xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Rhaid i awdurdod lleol, yn unol â rheoliadau o dan yr adran hon, gynnal arolwg—
(a)o gynghorwyr yn ei ardal, a
(b)o ymgeiswyr na fu iddynt lwyddo i gael eu hethol i swydd cynghorydd yn ei ardal.
(2)Rhaid i awdurdod lleol gynnal arolwg ar ôl pob etholiad cyffredin—
(a)ar gyfer cyngor y sir neu'r fwrdeistref sirol, a
(b)ar gyfer cyngor cymuned yn ardal yr awdurdod lleol.
(3)Rhaid i'r arolwg gael ei gynnal—
(a)drwy ofyn cwestiynau rhagnodedig ar unrhyw ffurf ragnodedig neu mewn unrhyw ddull rhagnodedig, a
(b)drwy grynhoi'r wybodaeth ar unrhyw ffurf ragnodedig neu mewn unrhyw ddull rhagnodedig.
(4)Mae'r cwestiynau y caniateir eu rhagnodi o dan is-adran (3) yn cynnwys cwestiynau (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt) ynglŷn â'r unigolyn y maent wedi eu cyfeirio ato ynghylch—
(a)rhywedd;
(b)cyfeiriadedd rhywiol;
(c)iaith;
(d)hil;
(e)oedran;
(f)anabledd;
(g)crefydd neu gred;
(h)iechyd;
(i)addysg a chymwysterau;
(j)cyflogaeth;
(k)gwaith fel cynghorydd.
(5)Nid oes dim yn yr adran hon sy'n gosod dyletswydd ar gynghorydd neu ymgeisydd na lwyddodd i gael ei ethol i swydd cynghorydd i ddarparu unrhyw wybodaeth.
(6)Rhaid i awdurdod lleol wneud trefniadau i gynghorwyr ac ymgeiswyr na fu iddynt lwyddo i gael eu hethol i swydd cynghorydd ddarparu gwybodaeth yn ddienw o dan yr adran hon.
(7)Yn yr adran hon—
ystyr “anabledd” (“disability”) yw amhariad corfforol neu feddyliol a chanddo effaith andwyol sylweddol a hirdymor ar allu person i gyflawni gweithgareddau beunyddiol normal;
ystyr “cred” (“belief”) yw unrhyw gred grefyddol neu athronyddol ac mae cyfeiriad at gred yn cynnwys cyfeiriad at ddiffyg cred;
ystyr “crefydd” (“religion”) yw unrhyw grefydd ac mae cyfeiriad at grefydd yn cynnwys cyfeiriad at ddiffyg crefydd;
ystyr “cyfeiriadedd rhywiol” (“sexual orientation”) yw cyfeiriadedd rhywiol person—
tuag at bersonau o'r un rhyw,
tuag at bersonau o'r rhyw arall, neu
tuag at bersonau o'r naill ryw neu'r llall;
mae “cynghorydd” (“councillor”) yn cynnwys cynghorydd cymuned;
ystyr “hil” (“race”) yw lliw, cenedligrwydd neu darddiad ethnig neu genedlaethol.
(1)Rhaid i awdurdod lleol gwblhau ei arolwg a darparu'r wybodaeth sy'n cael ei chrynhoi ganddo i Weinidogion Cymru cyn pen chwe mis ar ôl dyddiad yr etholiad cyffredin y mae'n ymwneud ag ef.
(2)Rhaid i awdurdod lleol ddarparu'r wybodaeth ar unrhyw ffurf ragnodedig neu mewn unrhyw ddull rhagnodedig.
(3)Caiff awdurdod lleol gyhoeddi'r wybodaeth sy'n cael ei chrynhoi gan arolwg yn y dull y mae o'r farn ei bod yn briodol ei chyhoeddi, yn ddarostyngedig i is-adran (6).
(4)Rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)crynhoi'r wybodaeth a gânt oddi wrth awdurdodau lleol o dan yr adran hon, a
(b)ei chyhoeddi cyn pen deuddeng mis ar ôl dyddiad yr etholiad cyffredin y mae'n ymwneud ag ef.
