiff cyfarfod cymunedol wneud cais i'r prif gyngor dros ei ardal am orchymyn yn grwpio ei gymuned ynghyd â chymunedau eraill o dan gyngor cymuned cyffredin.  Yr un yn y bôn yw'r darpariaethau â'r darpariaethau i sefydlu cyngor cymuned o dan yr adran 27A newydd, gyda'r amod ychwanegol yn is-adran (7) sy'n ei gwneud yn ofynnol i geisiadau gael eu gwneud ar y cyd â'r cymunedau eraill sydd ynghlwm yn y grwpio arfaethedig.

Adran 106 – Gorchmynion yn grwpio cymuned ynghyd â chymunedau eraill o dan gyngor cymuned cyffredin

119.Mae'n cyflwyno adran 27F newydd yn Neddf 1972 i nodi'r camau gweithredu y mae'n rhaid i brif gyngor eu cymryd pan fydd wedi cael cais oddi wrth gyfarfod cymunedol am orchymyn i grwpio cyngor cymuned ynghyd â chymunedau eraill o dan gyngor cymuned cyffredin.

Adran 107 – Pŵer cyfarfod cymunedol i wneud cais am orchymyn yn ychwanegu ei gymuned at grŵp o gymunedau a chanddynt gyngor cyffredin

120.Mae'n cyflwyno adran 27G newydd yn Neddf 1972 i nodi’r amodau y mae'n rhaid eu bodloni cyn y caiff cyfarfod cymunedol wneud cais i'r prif gyngor dros ei ardal am orchymyn yn ychwanegu ei gymuned at grŵp o gymunedau o dan gyngor cymuned cyffredin.  Mae'r darpariaethau yn ei gwneud yn ofynnol i gael cydsyniad pob cymuned sydd ynghlwm yn y grwpio newydd arfaethedig gan gymhwyso'r un trothwyon ag a gyflwynir i sefydlu cyngor cymuned o dan yr is-adran 27A newydd.

Adran 108 – Gorchmynion yn ychwanegu cymuned at grŵp o gymunedau a chanddynt gyngor cyffredin

121.Mae'n cyflwyno adran 27H newydd yn Neddf 1972 i nodi'r camau gweithredu y mae'n rhaid i brif gyngor eu cymryd pan fydd wedi cael cais oddi wrth gyfarfod cymunedol am orchymyn i ychwanegu cymuned at grŵp o gymunedau a chanddynt gyngor cymuned cyffredin.

Adran 109 – Pŵer cyngor dros grŵp o gymunedau i wneud cais am orchymyn yn diddymu'r grŵp

122.Mae'n cyflwyno adran 27I newydd yn Neddf 1972 i nodi'r amodau y mae'n rhaid eu bodloni cyn y caiff cyngor dros grŵp o gymunedau wneud cais i'r prif gyngor dros ei ardal am orchymyn yn diddymu'r grŵp. Yr un yn y bôn yw'r darpariaethau â'r darpariaethau i ddiddymu cyngor cymuned ar wahân o dan yr adran 27C newydd, gyda'r gofyniad bod pob cymuned yn y grŵp yn ystyried ac yn pleidleisio ar y cynnig ar wahân.

Adran 110 – Gorchmynion yn diddymu grŵp o gymunedau

123.Mae'n cyflwyno adran 27J newydd yn Neddf 1972 i nodi'r camau gweithredu y mae'n rhaid i brif gyngor eu cymryd pan fydd wedi cael cais oddi wrth gyngor ar ran grŵp o gymunedau am orchymyn yn diddymu'r grŵp.

Adran 111 – Pŵer cyfarfod cymunedol i wneud cais am orchymyn yn gwahanu cymuned oddi wrth grŵp o gymunedau

124.Mae'n yn cyflwyno adran 27K newydd yn Neddf 1972 i nodi’r amodau y mae'n rhaid eu bodloni cyn y caiff cyfarfod cymunedol wneud cais i'r prif gyngor dros ei ardal am orchymyn yn gwahanu'r gymuned oddi wrth grŵp o gymunedau.  Yr un yn y bôn yw'r darpariaethau â'r darpariaethau i ddiddymu cyngor cymuned ar wahân o dan yr adran newydd 27C.

Adran 112 – Gorchmynion yn gwahanu cymunedau oddi wrth grŵp o gymunedau

125.Mae'n cyflwyno adran 27L newydd yn Neddf 1972 i nodi'r camau gweithredu y mae'n rhaid i brif gyngor eu cymryd pan fydd wedi cael cais oddi wrth gyfarfod cymunedol am orchymyn i wahanu'r gymuned oddi wrth grŵp o gymunedau sydd eisoes mewn bod.

Adran 113 – Pŵer Gweinidogion Cymru i newid trothwy pleidleisio mewn cysylltiad â threfniadaeth cynghorau cymuned

126.Mae'n cyflwyno adran 27M newydd yn Neddf 1972 i alluogi Gweinidogion Cymru drwy orchymyn i newid y trothwyon ar gyfer y gweithdrefnau sefydlu a diddymu amrywiol a gyflwynir gan y Mesur hwn a thrwy hynny eu galluogi i wneud newidiadau yng ngoleuni profiad cymhwyso'r trothwyon newydd.

Adran 114 – Trefniadaeth cymunedau a'u cynghorau: diwygiadau canlyniadol

127.Mae'n diwygio'r ddarpariaeth bresennol i adlewyrchu’r ffaith bod amryw o adrannau newydd wedi cael eu rhoi yn lle'r hen rai yn Neddf 1972 gan y darpariaethau newydd priodol yn y Rhan hon o'r Mesur.

Adran 115 – Darpariaeth drosiannol

128.Mae'n egluro na fydd y gweithdrefnau newydd a nodir ym Mhennod 2 o'r Mesur hwn yn gymwys os ymgymerwyd â gweithdrefnau presennol penodol, fel y'u nodir gan is-adrannau (a) a (b) o'r adran hon, cyn i ddarpariaethau yn y Bennod hon gael eu dwyn i rym.

Adran 116 – Gofyniad am hysbysiad cyhoeddus pan fo seddau gwag aelodau cynghorau cymuned i'w llenwi drwy gyfethol

129.Mae'n cyflwyno gofyniad, sef pan fo cyngor cymuned yn bwriadu llenwi swydd wag drwy gyfethol, rhaid i'r cyngor roi hysbysiad cyhoeddus o'r cyfle i gyfethol.  Arfer da cyffredin yw hysbysebu cyfleoedd i gyfethol yn agored, ond ar hyn o bryd nid oes rheidrwydd i wneud hynny.  Diben hyn yw osgoi'r canfyddiad mai 'siopau caeedig' yw cynghorau cymuned a bydd yn codi ymwybyddiaeth o gyfleoedd i grwpiau sydd ar hyn o bryd yn cael eu tangynrychioli chwarae rhan amlycach ynddynt.  Rhoddir y gofynion hysbysiad cyhoeddus yn is-adran (5), sy'n cynnwys darpariaeth i Weinidogion Cymru osod gofynion eraill ar gyfer yr hysbysiad yng ngoleuni profiad.

