Search Legislation

Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011

Statws

This is the original version (as it was originally enacted).

PENNOD 2CYFUNO

162Pŵer i wneud gorchymyn cyfuno

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, os ydynt wedi eu bodloni ei bod yn angenrheidiol er mwyn sicrhau llywodraeth leol effeithol, wneud gorchymyn (“gorchymyn cyfuno”) i gyfansoddi ardal llywodraeth leol newydd drwy gyfuno dwy neu dair ardal llywodraeth leol.

(2)Cyn gwneud gorchymyn cyfuno, rhaid i Weinidogion Cymru gael eu bodloni na fyddai'n debyg y câi llywodraeth leol effeithiol ei sicrhau mewn ardal llywodraeth leol sydd i'w chyfuno gan y gorchymyn—

(a)drwy i unrhyw rai o'r awdurdodau lleol o dan sylw arfer eu pwerau o dan adran 9 (Pwerau cydlafurio etc) o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009, neu

(b)drwy i Weinidogion Cymru arfer eu pwerau o dan—

(i)adran 28 (Gweinidogion Cymru: cymorth i awdurdodau gwella Cymreig),

(ii)adran 29 (Gweinidogion Cymru: pwerau cyfarwyddo etc),

(iii)adran 30 (Pwerau cyfarwyddo: trefniadau cydlafurio), neu

(iv)adran 31 (Pŵer Gweinidogion Cymru i addasu deddfiadau a rhoi pwerau newydd)

o'r Mesur hwnnw.

(3)Rhaid i orchymyn cyfuno ddarparu ar gyfer y canlynol—

(a)a fydd yr ardal llywodraeth leol newydd yn sir ynteu'n fwrdeistref sirol,

(b)enw Cymraeg ac enw Saesneg yr ardal llywodraeth leol newydd,

(c)sefydlu awdurdod lleol ar gyfer yr ardal llywodraeth leol newydd,

(d)a fydd yr awdurdod lleol newydd yn gyngor sir ynteu'n gyngor bwrdeistref sirol,

(e)enw Cymraeg ac enw Saesneg yr awdurdod lleol newydd,

(f)diddymu'r ardaloedd llywodraeth leol presennol,

(g)ffin yr ardal llywodraeth leol newydd, ac

(h)dirwyn i ben a diddymu'r awdurdodau lleol ar gyfer yr ardaloedd llywodraeth leol presennol.

(4)Os sir fydd yr ardal llywodraeth leol newydd, rhaid i'r gorchymyn cyfuno ddarparu i'r awdurdod lleol newydd gael enw'r sir gan ychwanegu—

(a)yn achos ei enw Saesneg, y geiriau “County Council” neu'r gair “Council” (megis yn “Pembrokeshire County Council” neu “Pembrokeshire Council”); a

(b)yn achos ei enw Cymraeg, y gair “Cyngor” (megis yn “Cyngor Sir Penfro”).

(5)Os bwrdeistref sirol fydd yr ardal llywodraeth leol newydd, rhaid i'r gorchymyn cyfuno ddarparu i'r awdurdod lleol newydd gael enw'r fwrdeistref sirol gan ychwanegu—

(a)yn achos ei enw Saesneg, y geiriau “County Borough Council” neu'r gair “Council” (megis yn “Caerphilly County Borough Council” neu “Caerphilly Council”); a

(b)yn achos ei enw Cymraeg, y geiriau “Cyngor Bwrdeistref Sirol” neu'r gair “Cyngor” (megis yn “Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili” neu “Cyngor Caerffili”).

163Materion etholiadol

(1)Mae'r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud mewn gorchymyn cyfuno yn cynnwys darpariaeth ar gyfer neu mewn cysylltiad ag unrhyw un o'r materion canlynol (ond nid yw wedi ei chyfyngu i'r cyfryw ddarpariaeth)—

(a)cyfanswm yr aelodau o unrhyw awdurdod lleol (“cynghorwyr”);

(b)nifer yr ardaloedd etholiadol a'u ffiniau at ddibenion ethol cynghorwyr;

(c)nifer y cynghorwyr sydd i'w hethol yn ffurfiol gan unrhyw ardal etholiadol;

(d)enw unrhyw ardal etholiadol;

(e)ethol cynghorwyr ar gyfer unrhyw ardaloedd etholiadol;

(f)diddymu etholiadau cynghorwyr ar gyfer unrhyw ardal etholiadol;

(g)ethol cynghorwyr cymunedol ar gyfer unrhyw gymuned;

(h)diddymu etholiadau cynghorau cymuned;

(i)ethol maer awdurdod lleol;

(j)penodi aelodau o awdurdod lleol presennol gan Weinidogion Cymru i fod yn aelodau o awdurdod cysgodol am gyfnod cysgodol;

(k)penodi am gyfnod cysgodol weithrediaeth i'r awdurdod cysgodol;

(l)swyddogaethau awdurdod cysgodol, a chyflawni'r swyddogaethau hynny, yn ystod cyfnod cysgodol.

164Gofyniad i gynnal refferendwm sy'n cynnwys maer etholedig

(1)Pan fo un neu ragor o'r awdurdodau lleol presennol yn gweithredu gweithrediaeth maer a chabinet, rhaid i'r gorchymyn cyfuno ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod cysgodol gynnal refferendwm ynghylch a ddylai'r awdurdod lleol newydd weithredu gweithrediaeth maer a chabinet.

(2)Pan fo is-adran (1) yn gymwys, mae'r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud mewn gorchymyn cyfuno'n cynnwys darpariaeth (ond nid yw wedi ei chyfyngu i ddarpariaeth)—

(a)o ran y dyddiad, neu'r amser erbyn pryd, y mae'n rhaid cynnal refferendwm;

(b)o ran y camau gweithredu y caniateir eu cymryd, neu na chaniateir eu cymryd, neu y mae'n rhaid eu cymryd gan awdurdod cysgodol o flaen refferendwm neu mewn cysylltiad ag ef;

(c)o ran y camau gweithredu y caniateir eu cymryd, neu na chaniateir eu cymryd, neu y mae'n rhaid eu cymryd gan awdurdod cysgodol ar ôl refferendwm;

(d)i alluogi Gweinidogion Cymru neu mewn cysylltiad â'u galluogi, os bydd unrhyw fethiant gan yr awdurdod cysgodol i gymryd unrhyw gamau gweithredu a ganiateir neu sy'n ofynnol yn rhinwedd y gorchymyn, i gymryd y camau gweithredu hynny.

(3)Mae'r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud yn rhinwedd is-adran (2) yn cynnwys darpariaeth sy'n cymhwyso neu'n atgynhyrchu (gydag addasiadau neu hebddynt) unrhyw ddarpariaethau yn adran 25, 27, 28, 29 neu 33 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 neu Ran 4 o'r Mesur hwn.

165Pŵer i gyfarwyddo refferendwm sy'n cynnwys maer etholedig

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth i'w galluogi neu mewn cysylltiad â'u galluogi, o dan unrhyw amgylchiadau a ragnodir yn y rheoliadau, i gyfarwyddo awdurdod cysgodol i gynnal refferendwm ynghylch a ddylai'r awdurdod lleol newydd weithredu gweithrediaeth maer a chabinet.

(2)Mae'r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud drwy reoliadau o dan yr adran hon yn cynnwys darpariaeth (ond nid yw wedi ei chyfyngu i ddarpariaeth)—

(a)ynghylch y dyddiad, neu'r amser erbyn pryd, y mae'n rhaid cynnal refferendwm;

(b)o ran y camau gweithredu y caniateir eu cymryd, neu na chaniateir eu cymryd, neu y mae'n rhaid eu cymryd gan awdurdod cysgodol o flaen refferendwm neu mewn cysylltiad ag ef;

(c)o ran y camau gweithredu y caniateir eu cymryd, neu na chaniateir eu cymryd, neu y mae'n rhaid eu cymryd gan awdurdod cysgodol ar ôl refferendwm;

(d)i alluogi Gweinidogion Cymru neu mewn cysylltiad â'u galluogi, os bydd unrhyw fethiant gan yr awdurdod cysgodol i gymryd unrhyw gamau gweithredu a ganiateir neu sy'n ofynnol yn rhinwedd y rheoliadau, i gymryd y camau gweithredu hynny.

(3)Mae'r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud yn rhinwedd is-adran (2) yn cynnwys darpariaeth sy'n cymhwyso neu'n atgynhyrchu (gydag addasiadau neu hebddynt) unrhyw ddarpariaethau yn adran 25, 27, 28, 29 neu 33 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 neu Ran 4 o'r Mesur hwn.

166Darpariaeth atodol, gysylltiedig, ganlyniadol, drosiannol a darpariaeth arbed

(1)Mae'r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud mewn gorchymyn cyfuno yn cynnwys darpariaeth atodol, cysylltiedig, trosiannol a darpariaeth arbed (ond nid yw wedi ei chyfyngu i'r cyfryw ddarpariaeth).

(2)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau sy'n gymwys yn gyffredinol wneud darpariaeth atodol, gysylltiedig, ganlyniadol, drosiannol a darpariaeth arbed—

(a)at ddibenion gorchmynion cyfuno neu o ganlyniad iddynt; neu

(b)i roi effaith lawn i orchmynion cyfuno.

(3)Mae rheoliadau o dan is-adran (2) yn cael effaith yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth a gynhwysir mewn gorchymyn cyfuno.

(4)Yn yr adran hon, mae cyfeiriadau at ddarpariaeth atodol, gysylltiedig, ganlyniadol, drosiannol neu ddarpariaeth arbed yn cynnwys darpariaeth (ond nid ydynt wedi eu cyfyngu i ddarpariaeth)—

(a)ar gyfer trosglwyddo eiddo, hawliau neu rwymedigaethau o awdurdod lleol presennol i awdurdod lleol newydd;

(b)i achos cyfreithiol a gychwynnir gan neu yn erbyn awdurdod lleol presennol gael ei barhau gan neu yn erbyn awdurdod lleol newydd;

(c)ar gyfer trosglwyddo staff, iawndal am golli swydd, neu mewn perthynas â phensiynau a materion staffio eraill;

(d)ar gyfer trin awdurdod lleol newydd at rai dibenion neu at bob diben fel yr un person mewn cyfraith ag awdurdod lleol presennol;

(e)mewn perthynas â rheolaeth neu gadwraeth ar eiddo (tirol neu bersonol) a drosglwyddir;

(f)sy'n cyfateb i unrhyw ddarpariaeth y gellid ei chynnwys mewn cytundeb o dan adran 68 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (cytundebau trosiannol o ran eiddo a chyllid)

(5)Mae'r hawliau a'r rhwymedigaethau y caniateir eu trosglwyddo'n unol â gorchymyn o dan yr adran hon yn cynnwys hawliau a rhwymedigaethau mewn perthynas â chontract cyflogi.

(6)Mae Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 2006 (OS 2006/246) yn gymwys i drosglwyddiad a wneir yn unol â gorchymyn o dan yr adran hon (p'un a yw'r trosglwyddiad yn drosglwyddiad perthnasol at ddibenion y rheoliadau hynny ai peidio).

(7)Yn is-adran (1), mae'r cyfeiriad at ddarpariaeth atodol, gysylltiedig, ganlyniadol, drosiannol neu ddarpariaeth arbed hefyd yn cynnwys darpariaeth (ond nid yw wedi ei chyfyngu i ddarpariaeth) mewn cysylltiad â'r canlynol—

(a)sefydlu cyrff cyhoeddus neu aelodaeth o'r cyfryw gyrff mewn unrhyw ardal yr effeithir arni gan y gorchymyn cyfuno ac ethol neu benodi aelodau'r cyfryw gyrff;

(b)diddymu neu sefydlu, neu gyfyngu neu estyn, awdurdodaeth unrhyw gorff cyhoeddus mewn neu dros unrhyw ran o unrhyw ardal yr effeithir arni gan y gorchymyn cyfuno.

(8)Caiff darpariaeth atodol, gysylltiedig, ganlyniadol, drosiannol neu ddarpariaeth arbed mewn gorchymyn cyfuno neu mewn rheoliadau o dan yr adran hon fod ar ffurf darpariaeth—

(a)sy'n addasu, sy'n eithrio neu sy'n cymhwyso (gydag addasiadau neu hebddynt) unrhyw ddeddfiad; neu

(b)sy'n diddymu neu'n dirymu unrhyw ddeddfiad (gydag arbedion neu hebddynt).

167Adolygu trefniadau etholiadol

(1)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo Comisiwn Cymru i ymgymryd ag adolygiad o'r trefniadau etholiadol ar gyfer ardal llywodraeth leol newydd.

(2)Caiff Comisiwn Cymru o ganlyniad i'r cyfryw adolygiad gyflwyno argymhellion i Weinidogion Cymru ar gyfer gwneud newidiadau i'r trefniadau etholiadol sy'n ymddangos i Gomisiwn Cymru yn ddymunol er mwyn cael llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.

(3)Wrth bwyso a mesur y trefniadau etholiadol ar gyfer ardal llywodraeth leol newydd at ddibenion yr adran hon, rhaid i Gomisiwn Cymru i'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol gydymffurfio â'r rheolau a nodir yn Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

(4)At ddibenion yr adran hon mae i “trefniadau etholiadol” yr un ystyr ag “electoral arrangements” yn adran 78 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

168Diwygiadau i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972

(1)Diwygir Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel a ganlyn.

(2)Yn adran 58 (adroddiadau'r Comisiwn a'u gweithredu), yn is-adran (1)(b) ar ôl “section 57 above” mewnosoder “or in accordance with a direction under section 167 of the Local Government (Wales) Measure 2011”.

(3)Yn adran 59 (cyfarwyddiadau ynghylch adolygiadau), yn is-adran (1) ar ôl “57 above” mewnosoder “or in accordance with a direction under section 167 of the Local Government (Wales) Measure 2011”.

(4)Yn adran 60 (y weithdrefn ar gyfer adolygiadau), yn is-adran (1) ar ôl “this Act” mewnosoder “or in accordance with a direction under section 167 of the Local Government (Wales) Measure 2011”.

(5)Yn adran 68 (cytundebau trosiannol o ran eiddo a chyllid), yn is-adran (1) ar ôl “this Act” mewnosoder “or by an order under section 162 of the Local Government (Wales) Measure 2011”.

169Y weithdrefn sy'n gymwys i orchymyn cyfuno

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru gydymffurfio â'r adran hon cyn gwneud gorchymyn cyfuno i roi effaith i gynigion i gyfansoddi ardal llywodraeth leol newydd drwy gyfuno dwy neu dair o ardaloedd llywodraeth leol presennol (“y cynigion”).

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag—

(a)yr awdurdodau lleol ar gyfer yr ardaloedd llywodraeth leol yr effeithir arnynt gan y cynigion,

(b)y cynghhorau cymuned yn yr ardaloedd llywodraeth leol yr effeithir arnynt gan y cynigion, ac

(c)unrhyw bersonau eraill (os oes rhai) y mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn debygol yr effeithir arnynt gan y cynigion.

(3)Os bydd Gweinidogion Cymru, yn dilyn yr ymgynghori hwnnw, yn dymuno bwrw ymlaen â'r cynigion, rhaid iddynt osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ddogfen sydd—

(a)yn esbonio'r cynigion,

(b)yn eu nodi ar ffurf gorchymyn drafft, ac

(c)yn rhoi manylion yr ymgynghori o dan is-adran (2).

(4)Ni chaniateir i unrhyw ddrafft o orchymyn cyfuno i roi effaith i'r cynigion (“y gorchymyn drafft terfynol”) gael ei osod gerbron y Cynulliad yn unol ag adran 172(2)(b) tan ar ôl i'r cyfnod o 60 niwrnod, sy'n dechrau ar y diwrnod y cafodd y ddogfen ynglŷn â'r cynigion ei gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan is-adran (3), ddirwyn i ben.

(5)Wrth gyfrifo'r cyfnod a grybwyllwyd yn is-adran (4) rhaid peidio ag ystyried unrhyw amser pryd y bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi'i ddiddymu neu wedi cymryd saib am fwy na phedwar diwrnod.

(6)Wrth baratoi'r gorchymyn drafft terfynol, rhaid i Weinidogion Cymru ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y cyfnod a grybwyllwyd yn is-adran (4).

(7)Os caiff y gorchymyn drafft terfynol ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 172(2)(b), rhaid bod gyda'r gorchymyn ddatganiad gan Weinidogion Cymru sy'n rhoi manylion—

(a)unrhyw sylwadau a ystyriwyd yn unol ag is-adran (6), a

(b)unrhyw newidiadau a wnaed i'r cynigion a oedd wedi eu cynnwys yn y ddogfen a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan is-adran (3) ac y mae effaith wedi ei rhoi iddynt yn y gorchymyn drafft terfynol.

(8)Nid oes dim yn yr adran hon sy'n gymwys i orchymyn o dan adran 162 sydd wedi ei wneud yn unswydd at y diben o ddiwygio gorchymyn cynharach o dan yr adran honno.

170Cywiro gorchmynion

(1)Pan fo—

(a)gwall mewn gorchymyn cyfuno, a

(b)ni ellir ei gywiro drwy orchymyn dilynol a wneir o dan adran 162, caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, gywiro'r gwall.

(2)At ddibenion yr adran hon, mae “gwall” mewn gorchymyn yn cynnwys darpariaeth sydd wedi ei chynnwys yn y gorchymyn neu wedi ei hepgor ohono drwy ddibynnu ar wybodaeth anghywir neu anghyflawn a ddarparwyd gan gyngor cymuned neu unrhyw gorff cyhoeddus arall.

171Dehongli'r Bennod hon

Yn y Pennod hon—

  • mae “aelod o awdurdod lleol” (“member of a local authority”) yn cynnwys maer etholedig (o fewn ystyr adran 39(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000) neu aelod gweithredol etholedig (o fewn ystyr adran 39(4) o'r Ddeddf honno) o'r awdurdod;

  • ystyr “ardal etholiadol” (“electoral area”) yw unrhyw ardal yr etholir cynghorwyr drosti i awdurdod lleol;

  • ystyr “ardal llywodraeth leol” (“local government area”) yw ardal y mae awdurdod lleol wedi ei sefydlu ar ei chyfer;

  • ystyr “ardal llywodraeth leol bresennol” (“existing local government area”) yw ardal llywodraeth leol a ddiddymir gan orchymyn cyfuno;

  • ystyr “ardal llywodraeth leol newydd” (“new local government area”) yw ardal llywodraeth leol a gyfansoddwyd drwy orchymyn cyfuno;

  • ystyr “awdurdod cysgodol” (“shadow authority”) yw awdurdod sydd wedi ei benodi neu wedi ei ethol i gyflawni swyddogaethau a ragnodwyd drwy orchymyn cyfuno ac a ddaw'n awdurdod lleol newydd ar ddiwedd y cyfnod cysgodol;

  • ystyr “awdurdod lleol newydd” (“new local authority”) yw awdurdod lleol a sefydlwyd drwy orchymyn cyfuno;

  • ystyr “awdurdod lleol presennol” (“existing local authority”) yw'r awdurdod lleol ar gyfer ardal llywodraeth leol bresennol;

  • ystyr “Comisiwn Cymru” (“Welsh Commission”) yw Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru a sefydlwyd gan adran 53 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972;

  • mae “corff cyhoeddus” (“public body”) yn cynnwys—

    (a)

    awdurdod lleol;

    (b)

    cyd-fwrdd, neu gyd-bwyllgor, y mae awdurdod lleol wedi ei gynrychioli arno;

  • ystyr “cyfnod cysgodol” (“shadow period”) yw cyfnod cyn y bydd aelodau o'r awdurdod lleol newydd yn cychwyn ar eu swydd;

  • ystyr “gorchymyn cyfuno” (“amalgamation order”) yw gorchymyn o dan adran 162;

  • mae “staff” (“staff”) yn cynnwys swyddogion a chyflogeion.

Back to top

Options/Help

Print Options

You have chosen to open The Whole Measure

The Whole Measure you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Measure as a PDF

The Whole Measure you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Measure without Schedules

The Whole Measure without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Measure without Schedules as a PDF

The Whole Measure without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open the Whole Measure

The Whole Measure you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open the Whole Measure without Schedules

The Whole Measure without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Show Explanatory Notes for Sections: Displays relevant parts of the explanatory notes interweaved within the legislation content.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Assembly Government department responsible for the subject matter of the Measure to explain what the Measure sets out to achieve and to make the Measure accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Measures of the National Assembly for Wales.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources