RHAN 9CYDLAFURIO A CHYFUNO

PENNOD 2CYFUNO

162Pŵer i wneud gorchymyn cyfuno

1

Caiff Gweinidogion Cymru, os ydynt wedi eu bodloni ei bod yn angenrheidiol er mwyn sicrhau llywodraeth leol effeithol, wneud gorchymyn (“gorchymyn cyfuno”) i gyfansoddi ardal llywodraeth leol newydd drwy gyfuno dwy neu dair ardal llywodraeth leol.

2

Cyn gwneud gorchymyn cyfuno, rhaid i Weinidogion Cymru gael eu bodloni na fyddai'n debyg y câi llywodraeth leol effeithiol ei sicrhau mewn ardal llywodraeth leol sydd i'w chyfuno gan y gorchymyn—

a

drwy i unrhyw rai o'r awdurdodau lleol o dan sylw arfer eu pwerau o dan adran 9 (Pwerau cydlafurio etc) o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009, neu

b

drwy i Weinidogion Cymru arfer eu pwerau o dan—

i

adran 28 (Gweinidogion Cymru: cymorth i awdurdodau gwella Cymreig),

ii

adran 29 (Gweinidogion Cymru: pwerau cyfarwyddo etc),

iii

adran 30 (Pwerau cyfarwyddo: trefniadau cydlafurio), neu

iv

adran 31 (Pŵer Gweinidogion Cymru i addasu deddfiadau a rhoi pwerau newydd)

o'r Mesur hwnnw.

3

Rhaid i orchymyn cyfuno ddarparu ar gyfer y canlynol—

a

a fydd yr ardal llywodraeth leol newydd yn sir ynteu'n fwrdeistref sirol,

b

enw Cymraeg ac enw Saesneg yr ardal llywodraeth leol newydd,

c

sefydlu awdurdod lleol ar gyfer yr ardal llywodraeth leol newydd,

d

a fydd yr awdurdod lleol newydd yn gyngor sir ynteu'n gyngor bwrdeistref sirol,

e

enw Cymraeg ac enw Saesneg yr awdurdod lleol newydd,

f

diddymu'r ardaloedd llywodraeth leol presennol,

g

ffin yr ardal llywodraeth leol newydd, ac

h

dirwyn i ben a diddymu'r awdurdodau lleol ar gyfer yr ardaloedd llywodraeth leol presennol.

4

Os sir fydd yr ardal llywodraeth leol newydd, rhaid i'r gorchymyn cyfuno ddarparu i'r awdurdod lleol newydd gael enw'r sir gan ychwanegu—

a

yn achos ei enw Saesneg, y geiriau “County Council” neu'r gair “Council” (megis yn “Pembrokeshire County Council” neu “Pembrokeshire Council”); a

b

yn achos ei enw Cymraeg, y gair “Cyngor” (megis yn “Cyngor Sir Penfro”).

5

Os bwrdeistref sirol fydd yr ardal llywodraeth leol newydd, rhaid i'r gorchymyn cyfuno ddarparu i'r awdurdod lleol newydd gael enw'r fwrdeistref sirol gan ychwanegu—

a

yn achos ei enw Saesneg, y geiriau “County Borough Council” neu'r gair “Council” (megis yn “Caerphilly County Borough Council” neu “Caerphilly Council”); a

b

yn achos ei enw Cymraeg, y geiriau “Cyngor Bwrdeistref Sirol” neu'r gair “Cyngor” (megis yn “Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili” neu “Cyngor Caerffili”).

163Materion etholiadol

1

Mae'r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud mewn gorchymyn cyfuno yn cynnwys darpariaeth ar gyfer neu mewn cysylltiad ag unrhyw un o'r materion canlynol (ond nid yw wedi ei chyfyngu i'r cyfryw ddarpariaeth)—

a

cyfanswm yr aelodau o unrhyw awdurdod lleol (“cynghorwyr”);

b

nifer yr ardaloedd etholiadol a'u ffiniau at ddibenion ethol cynghorwyr;

c

nifer y cynghorwyr sydd i'w hethol yn ffurfiol gan unrhyw ardal etholiadol;

d

enw unrhyw ardal etholiadol;

e

ethol cynghorwyr ar gyfer unrhyw ardaloedd etholiadol;

f

diddymu etholiadau cynghorwyr ar gyfer unrhyw ardal etholiadol;

g

ethol cynghorwyr cymunedol ar gyfer unrhyw gymuned;

h

diddymu etholiadau cynghorau cymuned;

i

ethol maer awdurdod lleol;

j

penodi aelodau o awdurdod lleol presennol gan Weinidogion Cymru i fod yn aelodau o awdurdod cysgodol am gyfnod cysgodol;

k

penodi am gyfnod cysgodol weithrediaeth i'r awdurdod cysgodol;

l

swyddogaethau awdurdod cysgodol, a chyflawni'r swyddogaethau hynny, yn ystod cyfnod cysgodol.

164Gofyniad i gynnal refferendwm sy'n cynnwys maer etholedig

1

Pan fo un neu ragor o'r awdurdodau lleol presennol yn gweithredu gweithrediaeth maer a chabinet, rhaid i'r gorchymyn cyfuno ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod cysgodol gynnal refferendwm ynghylch a ddylai'r awdurdod lleol newydd weithredu gweithrediaeth maer a chabinet.

2

Pan fo is-adran (1) yn gymwys, mae'r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud mewn gorchymyn cyfuno'n cynnwys darpariaeth (ond nid yw wedi ei chyfyngu i ddarpariaeth)—

a

o ran y dyddiad, neu'r amser erbyn pryd, y mae'n rhaid cynnal refferendwm;

b

o ran y camau gweithredu y caniateir eu cymryd, neu na chaniateir eu cymryd, neu y mae'n rhaid eu cymryd gan awdurdod cysgodol o flaen refferendwm neu mewn cysylltiad ag ef;

c

o ran y camau gweithredu y caniateir eu cymryd, neu na chaniateir eu cymryd, neu y mae'n rhaid eu cymryd gan awdurdod cysgodol ar ôl refferendwm;

d

i alluogi Gweinidogion Cymru neu mewn cysylltiad â'u galluogi, os bydd unrhyw fethiant gan yr awdurdod cysgodol i gymryd unrhyw gamau gweithredu a ganiateir neu sy'n ofynnol yn rhinwedd y gorchymyn, i gymryd y camau gweithredu hynny.

3

Mae'r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud yn rhinwedd is-adran (2) yn cynnwys darpariaeth sy'n cymhwyso neu'n atgynhyrchu (gydag addasiadau neu hebddynt) unrhyw ddarpariaethau yn adran 25, 27, 28, 29 neu 33 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 neu Ran 4 o'r Mesur hwn.

165Pŵer i gyfarwyddo refferendwm sy'n cynnwys maer etholedig

1

Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth i'w galluogi neu mewn cysylltiad â'u galluogi, o dan unrhyw amgylchiadau a ragnodir yn y rheoliadau, i gyfarwyddo awdurdod cysgodol i gynnal refferendwm ynghylch a ddylai'r awdurdod lleol newydd weithredu gweithrediaeth maer a chabinet.

2

Mae'r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud drwy reoliadau o dan yr adran hon yn cynnwys darpariaeth (ond nid yw wedi ei chyfyngu i ddarpariaeth)—

a

ynghylch y dyddiad, neu'r amser erbyn pryd, y mae'n rhaid cynnal refferendwm;

b

o ran y camau gweithredu y caniateir eu cymryd, neu na chaniateir eu cymryd, neu y mae'n rhaid eu cymryd gan awdurdod cysgodol o flaen refferendwm neu mewn cysylltiad ag ef;

c

o ran y camau gweithredu y caniateir eu cymryd, neu na chaniateir eu cymryd, neu y mae'n rhaid eu cymryd gan awdurdod cysgodol ar ôl refferendwm;

d

i alluogi Gweinidogion Cymru neu mewn cysylltiad â'u galluogi, os bydd unrhyw fethiant gan yr awdurdod cysgodol i gymryd unrhyw gamau gweithredu a ganiateir neu sy'n ofynnol yn rhinwedd y rheoliadau, i gymryd y camau gweithredu hynny.

3

Mae'r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud yn rhinwedd is-adran (2) yn cynnwys darpariaeth sy'n cymhwyso neu'n atgynhyrchu (gydag addasiadau neu hebddynt) unrhyw ddarpariaethau yn adran 25, 27, 28, 29 neu 33 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 neu Ran 4 o'r Mesur hwn.

166Darpariaeth atodol, gysylltiedig, ganlyniadol, drosiannol a darpariaeth arbed

1

Mae'r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud mewn gorchymyn cyfuno yn cynnwys darpariaeth atodol, cysylltiedig, trosiannol a darpariaeth arbed (ond nid yw wedi ei chyfyngu i'r cyfryw ddarpariaeth).

2

Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau sy'n gymwys yn gyffredinol wneud darpariaeth atodol, gysylltiedig, ganlyniadol, drosiannol a darpariaeth arbed—

a

at ddibenion gorchmynion cyfuno neu o ganlyniad iddynt; neu

b

i roi effaith lawn i orchmynion cyfuno.

3

Mae rheoliadau o dan is-adran (2) yn cael effaith yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth a gynhwysir mewn gorchymyn cyfuno.

4

Yn yr adran hon, mae cyfeiriadau at ddarpariaeth atodol, gysylltiedig, ganlyniadol, drosiannol neu ddarpariaeth arbed yn cynnwys darpariaeth (ond nid ydynt wedi eu cyfyngu i ddarpariaeth)—

a

ar gyfer trosglwyddo eiddo, hawliau neu rwymedigaethau o awdurdod lleol presennol i awdurdod lleol newydd;

b

i achos cyfreithiol a gychwynnir gan neu yn erbyn awdurdod lleol presennol gael ei barhau gan neu yn erbyn awdurdod lleol newydd;

c

ar gyfer trosglwyddo staff, iawndal am golli swydd, neu mewn perthynas â phensiynau a materion staffio eraill;

d

ar gyfer trin awdurdod lleol newydd at rai dibenion neu at bob diben fel yr un person mewn cyfraith ag awdurdod lleol presennol;

e

mewn perthynas â rheolaeth neu gadwraeth ar eiddo (tirol neu bersonol) a drosglwyddir;

f

sy'n cyfateb i unrhyw ddarpariaeth y gellid ei chynnwys mewn cytundeb o dan adran 68 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (cytundebau trosiannol o ran eiddo a chyllid)

5

Mae'r hawliau a'r rhwymedigaethau y caniateir eu trosglwyddo'n unol â gorchymyn o dan yr adran hon yn cynnwys hawliau a rhwymedigaethau mewn perthynas â chontract cyflogi.

6

Mae Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 2006 (OS 2006/246) yn gymwys i drosglwyddiad a wneir yn unol â gorchymyn o dan yr adran hon (p'un a yw'r trosglwyddiad yn drosglwyddiad perthnasol at ddibenion y rheoliadau hynny ai peidio).

7

Yn is-adran (1), mae'r cyfeiriad at ddarpariaeth atodol, gysylltiedig, ganlyniadol, drosiannol neu ddarpariaeth arbed hefyd yn cynnwys darpariaeth (ond nid yw wedi ei chyfyngu i ddarpariaeth) mewn cysylltiad â'r canlynol—

a

sefydlu cyrff cyhoeddus neu aelodaeth o'r cyfryw gyrff mewn unrhyw ardal yr effeithir arni gan y gorchymyn cyfuno ac ethol neu benodi aelodau'r cyfryw gyrff;

b

diddymu neu sefydlu, neu gyfyngu neu estyn, awdurdodaeth unrhyw gorff cyhoeddus mewn neu dros unrhyw ran o unrhyw ardal yr effeithir arni gan y gorchymyn cyfuno.

8

Caiff darpariaeth atodol, gysylltiedig, ganlyniadol, drosiannol neu ddarpariaeth arbed mewn gorchymyn cyfuno neu mewn rheoliadau o dan yr adran hon fod ar ffurf darpariaeth—

a

sy'n addasu, sy'n eithrio neu sy'n cymhwyso (gydag addasiadau neu hebddynt) unrhyw ddeddfiad; neu

b

sy'n diddymu neu'n dirymu unrhyw ddeddfiad (gydag arbedion neu hebddynt).

167Adolygu trefniadau etholiadol

1

Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo Comisiwn Cymru i ymgymryd ag adolygiad o'r trefniadau etholiadol ar gyfer ardal llywodraeth leol newydd.

2

Caiff Comisiwn Cymru o ganlyniad i'r cyfryw adolygiad gyflwyno argymhellion i Weinidogion Cymru ar gyfer gwneud newidiadau i'r trefniadau etholiadol sy'n ymddangos i Gomisiwn Cymru yn ddymunol er mwyn cael llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.

3

Wrth bwyso a mesur y trefniadau etholiadol ar gyfer ardal llywodraeth leol newydd at ddibenion yr adran hon, rhaid i Gomisiwn Cymru i'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol gydymffurfio â'r rheolau a nodir yn Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

4

At ddibenion yr adran hon mae i “trefniadau etholiadol” yr un ystyr ag “electoral arrangements” yn adran 78 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

168Diwygiadau i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972

1

Diwygir Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel a ganlyn.

2

Yn adran 58 (adroddiadau'r Comisiwn a'u gweithredu), yn is-adran (1)(b) ar ôl “section 57 above” mewnosoder “or in accordance with a direction under section 167 of the Local Government (Wales) Measure 2011”.

3

Yn adran 59 (cyfarwyddiadau ynghylch adolygiadau), yn is-adran (1) ar ôl “57 above” mewnosoder “or in accordance with a direction under section 167 of the Local Government (Wales) Measure 2011”.

4

Yn adran 60 (y weithdrefn ar gyfer adolygiadau), yn is-adran (1) ar ôl “this Act” mewnosoder “or in accordance with a direction under section 167 of the Local Government (Wales) Measure 2011”.

5

Yn adran 68 (cytundebau trosiannol o ran eiddo a chyllid), yn is-adran (1) ar ôl “this Act” mewnosoder “or by an order under section 162 of the Local Government (Wales) Measure 2011”.

169Y weithdrefn sy'n gymwys i orchymyn cyfuno

1

Rhaid i Weinidogion Cymru gydymffurfio â'r adran hon cyn gwneud gorchymyn cyfuno i roi effaith i gynigion i gyfansoddi ardal llywodraeth leol newydd drwy gyfuno dwy neu dair o ardaloedd llywodraeth leol presennol (“y cynigion”).

2

Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag—

a

yr awdurdodau lleol ar gyfer yr ardaloedd llywodraeth leol yr effeithir arnynt gan y cynigion,

b

y cynghhorau cymuned yn yr ardaloedd llywodraeth leol yr effeithir arnynt gan y cynigion, ac

c

unrhyw bersonau eraill (os oes rhai) y mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn debygol yr effeithir arnynt gan y cynigion.

3

Os bydd Gweinidogion Cymru, yn dilyn yr ymgynghori hwnnw, yn dymuno bwrw ymlaen â'r cynigion, rhaid iddynt osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ddogfen sydd—

a

yn esbonio'r cynigion,

b

yn eu nodi ar ffurf gorchymyn drafft, ac

c

yn rhoi manylion yr ymgynghori o dan is-adran (2).

4

Ni chaniateir i unrhyw ddrafft o orchymyn cyfuno i roi effaith i'r cynigion (“y gorchymyn drafft terfynol”) gael ei osod gerbron y Cynulliad yn unol ag adran 172(2)(b) tan ar ôl i'r cyfnod o 60 niwrnod, sy'n dechrau ar y diwrnod y cafodd y ddogfen ynglŷn â'r cynigion ei gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan is-adran (3), ddirwyn i ben.

5

Wrth gyfrifo'r cyfnod a grybwyllwyd yn is-adran (4) rhaid peidio ag ystyried unrhyw amser pryd y bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi'i ddiddymu neu wedi cymryd saib am fwy na phedwar diwrnod.

6

Wrth baratoi'r gorchymyn drafft terfynol, rhaid i Weinidogion Cymru ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y cyfnod a grybwyllwyd yn is-adran (4).

7

Os caiff y gorchymyn drafft terfynol ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 172(2)(b), rhaid bod gyda'r gorchymyn ddatganiad gan Weinidogion Cymru sy'n rhoi manylion—

a

unrhyw sylwadau a ystyriwyd yn unol ag is-adran (6), a

b

unrhyw newidiadau a wnaed i'r cynigion a oedd wedi eu cynnwys yn y ddogfen a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan is-adran (3) ac y mae effaith wedi ei rhoi iddynt yn y gorchymyn drafft terfynol.

8

Nid oes dim yn yr adran hon sy'n gymwys i orchymyn o dan adran 162 sydd wedi ei wneud yn unswydd at y diben o ddiwygio gorchymyn cynharach o dan yr adran honno.

170Cywiro gorchmynion

1

Pan fo—

a

gwall mewn gorchymyn cyfuno, a

b

ni ellir ei gywiro drwy orchymyn dilynol a wneir o dan adran 162, caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, gywiro'r gwall.

2

At ddibenion yr adran hon, mae “gwall” mewn gorchymyn yn cynnwys darpariaeth sydd wedi ei chynnwys yn y gorchymyn neu wedi ei hepgor ohono drwy ddibynnu ar wybodaeth anghywir neu anghyflawn a ddarparwyd gan gyngor cymuned neu unrhyw gorff cyhoeddus arall.

171Dehongli'r Bennod hon

Yn y Pennod hon—

  • mae “aelod o awdurdod lleol” (“member of a local authority”) yn cynnwys maer etholedig (o fewn ystyr adran 39(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000) neu aelod gweithredol etholedig (o fewn ystyr adran 39(4) o'r Ddeddf honno) o'r awdurdod;

  • ystyr “ardal etholiadol” (“electoral area”) yw unrhyw ardal yr etholir cynghorwyr drosti i awdurdod lleol;

  • ystyr “ardal llywodraeth leol” (“local government area”) yw ardal y mae awdurdod lleol wedi ei sefydlu ar ei chyfer;

  • ystyr “ardal llywodraeth leol bresennol” (“existing local government area”) yw ardal llywodraeth leol a ddiddymir gan orchymyn cyfuno;

  • ystyr “ardal llywodraeth leol newydd” (“new local government area”) yw ardal llywodraeth leol a gyfansoddwyd drwy orchymyn cyfuno;

  • ystyr “awdurdod cysgodol” (“shadow authority”) yw awdurdod sydd wedi ei benodi neu wedi ei ethol i gyflawni swyddogaethau a ragnodwyd drwy orchymyn cyfuno ac a ddaw'n awdurdod lleol newydd ar ddiwedd y cyfnod cysgodol;

  • ystyr “awdurdod lleol newydd” (“new local authority”) yw awdurdod lleol a sefydlwyd drwy orchymyn cyfuno;

  • ystyr “awdurdod lleol presennol” (“existing local authority”) yw'r awdurdod lleol ar gyfer ardal llywodraeth leol bresennol;

  • ystyr “Comisiwn Cymru” (“Welsh Commission”) yw Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru a sefydlwyd gan adran 53 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972;

  • mae “corff cyhoeddus” (“public body”) yn cynnwys—

    1. a

      awdurdod lleol;

    2. b

      cyd-fwrdd, neu gyd-bwyllgor, y mae awdurdod lleol wedi ei gynrychioli arno;

  • ystyr “cyfnod cysgodol” (“shadow period”) yw cyfnod cyn y bydd aelodau o'r awdurdod lleol newydd yn cychwyn ar eu swydd;

  • ystyr “gorchymyn cyfuno” (“amalgamation order”) yw gorchymyn o dan adran 162;

  • mae “staff” (“staff”) yn cynnwys swyddogion a chyflogeion.