Search Legislation

Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, PENNOD 2. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

PENNOD 2LL+CGWASANAETHAU DEMOCRATAIDD AWDURDOD LLEOL

8Pennaeth gwasanaethau democrataiddLL+C

(1)Rhaid i awdurdod lleol—

(a)dynodi un o'i swyddogion i gyflawni'r swyddogaethau yn adran 9 (“swyddogaethau gwasanaethau democrataidd”);

(b)darparu i'r swyddog hwnnw y staff, y llety a'r adnoddau eraill sydd, ym marn yr awdurdod, yn ddigon i ganiatáu i swyddogaethau'r swyddog hwnnw gael eu cyflawni.

[F1(1A)Rhaid i awdurdod lleol roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru ynghylch swyddogaeth yr awdurdod lleol o dan is-adran (1)(b).]

(2)Caiff pennaeth gwasanaethau democrataidd drefnu i swyddogaethau gwasanaethau democrataidd gael eu cyflawni gan staff a ddarperir o dan yr adran hon.

(3)Mae swyddog a ddynodir gan awdurdod lleol o dan yr adran hon i'w alw'n bennaeth gwasanaethau democrataidd.

(4)Ni chaiff awdurdod lleol ddynodi unrhyw un neu ragor o'r canlynol o dan yr adran hon—

[F2(a)prif weithredwr yr awdurdod a benodwyd o dan adran 54 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021;]

F3(b). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(c)prif swyddog cyllid yr awdurdod, o fewn ystyr [F4adran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989] .

9Swyddogaethau gwasanaethau democrataiddLL+C

(1)Y canlynol yw swyddogaethau pennaeth gwasanaethau democrataidd—

(a)rhoi cymorth a chyngor i'r awdurdod mewn perthynas â'i gyfarfodydd, yn ddarostyngedig i is-adran (2);

(b)rhoi cymorth a chyngor i bwyllgorau'r awdurdod (ac eithrio'r pwyllgorau a grybwyllir ym mharagraff (e)) ac i aelodau o'r pwyllgorau hynny, yn ddarostyngedig i is-adran (2);

(c)rhoi cymorth a chyngor i unrhyw gyd-bwyllgor y mae awdurdod lleol yn gyfrifol am ei drefnu ac i aelodau o'r pwyllgor hwnnw, yn ddarostyngedig i is-adran (2);

(d)hybu rôl pwyllgor neu bwyllgorau trosolwg a chraffu'r awdurdod;

(e)rhoi cymorth a chyngor—

(i)i bwyllgor neu bwyllgorau trosolwg a chraffu'r awdurdod ac i aelodau o'r pwyllgor hwnnw neu'r pwyllgorau hynny, a

(ii)i bwyllgor gwasanaethau democrataidd yr awdurdod ac i aelodau o'r pwyllgor hwnnw;

(f)rhoi cymorth a chyngor mewn perthynas â swyddogaethau pwyllgor neu bwyllgorau trosolwg a chraffu'r awdurdod i bob un o'r canlynol—

(i)aelodau o'r awdurdod;

(ii)aelodau gweithrediaeth o'r awdurdod;

(iii)swyddogion yr awdurdod;

(g)rhoi cymorth a chyngor i bob aelod o'r awdurdod wrth iddo gyflawni rôl aelod o'r awdurdod, yn ddarostyngedig i is-adran (3);

(h)llunio adroddiadau a gwneud argymhellion mewn cysylltiad ag unrhyw un neu ragor o'r canlynol—

(i)nifer y staff y mae eu hangen i gyflawni swyddogaethau gwasanaethau democrataidd, a'u graddau;

(ii)penodi staff i gyflawni swyddogaethau gwasanaethau democrataidd;

(iii)trefnu a rheoli'n briodol staff sy'n cyflawni swyddogaethau gwasanaethau democrataidd;

(i)unrhyw swyddogaethau eraill a ragnodir.

