xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Diwygiadau Testunol
F1Gair yn Rhn. 8 pennawd wedi ei hepgor (1.4.2014) yn rhinwedd Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (anaw 4), aau. 63(2), 75(3); O.S. 2014/380, ergl. 2
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1Rhn. 8 cymhwyswyd (ynghyd ag addasiadau) (25.1.2016) gan Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 2015 (anaw 6), aau. 25(3)(4), 46(1)
C2Rhn. 8 cymhwyswyd (ynghyd gydag addasiadau) (21.1.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau.142(5), 143, 175(1)(f)(2)
(1)Ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2012 ac ar gyfer pob blwyddyn ariannol ddilynol, caiff y Panel benderfynu ar y materion perthnasol—
(a)y bydd yn ofynnol i awdurdod perthnasol wneud taliad i aelodau o'r awdurdod amdanynt;
(b)yr awdurdodir awdurdod perthnasol i wneud taliad i aelodau o'r awdurdod amdanynt.
(2)Dyma yw materion perthnasol—
(a)materion sy'n ymwneud â busnes swyddogol aelodau o awdurdodau perthnasol;
(b)cyfnodau o absenoldeb teuluol o dan Ran 2.
(3)Wedi iddo arfer y pŵer hwnnw, rhaid i'r Panel osod un o'r canlynol ar gyfer pob mater perthnasol—
(a)y swm y mae'n rhaid i awdurdod perthnasol ei dalu i aelod o'r awdurdod;
(b)yr uchafswm y caiff awdurdod perthnasol ei dalu i aelod o'r awdurdod.
(4)Ar ôl penderfynu'r materion perthnasol y ceir awdurdodi neu ei gwneud yn ofynnol i awdurdod perthnasol wneud taliadau amdanynt o dan is-adran (1) a phennu'r swm neu'r uchafswm ar gyfer pob mater o dan is-adran (3), caiff y Panel benderfynu na chaniateir talu taliadau mewn cysylltiad â mater neu faterion penodol i fwy na chyfran benodedig [F2neu nifer penodedig] o'r aelodau o awdurdod.
(5)Ni chaiff y gyfran a bennir gan y Panel yn unol ag is-adran (4) fod yn fwy na hanner cant y cant oni fydd cydsyniad Gweinidogion Cymru wedi ei sicrhau.
[F3(5A)Ni chaiff y nifer a bennir gan y Panel yn unol ag is-adran (4), a fynegir fel cyfran o gyfanswm aelodau awdurdod, fod yn uwch na phum deg y cant oni chafwyd cydsyniad Gweinidogion Cymru.]
(6)Caiff y Panel osod—
(a)y ganran uchaf neu'r gyfradd uchaf arall y bydd gan awdurdod perthnasol hawl i'w defnyddio i addasu, ar gyfer blwyddyn ariannol, y symiau a oedd ag iddynt effaith ar gyfer y materion perthnasol yn y flwyddyn ariannol flaenorol;
(b)mynegrif y bydd gan awdurdod perthnasol hawl i'w ddefnyddio i addasu, ar gyfer blwyddyn ariannol, y symiau a oedd ag iddynt effaith ar gyfer y materion perthnasol hynny yn y flwyddyn ariannol flaenorol ag y bydd y Panel yn penderfynu.
(7)Caniateir arfer y pwerau o dan is-adran (6) er mwyn—
(a)gosod cyfradd a mynegrif mewn perthynas â'r un mater;
(b)gosod cyfraddau neu fynegrifau gwahanol mewn perthynas â materion gwahanol.
(8)Wrth osod swm o dan is-adran (3), gwneud penderfyniad o dan is-adran (4) neu osod cyfradd neu fynegrif o dan is-adran (6), rhaid i'r Panel ystyried beth yn ei farn ef fydd effaith ariannol debygol gwneud hynny ar awdurdodau perthnasol.
(9)Caiff y Panel wneud penderfyniadau gwahanol o dan is-adran (1), gosod symiau gwahanol o dan is-adran (3), gwneud penderfyniadau gwahanol o dan is-adran (4) neu osod cyfraddau neu fynegrifau gwahanol o dan is-adran (6) mewn perthynas ag awdurdodau o ddisgrifiadau gwahanol neu awdurdodau gwahanol o'r un disgrifiad.
(10)At ddibenion is-adran (2) mae mater yn ymwneud â busnes swyddogol aelod o awdurdod perthnasol os yw'n fater y mae aelod yn ymgymryd ag ef—
(a)fel aelod o awdurdod perthnasol, neu
(b)fel aelod o gorff y penodir yr aelod yn aelod ohono gan yr awdurdod perthnasol neu gan grŵp o gyrff sy'n cynnwys yr awdurdod perthnasol, neu yn sgil cael ei enwebu gan yr awdurdod perthnasol neu gan grŵp o gyrff sy'n cynnwys yr awdurdod perthnasol.
Diwygiadau Testunol
F2Geiriau yn a. 142(4) wedi eu mewnosod (30.9.2013) gan Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (anaw 4), aau. 62(a), 75(2)(d)
F3A. 142(5A) wedi ei fewnosod (30.9.2013) gan Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (anaw 4), aau. 62(b), 75(2)(d)
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C3A. 142 modified (3.12.2021) by Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/1349), rhlau. 1(2), 4(1)(a)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 142 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)
I2A. 142 mewn grym ar 31.8.2011 at ddibenion penodedig gan O.S. 2011/2011, ergl. 2(c)
I3A. 142 mewn grym ar 30.4.2012 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2012/1187, ergl. 2(2)(a)
(1)Mae'r adran hon yn gymwys mewn perthynas ag aelodau o awdurdodau perthnasol—
(a)nad ydynt yn aelodau cyfetholedig, a
(b)a chanddynt am y tro hawl i fod yn aelodau o gynllun pensiwn yn unol â rheoliadau o dan adran 7 o Ddeddf Blwydd-daliadau 1972 (cynlluniau pensiwn llywodraeth leol).
(2)Caiff y Panel benderfynu ar y disgrifiadau o aelodau y bydd yn ofynnol i awdurdod perthnasol dalu pensiwn (“pensiwn perthnasol”) iddynt neu mewn cysylltiad â hwy.
(3)Caiff y Panel benderfynu ar y materion perthnasol y bydd yn ofynnol i awdurdod perthnasol dalu pensiwn perthnasol mewn cysylltiad â hwy.
(4)Caiff y Panel wneud penderfyniadau gwahanol mewn perthynas ag awdurdodau o ddisgrifiadau gwahanol neu awdurdodau gwahanol o'r un disgrifiad.
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C4A. 143(1)(b)(3) wedi ei eithrio (21.1.2021 at ddibenion penodedig, 1.4.2021 mewn grym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), a. 175(1)(f)(2)(7), Atod. 12 para. 1(7); O.S. 2021/297, ergl. 2(j)
Gwybodaeth Cychwyn
I4A. 143 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)
I5A. 143 mewn grym ar 31.8.2011 at ddibenion penodedig gan O.S. 2011/2011, ergl. 2(d)
I6A. 143 mewn grym ar 30.4.2012 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2012/1187, ergl. 2(2)(a)
(1)Caiff y Panel wneud argymhellion i awdurdod perthnasol cymwys am—
(a)unrhyw bolisi yn natganiad yr awdurdod ar bolisïau tâl sy’n ymwneud â [F5chydnabyddiaeth ariannol] [F6prif weithredwr] yr awdurdod;
(b)unrhyw newid arfaethedig i [F5gydnabyddiaeth ariannol] [F7prif weithredwr] yr awdurdod.
(2)Rhaid i awdurdod perthnasol cymwys roi sylw i unrhyw argymhelliad a gaiff oddi wrth y Panel wrth iddo gyflawni ei swyddogaethau o dan adran 38 neu 39 o Ddeddf Lleoliaeth 2011 (p.20).
(3)Rhaid i awdurdod perthnasol cymwys, cyn iddo newid [F8cydnabyddiaeth ariannol] [F9ei brif weithredwr] mewn modd nad yw’n gymesur â newid i [F10gydnabyddiaeth ariannol] staff arall yr awdurdod—
(a)ymgynghori â’r Panel am y newid arfaethedig, a
(b)rhoi sylw i unrhyw argymhelliad a gaiff oddi wrth y Panel wrth iddo benderfynu p’un ai i fynd rhagddo i wneud y newid ai peidio.
[F11(3A)Ond caiff awdurdod perthnasol cymwys sydd wedi ymgynghori â’r Panel ynghylch gostyngiad arfaethedig mewn [F12cydnabyddiaeth ariannol] wneud y gostyngiad cyn derbyn argymhelliad gan y Panel os nad yw’r contract y mae’r [F12cydnabyddiaeth ariannol] yn [F13cael ei darparu] oddi tano yn atal yr awdurdod rhag newid y [F12cydnabyddiaeth ariannol] ar ôl derbyn argymhelliad.
(3B)Pan fo awdurdod perthnasol cymwys yn newid [F14cydnabyddiaeth ariannol] ei [F15brif weithredwr] yn unol ag is-adran (3A) ac yn derbyn argymhelliad gan y Panel ynghylch y newid wedi hynny—
(a)rhaid iddo ailystyried y [F14cydnabyddiaeth ariannol] , a
(b)wrth wneud hynny, rhaid iddo roi sylw i’r argymhelliad.]
(4)Rhaid i awdurdod perthnasol cymwys roi unrhyw wybodaeth i’r Panel y mae’n rhesymol i’r Panel ei gwneud yn ofynnol iddi gael ei rhoi iddo mewn cysylltiad ag arfer ei swyddogaethau o dan yr adran hon.
[F16(4A)Rhaid i’r Panel hysbysu Gweinidogion Cymru am bob argymhelliad y mae’n ei wneud o dan yr adran hon.]
(5)Caiff y Panel gyhoeddi unrhyw argymhellion y mae yn eu gwneud o dan yr adran hon.
[F17(5A)Rhaid i awdurdod perthnasol cymwys—
(a)hysbysu’r Panel a Gweinidogion Cymru am ei ymateb i argymhelliad a wnaed gan y Panel ynghylch newid i [F18gydnabyddiaeth ariannol] ei [F19brif weithredwr] cyn diwedd y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r awdurdod yn penderfynu ar yr ymateb, a
(b)peidio â newid y [F18cydnabyddiaeth ariannol] cyn—
(i)diwedd y cyfnod o wyth wythnos sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r awdurdod yn hysbysu Gweinidogion Cymru o dan baragraff (a), neu
(ii)os yw Gweinidogion Cymru, cyn diwedd y cyfnod hwnnw, yn hysbysu’r awdurdod na fyddant yn rhoi cyfarwyddyd i’r awdurdod o dan is-adran (5B), y diwrnod y derbynnir yr hysbysiad hwnnw.
(5B)Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bod ymateb awdurdod perthnasol cymwys i argymhelliad a wnaed gan y Panel ynghylch newid i [F20gydnabyddiaeth ariannol] yn golygu y bydd yr awdurdod yn [F21darparu] (neu, o dan is-adran (3A), ei fod yn [F21darparu] ) [F20cydnabyddiaeth ariannol] sy’n anghyson â’r argymhelliad, caiff Gweinidogion Cymru—
(a)cyfarwyddo’r awdurdod i ailystyried y [F20cydnabyddiaeth ariannol] , a
(b)pennu yn y cyfarwyddyd erbyn pryd y mae’n rhaid i’r awdurdod wneud hynny.]
[F22(5C)Os yw Gweinidogion Cymru yn rhoi cyfarwyddyd o dan is-adran (5B) i awdurdod perthnasol cymwys—
(a)nid yw’r swyddogaeth o ailystyried y gydnabyddiaeth ariannol i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth yr awdurdod o dan drefniadau gweithrediaeth (o fewn ystyr adran 10 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000);
(b)mae maer etholedig (o fewn ystyr adran 39(1) o’r Ddeddf honno) i’w drin fel pe bai’n aelod o’r awdurdod at ddibenion y swyddogaeth honno, ac
(c)nid yw adran 101 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau gan awdurdodau lleol) yn gymwys i’r swyddogaeth honno.]
(6)Rhaid i’r Panel roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru wrth iddo arfer ei swyddogaethau o dan yr adran hon.
(7)Yn yr adran hon—
ystyr “awdurdod perthnasol cymwys” (“qualifying relevant authority”) yw awdurdod perthnasol (yn ystyr y Rhan hon) y mae’n ofynnol iddo lunio datganiad ar bolisïau tâl;
[F23“mae i “cydnabyddiaeth ariannol” yr ystyr a roddir i “remuneration” yn adran 43 o Ddeddf Lleoliaeth 2011;]
F24...
ystyr “datganiad ar bolisïau tâl” (“pay policy statement”) yw datganiad ar bolisïau tâl a lunnir gan awdurdod perthnasol (yn ystyr adran 43(1) o Ddeddf Lleoliaeth 2011) o dan adran 38 o’r Ddeddf honno;
[F25“ystyr “prif weithredwr” (“chief executive”) yw prif weithredwr a benodir o dan adran 54 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021;]
F26...
Diwygiadau Testunol
F4A. 143A pennawd wedi ei amnewid (5.5.2022) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), a. 175(7), Atod. 5 para. 15(f); O.S. 2021/231, ergl. 6(s)
F5Gair yn a. 143A(1) wedi ei amnewid (20.3.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 55(2), 175(3)(i)
F6Geiriau yn a. 143A(1)(a) wedi eu hamnewid (5.5.2022) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), a. 175(7), Atod. 5 para. 15(a); O.S. 2021/231, ergl. 6(s)
F7Geiriau yn a. 143A(1)(b) wedi eu hamnewid (5.5.2022) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), a. 175(7), Atod. 5 para. 15(a); O.S. 2021/231, ergl. 6(s)
F8Gair yn a. 143A(3) wedi ei amnewid (20.3.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 55(2), 175(3)(i)
F9Geiriau yn a. 143A(3) wedi eu hamnewid (5.5.2022) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), a. 175(7), Atod. 5 para. 15(b); O.S. 2021/231, ergl. 6(s)
F10Gair yn a. 143A(3) wedi ei amnewid (20.3.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 55(3), 175(3)(i)
F11A. 143A(3A)(3B) wedi ei fewnosod (25.1.2016) gan Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 2015 (anaw 6), aau. 40(2), 46(1)
F12Gair yn a. 143A(3A) wedi ei amnewid (20.3.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 55(2), 175(3)(i)
F13Gair yn a. 143A(3A) wedi ei amnewid (20.3.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 55(4), 175(3)(i)
F14Gair yn a. 143A(3B) wedi ei amnewid (20.3.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 55(2), 175(3)(i)
F15Geiriau yn a. 143A(3B) wedi eu hamnewid (5.5.2022) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), a. 175(7), Atod. 5 para. 15(c); O.S. 2021/231, ergl. 6(s)
F16A. 143A(4A) wedi ei fewnosod (25.1.2016) gan Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 2015 (anaw 6), aau. 40(3), 46(1)
F17A. 143A(5A)(5B) wedi ei fewnosod (25.1.2016) gan Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 2015 (anaw 6), aau. 40(4), 46(1)
F18Gair yn a. 143A(5A) wedi ei amnewid (20.3.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 55(2), 175(3)(i)
F19Geiriau yn a. 143A(5A)(a) wedi eu hamnewid (5.5.2022) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), a. 175(7), Atod. 5 para. 15(d); O.S. 2021/231, ergl. 6(s)
F20Gair yn a. 143A(5B) wedi ei amnewid (20.3.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 55(2), 175(3)(i)
F21Gair yn a. 143A(5B) wedi ei amnewid (20.3.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 55(5), 175(3)(i)
F22A. 143A(5C) wedi ei fewnosod (5.5.2022) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 56, 175(7); O.S. 2021/231, ergl. 6(i)
F23Geiriau yn a. 143A(7) wedi eu mewnosod (20.3.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 55(6)(b), 175(3)(i)
F24Gair yn a. 143A(7) wedi ei hepgor (20.3.2021) yn rhinwedd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 55(6)(a), 175(3)(i)
F25Geiriau yn a. 143A(7) wedi eu mewnosod (5.5.2022) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), a. 175(7), Atod. 5 para. 15(e)(ii); O.S. 2021/231, ergl. 6(s)
F26Geiriau yn a. 143A(7) wedi eu hepgor (5.5.2022) yn rhinwedd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), a. 175(7), Atod. 5 para. 15(e)(i); O.S. 2021/231, ergl. 6(s)
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C5A. 143A cymhwyswyd (21.1.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 145(6), 175(1)(f)(2)
C6A. 143A modified (3.12.2021) by Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/1349), rhlau. 1(2), 4(2)
C7A. 143A(1)(b)(3) wedi ei eithrio (amodol) (26.11.2015) gan Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 2015 (anaw 6), aau. 29(7)(8), 46(2)
(1)Mae'r adran hon yn gymwys at ddibenion y Rhan hon.
(2)Mae awdurdod yn “awdurdod perthnasol” os daw o fewn un o'r disgrifiadau a ganlyn—
(a)awdurdod lleol;
(b)cyngor cymuned;
(c)awdurdod Parc Cenedlaethol (a sefydlwyd o dan adran 63 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995) ar gyfer Parc Cenedlaethol yng Nghymru;
(d)awdurdod tân ac achub Cymreig, sef awdurdod yng Nghymru a sefydlwyd gan gynllun o dan adran 2 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 neu gynllun y mae adran 4 o'r Ddeddf honno yn gymwys iddo.
F27(da). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
[F28(db)cyd-bwyllgor corfforedig;]
[F29(e)corff a bennir yn awdurdod perthnasol mewn gorchymyn a wnaed gan Weinidogion Cymru.]
(3)Mae cyfeiriad at ddisgrifiad o awdurdod perthnasol i'w ddarllen gydag is-adran (2).
(4)Mae “aelod”, mewn perthynas ag awdurdod perthnasol, yn cynnwys—
(a)maer etholedig i'r awdurdod (o fewn ystyr 39(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000),
(b)aelod gweithrediaeth etholedig o'r awdurdod (o fewn ystyr adran 39(4) o'r Ddeddf honno), F30...
(c)aelod cyfetholedig o'r awdurdod.[F31, a
(d)person sy’n aelod o is-bwyllgor i gyd-bwyllgor corfforedig a chanddo hawl i bleidleisio ar unrhyw gwestiwn sydd i’w benderfynu gan yr is-bwyllgor hwnnw;]
(5)Ystyr “aelod cyfetholedig”, mewn perthynas ag awdurdod perthnasol [F32heblaw cyd-bwyllgor corfforedig] , yw person nad yw'n aelod o'r awdurdod (ac eithrio yn rhinwedd is-adran (4)) ond—
(a)sy'n aelod o bwyllgor neu is-bwyllgor i'r awdurdod neu sy'n aelod o gyd-bwyllgor neu gyd-is-bwyllgor i'r awdurdod ac sy'n cynrychioli'r awdurdod ar y cyd-bwyllgor neu'r cyd-is-bwyllgor hwnnw, a
(b)a chanddo hawl i bleidleisio ar gwestiynau sydd i'w penderfynu yng nghyfarfodydd y pwyllgor neu'r is-bwyllgor hwnnw.
[F33(6)Ni chaniateir i gorff gael ei bennu yn awdurdod perthnasol oni bai—
(a)bod Gweinidogion Cymru yn arfer swyddogaethau mewn cysylltiad ag ef,
(b)ei fod yn arfer swyddogaethau perthnasol, ac
(c)bod ei aelodaeth yn cynnwys o leiaf un aelod o awdurdod a ddisgrifir yn is-adran (2)(a) i (d).
(7)“Swyddogaeth berthnasol” yw—
(a)swyddogaeth a roddir gan un o Ddeddfau neu Fesurau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, neu
(b)swyddogaeth y gellid ei rhoi gan un o Ddeddfau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
(8)Nid yw adrannau 142(4), 143, 147(3)(b) a 155 yn gymwys mewn perthynas â’r awdurdod perthnasol a ddisgrifir yn is-adran [F34(2)(db) neu (e)] .]
Diwygiadau Testunol
F27A. 144(2)(da) wedi ei hepgor (21.1.2021) yn rhinwedd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), a. 175(1)(e), Atod. 9 para. 45
F28A. 144(2)(db) wedi ei fewnosod (3.12.2021) gan Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/1349), rhlau. 1(2), 4(1)(c)(i)
F29A. 144(2)(e) wedi ei fewnosod (30.9.2013) gan Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (anaw 4), aau. 64(a), 75(2)(d)
F30Gair yn a. 144(4) wedi ei hepgor (3.12.2021) yn rhinwedd Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/1349), rhlau. 1(2), 4(1)(c)(ii)
F31A. 144(4)(d) ac gair wedi ei fewnosod (3.12.2021) gan Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/1349), rhlau. 1(2), 4(1)(c)(iii)
F32Geiriau yn a. 144(5) wedi eu mewnosod (3.12.2021) gan Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/1349), rhlau. 1(2), 4(1)(c)(iv)
F33A. 144(6)-(8) wedi ei fewnosod (30.9.2013) gan Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (anaw 4), aau. 64(b), 75(2)(d)
F34Geiriau yn a. 144(8) wedi eu hamnewid (3.12.2021) gan Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/1349), rhlau. 1(2), 4(1)(c)(v)
Gwybodaeth Cychwyn
I7A. 144 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)