RHAN 1ATGYFNERTHU DEMOCRATIAETH LEOL
PENNOD 1HYBU A CHEFNOGI AELODAETH O AWDURDODAU LLEOL
Cefnogi aelodaeth
F14Mynychu cyfarfodydd o bell
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
I15Adroddiadau blynyddol gan aelodau o awdurdod lleol
1
Rhaid i awdurdod lleol wneud trefniadau—
a
i bob person sy'n aelod o'r awdurdod lunio adroddiad blynyddol ynghylch gweithgareddau'r person fel aelod o'r awdurdod yn ystod y flwyddyn y mae'r adroddiad yn ymwneud â hi,
b
i bob person sy'n aelod o weithrediaeth yr awdurdod lunio adroddiad blynyddol ynghylch gweithgareddau'r person fel aelod o'r weithrediaeth yn ystod y flwyddyn y mae'r adroddiad yn ymwneud â hi, ac
c
i'r awdurdod gyhoeddi pob adroddiad blynyddol sy'n cael ei lunio gan ei aelodau a chan aelodau ei weithrediaeth.
2
Caiff y trefniadau gynnwys amodau o ran cynnwys adroddiad y mae'n rhaid iddynt gael eu bodloni gan y person sydd yn ei lunio.
3
Rhaid i awdurdod lleol roi cyhoeddusrwydd i'w drefniadau.
4
Wrth arfer ei swyddogaethau o dan yr adran hon rhaid i awdurdod lleol roi sylw i ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru.
I26Amseru cyfarfodydd cyngor
1
Caiff Gweinidogion Cymru roi canllawiau ynghylch amser cynnal cyfarfodydd awdurdod lleol.
2
Rhaid i awdurdod lleol roi sylw i ganllawiau a roddir o dan is-adran (1).
3
Yn is-adran (1), ystyr “cyfarfodydd awdurdod lleol” yw—
a
cyfarfodydd yr awdurdod lleol;
b
cyfarfodydd unrhyw bwyllgor neu is-bwyllgor i'r awdurdod.
I37Hyfforddi a datblygu aelodau o awdurdod lleol
1
Rhaid i awdurdod lleol sicrhau y darperir cyfleoedd hyfforddi a datblygu rhesymol i'w aelodau.
2
Rhaid i awdurdod lleol sicrhau bod adolygiad blynyddol o anghenion hyfforddi a datblygu'r aelod ar gael i bob aelod o'r awdurdod.
3
Rhaid i'r adolygiad gynnwys cyfle am gyfweliad gyda pherson sydd, ym marn yr awdurdod, yn briodol gymwys i roi cyngor am anghenion hyfforddi a datblygu aelod o awdurdod lleol.
4
Wrth arfer ei swyddogaethau o dan yr adran hon rhaid i awdurdod lleol roi sylw i ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru.
5
Yn achos awdurdod sy'n gweithredu gweithrediaeth arweinydd a chabinet (Cymru), nid yw cyfeiriad yn yr adran hon at aelod o awdurdod lleol yn cynnwys yr arweinydd gweithrediaeth.