(5)Caiff Gweinidogion Cymru—
(a)cyhoeddi gwybodaeth o dan is-adran (4)(b) yn y dull y maent o'r farn ei bod yn briodol ei chyhoeddi, yn ddarostyngedig i is-adran (6);
(b)rhannu unrhyw wybodaeth a ddarperir iddynt o dan is-adran (1) ag unrhyw gorff sy'n cynrychioli buddiannau cynghorau sir, cynghorau bwrdeistref sirol neu gynghorau cymuned yng Nghymru.
(6)Nid yw unrhyw wybodaeth a geir o dan adran 1 neu'r adran hon i'w chyhoeddi na'i rhannu ar unrhyw ffurf sydd, naill ai ar ei phen ei hun neu ar y cyd ag unrhyw wybodaeth arall, yn datgelu pwy yw unrhyw unigolyn y mae'n ymwneud ag ef neu'n ei gwneud yn bosibl i'r unigolyn hwnnw gael ei adnabod.
Wrth arfer ei swyddogaethau o dan adrannau 1 a 2, rhaid i awdurdod lleol roi sylw i ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru.
(1)Nid yw cyfeiriad mewn unrhyw ddeddfiad at gyfarfod o awdurdod lleol wedi ei gyfyngu i gyfarfod o bob person y mae pob un ohonynt yn bresennol yn yr un fangre.
(2)At ddibenion unrhyw ddeddfiad o'r fath, mae aelod o awdurdod lleol nad yw'n bresennol yn y fangre lle y cynhelir cyfarfod o'r awdurdod hwnnw (“aelod sy'n mynychu o bell”) yn mynychu'r cyfarfod ar unrhyw adeg os bydd pob un o'r amodau yn is-adran (3) wedi eu bodloni.
(3)Yr amodau hynny yw—
(a)bod yr aelod sy'n mynychu o bell, ar yr adeg honno—
(i)yn gallu gweld a chlywed yr aelodau sy'n mynychu'r fangre, a'i fod yn gallu cael ei weld a'i glywed ganddynt,
(ii)yn gallu gweld a chlywed unrhyw aelodau o'r cyhoedd a chanddynt hawl i fynychu'r cyfarfod sy'n bresennol yn y fangre honno ac sy'n arfer hawl i siarad yn y cyfarfod, a'i fod yn gallu cael ei weld a'i glywed ganddynt, a
(iii)yn gallu cael ei weld a'i glywed gan unrhyw aelodau eraill o'r cyhoedd a chanddynt hawl felly i fod yn bresennol yn y fangre honno;
(b)bod yr aelod sy'n mynychu o bell, ar yr adeg honno, yn gallu clywed unrhyw aelod arall sy'n mynychu o bell ac y mae'r amod ym mharagraff (a) wedi ei fodloni mewn cysylltiad ag ef ar yr adeg honno, a'i fod yn gallu cael ei glywed ganddo;
(c)nad yw defnyddio cyfleusterau sy'n galluogi'r amodau ym mharagraffau (a) a (b) i gael eu bodloni mewn cysylltiad a'r aelod sy'n mynychu o bell wedi ei wahardd gan y rheolau sefydlog neu gan unrhyw un neu ragor o reolau eraill yr awdurdod sy'n llywodraethu'r cyfarfod.
(4)Rhaid i reolau sefydlog awdurdod lleol sicrhau nad oes cworwm ar gyfer cyfarfod o'r awdurdod lleol ar unrhyw adeg pan fo nifer yr aelodau sy'n mynychu o bell yn hafal i nifer yr aelodau sy'n mynychu'r fangre neu'n fwy na'r nifer hwnnw.
(5)Caiff awdurdod lleol wneud rheolau sefydlog eraill ynghylch mynychu cyfarfodydd awdurdod lleol o bell.
(6)Rhaid i awdurdod lleol roi sylw i ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â chyfarfodydd o'r awdurdod a fynychir o bell yn unol â'r adran hon.