Adran 117 – Canllawiau ynghylch rhoi hysbysiad cyhoeddus am gyfethol

130.Mae'n rhoi'r pŵer i Weinidogion Cymru i roi canllawiau ynghylch rhoi hysbysiad cyhoeddus am gyfethol a bydd rhaid i gynghorau cymuned a chynghorwyr roi sylw iddynt.

Adran 118 – Penodi cynrychiolwyr ieuenctid cymunedol gan gynghorau cymuned

131.Mae'n galluogi cyngor cymuned i benodi hyd at ddau gynrychiolydd ieuenctid cymunedol i'r cyngor cymuned.  Bydd y penodiadau yn rhoi llwyfan i lais pobl ifanc, yn annog cyfathrebu rhwng sectorau gwahanol o gymdeithas ac ennyn mwy o ddiddordeb ymhlith pobl ifanc mewn gwleidyddiaeth a llywodraeth leol.

132.Mae’r meini prawf ar gyfer cynrychiolydd ieuenctid cymunedol wedi eu nodi yn is-adran (2).  Mae is-adran (3) yn galluogi'r cyngor cymuned i benderfynu telerau'r penodiad, gan gynnwys y rheini sy'n ymwneud â gadael y swydd yn wag.

Adran 119 – Gofynion hysbysu mewn cysylltiad â phenodi cynrychiolydd ieuenctid

133.Mae'n ei gwneud yn ofynnol i gyngor cymuned, pan fo’n penodi cynrychiolydd ieuenctid, roi hysbysiad cyhoeddus yn gyntaf o'i fwriad i wneud hynny ac yn benodol i'r personau ac yn y dull a roddir yn is-adrannau (4-5). Mae gofynion yr hysbysiad cyhoeddus wedi eu nodi yn is-adran (6). Caiff Gweinidogion Cymru osod gofynion eraill ar yr hysbysiad yng ngoleuni profiad.

Adran 120 – Canllawiau ynghylch penodi cynrychiolwyr ieuenctid cymunedol

134.Mae'n rhoi'r pŵer i Weinidogion Cymru i ddyroddi canllawiau ynghylch penodi cynrychiolwyr ieuenctid cymunedol, a bydd rhaid i gynghorau cymuned roi sylw iddynt.

Adran 121 – Effaith penodi cynrychiolydd ieuenctid cymunedol

135.Ni fydd gan y cynrychiolwyr ieuenctid cymunedol unrhyw un o'r hawliau, breintiau na rhwymedigaethau statudol sydd gan gyngor cymuned ar hyn o bryd; ond mae'r adran hon yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i ddarparu i gynrychiolydd ieuenctid cymunedol gael ei drin yn aelod o'r cyngor at ddibenion a bennir yn y rheoliadau.

Adran 122 – Adroddiadau am gyflawni swyddogaeth prif gyngor o gadw  ardaloedd cymunedol o dan adolygiad

136.Mae'n cyflwyno is-adrannau (2A) -(2D) yn adran 55 o Ddeddf 1972 er mwyn ei gwneud yn ofynnol i brif gyngor gyhoeddi adroddiad bob 15 mlynedd (a'i anfon i Gomisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru – “Comisiwn Cymru”) yn nodi sut y mae wedi cyflawni'r swyddogaeth sydd ganddo ar hyn o bryd o gadw ardaloedd cymunedol o dan adolygiad. Nid oes gan y ddeddfwriaeth bresennol amserlen o'r fath i gyhoeddi adroddiadau ac mae rhai cynghorau heb gyhoeddi adroddiadau.

Adran 123 – Adroddiadau am gyflawni swyddogaeth prif gyngor o gadw trefniadau etholiadol ar gyfer cymunedau o dan adolygiad

137.Mae'n cyflwyno is-adrannau newydd (4A)-(4D) yn adran 57 o Ddeddf 1972 er mwyn ei gwneud yn ofynnol i brif gyngor gyhoeddi adroddiad bob 15 mlynedd (a'i anfon i Gomisiwn Cymru) yn nodi sut y mae wedi cyflawni'r swyddogaeth sydd ganddo ar hyn o bryd o gadw trefniadau etholiadol ar gyfer ardaloedd cymunedol o dan adolygiad. Nid oes gan y ddeddfwriaeth bresennol amserlen o'r fath i gyhoeddi adroddiadau ac mae rhai cynghorau heb gyhoeddi adroddiadau.

Adran 124 – Arfer swyddogaethau gan Gomisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru ar ran prif gynghorau

138.Mae'n cyflwyno adran 57A newydd yn Neddf 1972 i alluogi Comisiwn Cymru a phrif gyngor i gytuno ar drefniadau sy'n caniatáu i Gomisiwn Cymru arfer swyddogaethau'r prif gyngor o adolygu ardaloedd cymunedol neu drefniadau etholiadol ar gyfer cymunedau ac ystyried ceisiadau a geir oddi wrth gyfarfodydd cymunedol a chynghorau yn y cyswllt hwn.

139.Mae'r ddeddfwriaeth bresennol yn galluogi Comisiwn Cymru i ymgymryd â'r swyddogaethau hynny ar hyn o bryd, ond rhaid i Gomisiwn Cymru gael ei gyfarwyddo gan Weinidogion Cymru i wneud hynny yn gyntaf. Ar hyn o bryd cyfrifoldeb Comisiwn Cymru yw talu am gynnal adolygiadau am nad yw'r ddeddfwriaeth bresennol yn caniatáu iddo godi unrhyw ffi ar y prif gyngor o dan sylw. Mae'r ddarpariaeth newydd yn lleihau'r angen am gyfarwyddyd oddi wrth Weinidogion Cymru pan fo prif gyngor a Chomisiwn Cymru wedi dod i gytundeb am y trefniadau ar gyfer yr adolygiad.

Adran 125 – Y symiau sy'n daladwy mewn cysylltiad ag adolygiadau a gynhaliwyd gan Gomisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru

140.Mae'n cyflwyno is-adrannau (4A) - (4C) newydd yn adran 56 o Ddeddf 1972 ar gyfer amgylchiadau pan fo Gweinidogion Cymru wedi gorfod cyfarwyddo Comisiwn Cymru i ymgymryd ag adolygiad ar ran prif gyngor (efallai am fod Comisiwn Cymru a'r cyngor wedi methu â dod i gytundeb am y trefniadau ar gyfer yr adolygiad). Caiff y cyfarwyddyd gynnwys gofyniad ar i'r prif gyngor o dan sylw dalu i Gomisiwn Cymru swm a bennwyd neu swm sydd i'w gyfrifo.

Adran 126 – Pwerau cynghorau cymuned i hybu llesiant

141.Mae'n diwygio adran 1(b) o Ddeddf 2000 i gynnwys cynghorau cymuned yn y rhestr o awdurdodau lleol y rhoddir pŵer llesiant iddynt gan adran 2(1) o'r Ddeddf honno.

