xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 6TROSOLWG A CHRAFFU

PENNOD 1PWYLLGORAU TROSOLWG A CHRAFFU

Penodi personau i gadeirio pwyllgorau

66Y ddarpariaeth mewn rheolau sefydlog ynghylch penodi personau i gadeirio pwyllgorau

(1)Rhaid i reolau sefydlog awdurdod lleol wneud darpariaeth (“darpariaeth benodi”) ar gyfer penodi personau sydd i gadeirio pwyllgor neu bwyllgorau trosolwg a chraffu'r awdurdod lleol (“cadeiryddion pwyllgorau”).

(2)Rhaid i'r ddarpariaeth benodi gydymffurfio—

(a)ag adran 67,

(b)ag adran 68, ac

(c)ag adran 69 (ac yn unol â hynny ag adrannau 70 i 73 neu ag adran 74).

(3)Rhaid i ddarpariaeth benodi beidio â rhwystro person rhag cael ei benodi'n gadeirydd pwyllgor oherwydd bod y person—

(a)yn aelod, neu ddim yn aelod, o unrhyw grŵp gwleidyddol, neu

(b)yn aelod, neu ddim yn aelod, o grŵp gwleidyddol penodol.

67Yr adegau pan fo penodiadau i'w gwneud gan bwyllgor

(1)Rhaid i'r ddarpariaeth benodi ddarparu ar gyfer penodi cadeiryddion pwyllgorau yn achosion A i C a nodir yn yr adran hon.

(2)Rhaid i'r ddarpariaeth benodi ddarparu bod cadeirydd y pwyllgor, neu bob cadeirydd pwyllgor, yn yr achosion hynny, i'w benodi gan y pwyllgor y mae'r person hwnnw i'w gadeirio.

(3)Achos pan nad oes grwpiau gwleidyddol ar yr awdurdod yw achos A .

(4)Achos pan nad oes ond un grŵp gwleidyddol ar yr awdurdod yw achos B.

(5)Pan ddigwydd y canlynol ceir achos C—

(a)mae dau grŵp gwleidyddol (ond dim mwy) ar yr awdurdod,

(b)nid oes gan yr awdurdod ond un pwyllgor trosolwg a chraffu, ac

(c)o ran gweithrediaeth yr awdurdod—

(i)mae'n cynnwys aelodau o'r ddau grŵp gwleidyddol, neu

(ii)nid yw'n cynnwys unrhyw aelod o'r naill grŵp gwleidyddol na'r llall.

68Yr adegau pan fo penodiadau i'w gwneud gan grŵp nad yw'n grŵp gweithrediaeth

(1)Rhaid i'r ddarpariaeth benodi ddarparu ar gyfer penodi cadeirydd y pwyllgor yn yr achos a nodir yn yr adran hon.

(2)Rhaid i'r ddarpariaeth benodi ddarparu bod cadeirydd y pwyllgor, yn yr achos hwnnw, i'w benodi gan y grŵp gwleidyddol nad yw'n grŵp gweithrediaeth.

(3)Achos fel a ganlyn yw'r achos hwnnw—

(a)mae dau grŵp gwleidyddol (ond dim mwy) ar yr awdurdod,

(b)nid oes gan yr awdurdod ond un pwyllgor trosolwg a chraffu, ac

(c)o ran gweithrediaeth yr awdurdod—

(i)mae'n cynnwys un aelod neu fwy o un grŵp gwleidyddol, ond

(ii)nid yw'n cynnwys unrhyw aelod o'r grŵp gwleidyddol arall.

(4)Yn yr adran hon ystyr “grŵp gwleidyddol nad yw'n grŵp gweithrediaeth” yw'r grŵp a nodir yn is-adran (3)(c)(ii).

69Sut y mae penodiadau i'w gwneud mewn achosion eraill

(1)Rhaid i'r ddarpariaeth benodi ddarparu ar gyfer penodi cadeiryddion pwyllgor mewn achosion ac eithrio'r rhai a nodir yn adran 67 a 68.

(2)Rhaid i'r ddarpariaeth benodi sy'n gymwys mewn achosion eraill gydymffurfio—

(a)ag adran 70 i 73, neu

(b)ag adran 74.

70Y penodiadau sydd i'w gwneud gan grwpiau gwleidyddol

(1)Mae darpariaeth benodi awdurdod lleol yn cydymffurfio â'r adran hon os yw'n darparu—

(a)ei bod yn ofynnol i'r awdurdod, bob tro y bydd yn amser penodi holl gadeiryddion ei bwyllgorau, i wneud penderfyniad o dan is-adran (2) ar ba grwpiau gwleidyddol ar yr awdurdod sydd â hawl i wneud pa benodiadau, a

(b)i'r grwpiau allu wneud y penodiadau yn unol â hynny.

(2)Penderfyniad sydd, i'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol, yn rhoi effaith i'r egwyddorion a ganlyn yw'r penderfyniad y cyfeirir ato yn is-adran (1).

(3)Yr egwyddor gyntaf yw—

(a)os nad oes ond un grŵp gweithrediaeth, mae cyfran y cadeiryddion pwyllgor y mae gan y grŵp gweithrediaeth hawl i'w penodi yn cyfateb i gyfran yr aelodau o'r awdurdod sydd yn y grŵp;

(b)os oes dau neu ragor o grwpiau gweithrediaeth, mae cyfran y cadeiryddion pwyllgor y mae gan y grwpiau gweithrediaeth (o'u cymryd gyda'i gilydd) hawl i'w penodi, yn cyfateb i gyfran yr aelodau o'r awdurdod sy'n aelodau o'r grwpiau hynny (o'u cymryd gyda'i gilydd).

(4)Yr ail egwyddor yw—

(a)os nad oes ond un grŵp gwrthblaid, mae gan y grŵp hawl i benodi holl ddyraniad yr wrthblaid o gadeiryddion pwyllgor, neu

(b)os oes dau neu ragor o grwpiau gwrthblaid—

(i)mae gan y grwpiau gwrthblaid (o'u cymryd gyda'i gilydd) hawl i benodi holl ddyraniad yr wrthblaid o gadeiryddion pwyllgor, a

(ii)mae cyfran dyraniad yr wrthblaid o gadeiryddion pwyllgor y mae gan bob grŵp gwrthblaid (“grŵp perthnasol”) hawl i'w penodi yn cyfateb i gyfran aelodau'r grŵp gwrthblaid sy'n aelodau o'r grŵp perthnasol.

(5)Wrth roi effaith i'r egwyddorion yn is-adrannau (3)(a) a (b) a (4)(b)(ii), rhaid i'r ddarpariaeth benodi—

(a)darparu bod hawl grŵp gwleidyddol i benodi cadeiryddion pwyllgor yn hawl i benodi nifer cyfan o gadeiryddion pwyllgor, a

(b)yn unol â hynny, ddarparu i'r hawl gael ei thalgrynnu i'r nifer cyfan agosaf os na fyddai fel arall yn nifer cyfan.

(6)Wrth roi effaith i'r egwyddorion yn is-adran (3)(a) a (b), rhaid i'r ddarpariaeth benodi a wneir yn unol ag is-adran (5)(b) ddarparu i hawl y grŵp gweithrediaeth, neu'r grwpiau gweithrediaeth, gael ei thalgrynnu i lawr i'r nifer cyfan agosaf.

(7)At ddibenion is-adrannau (5) a (6), rhaid ystyried sero yn nifer cyfan.

(8)Yn yr adran hon—

71Methu â gwneud penodiadau yn unol ag adran 70

(1)Mae darpariaeth benodi awdurdod lleol yn cydymffurfio â'r adran hon os yw'n darparu—

(a)ei bod yn ofynnol i'r awdurdod, bob tro y bydd yn amser penodi rhai cadeiryddion pwyllgor neu'r holl gadeiryddion pwyllgor (“y cadeiryddion heb eu penodi”) sydd i'w penodi yn unol â darpariaeth benodi sy'n cydymffurfio ag adran 70 ond nad ydynt wedi cael eu penodi felly, wneud penderfyniad o dan is-adran (2) o sut y mae'r cadeiryddion heb eu penodi i gael eu penodi, a

(b)i'r cadeiryddion heb eu penodi gael eu penodi yn unol â hynny.

(2)Penderfyniad sydd, i'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol, yn rhoi effaith i'r egwyddorion a ganlyn yw'r penderfyniad y cyfeirir ato yn is-adran (1).

(3)Yr egwyddor gyntaf yw nad oes hawl gan unrhyw grŵp gweithrediaeth i benodi unrhyw un o'r cadeiryddion heb eu penodi.

(4)Yr ail egwyddor yw—

(a)os nad oes ond un grŵp gwrthblaid, a bod y grŵp hwnnw wedi gwneud ei holl benodiadau cychwynnol, neu

(b)os oes dau neu ragor o grwpiau gwrthblaid, a bod un neu ragor ohonynt wedi gwneud ei holl benodiadau cychwynnol,

mae gan bob grŵp penodi hawl i benodi'r gyfran o gadeiryddion pwyllgor heb eu penodi sy'n cyfateb i gyfran y penodiadau cychwynnol gorffenedig a oedd yn benodiadau a wnaed gan y grŵp hwnnw.

(5)Y drydedd egwyddor yw—

(a)os oes cadeiryddion pwyllgor heb eu penodi, ond

(b)nid oes un ohonynt i gael eu penodi fel y crybwyllir yn is-adran (4),

mae pob cadeirydd pwyllgor heb ei benodi i'w benodi gan y pwyllgor y mae'r person hwnnw i'w gadeirio.

(6)Y bedwaredd egwyddor yw—

(a)os oes un neu ragor o gadeiryddion pwyllgor heb eu penodi i'w penodi fel y crybwyllir yn is-adran (4), ond

(b)mae un neu ragor ohonynt heb eu penodi felly,

mae pob cadeirydd pwyllgor nas penodir felly i'w benodi gan y pwyllgor y mae'r person hwnnw i'w gadeirio.

(7)Yn yr adran hon—

72Newidiadau yng nghyfansoddiad gweithrediaeth

(1)Mae darpariaeth benodi awdurdod lleol yn cydymffurfio â'r adran hon os yw'n darparu ar gyfer yr achos a geir yn is-adran (2) drwy gyfrwng darpariaeth o'r math y cyfeirir ato yn is-adrannau (3) a (4).

(2)Yr achos hwnnw yw pan fo'r naill neu'r llall neu'r naill a'r llall o'r pethau a ganlyn yn digwydd—

(a)mae grŵp gwleidyddol yn peidio â bod yn grŵp gweithrediaeth;

(b)mae grŵp gwleidyddol yn dechrau bod yn grŵp gweithrediaeth;

ac nid yr achos a geir yn adran 70 ydyw.

(3)Rhaid i'r ddarpariaeth benodi ddarparu ar gyfer gwneud—

(a)penderfyniad adran 70 (fel pe byddai wedi dod yn amser penodi holl gadeiryddion pwyllgorau'r awdurdod lleol), a

(b)penderfyniad ynghylch a oes gwahaniaeth rhwng—

(i)nifer y cadeiryddion pwyllgor y byddai gan grŵp gwleidyddol hawl i'w penodi'n unol â phenderfyniad adran 70, a

(ii)nifer y cadeiryddion pwyllgor sy'n dal swyddi ar yr adeg honno ac a benodwyd gan y grŵp hwnnw.

(4)Rhaid i'r ddarpariaeth benodi ddarparu bod unrhyw wahaniaeth o'r math y cyfeirir ato yn is-adran (3)(b) yn cael ei ddileu gan y naill neu'r llall o'r canlynol neu gan y naill a'r llall o'r canlynol—

(a)terfynu penodiadau presennol cadeiryddion pwyllgorau;

(b)penodi cadeiryddion newydd ar gyfer pwyllgorau.

(5)At ddibenion yr adran hon, ystyrir bod grŵp gwleidyddol yn peidio â bod yn grŵp gweithrediaeth dim ond os, ar ôl iddo beidio â bod yn grŵp gweithrediaeth, bod cyfnod o ddau fis (gan ddechrau ar y diwrnod y mae'n peidio â bod yn grŵp gweithrediaeth) yn mynd heibio heb iddo ddod yn grŵp gweithrediaeth eto.

73Swyddi gwag achlysurol ymhlith cadeiryddion pwyllgor

(1)Mae darpariaeth benodi awdurdod lleol yn cydymffurfio â'r adran hon os yw'n darparu ar gyfer yr achos a geir yn is-adran (2) drwy gyfrwng darpariaeth o'r math y cyfeirir ati yn is-adrannau (3) a (4).

(2)Yr achos hwnnw yw—

(a)pan fo'n amser i benodi rhai o gadeiryddion pwyllgor yr awdurdod, ond nid yr holl gadeiryddion, a

(b)nid yr achos a geir yn adran 72 ydyw.

(3)Rhaid i'r ddarpariaeth benodi ddarparu ar gyfer gwneud—

(a)penderfyniad adran 70 (fel pe byddai wedi dod yn amser penodi holl gadeiryddion pwyllgorau'r awdurdod lleol), a

(b)penderfyniad ynghylch a oes gwahaniaeth rhwng—

(i)nifer y cadeiryddion pwyllgor y byddai gan grŵp gwleidyddol hawl i'w penodi'n unol â phenderfyniad adran 70, a

(ii)nifer y cadeiryddion pwyllgor sy'n dal swyddi ar yr adeg honno ac a benodwyd gan y grŵp hwnnw.

(4)Rhaid i'r ddarpariaeth benodi ddarparu bod unrhyw wahaniaeth o'r math y cyfeirir ato yn is-adran (3)(b) yn cael ei ddileu, i'r graddau y mae hynny yn bosibl, gan benodiad y cadeirydd pwyllgor neu'r cadeiryddion pwyllgor.

74Yr awdurdod yn penderfynu ar ddarpariaeth benodi

(1)Mae darpariaeth benodi awdurdod lleol yn cydymffurfio â'r adran hon—

(a)os nad yw'r ddarpariaeth yn llai ffafriol nag adran 70 i grwpiau gwrthblaid, a

(b)os cymeradwyir y ddarpariaeth drwy benderfyniad a wneir gan yr awdurdod lleol ac sy'n benderfyniad y mae iddo gefnogaeth ar draws y grwpiau.

(2)Nid yw darpariaeth benodi'n llai ffafriol nag adran 70 i grwpiau gwrthblaid os yw'n darparu—

(a)bod y cyfle i'w roi i grwpiau gwrthblaid ar yr awdurdod lleol (o'u cymryd gyda'i gilydd) i benodi nifer mwy o gadeiryddion pwyllgor nag yn achos darpariaeth a wneir yn unol ag adran 70, a

(b)bod y cyfle i'w roi i bob grŵp gwrthblaid ar yr awdurdod lleol i benodi'r un nifer o leiaf o gadeiryddion pwyllgor ag a fyddai'n achos darpariaeth a wneir yn unol ag adran 70.

(3)Mae cefnogaeth ar draws y grwpiau i benderfyniad a wneir gan yr awdurdod lleol—

(a)os yw'r personau sy'n pleidleisio o blaid y penderfyniad yn cynnwys aelodau o bob grŵp gwleidyddol ar yr awdurdod, a

(b)os yw pob grŵp gwleidyddol ar yr awdurdod yn rhoi cefnogaeth fwyafrifol i'r penderfyniad.

(4)Mae grŵp gwleidyddol ar yr awdurdod yn rhoi cefnogaeth fwyafrifol i'r penderfyniad os yw nifer aelodau'r grŵp hwnnw sy'n pleidleisio o blaid y penderfyniad yn fwy na nifer aelodau'r grŵp hwnnw sy'n pleidleisio yn erbyn y penderfyniad.

75Darpariaeth atodol a dehongli

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth—

(a)ynghylch darpariaeth benodi, a

(b)ynghylch penodi cadeiryddion pwyllgorau yn unol â darpariaeth benodi.

(2)Rhaid i awdurdod lleol, wrth iddo arfer neu benderfynu ai i arfer swyddogaeth mewn cysylltiad â darpariaeth benodi neu â phenodi cadeiryddion pwyllgorau—

(a)rhoi sylw i ganllawiau a roddwyd gan Weinidogion Cymru, a

(b)cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddwyd gan Weinidogion Cymru.

(3)Yn adrannau 66 i 74 ac yn yr adran hon—

(4)Yn adran 21 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (pwyllgorau trosolwg a chraffu), ar ôl is-adran (10) mewnosoder—

(10A)For provision about the appointment of persons to chair overview and scrutiny committees of local authorities in Wales, see sections 66 to 75 of the Local Government (Wales) Measure 2011..