(7)Mae'r adran hon yn gymwys mewn perthynas â chyfarfod pwyllgor neu is-bwyllgor i awdurdod lleol fel y mae'n gymwys mewn perthynas â chyfarfod o awdurdod lleol.
(8)Ond ni chaiff person sy'n aelod cyfetholedig o bwyllgor neu is-bwyllgor fod yn aelod sy'n mynychu cyfarfod o bell yn rhinwedd yr adran hon.
(9)At ddiben yr adran hon—
(a)mae cyfeiriad at berson (A) yn gweld person arall (B) i'w ddehongli fel cyfeiriad at A yn gweld B pan fo B yn siarad yn y cyfarfod;
(b)mae cyfeiriad at berson (C) yn cael ei weld gan berson arall (D) i'w ddehongli fel cyfeiriad at C yn cael ei weld gan D pan fo C yn siarad yn y cyfarfod.
(10)Yn yr adran hon—
ystyr “aelod cyfetholedig” (“co-opted member”), mewn perthynas â phwyllgor neu is-bwyllgor i awdurdod lleol, yw person sy'n aelod o'r pwyllgor neu'r is-bwyllgor, ond nad yw'n aelod o'r awdurdod;
ystyr “aelod sy'n mynychu'r fangre” (“member in actual attendance”), mewn perthynas â chyfarfod o awdurdod lleol, yw aelod o'r awdurdod sy'n mynychu'r cyfarfod yn y fangre lle y cynhelir y cyfarfod.
(1)Rhaid i awdurdod lleol wneud trefniadau—
(a)i bob person sy'n aelod o'r awdurdod lunio adroddiad blynyddol ynghylch gweithgareddau'r person fel aelod o'r awdurdod yn ystod y flwyddyn y mae'r adroddiad yn ymwneud â hi,
(b)i bob person sy'n aelod o weithrediaeth yr awdurdod lunio adroddiad blynyddol ynghylch gweithgareddau'r person fel aelod o'r weithrediaeth yn ystod y flwyddyn y mae'r adroddiad yn ymwneud â hi, ac
(c)i'r awdurdod gyhoeddi pob adroddiad blynyddol sy'n cael ei lunio gan ei aelodau a chan aelodau ei weithrediaeth.
(2)Caiff y trefniadau gynnwys amodau o ran cynnwys adroddiad y mae'n rhaid iddynt gael eu bodloni gan y person sydd yn ei lunio.
(3)Rhaid i awdurdod lleol roi cyhoeddusrwydd i'w drefniadau.
(4)Wrth arfer ei swyddogaethau o dan yr adran hon rhaid i awdurdod lleol roi sylw i ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru.
(1)Caiff Gweinidogion Cymru roi canllawiau ynghylch amser cynnal cyfarfodydd awdurdod lleol.
(2)Rhaid i awdurdod lleol roi sylw i ganllawiau a roddir o dan is-adran (1).
(3)Yn is-adran (1), ystyr “cyfarfodydd awdurdod lleol” yw—
(a)cyfarfodydd yr awdurdod lleol;
(b)cyfarfodydd unrhyw bwyllgor neu is-bwyllgor i'r awdurdod.
(1)Rhaid i awdurdod lleol sicrhau y darperir cyfleoedd hyfforddi a datblygu rhesymol i'w aelodau.
(2)Rhaid i awdurdod lleol sicrhau bod adolygiad blynyddol o anghenion hyfforddi a datblygu'r aelod ar gael i bob aelod o'r awdurdod.
(3)Rhaid i'r adolygiad gynnwys cyfle am gyfweliad gyda pherson sydd, ym marn yr awdurdod, yn briodol gymwys i roi cyngor am anghenion hyfforddi a datblygu aelod o awdurdod lleol.
(4)Wrth arfer ei swyddogaethau o dan yr adran hon rhaid i awdurdod lleol roi sylw i ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru.