(2)Nid yw cyfeiriadau at “gyngor” ym mharagraffau (a) i (c) yn cynnwys cyngor ynghylch a ddylai neu sut y dylai swyddogaethau'r awdurdod gael eu harfer, neu fod wedi eu harfer.

(3)Nid yw'r mathau canlynol o gymorth a chyngor i'w hystyried yn gymorth a chyngor at ddibenion is-adran (1)(g)—

(a)cymorth a chyngor i aelod o'r awdurdod wrth i'r aelod hwnnw gyflawni ei swyddogaethau fel rhan o weithrediaeth yr awdurdod (ac eithrio fel y darperir ar ei gyfer o dan is-adran (1)(f));

(b)cyngor ynghylch a ddylai neu sut y dylai swyddogaethau'r awdurdod gael eu harfer, neu fod wedi eu harfer, mewn perthynas ag unrhyw fater sy'n cael ei ystyried, neu sydd i'w ystyried, mewn un o gyfarfodydd yr awdurdod, un o gyfarfodydd pwyllgor y cyfeiriwyd ato yn is-adran (1)(b) neu un o gyfarfodydd cyd-bwyllgor y mae awdurdod lleol yn gyfrifol am ei drefnu.

(4)Nid oes dim yn is-adran (1)(h) sy'n effeithio ar ddyletswydd [F5prif weithredwr yn adran 54(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021] .

(5)Yn yr adran hon, mae cyfeiriadau at bwyllgor (neu gyd-bwyllgor) yn cynnwys cyfeiriadau at unrhyw is-bwyllgor i'r pwyllgor hwnnw.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I2A. 9 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

10Dyletswydd i fabwysiadu rheolau sefydlog ynghylch rheoli staffLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol drwy reoliadau i awdurdod lleol—

(a)ymgorffori darpariaeth ragnodedig sy'n ymwneud â rheoli staff a ddarperir o dan adran 8(1)(b) yn ei reolau sefydlog;

(b)gwneud addasiadau eraill i'r rhai o blith ei reolau sefydlog sy'n ymwneud â rheoli staff.

(2)Yn yr adran hon nid yw “rheoli staff” yn cynnwys penodi staff neu ddiswyddo staff neu gymryd camau disgyblu eraill yn erbyn staff.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 10 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

11Awdurdodau lleol i benodi pwyllgorau gwasanaethau democrataiddLL+C

(1)Rhaid i awdurdod lleol benodi pwyllgor (“pwyllgor gwasanaethau democrataidd”)—

(a)i arfer swyddogaeth yr awdurdod lleol o dan adran 8(1)(a) (“dynodi pennaeth gwasanaethau democrataidd”),

(b)i adolygu pa mor ddigonol yw'r ddarpariaeth gan yr awdurdod o ran staff, llety ac adnoddau eraill i gyflawni swyddogaethau gwasanaethau democrataidd, a

(c)i lunio adroddiadau a gwneud argymhellion i'r awdurdod mewn perthynas â'r ddarpariaeth honno.

(2)Mater i bwyllgor gwasanaethau democrataidd ei benderfynu yw sut i arfer y swyddogaethau hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I4A. 11 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

[F611AAdolygiadau ar gais awdurdod lleolLL+C

(1)Caiff pwyllgor gwasanaethau democrataidd awdurdod lleol, ar gais yr awdurdod, adolygu unrhyw fater sy’n berthnasol i—

(a)y cymorth a’r cyngor sydd ar gael i aelodau’r awdurdod hwnnw, a

(b)telerau ac amodau swydd yr aelodau hynny.

(2)Rhaid i bwyllgor gwasanaethau democrataidd lunio adroddiadau ac argymhellion i’r awdurdod yn dilyn adolygiad.

(3)Mater i bwyllgor gwasanaethau democrataidd yw penderfynu sut i arfer ei swyddogaethau o dan yr adran hon.]

12AelodaethLL+C

(1)Mae awdurdod lleol i benodi aelodau o'i bwyllgor gwasanaethau democrataidd.

(2)Rhaid i awdurdod lleol sicrhau—

(a)bod pob aelod o'i bwyllgor gwasanaethau democrataidd yn aelod o'r awdurdod;

(b)nad oes mwy nag un o aelodau ei bwyllgor gwasanaethau democrataidd yn aelod o weithrediaeth yr awdurdod [F7(ond gweler is-adran (6))] [F8neu’n gynorthwyydd i’w weithrediaeth];

(c)yn achos awdurdod lleol sy'n gweithredu gweithrediaeth arweinydd a chabinet (Cymru), nad yw'r arweinydd gweithrediaeth yn aelod o'i bwyllgor gwasanaethau democrataidd.

(3)Ni fydd penodi person yn aelod o bwyllgor gwasanaethau democrataidd yn cael unrhyw effaith os bydd aelodaeth y pwyllgor yn mynd yn groes i is-adran (2) yn union ar ôl ei benodi (p'un ai yn rhinwedd y penodiad ai peidio).

(4)Mewn achos pan fo un person neu ragor, ar adeg neilltuol, i'w wneud neu i'w gwneud yn aelod neu'n aelodau o bwyllgor gwasanaethau democrataidd, neu i beidio â bod yn aelod neu'n aelodau o bwyllgor gwasanaethau democrataidd, mae'r newidiadau hynny yn yr aelodaeth i'w hystyried wrth benderfynu a fyddai aelodaeth y pwyllgor yn mynd yn groes i is-adran (2).

(5)Mae pwyllgor gwasanaethau democrataidd i awdurdod lleol i'w drin fel corff y mae adran 15 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (dyletswydd i ddyrannu seddau i grwpiau gwleidyddol) yn gymwys iddo.

[F9(6)Os penodir dau neu ragor o aelodau awdurdod lleol i’r weithrediaeth i rannu swydd, caniateir penodi mwy nag un o’r aelodau hynny i bwyllgor gwasanaethau democrataidd yr awdurdod (ac os y’u penodir hwy felly, gyda’i gilydd maent yn cyfrif fel un aelod gweithrediaeth at ddibenion is-adran (2)(b)).]

13Is-bwyllgorauLL+C

(1)Caiff pwyllgor gwasanaethau democrataidd—

(a)penodi un neu ragor o is-bwyllgorau, a

(b)trefnu i unrhyw un neu ragor o'i swyddogaethau gael ei chyflawni neu eu cyflawni gan is-bwyllgor o'r fath.

(2)Ni chaiff is-bwyllgor i bwyllgor gwasanaethau democrataidd gyflawni swyddogaethau ac eithrio'r rhai a roddwyd iddo o dan is-adran (1)(b).

Gwybodaeth Cychwyn

I6A. 13 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

14Trafodion etcLL+C

(1)Mae awdurdod lleol i benodi'r person sydd i gadeirio'r pwyllgor gwasanaethau democrataidd (a rhaid iddo beidio â bod yn aelop o grŵp gweithrediaeth).

(2)Os nad oes unrhyw grwpiau gwrthblaid, caiff y person sydd i gadeirio'r pwyllgor gwasanaethau democrataidd fod yn aelod o grŵp gweithrediaeth ond rhaid iddo beidio â bod yn aelod o [F10neu’n gynorthwyydd i’w weithrediaeth] .

(3)Mae pwyllgor gwasanaethau democrataidd i benodi'r person sydd i gadeirio unrhyw is-bwyllgor i bwyllgor o'r fath.

(4)Caiff pob aelod o bwyllgor gwasanaethau democrataidd, neu o is-bwyllgor i bwyllgor o'r fath, bleidleisio ar unrhyw gwestiwn y mae'n dod i ran y pwyllgor i benderfynu arno.

