Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011

PENNOD 4PENODI CYNRYCHIOLWYR IEUENCTID CYMUNEDOL

118Penodi cynrychiolwyr ieuenctid cymunedol gan gynghorau cymuned

(1)Caiff cyngor cymuned benodi dim mwy na dau unigolyn i weithredu ar unrhyw un adeg fel cynrychiolwyr ieuenctid cymunedol (ond mae hyn yn ddarostyngedig i adran 119).

(2)At ddibenion is-adran (1) unigolyn yw “cynrychiolydd ieuenctid cymunedol”—

(a)sydd dros 15 oed ond heb gyrraedd 26 oed, a

(b)y mae'r cyngor cymuned o'r farn ei fod yn addas i weithredu fel cynrychiolydd cymunedol, sydd i gynrychioli buddiannau'r unigolion hynny sy'n byw, yn gweithio neu'n cael addysg neu hyfforddiant yn ardal y gymuned ac sydd heb gyrraedd 26 oed.

(3)Mae cynrychiolydd ieuenctid i ddal swydd a'i gadael yn unol â thelerau penodi'r cynrychiolydd.

(4)Ond bydd penodiad cynrychiolydd ieuenctid yn dod i ben os bydd y cynrychiolydd yn cyrraedd 26 oed.

119Gofynion hysbysu mewn cysylltiad â phenodi cynrychiolydd ieuenctid

(1)Ni chaniateir i gyngor cymuned benodi unigolyn yn gynrychiolydd ieuenctid cymunedol o dan adran 118 onid yw'r cyngor wedi cydymffurfio â gofynion yr adran hon.

(2)Rhaid i'r cyngor roi hysbysiad cyhoeddus am ei fwriad i benodi cynrychiolydd ieuenctid cymunedol.

(3)Pan fydd adran 232 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 yn gymwys ar gyfer rhoi hysbysiad o dan yr adran hon bydd yn cael effaith yn ddarostyngedig i'r addasiadau a geir yn is-adrannau (4) a (5).

(4)Yr addasiad cyntaf yw bod yr is-baragraffau canlynol yn cael eu rhoi yn lle is-adran (1)(b) o adran 232—

(b)by giving the notice to the head teacher and proprietor of any school any part of whose premises is situated within the area of the community or communities for which the community council is established;

(c)by giving the notice to the principal and governing body of any institution within the further or higher education sector any part of whose premises is situated within the area of the community or communities for which the community council is established; and

(d)in such other manner, if any, as appears to the community council to be desirable for ensuring that as many individuals as possible who may be eligible for appointment as community youth representatives are aware that the council intends to appoint such a representative..

(5)Yr ail addasiad yw bod yr is-adrannau canlynol yn cael eu mewnosod ar ddiwedd adran 232—

(3)Where a term used in paragraph (b) or (c) of subsection (1) is defined by the Education Act 1996, that definition shall apply for the purposes of those paragraphs.

(4)The reference in subsection (1)(c) to the principal or governing body of an institution includes a reference to a person with functions that are similar to those of a principal or governing body..

(6)Rhaid i'r hysbysiad cyhoeddus gynnwys—

(a)manylion cyswllt unigolyn y gellir cael gwybodaeth bellach ganddo am y penodiad ac am y broses o ddethol person ar gyfer ei benodi;

(b)unrhyw wybodaeth arall y mae'r cyngor cymuned o'r farn ei bod yn briodol; ac

(c)unrhyw wybodaeth arall y mae'n ofynnol ei chynnwys yn yr hysbysiad gan unrhyw reoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru.

120Canllawiau ynghylch penodi cynrychiolwyr ieuenctid cymunedol

(1)Wrth iddynt arfer swyddogaethau o dan adrannau 118 a 119, rhaid i gyngor cymuned roi sylw i ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru.

(2)Mae'r cyfeiriad at swyddogaethau yn is-adran (1) yn cynnwys cyfeiriad at swyddogaethau o dan adran 232 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y mae'n gymwys mewn perthynas â hysbysiad y mae'n ofynnol ei roi o dan adran 119(2) o'r Mesur hwn.

121Effaith penodiad yn gynrychiolydd ieuenctid cymunedol

Nid yw cynrychiolydd ieuenctid cymunedol yn aelod o'r cyngor cymuned a benododd y cynrychiolydd, ond caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddarparu fod cynrychiolydd ieuenctid cymunedol i'w drin at ddibenion rhagnodedig yn aelod o'r cyngor a benododd y cynrychiolydd.