(5)Yn achos awdurdod sy'n gweithredu gweithrediaeth arweinydd a chabinet (Cymru), nid yw cyfeiriad yn yr adran hon at aelod o awdurdod lleol yn cynnwys yr arweinydd gweithrediaeth.
(1)Rhaid i awdurdod lleol—
(a)dynodi un o'i swyddogion i gyflawni'r swyddogaethau yn adran 9 (“swyddogaethau gwasanaethau democrataidd”);
(b)darparu i'r swyddog hwnnw y staff, y llety a'r adnoddau eraill sydd, ym marn yr awdurdod, yn ddigon i ganiatáu i swyddogaethau'r swyddog hwnnw gael eu cyflawni.
(2)Caiff pennaeth gwasanaethau democrataidd drefnu i swyddogaethau gwasanaethau democrataidd gael eu cyflawni gan staff a ddarperir o dan yr adran hon.
(3)Mae swyddog a ddynodir gan awdurdod lleol o dan yr adran hon i'w alw'n bennaeth gwasanaethau democrataidd.
(4)Ni chaiff awdurdod lleol ddynodi unrhyw un neu ragor o'r canlynol o dan yr adran hon—
(a)pennaeth gwasanaeth cyflogedig yr awdurdod a ddynodir o dan adran 4 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989;
(b)swyddog monitro'r awdurdod a ddynodir o dan adran 5 o'r Ddeddf honno;
(c)prif swyddog cyllid yr awdurdod, o fewn ystyr yr adran honno.
(1)Y canlynol yw swyddogaethau pennaeth gwasanaethau democrataidd—
(a)rhoi cymorth a chyngor i'r awdurdod mewn perthynas â'i gyfarfodydd, yn ddarostyngedig i is-adran (2);
(b)rhoi cymorth a chyngor i bwyllgorau'r awdurdod (ac eithrio'r pwyllgorau a grybwyllir ym mharagraff (e)) ac i aelodau o'r pwyllgorau hynny, yn ddarostyngedig i is-adran (2);
(c)rhoi cymorth a chyngor i unrhyw gyd-bwyllgor y mae awdurdod lleol yn gyfrifol am ei drefnu ac i aelodau o'r pwyllgor hwnnw, yn ddarostyngedig i is-adran (2);
(d)hybu rôl pwyllgor neu bwyllgorau trosolwg a chraffu'r awdurdod;
(e)rhoi cymorth a chyngor—
(i)i bwyllgor neu bwyllgorau trosolwg a chraffu'r awdurdod ac i aelodau o'r pwyllgor hwnnw neu'r pwyllgorau hynny, a
(ii)i bwyllgor gwasanaethau democrataidd yr awdurdod ac i aelodau o'r pwyllgor hwnnw;
(f)rhoi cymorth a chyngor mewn perthynas â swyddogaethau pwyllgor neu bwyllgorau trosolwg a chraffu'r awdurdod i bob un o'r canlynol—
(i)aelodau o'r awdurdod;
(ii)aelodau gweithrediaeth o'r awdurdod;
(iii)swyddogion yr awdurdod;
(g)rhoi cymorth a chyngor i bob aelod o'r awdurdod wrth iddo gyflawni rôl aelod o'r awdurdod, yn ddarostyngedig i is-adran (3);
(h)llunio adroddiadau a gwneud argymhellion mewn cysylltiad ag unrhyw un neu ragor o'r canlynol—
(i)nifer y staff y mae eu hangen i gyflawni swyddogaethau gwasanaethau democrataidd, a'u graddau;
(ii)penodi staff i gyflawni swyddogaethau gwasanaethau democrataidd;
(iii)trefnu a rheoli'n briodol staff sy'n cyflawni swyddogaethau gwasanaethau democrataidd;
(i)unrhyw swyddogaethau eraill a ragnodir.
(2)Nid yw cyfeiriadau at “gyngor” ym mharagraffau (a) i (c) yn cynnwys cyngor ynghylch a ddylai neu sut y dylai swyddogaethau'r awdurdod gael eu harfer, neu fod wedi eu harfer.
(3)Nid yw'r mathau canlynol o gymorth a chyngor i'w hystyried yn gymorth a chyngor at ddibenion is-adran (1)(g)—
(a)cymorth a chyngor i aelod o'r awdurdod wrth i'r aelod hwnnw gyflawni ei swyddogaethau fel rhan o weithrediaeth yr awdurdod (ac eithrio fel y darperir ar ei gyfer o dan is-adran (1)(f));
(b)cyngor ynghylch a ddylai neu sut y dylai swyddogaethau'r awdurdod gael eu harfer, neu fod wedi eu harfer, mewn perthynas ag unrhyw fater sy'n cael ei ystyried, neu sydd i'w ystyried, mewn un o gyfarfodydd yr awdurdod, un o gyfarfodydd pwyllgor y cyfeiriwyd ato yn is-adran (1)(b) neu un o gyfarfodydd cyd-bwyllgor y mae awdurdod lleol yn gyfrifol am ei drefnu.
(4)Nid oes dim yn is-adran (1)(h) sy'n effeithio ar ddyletswydd pennaeth gwasanaeth cyflogedig yn adran 4(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989.
(5)Yn yr adran hon, mae cyfeiriadau at bwyllgor (neu gyd-bwyllgor) yn cynnwys cyfeiriadau at unrhyw is-bwyllgor i'r pwyllgor hwnnw.
(1)Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol drwy reoliadau i awdurdod lleol—
(a)ymgorffori darpariaeth ragnodedig sy'n ymwneud â rheoli staff a ddarperir o dan adran 8(1)(b) yn ei reolau sefydlog;
(b)gwneud addasiadau eraill i'r rhai o blith ei reolau sefydlog sy'n ymwneud â rheoli staff.
(2)Yn yr adran hon nid yw “rheoli staff” yn cynnwys penodi staff neu ddiswyddo staff neu gymryd camau disgyblu eraill yn erbyn staff.
(1)Rhaid i awdurdod lleol benodi pwyllgor (“pwyllgor gwasanaethau democrataidd”)—
(a)i arfer swyddogaeth yr awdurdod lleol o dan adran 8(1)(a) (“dynodi pennaeth gwasanaethau democrataidd”),
(b)i adolygu pa mor ddigonol yw'r ddarpariaeth gan yr awdurdod o ran staff, llety ac adnoddau eraill i gyflawni swyddogaethau gwasanaethau democrataidd, a
(c)i lunio adroddiadau a gwneud argymhellion i'r awdurdod mewn perthynas â'r ddarpariaeth honno.
(2)Mater i bwyllgor gwasanaethau democrataidd ei benderfynu yw sut i arfer y swyddogaethau hynny.
(1)Mae awdurdod lleol i benodi aelodau o'i bwyllgor gwasanaethau democrataidd.
(2)Rhaid i awdurdod lleol sicrhau—
(a)bod pob aelod o'i bwyllgor gwasanaethau democrataidd yn aelod o'r awdurdod;
(b)nad oes mwy nag un o aelodau ei bwyllgor gwasanaethau democrataidd yn aelod o weithrediaeth yr awdurdod;
(c)yn achos awdurdod lleol sy'n gweithredu gweithrediaeth arweinydd a chabinet (Cymru), nad yw'r arweinydd gweithrediaeth yn aelod o'i bwyllgor gwasanaethau democrataidd.
(3)Ni fydd penodi person yn aelod o bwyllgor gwasanaethau democrataidd yn cael unrhyw effaith os bydd aelodaeth y pwyllgor yn mynd yn groes i is-adran (2) yn union ar ôl ei benodi (p'un ai yn rhinwedd y penodiad ai peidio).
(4)Mewn achos pan fo un person neu ragor, ar adeg neilltuol, i'w wneud neu i'w gwneud yn aelod neu'n aelodau o bwyllgor gwasanaethau democrataidd, neu i beidio â bod yn aelod neu'n aelodau o bwyllgor gwasanaethau democrataidd, mae'r newidiadau hynny yn yr aelodaeth i'w hystyried wrth benderfynu a fyddai aelodaeth y pwyllgor yn mynd yn groes i is-adran (2).
(5)Mae pwyllgor gwasanaethau democrataidd i awdurdod lleol i'w drin fel corff y mae adran 15 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (dyletswydd i ddyrannu seddau i grwpiau gwleidyddol) yn gymwys iddo.
(1)Caiff pwyllgor gwasanaethau democrataidd—
(a)penodi un neu ragor o is-bwyllgorau, a
(b)trefnu i unrhyw un neu ragor o'i swyddogaethau gael ei chyflawni neu eu cyflawni gan is-bwyllgor o'r fath.
(2)Ni chaiff is-bwyllgor i bwyllgor gwasanaethau democrataidd gyflawni swyddogaethau ac eithrio'r rhai a roddwyd iddo o dan is-adran (1)(b).
(1)Mae awdurdod lleol i benodi'r person sydd i gadeirio'r pwyllgor gwasanaethau democrataidd (a rhaid iddo beidio â bod yn aelop o grŵp gweithrediaeth).
(2)Os nad oes unrhyw grwpiau gwrthblaid, caiff y person sydd i gadeirio'r pwyllgor gwasanaethau democrataidd fod yn aelod o grŵp gweithrediaeth ond rhaid iddo beidio â bod yn aelod o weithrediaeth yr awdurdod lleol.
(3)Mae pwyllgor gwasanaethau democrataidd i benodi'r person sydd i gadeirio unrhyw is-bwyllgor i bwyllgor o'r fath.
(4)Caiff pob aelod o bwyllgor gwasanaethau democrataidd, neu o is-bwyllgor i bwyllgor o'r fath, bleidleisio ar unrhyw gwestiwn y mae'n dod i ran y pwyllgor i benderfynu arno.
(5)Caiff pwyllgor gwasanaethau democrataidd i awdurdod lleol, neu is-bwyllgor i bwyllgor o'r fath—
(a)ei gwneud yn ofynnol i aelodau a swyddogion yr awdurdod ddod ger ei fron i ateb cwestiynau, a
(b)gwahodd personau eraill i fynychu cyfarfodydd y pwyllgor.
(6)Mae'n ddyletswydd ar unrhyw aelod o awdurdod lleol neu unrhyw swyddog i awdurdod lleol i gydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir o dan is-adran (5)(a).
(7)Nid yw person yn cael ei orfodi gan is-adran (6) i ateb unrhyw gwestiwn y byddai ganddo hawl i wrthod ei ateb mewn achos llys yng Nghymru a Lloegr neu at ddibenion achos llys o'r fath.
(8)Mae pwyllgor gwasanaethau democrataidd, neu is-bwyllgor i bwyllgor o'r fath, i'w drin fel pwyllgor, neu is-bwyllgor, i brif gyngor at ddibenion Rhan 5A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (cael mynd i gyfarfodydd a chael gweld dogfennau awdurdodau, pwyllgorau ac is-bwyllgorau penodol).
(9)At ddibenion is-adrannau (1) a (2), mae i'r ymadroddion “grŵp gweithrediaeth” a “grŵp gwrthblaid” yr un ystyr ag yn adran 75.
(1)Rhaid i bwyllgor gwasanaethau democrataidd gyfarfod unwaith ym mhob blwyddyn galendr.
(2)Rhaid i bwyllgor gwasanaethau democrataidd i awdurdod lleol gyfarfod hefyd—
(a)os yw'r awdurdod lleol yn penderfynu y dylai'r pwyllgor gyfarfod, neu
(b)os yw traean o leiaf o aelodau'r pwyllgor yn hawlio cyfarfod drwy gyfrwng un neu ragor o hysbysiadau ysgrifenedig a roddir i'r person sy'n cadeirio'r pwyllgor.
(3)Mae dyletswydd ar y person sy'n cadeirio pwyllgor gwasanaethau democrataidd i sicrhau bod cyfarfodydd y pwyllgor yn cael eu cynnal fel y mae is-adrannau (1) a (2) yn ei gwneud yn ofynnol.
(4)Nid yw'r adran hon yn atal pwyllgor gwasanaethau democrataidd rhag cyfarfod ac eithrio fel y mae'r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol.
(1)Ni chaiff pwyllgor gwasanaethau democrataidd arfer unrhyw swyddogaethau ac eithrio ei swyddogaethau o dan y Bennod hon.
(2)Wrth arfer unrhyw un neu ragor o'i swyddogaethau, neu benderfynu ai i'w harfer, rhaid i bwyllgor gwasanaethau democrataidd, neu is-bwyllgor i bwyllgor o'r fath, roi sylw i ganllawiau a roddwyd gan Weinidogion Cymru.
(1)Mae'r adran hon yn gymwys i berson (P)—
(a)a benodir yn aelod o bwyllgor gwasanaethau democrataidd awdurdod lleol, neu o is-bwyllgor i bwyllgor o'r fath, a
(b)sy'n aelod o'r awdurdod ar adeg y penodiad hwnnw.
(2)Os yw P yn peidio â bod yn aelod o'r awdurdod, mae P hefyd yn peidio â bod yn aelod o'r pwyllgor neu'r is-bwyllgor gwasanaethau democrataidd.
(3)Ond nid yw is-adran (2) yn gymwys os yw P—
(a)yn peidio â bod yn aelod o'r awdurdod oherwydd iddo ymddeol, a
(b)yn cael ei ailethol yn aelod o'r awdurdod heb fod yn hwyrach na diwrnod ei ymddeoliad.
(4)Mae is-adran (3) yn ddarostyngedig i reolau sefydlog yr awdurdod neu rai'r pwyllgor neu'r is-bwyllgor gwasanaethau democrataidd.
(1)Rhaid i bennaeth gwasanaethau democrataidd ar gyfer awdurdod lleol, cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl llunio adroddiad neu wneud argymhelliad o dan adran 9(1)(h), anfon at bob aelod o bwyllgor gwasanaethau democrataidd yr awdurdod gopi o'r adroddiad neu o'r argymhelliad.
(2)Rhaid i bwyllgor gwasanaethau democrataidd ystyried, mewn cyfarfod a gynhelir heb fod yn fwy na thri mis ar ôl i gopïau o'r adroddiad gael eu hanfon gyntaf at aelodau'r pwyllgor, unrhyw adroddiad neu argymhelliad a anfonir at aelodau'r pwyllgor o dan yr adran hon.
(1)Rhaid i bwyllgor gwasanaethau democrataidd ar gyfer awdurdod lleol, cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl iddo lunio adroddiad neu wneud argymhelliad o dan adran 11(1)(c), drefnu bod copi ohono'n cael ei anfon at bob aelod o'r awdurdod nad yw'n aelod o'r pwyllgor.
(2)Rhaid i awdurdod lleol ystyried unrhyw adroddiad neu argymhellion mewn cyfarfod a gynhelir heb fod yn fwy na thri mis ar ôl i gopïau o'r adroddiad neu'r argymhelliad gael eu hanfon gyntaf at aelodau'r awdurdod.
Nid yw swyddogaethau awdurdod lleol o dan adrannau 8(1), 11, 12(1) a (2), 14(1), 15(2)(a) a 19(2) i'w dirprwyo o dan adran 101 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
(1)Diwygir adran 2(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 fel a ganlyn.
(2)Ym mharagraff (f) hepgorer “and”.
(3)Ar ôl “delegated)” ym mharagraff (g) mewnosoder— “; and
(h)the head of democratic services designated under section 8 of the Local Government (Wales) Measure 2011”.
Mae cyfeiriad yn y Rhan hon at aelod o awdurdod lleol yn cynnwys cyfeiriad at aelod gweithrediaeth etholedig (o fewn ystyr adran 39(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000).