xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 7CYMUNEDAU A CHYNGHORAU CYMUNED

PENNOD 3CYFETHOL AELODAU O GYNGHORAU CYMUNED

116Gofyniad am hysbysiad cyhoeddus pan fo seddau gwag aelodau cynghorau cymuned i'w llenwi drwy gyfethol

(1)Mae'r adran hon yn gymwys i'r swyddogaethau a ganlyn—

(a)pŵer aelodau cyngor cymuned o dan adran 21(2)(a) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1985 i gyfethol person i lenwi sedd wag yn aelodaeth y cyngor (y pŵer i gyfethol os nad oes digon o enwebiadau i lenwi seddau gwag y cynhelir etholiad mewn cysylltiad â hwy);

(b)unrhyw un neu ragor o bwerau neu ddyletswyddau cyngor cymuned o dan reolau a wnaed o dan adran 36(2) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 i gyfethol person i lenwi sedd wag achlysurol yn aelodaeth y cyngor.

(2)Rhaid peidio ag arfer swyddogaeth y mae'r adran hon yn gymwys iddi onid oes hysbysiad cyhoeddus wedi ei roi am y sedd wag neu'r seddau gwag o dan sylw.

(3)Rhaid i'r hysbysiad cyhoeddus gael ei roi—

(a)yn achos y pŵer i gyfethol y cyfeirir ato yn isadran (1)(a), gan unrhyw un o aelodau'r cyngor cymuned a awdurdodwyd at y diben hwnnw gan fwyafrif o'r aelodau eraill;

(b)yn achos y pŵer neu'r ddyletswydd i gyfethol y cyfeirir atynt yn is-adran (1)(b), gan y cyngor cymuned.

(4)Mae adran 232 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (hysbysiadau cyhoeddus) yn gymwys ar gyfer rhoi hysbysiad cyhoeddus gan aelod o gyngor cymuned o dan is-adran (3)(a) fel y mae'n gymwys i roi hysbysiad cyhoeddus gan gyngor cymuned o dan is-adran (3)(b).

(5)Rhaid i'r hysbysiad cyhoeddus gynnwys—

(a)manylion cyswllt unigolyn y gellir cael gwybodaeth bellach ganddo am y sedd wag neu'r seddau gwag o dan sylw, ac am y broses o ddethol person ar gyfer ei gyfethol;

(b)unrhyw wybodaeth arall—

(i)yn achos hysbysiad o dan isadran (3)(a), y mae aelodau'r cyngor cymuned o'r farn ei bod yn briodol, a

(ii)yn achos hysbysiad o dan isadran (3)(b), y mae'r cyngor cymuned o'r farn ei bod yn briodol, ac

(c)unrhyw wybodaeth arall y mae'n ofynnol ei chynnwys yn yr hysbysiad gan unrhyw reoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru.

117Canllawiau ynghylch rhoi hysbysiad cyhoeddus am gyfethol

(1)Wrth iddynt arfer swyddogaethau o dan is-adrannau (2) i (5) o adran 116, rhaid i aelodau cyngor cymuned a chyngor cymuned roi sylw i ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru.

(2)Mae'r cyfeiriad at swyddogaethau yn is-adran (1) yn cynnwys cyfeiriad at swyddogaethau o dan adran 232 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 mewn perthynas â hysbysiad y mae'n ofynnol ei roi o dan adran 116(2).