[F11(4A)Os yw dau neu ragor o aelodau pwyllgor gwasanaethau democrataidd yn aelodau o’r weithrediaeth sy’n rhannu swydd, mae gan yr aelodau hynny un bleidlais rhyngddynt at ddibenion is-adran (4).]

(5)Caiff pwyllgor gwasanaethau democrataidd i awdurdod lleol, neu is-bwyllgor i bwyllgor o'r fath—

(a)ei gwneud yn ofynnol i aelodau a swyddogion yr awdurdod ddod ger ei fron i ateb cwestiynau, a

(b)gwahodd personau eraill i fynychu cyfarfodydd y pwyllgor.

(6)Mae'n ddyletswydd ar unrhyw aelod o awdurdod lleol neu unrhyw swyddog i awdurdod lleol i gydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir o dan is-adran (5)(a).

(7)Nid yw person yn cael ei orfodi gan is-adran (6) i ateb unrhyw gwestiwn y byddai ganddo hawl i wrthod ei ateb mewn achos llys yng Nghymru a Lloegr neu at ddibenion achos llys o'r fath.

(8)Mae pwyllgor gwasanaethau democrataidd, neu is-bwyllgor i bwyllgor o'r fath, i'w drin fel pwyllgor, neu is-bwyllgor, i brif gyngor at ddibenion Rhan 5A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (cael mynd i gyfarfodydd a chael gweld dogfennau awdurdodau, pwyllgorau ac is-bwyllgorau penodol).

(9)At ddibenion is-adrannau (1) a (2), mae i'r ymadroddion “grŵp gweithrediaeth” a “grŵp gwrthblaid” yr un ystyr ag yn adran 75.

15Cynnal cyfarfodydd: pa mor amlLL+C

(1)Rhaid i bwyllgor gwasanaethau democrataidd gyfarfod unwaith ym mhob blwyddyn galendr.

(2)Rhaid i bwyllgor gwasanaethau democrataidd i awdurdod lleol gyfarfod hefyd—

(a)os yw'r awdurdod lleol yn penderfynu y dylai'r pwyllgor gyfarfod, neu

(b)os yw traean o leiaf o aelodau'r pwyllgor yn hawlio cyfarfod drwy gyfrwng un neu ragor o hysbysiadau ysgrifenedig a roddir i'r person sy'n cadeirio'r pwyllgor.

[F12(2A)Os yw dau neu ragor o aelodau pwyllgor gwasanaethau democrataidd yn aelodau o’r weithrediaeth sy’n rhannu swydd, nid yw’r aelodau hynny gyda’i gilydd ond yn cyfrif fel un aelod o’r pwyllgor at ddibenion is-adran (2)(b).]

(3)Mae dyletswydd ar y person sy'n cadeirio pwyllgor gwasanaethau democrataidd i sicrhau bod cyfarfodydd y pwyllgor yn cael eu cynnal fel y mae is-adrannau (1) a (2) yn ei gwneud yn ofynnol.

(4)Nid yw'r adran hon yn atal pwyllgor gwasanaethau democrataidd rhag cyfarfod ac eithrio fel y mae'r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I8A. 15 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

16Cyflawni swyddogaethauLL+C

(1)Ni chaiff pwyllgor gwasanaethau democrataidd arfer unrhyw swyddogaethau ac eithrio ei swyddogaethau o dan y Bennod hon.

(2)Wrth arfer unrhyw un neu ragor o'i swyddogaethau, neu benderfynu ai i'w harfer, rhaid i bwyllgor gwasanaethau democrataidd, neu is-bwyllgor i bwyllgor o'r fath, roi sylw i ganllawiau a roddwyd gan Weinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 16 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

17Terfynu aelodaeth pan fo person yn peidio â bod yn aelod o awdurdodLL+C

(1)Mae'r adran hon yn gymwys i berson (P)—

(a)a benodir yn aelod o bwyllgor gwasanaethau democrataidd awdurdod lleol, neu o is-bwyllgor i bwyllgor o'r fath, a

(b)sy'n aelod o'r awdurdod ar adeg y penodiad hwnnw.

(2)Os yw P yn peidio â bod yn aelod o'r awdurdod, mae P hefyd yn peidio â bod yn aelod o'r pwyllgor neu'r is-bwyllgor gwasanaethau democrataidd.

(3)Ond nid yw is-adran (2) yn gymwys os yw P—

(a)yn peidio â bod yn aelod o'r awdurdod oherwydd iddo ymddeol, a

(b)yn cael ei ailethol yn aelod o'r awdurdod heb fod yn hwyrach na diwrnod ei ymddeoliad.

(4)Mae is-adran (3) yn ddarostyngedig i reolau sefydlog yr awdurdod neu rai'r pwyllgor neu'r is-bwyllgor gwasanaethau democrataidd.

Gwybodaeth Cychwyn

I10A. 17 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

18Adroddiadau ac argymhellion gan bennaeth y gwasanaethau democrataiddLL+C

(1)Rhaid i bennaeth gwasanaethau democrataidd ar gyfer awdurdod lleol, cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl llunio adroddiad neu wneud argymhelliad o dan adran 9(1)(h), anfon at bob aelod o bwyllgor gwasanaethau democrataidd yr awdurdod gopi o'r adroddiad neu o'r argymhelliad.

(2)Rhaid i bwyllgor gwasanaethau democrataidd ystyried, mewn cyfarfod a gynhelir heb fod yn fwy na thri mis ar ôl i gopïau o'r adroddiad gael eu hanfon gyntaf at aelodau'r pwyllgor, unrhyw adroddiad neu argymhelliad a anfonir at aelodau'r pwyllgor o dan yr adran hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I11A. 18 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

19Adroddiadau ac argymhellion gan bwyllgorau gwasanaethau democrataiddLL+C

(1)Rhaid i bwyllgor gwasanaethau democrataidd ar gyfer awdurdod lleol, cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl iddo lunio adroddiad neu wneud argymhelliad o dan adran 11(1)(c) [F13neu 11A(2)] , drefnu bod copi ohono'n cael ei anfon at bob aelod o'r awdurdod nad yw'n aelod o'r pwyllgor.

(2)Rhaid i awdurdod lleol ystyried unrhyw adroddiad neu argymhellion mewn cyfarfod a gynhelir heb fod yn fwy na thri mis ar ôl i gopïau o'r adroddiad neu'r argymhelliad gael eu hanfon gyntaf at aelodau'r awdurdod.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I12A. 19 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

20Swyddogaethau awdurdod lleol nad ydynt i'w dirprwyoLL+C

Nid yw swyddogaethau awdurdod lleol o dan adrannau 8(1), 11, 12(1) a (2), 14(1), 15(2)(a) a 19(2) i'w dirprwyo o dan adran 101 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

Gwybodaeth Cychwyn

I13A. 20 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

21Swydd pennaeth gwasanaethau democrataidd i fod yn swydd o dan gyfyngiadau gwleidyddolLL+C

(1)Diwygir adran 2(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 fel a ganlyn.

(2)Ym mharagraff (f) hepgorer “and”.

(3)Ar ôl “delegated)” ym mharagraff (g) mewnosoder— ; and

(h)the head of democratic services designated under section 8 of the Local Government (Wales) Measure 2011.

Gwybodaeth Cychwyn

I14A. 21 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

Back to top

Options/Help

Print Options

You have chosen to open The Whole Measure

The Whole Measure you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Measure as a PDF

The Whole Measure you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Measure without Schedules

The Whole Measure without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Measure without Schedules as a PDF

The Whole Measure without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open the Whole Measure

The Whole Measure you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open the Whole Measure without Schedules

The Whole Measure without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Assembly Government department responsible for the subject matter of the Measure to explain what the Measure sets out to achieve and to make the Measure accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Measures of the National Assembly for Wales.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources