RHAN 8AELODAU: TALIADAU A PHENSIYNAU

Gorfodi

156Cyfarwyddiadau i gydymffurfio â gofynion

1

Os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod awdurdod perthnasol wedi methu â chydymffurfio â gofyniad sy'n ymwneud â materion perthnasol a osodir arno gan y Mesur hwn neu yn rhinwedd y Mesur hwn, cânt gyfarwyddo'r awdurdod i gydymffurfio â'r gofyniad.

2

Rhaid i gyfarwyddyd o dan yr adran hon bennu—

a

y gofyniad;

b

y rheswm dros roi'r cyfarwyddyd;

c

y camau y mae Gweinidogion Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod eu cymryd;

d

y dyddiad erbyn pryd y mae Gweinidogion Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod gymryd y camau.

3

Gellir gorfodi cyfarwyddyd o dan yr adran hon drwy orchymyn mynnu ar gais Gweinidogion Cymru.