142.Mae Rhan 1 o Ddeddf 2000 yn darparu pŵer i awdurdodau lleol wneud unrhyw beth sydd yn eu barn hwy yn debygol o sicrhau bod llesiant economaidd, cymdeithasol neu amgylcheddol eu hardal yn cael ei hybu neu ei wella. O ran Cymru, dim ond i gynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol y mae’r pŵer hwn wedi ei roi ar hyn o bryd. Mae Llywodraeth y Cynulliad o'r farn y bydd estyn y pŵer llesiant i gynghorau cymuned yn amlhau'r cyfleoedd iddynt ddatblygu eu rôl mewn hybu a gwella llesiant eu hardaloedd.

Adran 127 – Addasiadau i ddeddfiadau'n atal neu'n rhwystro cyngor cymuned rhag arfer ei bwerau llesiant

143.Mae'n galluogi Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, i wneud addasiadau i unrhyw ddeddfiad sydd yn eu barn hwy yn atal neu'n rhwystro cynghorau cymuned rhag arfer eu pŵer o dan adran 2(1) o Ddeddf 2000.

Adran 128 – Darpariaeth drosiannol

144.Mae'r ddarpariaeth drosiannol hon i ddelio â sefyllfa pan na fo strategaeth gymunedol yn unol ag adran 39(4) o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 wedi ei chyhoeddi eto.

Adran 129 – Pŵer Gweinidogion Cymru i dalu grantiau i gynghorau cymuned

145.Mae'n galluogi Gweinidogion Cymru i dalu grantiau i gynghorau cymuned. Mae'n bosibl y bydd rôl ddatblygol cynghorau cymuned yn gosod gofynion newydd ar eu cyllid ond nid yw'r ddeddfwriaeth bresennol yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud taliadau grant i gynghorau cymuned at unrhyw ddiben.

Section 130 - Power to set out model charter agreement

146.Mae’n  galluogi Gweinidogion Cymru i osod cytundeb siarter enghreifftiol mewn gorchymyn. Mae Llywodraeth y Cynulliad eisoes yn annog trefniadau cydlafurio rhwng prif gynghorau a chynghorau cymuned, gan amlaf wedi eu gosod mewn “siarter” y cytunwyd arni, y byddai dwy haen llywodraeth yn gweithio gyda'i gilydd drwy'r siarter mewn dull cilyddol o gefnogi a chydweithredu er budd eu cymunedau. Mae Gweinidogion Cymru o'r farn, yn y lle cyntaf, bod datblygu a mabwysiadu trefniadau / siarteri cydlafurio yn cael eu cyflawni orau ar sail wirfoddol ar lefel leol. Er hynny, ar hyn o bryd nid oes unrhyw bŵer ar gael i Lywodraeth y Cynulliad i'w gwneud yn ofynnol i gynghorau amharod ddod at ei gilydd, mynd i'r afael â materion a chytuno ar siarter er budd eu hardaloedd.

Adran 131 – Cyfarwyddiadau sy'n gwneud mabwysiadu cytundebau siarter enghreifftiol yn ofynnol

147.Mae’n galluogi Gweinidogion Cymru i ddyroddi cyfarwyddiadau sy'n gwneud mabwysiadu cytundebau siarter enghreifftiol yn ofynnol.

Adran 132 – Canllawiau ynghylch cytundebau siarter enghreifftiol

148.Mae'n rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i ddyroddi canllawiau ynghylch cytundebau siarter, y mae'n rhaid i brif gynghorau a chynghorau cymuned sy'n gweithredu o dan gyfarwyddyd Gweinidogion Cymru roi sylw iddynt.

Adran 133 – Ymgynghori

149.Mae’n  ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru i ymgynghori â'r cyrff, y personau neu sefydliadau llywodraeth leol a bennir cyn gwneud gorchymyn neu ddyroddi cyfarwyddyd ynghylch cytundebau siarter enghreifftiol.

Adran 134 – Cynlluniau ar gyfer achredu ansawdd mewn llywodraeth gymunedol

150.Mae'n  galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau i ddarparu ar gyfer achredu cynllun ansawdd ar gyfer cynghorau cymuned.

151.Ar hyn o bryd nid oes cynllun ansawdd ag achrediad cenedlaethol i asesu cymhwysedd cynghorau cymuned yng Nghymru. Mae Gweinidogion Cymru o'r farn bod  gwerth mewn datblygu cynllun o'r fath i helpu i godi safonau llywodraeth leol gan gynghorau cymuned.

152.Bwriad Gweinidogion Cymru yw, yn y lle cyntaf, datblygu cynllun ansawdd ag achrediad cenedlaethol yng Nghymru a'i weithredu ar sail anstatudol. Er hynny, mae Gweinidogion Cymru o'r farn y byddai'n fanteisiol cael pŵer “wrth gefn” i gyflwyno cynllun achredu statudol ar ryw adeg yn y dyfodol pe bai hyn yn cael ei ystyried yn briodol. Mae'r adran hon yn darparu'r pŵer hwn.

Adran 135 – Achredu ansawdd mewn llywodraeth gymunedol: meini prawfAdran 136 – Achredu ansawdd mewn llywodraeth gymunedol: ceisiadauAdran 137 – Achredu ansawdd mewn llywodraeth gymunedol: ffioeddAdran 138 – Achredu ansawdd mewn llywodraeth gymunedol: tynnu achrediad yn ôlAdran 139 – Ceisiadau am achredu ansawdd mewn llywodraeth gymunedol: dirprwyo swyddogaethauAdran 140 – Achredu ansawdd mewn llywodraeth gymunedol: canlyniadau

153.Mae'r darpariaethau hyn yn ategu adran 134. Os bydd Gweinidogion Cymru yn gwneud rheoliadau ar gyfer cynllun achredu, o ran y rheoliadau:

  • rhaid iddynt osod meini prawf i'w bodloni wrth wneud cais am achrediad. Gallai'r rhain ymwneud â'r materion a restrir yn adran 135(2), ond heb fod yn gyfyngedig iddynt;

  • rhaid iddynt osod y gofynion ar gyfer cais dilys am achrediad (adran 136);

  • caniateir iddynt osod ffioedd ar gyfer cais am achrediad (adran 137);

  • rhaid iddynt osod y seiliau dros dynnu'n ôl statws achrediad a gafodd ei ddyfarnu a thros adolygu'r statws achrediad a gafodd ei ddyfarnu (adran 138).

154.Byddai adran 139 yn caniatáu i Weinidogion Cymru drefnu i berson arall (nad oes raid iddo fod yn awdurdod cyhoeddus) weithredu'r cynllun achredu.

155.Mae adran 140 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i dynnu rhwystrau statudol oddi wrth gynghorau cymuned a achredwyd neu i’w newid (er enghraifft, oherwydd eu bod wedi cyflawni safon benodol mewn perfformiad) ac i osod rhwystrau yn ffordd cynghorau cymuned nas achredwyd (er enghraifft, oherwydd nad ydynt yn gallu dangos eu bod wedi cyflawni safon benodol).

Rhan 8 –Aelodau: Taliadau a Phensiynau

156.` Mae'r Rhan hon o'r Mesur yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â chydnabyddiaeth ariannol i gynghorwyr fel bod panel annibynnol yn gyfrifol am benderfynu iawn digonol i gynghorwyr mewn cysylltiad â'r cyfrifoldebau y maent yn eu hysgwyddo ac am gynnal system talu cydnabyddiaeth sy'n mynd bob yn gam â'r lliaws o ddatblygiadau yn y blynyddoedd diweddar o ran dyletswyddau arwain, llywodraethu a chraffu a dyletswyddau rheoleiddiol sy'n rheidrwydd ar gynghorydd.

Adran 141 – Y Panel

157.Mae'n darparu bod Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol yn parhau i fodoli (y “PAGA”).

158.Sefydlwyd y PAGA o dan reoliad 26 o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau i Aelodau) (Cymru) 2007 (O.S. 2007/1086) ( “Rheoliadau 2007”) i ragnodi, ymhlith pethau eraill, lefelau uchaf y lwfansau a fyddai'n daladwy gan gynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol. Mae cylch gwaith presennol y PAGA yn ymestyn i gynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol yn unig ac nid yw'n cwmpasu cynghorau cymuned, awdurdodau Parciau Cenedlaethol nac awdurdodau tân ac achub.

159.Mae'r ddarpariaeth newydd yn cadw sail statudol y PAGA ac yn cyflwyno Atodlen 2 sy'n nodi'r manylion ar gyfer aelodaeth, deiliadaeth a threfniadaeth y PAGA.

Atodlen 2 – Y Panel

160.Fe'i cyflwynwyd gan adran 141. Mae'n nodi'r gweithdrefnau penodi, gweinyddu a chynorthwyo ar gyfer y PAGA (gan gynnwys anghymhwyso rhag bod yn aelod). Mae paragraffau 18-20 yn nodi rhwymedigaethau Gweinidogion Cymru o ran rhoi cymorth i'r PAGA.

Adran 142 – Swyddogaethau sy'n ymwneud â thaliadau i aelodau

161.Mae'n nodi swyddogaethau'r PAGA, ac yn benodol yn rhoi iddo fwy o hyblygrwydd mewn cysylltiad â diffinio'r dyletswyddau a'r cyfrifoldebau a all gymhwyso cynghorwyr i gael taliadau, disgrifio'r mathau o daliadau a gosod lefelau taliadau i'r awdurdodau hynny a ddisgrifir yn adran 144. Mae Llywodraeth y Cynulliad o'r farn bod yr hyblygrwydd hwn yn angenrheidiol i ganiatáu i'r PAGA ymateb i wahanol amgylchiadau cynghorwyr ac awdurdodau.

162.Bydd y darpariaethau yn galluogi'r PAGA i bennu swm gwirioneddol taliad y caiff awdurdod ei wneud i aelod, gosod lefel uchaf taliad i aelod o'r awdurdod neu gyfyngu ar y gyfran o aelodau’r awdurdod sy’n gallu cael math penodol o daliad.  Gallai'r Panel, mewn perthynas ag un neu ragor neu bob un o awdurdodau o ddisgrifiadau gwahanol neu awdurdodau gwahanol o'r un disgrifiad, benderfynu gosod taliadau a allai gynnwys cyfraddau uchaf a chyfraddau gwirioneddol.

163.Mae'r ddarpariaeth yn is-adran (2) yn diffinio'r materion perthnasol y caiff y PAGA benderfynu arnynt o dan is-adran (1). Mae materion perthnasol yn rhai sy'n ymwneud â busnes swyddogol cynghorwyr fel y'i diffinnir yn is-adran (8) ac mae'n cynnwys taliadau i gynghorwyr sy'n arfer hawl i absenoldeb teuluol (fel y darperir ar ei gyfer yn Rhan 2 o'r Mesur hwn).

164.O dan is-adran (4) caiff y PAGA osod mynegrifau a chyfraddau addasu uchaf y caiff awdurdodau eu cymhwyso neu gyfeirio atynt wrth addasu eu cyfraddau talu o flwyddyn i flwyddyn. Caiff y PAGA hefyd benderfynu ar gyfran yr aelodau sy’n gallu cael math penodol o daliad er bod angen cydsyniad Gweinidogion Cymru os yw’r PAGA yn dymuno pennu’r gyfran yn uwch na hanner cant y cant.

165.Mae is-adran (6) yn ei gwneud yn ofynnol i'r PAGA, wrth osod swm neu gyfradd addasu uchaf neu fynegrif, gymryd i ystyriaeth effaith ariannol debygol ei benderfyniadau ar yr awdurdod o dan sylw.

Adran 143 – Swyddogaethau sy'n ymwneud â phensiynau aelodau

166.Mae'n galluogi'r Panel i benderfynu pa aelodau etholedig (nid aelodau cyfetholedig) o'r awdurdodau hynny sydd neu a fydd yn dod yn aelodau cymwys o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) y bydd hawl ganddynt i gael pensiynau.  Mae cylch gwaith cyfredol y PAGA wedi ei gyfyngu i argymell pa aelodau etholedig o gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol a ddylai fod â hawl i gael pensiynau o dan adran 18 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989.

Adran 144 – Awdurdodau perthnasol, aelodau etc

167.Mae'n darparu diffiniadau o dermau penodol a ddefnyddir yn y Rhan hon o'r Mesur. Effaith y diffiniad o “awdurdod perthnasol” yn is-adran (2) yw estyn cylch gwaith y PAGA i gwmpasu cynghorau cymuned, Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac awdurdodau tân ac achub yng Nghymru, yn ychwanegol at gynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol.

Adran 145 – Adroddiadau blynyddolAdran 146 – Adroddiad blynyddol cyntafAdran 147 – Adroddiadau blynyddol dilynolAdran 148 – Ymgynghori ar adroddiadau drafft

168.Mae'r adrannau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i'r PAGA gyhoeddi adroddiad blynyddol ynghylch arfer ei swyddogaethau am bob blwyddyn ariannol  sydd ar ddod.

169.Mae adran 146 yn pennu:  mai'r flwyddyn sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2012 yw’r flwyddyn ariannol gyntaf y mae'n rhaid i'r PAGA gyhoeddi adroddiad blynyddol arni, yn pennu bod yn rhaid i'r adroddiad gael ei gyhoeddi erbyn 31 Rhagfyr 2011 ac yn pennu gofynion yr adroddiad. Mae'r darpariaethau hefyd yn caniatáu i'r PAGA lunio adroddiadau sy'n atodol i'r adroddiad blynyddol cyntaf. Mae gofynion adroddiadau blynyddol dilynol (ac adroddiadau atodol) yn debyg i'r rhai ar gyfer yr adroddiad blynyddol cyntaf (ac unrhyw adroddiadau sy'n atodol i'r adroddiad cyntaf)(adran 147).

170.Rhaid i'r PAGA ganiatáu cyfnod o wyth wythnos o leiaf ar gyfer ymgynghori ynghylch adroddiad drafft a dodi copi o'r adroddiad drafft ar ei wefan yr un pryd ag y caiff ei ddosbarthu i Weinidogion Cymru etc.

Adran 149 – Cyfarwyddiadau i amrywio adroddiadau drafft

171.Mae'n galluogi Gweinidogion Cymru i gyfarwyddo'r PAGA i ailystyried darpariaeth mewn adroddiad drafft. Rhaid i Weinidogion Cymru nodi eu rhesymau dros ddyroddi'r cyfarwyddyd a rhoi dyddiad ar gyfer ymateb. Nid yw'r PAGA yn gorfod amrywio'r drafft, ond rhaid iddo ymateb ac esbonio os  yw'n penderfynu peidio â'i amrywio.

Adran 150 – Gofynion gweinyddol mewn adroddiadauAdran 151 – Gofynion cyhoeddusrwydd mewn adroddiadau

172.Mae'n galluogi'r PAGA i'w gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol sefydlu systemau gweinyddol i osgoi dyblygu hawliadau am daliadau ac i gadw cofnodion mewn perthynas â thaliadau a wneir i'w haelodau, ac i bennu mewn adroddiad blynyddol y trefniadau ar gyfer cyhoeddusrwydd a ddylai gael eu sefydlu gan yr awdurdodau mewn perthynas â'r taliadau a wneir gan awdurdod.

Adran 152 – Rhoi cyhoeddusrwydd i adroddiadau

173.Mae'n nodi'r camau y mae'n rhaid i'r PAGA eu cymryd i roi cyhoeddusrwydd i'w adroddiadau, gan gynnwys adroddiadau drafft.

Adran 153 – Cydymffurfio â gofynion y Panel

174.Mae'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau gydymffurfio â phenderfyniadau'r PAGA a nodir mewn adroddiad blynyddol ac yn rhoi pŵer i'r PAGA fonitro'r modd y mae taliadau sy'n cael eu gwneud gan yr awdurdodau y mae ei benderfyniadau yn effeithio arnynt yn cael eu gweithredu a'u rheoli. Mae pŵer wedi ei roi i'r PAGA ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau roi iddo fanylion eu taliadau a'r cyfraddau gwirioneddol a ddefnyddiwyd i dalu. Rhaid i'r awdurdod gydymffurfio â chais o'r fath.

Adran 154 – Aelodau sy'n dymuno ymwrthod â'u hawl i gael taliadau

175.Mae'n galluogi aelod o awdurdod i ildio ei hawl i gael y cyfryw daliadau y bydd yr aelod hwnnw'n penderfynu arnynt. Gan y bydd yn ofynnol i awdurdodau wneud taliadau penodol i aelodau, bernir ei bod yn angenrheidiol gwneud darpariaeth i ganiatáu i awdurdodau beidio â thalu lwfansau mewn amgylchiadau pan fo aelod wedi dethol ymwrthod â'i hawl i gael taliad.

Adran 155 – Peidio â gwneud taliadau

176.Mae'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdod beidio â gwneud taliadau i bersonau sydd wedi eu hatal (neu wedi eu hatal yn rhannol) rhag bod yn gynghorwyr yn rhinwedd Rhan 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 o ganlyniad i ddyfarniad gan bwyllgor safonau lleol neu gan dribiwnlys achosion neu dribiwnlys achosion interim ynghylch a oedd y cynghorydd wedi cydymffurfio â chod ymddygiad yr awdurdod lleol.

177.177. Mae is-adran (2) yn rhoi pŵer hefyd i Weinidogion Cymru ddyroddi cyfarwyddiadau, yn dilyn ymgynghoriad â'r PAGA, i awdurdod yn ei gwneud yn ofynnol iddo beidio â gwneud taliadau fel a benderfynir gan Weinidogion Cymru, i aelod o awdurdod am resymau a bennir yn y cyfarwyddyd.  Caiff Gweinidogion Cymru wneud cais i'r Llys am orchymyn i orfodi'r cyfarwyddyd.

178.Mae is-adran (5) yn caniatáu i awdurdodau lleol adennill taliadau a wnaed drwy gamgymeriad i aelodau o’u hawdurdod a oedd wedi eu hatal neu wedi eu hatal yn rhannol yn rhinwedd rhan 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, a oedd yn destun cyfarwyddyd gan Weinidogion Cymru neu a oedd wedi peidio bod yn aelod o’r awdurdod.

Adran 156 – Cyfarwyddiadau i gydymffurfio â gofynion

179.Os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod awdurdod wedi methu â chyflawni unrhyw ddyletswydd a osodwyd arno gan y PAGA at ddibenion y Mesur, cânt ddyroddi cyfarwyddyd yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod gydymffurfio â'r gofyniad. Rhaid i unrhyw gyfarwyddyd o'r fath esbonio'r rhesymau dros ei ddyroddi a nodi'r camau y bydd angen eu cymryd gan yr awdurdod, gan gynnwys amserlen sy'n nodi erbyn pryd y dylai'r awdurdod ymateb.

180.Caiff Gweinidogion Cymru wneud cais i'r Llys am orchymyn i orfodi'r cyfarwyddyd.

Adran 157 – Canllawiau

181.Mae'n rhoi pŵer i'r PAGA ddyroddi, amrywio a dirymu  canllawiau ynghylch cydymffurfio â'i ofynion a nodir mewn adroddiadau blynyddol ac adroddiadau atodol.

Adran 158 – Y Pŵer i wneud addasiadau i ddarpariaeth ynghylch y Panel

182.Mae'n rhoi pŵer i Weinidogion Cymru addasu, drwy orchymyn, y darpariaethau yn y Rhan hon o'r Mesur sy'n ymwneud â phenodi aelodau o'r PAGA neu ei swyddogaethau ac i wneud unrhyw addasiadau canlyniadol i ddeddfiadau eraill yn sgil hynny.

Adran 159 – Dehongli Rhan 8

183.Mae'n nodi'r dehongliad o dermau penodol a ddefnyddir yn y Rhan hon.

Adran 160 – Diwygiadau canlyniadol

184.Mae’n cyflwyno Atodlen 3 (Taliadau a phensiynau: mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol)

Atodlen 3 – Taliadau a phensiynau: Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol

185.Mae'n gwneud diwygiadau technegol eu natur i ddeddfwriaeth sy'n bodoli eisoes er mwyn adlewyrchu'r ddarpariaeth a gyflwynir yn Rhan 8 o'r Mesur. Er enghraifft, mewn perthynas â Deddf Llywodraeth Leol 1972, Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, Deddf Addysg 2002 a Deddf Dysgu a Sgiliau 2008, yn achos y cyfeiriadau hynny sy'n ymwneud â lwfansau sy'n daladwy o dan y ddeddfwriaeth bresennol, mae angen rhoi yn eu lle gyfeiriadau at daliadau i aelodau o dan ddarpariaethau'r Mesur.

186.Er bod mwyafrif yr is-adrannau yn adran 18 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 i'w diddymu, mae angen diwygiad i adran 18 (3A) i gadw pŵer Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy'n galluogi awdurdodau lleol, h.y., cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol, i benderfynu symiau arian rhodd mewn perthynas ag aelodau.

Rhan 9 – Cydlafurio a Chyfuno

Adran 161 – Canllawiau ynghylch cydlafurio rhwng awdurdodau  gwella Cymreig

187.Mae'n diwygio Rhan 1 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 i ganiatáu i Weinidogion Cymru ddyroddi canllawiau statudol cynhwysfawr ar bob agwedd ar bwerau a dyletswyddau o dan y Mesur hwnnw.

Adran 162 – Pŵer i wneud gorchymyn cyfuno

188.Mae'n galluogi Gweinidogion Cymru drwy orchymyn i gyfuno dau neu dri awdurdod lleol (a dim mwy na hynny) i greu un ardal llywodraeth leol newydd.

189.Cyn gwneud  gorchymyn cyfuno, rhaid i Weinidogion Cymru gael eu bodloni nad yw'n debyg y câi llywodraeth leol effeithiol ei sicrhau mewn o leiaf un o'r ardaloedd llywodraeth leol sydd i'w chyfuno.

190.Wrth ddod i'w casgliad bod cyfuno'n angenrheidiol, rhaid i Weinidogion Cymru bwyso a mesur a ellid sicrhau llywodraeth leol effeithiol yn yr awdurdodau lleol o dan sylw drwy arfer y pwerau sydd eisoes wedi eu rhoi i'r awdurdodau hynny ac i Weinidogion Cymru o dan ddarpariaethau penodedig ym Mesur 2009.

191.Rhaid i Weinidogion Cymru gael eu bodloni felly bod arfer y pwerau canlynol yn annhebyg o sicrhau llywodraeth leol effeithiol:

i.

Adran 9 o Fesur 2009 (pwerau cydlafurio).  Mae'r adran hon yn rhoi i awdurdodau gwella Cymreig (sy'n cynnwys awdurdodau lleol) bwerau i'w galluogi i gydlafurio â'i gilydd ac â chyrff eraill, er mwyn cyflawni’r dyletswyddau o dan adran 2(1) o Fesur 2009 (dyletswydd gyffredinol i wneud trefniadau i sicrhau gwelliant parhaus wrth arfer ei swyddogaethau) neu hwyluso’r modd y maent yn cael eu cyflawni. Mae adran 3(2) o Fesur 2009 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod gwella Cymreig osod, ar gyfer pob blwyddyn ariannol, amcanion gwella iddo'i hun. Amcanion yw'r rhain ar gyfer gwella'r modd y mae swyddogaethau penodol yr awdurdod yn cael eu harfer ac mae adran 8(7) o Fesur 2009 yn pennu bod rhaid i awdurdod gwella Cymreig wneud trefniadau i arfer ei swyddogaethau fel bod unrhyw safonau perfformiad yn cael eu bodloni.

ii.

Adran 28 o Fesur 2009 (cymorth i awdurdodau gwella Cymreig). Mae'r adran hon yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud unrhyw beth y maent yn credu y byddai'n debygol o gynorthwyo awdurdod gwella Cymreig i gydymffurfio â gofynion Rhan 1 o Fesur 2009 (Gwella Llywodraeth Leol). Mae'n ei gwneud yn ofynnol hefyd i Weinidogion Cymru ystyried cynnig cymorth o'r fath os gofynnir iddynt wneud hynny; ac (oni ofynnir iddynt) ymgynghori â'r awdurdodau lleol perthnasol ac eraill cyn rhoi cymorth. Nid yw'n caniatáu i Weinidogion Cymru orfodi na chyfarwyddo awdurdod lleol neu unrhyw gorff arall i wneud unrhyw beth.

iii.

Adran 29 o Fesur 2009 (pwerau cyfarwyddo). Mae'r adran hon yn cynnwys pwerau i Weinidogion Cymru ymyrryd yn achos awdurdod lleol sy'n methu, neu sydd mewn perygl o fethu, â chydymffurfio â'i ddyletswyddau yn Rhan 1 o Fesur 2009 (yn y bôn, dyletswyddau i wneud trefniadau i sicrhau gwelliant) a chyfarwyddo'r awdurdod hwnnw.

iv.

Adran 30 o Fesur 2009 (pwerau cyfarwyddo: trefniadau cydlafurio). Mae'r adran hon yn caniatáu i Weinidogion Cymru gyfarwyddo awdurdod gwella Cymreig nad yw efallai yn methu ei hun (nac mewn perygl o fethu) i gydlafurio ag un sy'n methu.

v.

Adran 31 o Fesur 2009 (pŵer Gweinidogion Cymru i addasu deddfiadau a rhoi pwerau newydd). Mae'r adran hon yn darparu pŵer (drwy orchymyn) i Weinidogion Cymru i wneud darpariaeth i addasu neu eithrio cymhwysiad deddfiadau sy'n gymwys i awdurdodau gwella Cymreig, ac i roi pwerau newydd i'r awdurdodau hynny. Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud hynny ond os ydynt wedi eu bodloni bod deddfiad o'r fath yn atal neu'n rhwystro    awdurdod gwella Cymreig rhag cydymffurfio â darpariaethau Rhan 1 o Fesur 2009, neu y byddai rhoi pŵer newydd yn hwyluso'r cydymffurfio hwnnw.

192.Bydd yn rhaid i Weinidogion Cymru ddangos eu bod wedi eu bodloni bod arfer y pwerau uchod yn annhebyg o sicrhau llywodraeth leol effeithiol, ac y byddai cyfuno yn debyg o wneud hynny. Felly, ar ôl cael eu bodloni'n gyntaf nad yw llywodraeth leol effeithiol yn debyg o gael ei sicrhau drwy arfer pwerau o dan Ddeddf 2009, dim ond bryd hynny y caiff Gweinidogion Cymru, os ydynt wedi eu bodloni ei fod yn angenrheidiol i sicrhau llywodraeth leol, wneud gorchymyn cyfuno.

193.Bydd yn rhaid i Weinidogion Cymru esbonio cynnig am gyfuno yn y ddogfennaeth sy'n ofynnol o dan adran 169 (gweler isod); bydd yn rhaid i'r esboniad ddangos sut y mae Gweinidogion Cymru wedi dod i'w casgliad.

194.Mae adran 162 yn ei gwneud ofynnol hefyd i orchymyn cyfuno ymdrin ag amryw o faterion sy'n sylfaenol i'r broses o gyfuno a chreu awdurdod newydd, gan gynnwys diddymu'r ardaloedd presennol, creu'r ardal newydd, ei enwi, ei ddynodi'n sir neu'n fwrdeistref sirol, sefydlu'r awdurdod lleol newydd yn gyngor sir neu'n gyngor bwrdeistref sirol a dirwyn i ben a diddymu cynghorau'r ardaloedd presennol.

Adran 163 – Materion etholiadol

195.Mae'n galluogi Gweinidogion Cymru, pan fônt yn gwneud gorchymyn cyfuno, i wneud darpariaeth yn y gorchymyn hwnnw i ethol cyngor yr awdurdod lleol newydd. Byddai'r ddarpariaeth yn cynnwys pŵer i ganslo unrhyw etholiadau sydd wedi eu hamserlennu ar gyfer yr awdurdodau sydd i'w diddymu.

196.Os oedd yn rhaid i etholiad yr awdurdod newydd ddigwydd ar ddiwrnod ac eithrio'r un sydd wedi ei amserlennu ar gyfer etholiadau arferol llywodraeth leol a bod etholiadau cynghorau cymuned wedi eu hamserlennu hefyd ar gyfer y diwrnod hwnnw yn yr ardaloedd o dan sylw, byddai  Gweinidogion Cymru yn gallu canslo'r etholiadau cynghorau cymuned a gorchymyn iddynt gael eu cynnal ar ddiwrnod arall (er enghraifft i gyd-fynd â'r etholiadau cyntaf i'r awdurdod newydd).

197.Mae'r diwygiad yn darparu ar gyfer cyfnod “cysgodol” a sefydlu awdurdod cysgodol a gweithrediaeth gysgodol i wneud y paratoadau angenrheidiol ar gyfer yr awdurdod newydd cyn iddo ddod i fodolaeth yn ffurfiol.

Adran 164 – Gofyniad i gynnal refferendwm sy'n cynnwys maer etholedig

198.Mae'n gofyn bod Weinidogion Cymru, pan fônt yn gwneud gorchymyn cyfuno, yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod cysgodol ar gyfer yr ardal llywodraeth leol newydd gynnal refferendwm ynghylch a ddylai'r awdurdod newydd (pan ddaw i fodolaeth yn ffurfiol) weithredu ffurf maer etholedig a chabinet ar drefniadau gweithrediaeth. Dim ond pan fo un o leiaf o'r awdurdodau sydd i'w cyfuno eisoes yn gweithredu drwy weithrediaeth maer etholedig a chabinet y bydd y gofyniad i gynnal refferendwm o'r fath yn gymwys.

Adran 165 – Pŵer i gyfarwyddo refferendwm sy'n cynnwys maer etholedig

199.Mae'n galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau a fyddai'n caniatáu iddynt gyfarwyddo awdurdod cysgodol ardal llywodraeth leol newydd i gynnal refferendwm ynghylch a ddylai'r awdurdod lleol newydd weithredu'r ffurf maer etholedig a chabinet ar drefniadau gweithrediaeth.

200.Yr amgylchiadau lle y gellid galw'r pŵer hwn i rym yw rhai lle y byddai preswylwyr un o'r awdurdodau lleol a oedd i'w cyfuno wedi pleidleisio mewn refferendwm o blaid cael maer etholedig, ond bod etholiad y maer heb gael ei gynnal eto. Bydd y pŵer yn galluogi Gweinidogion Cymru i estyn y weithdrefn ar gyfer cyflwyno maer etholedig dros y cyfan o ardal llywodraeth leol newydd.

Adran 166 – Darpariaeth atodol, gysylltiedig, ganlyniadol, drosiannol a darpariaeth arbed

201.Mae'n galluogi Gweinidogion Cymru i wneud darpariaeth atodol, gysylltiedig, ganlyniadol, drosiannol a darpariaeth arbed mewn cysylltiad â gorchymyn cyfuno.

202.Bydd yr adran hon yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud darpariaeth mewn gorchymyn cyfuno i fynd i'r afael â materion allweddol eraill megis trosglwyddiadau staff, eiddo, rhwymedigaethau a hawliau ac unrhyw fater arall sy'n deillio o'r cyfuno. Gall fod yn anymarferol ceisio dal yr holl fanylion hyn yn y gorchymyn cyfuno, ac felly mae'r adran hefyd yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau i ymdrin â darpariaeth o'r fath.

Adran 167 – Adolygu trefniadau etholiadol

203.Mae'n galluogi Gweinidogion Cymru i gyfarwyddo Comisiwn Cymru i ymgymryd ag adolygiad o'r trefniadau etholiadol ar gyfer ardal llywodraeth leol newydd.

204.Mae'r darpariaethau sy'n cael eu cyflwyno gan adran 163 yn galluogi Gweinidogion Cymru i bennu'r trefniadau etholiadol cychwynnol ar gyfer awdurdod newydd yn y gorchymyn cyfuno.

205.Ran amlaf byddai'r gorchymyn cyfuno'n cael ei wneud mewn digon o amser cyn y dyddiad a amserlenwyd ar gyfer yr etholiadau cyntaf i'r trefniadau etholiadol fod wedi eu hadolygu gan Gomisiwn Cymru. Gall adolygiad gymryd rhwng 12 a 18 mis, ac felly os bydd gorchymyn cyfuno'n cael ei wneud yn agos at y dyddiad a amserlenwyd ar gyfer etholiadau, efallai na fydd amser i'r Comisiwn gwblhau ei adolygiad cyn yr etholiadau cyntaf.

206.Yn yr amgylchiadau hyn, mae adran 163 yn galluogi Gweinidogion Cymru i benderfynu'r trefniadau etholiadol sydd i'w defnyddio ar gyfer yr etholiadau cyntaf.  Byddai'r Gweinidogion yn ceisio dod o hyd i farn ddeallus wrth wneud hynny; byddai'r trefniadau yn destun adolygiad wedyn gan Gomisiwn Cymru cyn gynted ag y bo modd ar ôl yr etholiadau cyntaf. Dyma beth a ddigwyddodd yn achos yr etholiadau cyntaf i'r awdurdodau newydd a grëwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994.

Adran 168 – Diwygiad i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972

207.Mae'n diwygio darpariaethau yn Neddf Llywodraeth Leol 1972 (“Deddf 1972”) sy'n llywodraethu'r weithdrefn sydd i'w dilyn gan Gomisiwn Cymru wrth iddo ymgymryd ag adolygiad o'r trefniadau etholiadol. Bydd hynny'n sicrhau bod y gweithdrefnau arferol yn cael eu dilyn os bydd y Comisiwn yn ymgymryd ag adolygiad o ardal llywodraeth leol newydd o dan gyfarwyddyd gan Gweinidogion Cymru yn sgil gorchymyn cyfuno.

208.Mae is-adran (5) hefyd yn diwygio adran 68(1) o Ddeddf 1972 fel bod darpariaethau adran 68 (sy'n ymwneud â chytundebau trosiannol mewn cysylltiad ag eiddo a chyllid mewn perthynas â'r cyrff cyhoeddus hynny y mae newid, diddymu neu gyfansoddi unrhyw ardal drwy orchymyn o dan Ran IV o Ddeddf 1972 yn effeithio arnynt) hefyd yn gymwys os bydd gorchymyn cyfuno.

Adran 169 – Y weithdrefn sy'n gymwys i orchymyn cyfuno

209.Mae'n ei gwneud yn ofynnol i orchymyn cyfuno fod yn ddarostyngedig i weithdrefn benderfynu uwchgadarnhaol y Cynulliad. Mae'r adran yn nodi pob cam yn y weithdrefn.

210.Pan fo Gweinidogion Cymru wedi cyhoeddi eu bod yn cynnig cyfuno dau neu dri awdurdod lleol, rhaid iddynt ymgynghori ynglŷn â’u cynigion.  Rhaid i’r ymgyngoreion gynnwys: y cynghorau sir a’r cynghorau bwrdeistref sirol ar gyfer yr ardaloedd sydd i’w cyfuno; y cynghorau cymuned a’r cynghorau tref yn yr ardaloedd o dan sylw; ac unrhyw bersonau eraill y mae’r cynigion yn debygol o effeithio arnynt.

211.Ar ôl yr ymgynghoriad, os bydd Gweinidogion Cymru yn dymuno bwrw ymlaen â'r cynigion, rhaid iddynt osod gerbron y Cynulliad ddogfen sy'n rhoi esboniad am y cynigion, yn rhoi manylion yr ymgynghoriad ac yn cyflwyno gorchymyn drafft sy'n rhoi effaith i'r cynigion.

212.Rhaid i'r ddogfen fod wedi ei gosod gerbron y Cynulliad am ddim llai na 60 o ddiwrnodau  – ac yn ystod yr amser hwnnw caiff unrhyw un sydd â buddiant yn y cynigion gyflwyno sylwadau a chaiff pwyllgorau Cynulliad achub ar y cyfle i alw'r cynigion i mewn i gael eu hystyried.

213.Caniateir i'r gorchymyn drafft terfynol gael ei osod wedyn gerbron y Cynulliad, ynghyd â datganiad sy'n nodi pa sylwadau sydd wedi dod i law ers i'r gorchymyn drafft cyntaf gael ei osod a pha newidiadau, os o gwbl, sydd wedi eu gwneud yn y gorchymyn drafft terfynol.

214.Rhaid i'r gorchymyn drafft terfynol gael ei gymeradwyo gan y Cynulliad, drwy fwyafrif syml o'r ACau hynny sy'n pleidleisio.

Adran 170 – Cywiro gorchmynion

215.Mae'n galluogi Gweinidogion Cymru i gywiro, drwy orchymyn, wall sydd wedi ei wneud mewn gorchymyn cyfuno.

Adran 171 – Dehongli

216.Mae'n darparu diffiniadau o'r derminoleg benodol sy'n cael ei defnyddio yn yr adrannau newydd.

Rhan 10 – Cyffredinol

Adran 172 – Gorchmynion a rheoliadau

217.Mae’r adran hon yn darparu bod gorchmynion a rheoliadau o dan y Mesur hwn yn cael eu gwneud drwy offeryn statudol ac yn nodi gweithdrefnau’r Cynulliad mewn cysylltiad â’r offerynnau hyn.

Adran 173 – Y weithdrefn sy’n gymwys i orchmynion penodol o dan adran 127

218.Mae’n nodi’r weithdrefn y mae’n rhaid i Weinidogion Cymru ei dilyn os byddant yn gwneud gorchymyn o dan adran 127 i wneud addasiadau i unrhyw ddeddfiad y maent yn meddwl ei fod yn atal neu’n rhwystro cynghorau cymuned rhag arfer eu pŵer (ynghylch llesiant) o dan adran 2(1) o Ddeddf 2000.

Adran 174 – Canllawiau a chyfarwyddiadau

219.Mae’n egluro pwerau Gweinidogion Cymru i roi canllawiau a rhoi cyfarwyddiadau o dan y Mesur hwn.

Adran 175 – Dehongli

220.Mae’n darparu dehongliad o dermau penodol a gaiff eu defnyddio yn y Mesur hwn.

Adran 176 – Diwygiadau canlyniadol a diddymiadau

221.Mae’r adran hon yn mewnosod is-adrannau (5) i (7) newydd yn adran 106 o Ddeddf 2000 i wneud darpariaeth ar gyfer gorchmynion a rheoliadau o dan yr adrannau newydd o’r Ddeddf honno a fewnosodir gan y Mesur i gael eu gwneud gan offeryn statudol ac mae’n nodi gweithdrefnau’r Cynulliad mewn cysylltiad â’r offerynnau hyn.

222.Mae hefyd yn cyflwyno Atodlen 4 (diddymiadau a dirymiadau) ac yn gwneud  darpariaeth i’r PAGA ragnodi cynllun i awdurdod lleol gan ddefnyddio’r rheoliadau presennol am gyfnod trosiannol ar gyfer y flwyddyn ariannol o 1 Ebrill 2011 hyd at 31 Mawrth 2012. Mae’r PAGA i gyhoeddi ei adroddiad blynyddol cyntaf o dan y Mesur erbyn 31 Rhagfyr 2011 ac mae’r adroddiad i ymdrin â’r flwyddyn ariannol 1 Ebrill 2012 hyd at 31 Mawrth 2013.

Atodlen 4 – Diddymiadau a dirymiadau

223.Mae’n diddymu ac yn dirymu’r ddarpariaeth bresennol i wneud lle i’r ddarpariaeth newydd a wneir yn y Mesur.

Adran 177 – Y pŵer i wneud darpariaeth atodol

224.Mae’n rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i wneud darpariaeth atodol, ganlyniadol,  gysylltiedig, drosiannol, ddarfodol ac arbed i’r rhannau o’r Mesur i gymryd datblygiadau yn y dyfodol mewn llywodraeth leol i ystyriaeth ac unrhyw ddeddfwriaeth yn y dyfodol y gallai fod awdurdodau lleol yn eu hysgwyddo.

Adran 178 – Cychwyn

225.Mae’r adran hon yn gwneud darpariaeth ynghylch cychwyn y darpariaethau yn y Mesur.

Adran 179 – Enw byr

Cofnod O’R Trafodion Yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru

226.Mae’r tabl canlynol yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o daith y Mesur drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael Cofnod o’r Trafodion a gwybodaeth bellach ar daith y Mesur hwn ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn: http://www.cynulliadcymru.org/bus-home/bus-legislation/bus-leg-measures/business-legislation-measures-localgov.htm

CyfnodDyddiad
Cyflwyno12 Gorffennaf 2010
Cyfnod 1 - Dadl11 Ionawr 2011
Cyfnod 2 Pwyllgor Craffu yn ystyried y gwelliannau2, 9 Chwefror 2011
Cyfnod 3  Y Cyfarfod Llawn yn ystyried gwelliannau15 Mawrth 2011
Cyfnod 4  Cymeradwyaeth gan y Cynulliad15 Mawrth 2011
Cymeradwyaeth Frenhinol yn y Cyfrin Gyngor10 Mai 2011

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Assembly Government department responsible for the subject matter of the Measure to explain what the Measure sets out to achieve and to make the Measure accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Measures of the National Assembly for Wales.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources