Search Legislation

Mesur Tai (Cymru) 2011

Statws

This is the original version (as it was originally enacted).

RHAN 1ATAL DROS DRO YR HAWL I BRYNU A HAWLIAU CYSYLLTIEDIG

PENNOD 1CYFARWYDDIADAU I ATAL DROS DRO YR HAWL I BRYNU A HAWLIAU CYSYLLTIEDIG

1Pŵer i wneud cais am gyfarwyddyd i atal dros dro yr hawl i brynu a hawliau cysylltiedig

(1)Caiff awdurdod tai lleol wneud cais i Weinidogion Cymru am gyfarwyddyd i atal dros dro yr hawl i brynu a hawliau cysylltiedig yn ei ardal am gyfnod o hyd at bum mlynedd—

(a)os yw'r awdurdod, o fewn y cyfnod o chwe mis sy'n rhagflaenu'r cais, wedi cwblhau ymgynghoriad yn unol ag adran 2, a

(b)os, yng ngoleuni'r ymgynghoriad hwnnw, ac ar ôl ystyried unrhyw wybodaeth berthnasol arall, daw'r awdurdod i'r casgliad bod y cyflwr a ddisgrifir yn is-adran (2) yn bodoli.

(2)Y cyflwr (y cyfeirir ato yn y Rhan hon fel y “cyflwr o bwysau oherwydd prinder tai”) yw—

(a)o fewn ardal yr awdurdod tai lleol, bod y galw am dai cymdeithasol yn sylweddol uwch neu'n debygol o fod yn sylweddol uwch na'r cyflenwad o dai cymdeithasol, a

(b)bod yr anghydbwysedd hwnnw rhwng y galw a'r cyflenwad yn debygol o gynyddu o ganlyniad i arfer yr hawl i brynu a hawliau cysylltiedig.

(3)At ddibenion y Rhan hon, mae'r canlynol yn hawliau sy'n gysylltiedig â'r hawl i brynu—

(a)yr hawl i brynu fel y'i hestynnwyd o dan adran 171 o Ddeddf Tai 1985;

(b)yr hawl i brynu a gadwyd o dan adran 171A o Ddeddf Tai 1985;

(c)yr hawl i gaffael o dan adran 16 o Ddeddf Tai 1996;

(d)yr hawl i gaffael fel y'i hestynnwyd o dan adran 16A o Ddeddf Tai 1996.

(4)Caiff awdurdod tai lleol ddod i'r casgliad fod paragraff (a) o is-adran (2) wedi ei fodloni—

(a)mewn cysylltiad â'r holl dai cymdeithasol yn ei ardal;

(b)mewn cysylltiad â'r holl dai cymdeithasol mewn rhan neu rannau penodol o'i ardal;

(c)mewn cysylltiad â mathau penodol o dai cymdeithasol (p'un ai drwy ei ardal gyfan neu mewn rhan neu rannau penodol o'i ardal).

(5)At ddibenion y Rhan hon, caniateir dynodi math o dai cymdeithasol drwy gyfeirio at unrhyw un neu ragor o'r canlynol, neu at unrhyw gyfuniad ohonynt—

(a)anghenion arbennig tenantiaid;

(b)disgrifiad o dŷ annedd;

(c)math o ddarparydd tai cymdeithasol (a allai gynnwys darparydd penodol).

2Ymgynghori

(1)Mae'r adran hon yn darparu ar gyfer yr ymgynghoriad y mae'n rhaid i awdurdod tai lleol ei gynnal cyn y caiff wneud cais i Weinidogion Cymru am gyfarwyddyd sy'n atal dros dro yr hawl i brynu a hawliau cysylltiedig.

(2)Rhaid i'r ymgynghoriad geisio barn ynghylch a oes angen i'r awdurdod wneud cais am gyfarwyddyd o'r fath ai peidio.

(3)Ymgynghorer â'r personau a ganlyn—

(a)pob darparydd tai cymdeithasol—

(i)y mae'n ymddangos i'r awdurdod ei fod yn landlord ar dŷ annedd a leolir yn ardal yr awdurdod (ond nid oes angen i'r awdurdod ymgynghori ag ef ei hun), a

(ii)y mae'r awdurdod o'r farn yr effeithid arno pe bai ei gais am gyfarwyddyd yn cael ei ganiatáu;

(b)unrhyw gorff neu gyrff yr ymddengys i'r awdurdod ei fod neu eu bod yn cynrychioli buddiannau tenantiaid tai annedd o fewn ardal yr awdurdod—

(i)pan fo landlordiaid y tai annedd hynny yn ddarparwyr tai cymdeithasol, a

(ii)pan fo'r awdurdod o'r farn yr effeithid ar denantiaid y tai annedd hynny pe bai ei gais am gyfarwyddyd yn cael ei ganiatáu;

(c)unrhyw awdurdod tai lleol arall y mae ei hardal yn gyfagos i'r ardal y bwriedir i'r cyfarwyddyd fod yn gymwys iddi, a

(d)unrhyw bersonau eraill y mae'r awdurdod o'r farn ei bod yn briodol ymgynghori â hwy.

3Cais am gyfarwyddyd i atal dros dro yr hawl i brynu a hawliau cysylltiedig

(1)Mae'r adran hon yn gosod y gofynion sydd i'w bodloni mewn cais gan awdurdod tai lleol i Weinidogion Cymru am gyfarwyddyd i atal dros dro yr hawl i brynu a hawliau cysylltiedig.

(2)Rhaid i'r cais—

(a)cynnwys drafft o'r cyfarwyddyd—

(i)sy'n dynodi'n eglur yr ardal y mae i fod yn gymwys iddi (boed hynny'r cyfan o ardal yr awdurdod neu'n un rhan neu fwy nag un rhan o'i ardal);

(ii)sy'n datgan a yw'r cyfarwyddyd i fod yn gymwys i bob tŷ annedd perthnasol o fewn yr ardal honno ai peidio;

(iii)os nad yw'r cyfarwyddyd i fod yn gymwys i bob tŷ annedd perthnasol o fewn yr ardal honno, sy'n disgrifio'n eglur y math neu'r mathau o dŷ annedd perthnasol y mae i fod yn gymwys iddo neu iddynt;

(iv)sy'n datgan y cyfnod y mae i gael effaith ynddo (a rhaid i'r cyfnod hwnnw beidio â bod yn hwy na phum mlynedd o'r dyddiad y byddid yn dyroddi'r cyfarwyddyd, pe bai'r cais yn cael ei ganiatáu);

(b)esbonio pam y mae'r awdurdod wedi dod i'r casgliad fod y cyflwr o bwysau oherwydd prinder tai yn bodoli;

(c)esbonio pam y mae'r awdurdod o'r farn fod y cyfarwyddyd yn ymateb priodol i'r ffaith iddo ddod i'r casgliad fod y cyflwr o bwysau oherwydd prinder tai yn bodoli;

(d)esbonio pa gamau eraill y mae'r awdurdod yn bwriadu eu cymryd i leihau'r anghydbwysedd rhwng y galw am dai cymdeithasol a'r cyflenwad ohonynt o fewn ei ardal yn ystod y cyfnod y mae'r cyfarwyddyd i gael effaith ynddo, ac

(e)disgrifio'r hyn a wnaed gan yr awdurdod i gyflawni ei rwymedigaeth i gynnal ymgynghoriad o dan adran 2.

4Ystyriaeth o gais gan Weinidogion Cymru

(1)Os yw Gweinidogion Cymru o'r farn bod cais awdurdod tai lleol am gyfarwyddyd i atal dros dro yr hawl i brynu a hawliau cysylltiedig yn bodloni gofynion adran 3, mae'n rhaid iddynt ystyried y cais.

(2)Os yw Gweinidogion Cymru o'r farn nad yw cais yn bodloni gofynion adran 3, mae'n rhaid iddynt wrthod ystyried y cais, onid ydynt o'r farn bod y methiant i gydymffurfio â'r gofynion yn ddibwys neu'n ddiarwyddocâd, ac os felly caniateir iddynt ystyried y cais.

(3)Mae'n rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu awdurdod yn ysgrifenedig—

(a)os ydynt dan rwymedigaeth o dan is-adran (1) i ystyried cais am gyfarwyddyd i atal dros dro yr hawl i brynu a hawliau cysylltiedig a wnaed gan yr awdurdod;

(b)os ydynt yn penderfynu o dan is-adran (2) ystyried cais o'r fath, neu

(c)os ydynt dan rwymedigaeth o dan is-adran (2) i wrthod ystyried cais.

(4)Mae'r diwrnod ar ôl y diwrnod yr anfonwyd hysbysiad o dan is-adran (3)(a) neu (b) i'w drin fel y dyddiad y penderfynodd Gweinidogion Cymru ystyried y cais.

(5)Os bydd awdurdod tai lleol yn darparu gwybodaeth bellach o dan adran 27 cyn bod Gweinidogion Cymru wedi penderfynu ystyried cais, mae'r wybodaeth honno i'w thrin fel petai'n ffurfio rhan o'r cais.

5Penderfyniad Gweinidogion Cymru ar y cais

(1)Mae'r adran hon yn gymwys pan fydd Gweinidogion Cymru yn ystyried cais awdurdod tai lleol am gyfarwyddyd yn atal dros dro yr hawl i brynu a hawliau cysylltiedig yn unol ag adran 4(1) neu (2).

(2)Caiff Gweinidogion Cymru wrthod y cais (heb ystyried a yw is-adran (4) yn ei gwneud yn ofynnol iddynt ei ganiatáu ai peidio) os ydynt o'r farn—

(a)bod yr awdurdod wedi methu â chydymffurfio â gofyniad a osodwyd o dan adran 27 mewn perthynas â'r cais, neu

(b)pan fo'n ofynnol i'r awdurdod gael strategaeth ynghylch tai o dan adran 87(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003, bod y strategaeth honno, i'r graddau y mae'n ymwneud ag unrhyw anghydbwysedd rhwng y galw am dai cymdeithasol yn ardal yr awdurdod a'r cyflenwad ohonynt, yn annigonol.

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â gwneud penderfyniad o dan is-adran (2)(b) onid ydynt wedi ystyried—

(a)unrhyw ddatganiad y mae'n ofynnol i'r awdurdod ei baratoi o dan adran 87(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003, a

(b)unrhyw wybodaeth arall y mae Gweinidogion Cymru o'r farn ei bod yn berthnasol.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru ganiatáu'r cais—

(a)os ydynt yn cytuno â chasgliad yr awdurdod ynghylch pam y mae'r cyflwr o bwysau oherwydd prinder tai yn bodoli;

(b)os ydynt yn cytuno â barn yr awdurdod fod y cyfarwyddyd yn ymateb priodol i'r ffaith bod yr awdurdod wedi dod i'r casgliad fod y cyflwr o bwysau oherwydd prinder tai yn bodoli;

(c)os ydynt wedi eu bodloni bod cynigion yr awdurdod a gynhwysir yn ei gais yn unol ag adran 3(2)(d) yn debygol o gyfrannu at leihad yn yr anghydbwysedd rhwng y galw am dai cymdeithasol a'r cyflenwad ohonynt o fewn ardal yr awdurdod, a

(d)os ydynt wedi eu bodloni fod yr awdurdod, cyn gwneud y cais, wedi cydymffurfio â'i rwymedigaeth i gynnal ymgynghoriad o dan adran 2.

(5)Os oes unrhyw un neu ragor o baragraffau (a) i (d) o is-adran (4) heb ei fodloni, rhaid i Weinidogion Cymru wrthod y cais.

(6)Rhaid i Weinidogion ganiatáu neu wrthod cais yn unol â'r adran hon o fewn chwe mis sy'n dechrau ar y dyddiad y gwnaethant benderfynu ystyried y cais (gweler adran 4(4)).

(7)Nid effeithir ar ddilysrwydd penderfyniad Gweinidogion Cymru gan fethiant i gydymffurfio ag is-adran (6).

6Dyroddi cyfarwyddyd

(1)Pan fo Gweinidogion Cymru yn caniatáu cais awdurdod tai lleol o dan adran 5, rhaid iddynt ddyroddi cyfarwyddyd ysgrifenedig—

(a)sy'n dynodi'n eglur yr ardal y mae'n gymwys iddi (boed hynny'r cyfan o ardal yr awdurdod neu'n un rhan neu fwy nag un rhan o'i ardal);

(b)sy'n datgan a yw'r cyfarwyddyd yn gymwys i bob tŷ annedd perthnasol o fewn yr ardal honno ai peidio;

(c)os nad yw'r cyfarwyddyd yn gymwys i bob tŷ annedd perthnasol o fewn yr ardal honno, sy'n disgrifio'n eglur y math neu'r mathau o dŷ annedd perthnasol y mae'n gymwys iddo neu iddynt;

(d)sy'n datgan y cyfnod y mae i gael effaith ynddo (a rhaid i'r cyfnod hwnnw beidio â bod yn hwy na phum mlynedd o'r dyddiad y'i dyroddir).

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â dyroddi cyfarwyddyd o dan yr adran hon sy'n wahanol mewn unrhyw ddull sylweddol i'r drafft o'r cyfarwyddyd sydd wedi ei gynnwys yng nghais yr awdurdod tai lleol yn unol ag adran 3(2)(a).

PENNOD 2AMRYWIO CYFARWYDDYD I ATAL DROS DRO YR HAWL I BRYNU A HAWLIAU CYSYLLTIEDIG

7Ystyr “amrywiad ehangu” ac “amrywiad lleihau” etc

(1)At ddibenion y Bennod hon, ystyr “amrywiad ehangu” yw amrywiad i gyfarwyddyd a ddyroddwyd o dan y Rhan hon sy'n gwneud un o'r newidiadau a ganlyn neu'r ddau (a dim newidiadau eraill)—

(a)newid y cyfarwyddyd fel ei fod yn gymwys i ardal nad oedd yn gymwys iddi cyn hynny;

(b)newid y cyfarwyddyd fel ei fod yn gymwys i fath neu fathau o dŷ annedd perthnasol nad oedd yn gymwys iddo neu iddynt cyn hynny;

a rhaid dehongli “elfennau ehangu” yn unol â hynny.

(2)At ddibenion y Bennod hon, ystyr “amrywiad lleihau” yw amrywiad i gyfarwyddyd a ddyroddwyd o dan y Rhan hon sy'n gwneud un o'r newidiadau a ganlyn neu'r ddau (a dim newidiadau eraill)—

(a)newid y cyfarwyddyd fel nad yw bellach yn gymwys i ardal yr oedd yn gymwys iddi cyn hynny;

(b)newid y cyfarwyddyd fel nad yw bellach yn gymwys i fath neu fathau o dŷ annedd perthnasol yr oedd yn gymwys iddo neu iddynt cyn hynny;

a rhaid dehongli “elfennau lleihau” yn unol â hynny.

8Amrywiad ehangu: pŵer i wneud cais

(1)Caiff awdurdod tai lleol wneud cais i Weinidogion Cymru am amrywiad ehangu i gyfarwyddyd a ddyroddwyd o dan y Rhan hon—

(a)os dyroddwyd y cyfarwyddyd mewn ymateb i gais a wnaed gan yr awdurdod;

(b)os gwneir y cais am amrywiad o leiaf chwe mis cyn y dyddiad y mae'r cyfarwyddyd i beidio â chael effaith;

(c)os yw'r awdurdod, o fewn y cyfnod o chwe mis sy'n rhagflaenu'r cais, wedi cwblhau ymgynghoriad yn unol ag adran 9, a

(d)yng ngoleuni'r ymgynghoriad hwnnw, ac ar ôl ystyried unrhyw wybodaeth berthnasol arall, os yw'r awdurdod yn dod i'r casgliad, mewn perthynas ag elfennau ehangu'r amrywiad, bod y cyflwr a ddisgrifir yn is-adran (2) yn bodoli.

(2)Y cyflwr yw—

(a)bod y galw am dai cymdeithasol sy'n dod o fewn elfennau ehangu'r amrywiad yn sylweddol uwch neu'n debygol o fod yn sylweddol uwch na'r cyflenwad o dai cymdeithasol, a

(b)bod yr anghydbwysedd hwnnw rhwng y galw a'r cyflenwad yn debygol o gynyddu o ganlyniad i arfer yr hawl i brynu a hawliau cysylltiedig.

9Amrywiad ehangu: ymgynghori

(1)Mae'r adran hon yn darparu ar gyfer yr ymgynghoriad y mae'n rhaid i awdurdod tai lleol ei gynnal cyn y caiff wneud cais i Weinidogion Cymru am amrywiad ehangu i gyfarwyddyd a ddyroddwyd o dan y Rhan hon.

(2)Rhaid i'r ymgynghoriad geisio barn ynghylch a oes angen i'r awdurdod wneud cais am amrywiad o'r fath ai peidio.

(3)Ymgynghorer â'r personau a ganlyn—

(a)pob darparydd tai cymdeithasol—

(i)y mae'n ymddangos i'r awdurdod ei fod yn landlord ar dŷ annedd a leolir yn ardal yr awdurdod (ond nid oes angen i'r awdurdod ymgynghori ag ef ei hun), a

(ii)y mae'r awdurdod o'r farn yr effeithid arno pe bai ei gais am amrywiad ehangu yn cael ei ganiatáu;

(b)unrhyw gorff neu gyrff yr ymddengys i'r awdurdod ei fod neu eu bod yn cynrychioli buddiannau tenantiaid tai annedd o fewn ardal yr awdurdod—

(i)pan fo landlordiaid y tai annedd hynny yn ddarparwyr tai cymdeithasol, a

(ii)pan fo'r awdurdod o'r farn yr effeithid ar denantiaid y tai annedd hynny pe bai ei gais am amrywiad ehangu i gyfarwyddyd yn cael ei ganiatáu;

(c)unrhyw awdurdod tai lleol arall y mae ei hardal yn gyfagos i'r ardal y bwriedir i elfennau ehangu'r cyfarwyddyd fod yn gymwys iddi, a

(d)unrhyw bersonau eraill y mae'r awdurdod o'r farn ei bod yn briodol ymgynghori â hwy.

10Cais am amrywiad ehangu

(1)Mae'r adran hon yn gosod y gofynion sydd i'w bodloni mewn cais gan awdurdod tai lleol i Weinidogion Cymru am amrywiad ehangu i gyfarwyddyd a ddyroddwyd o dan y Rhan hon.

(2)Rhaid i'r cais—

(a)cynnwys drafft o'r cyfarwyddyd (fel y byddid yn ei amrywio pe caniateid y cais) a fyddai, pes cynhwysid mewn cais am gyfarwyddyd o dan adran 3, yn cydymffurfio â gofynion adran 3(2)(a);

(b)esbonio pam y mae'r awdurdod wedi dod i'r casgliad fod y cyflwr a ddisgrifir yn adran 8(2) yn bodoli;

(c)esbonio pam y mae'r awdurdod o'r farn bod yr amrywiad yn ymateb priodol i'r ffaith iddo ddod i'r casgliad fod y cyflwr a ddisgrifir yn adran 8(2) yn bodoli;

(d)esbonio pa gamau eraill y mae'r awdurdod yn bwriadu eu cymryd i leihau'r anghydbwysedd rhwng y galw am dai cymdeithasol a'r cyflenwad ohonynt o fewn ei ardal yn ystod y cyfnod y mae'r cyfarwyddyd (fel y'i hamrywiwyd) i gael effaith ynddo, ac

(e)disgrifio'r hyn a wnaeth yr awdurdod i gyflawni ei rwymedigaeth i gynnal ymgynghoriad o dan adran 9.

11Ystyriaeth gan Weinidogion Cymru o gais am amrywiad ehangu

(1)Os yw Gweinidogion Cymru o'r farn bod cais awdurdod tai lleol am amrywiad ehangu yn bodloni gofynion adran 10, rhaid iddynt ystyried y cais.

(2)Os yw Gweinidogion Cymru o'r farn nad yw cais yn bodloni gofynion adran 10, rhaid iddynt wrthod ystyried y cais, onid ydynt o'r farn bod y methiant i gydymffurfio â'r gofynion yn ddibwys neu'n ddiarwyddocâd, ac os felly caniateir iddynt ystyried y cais.

(3)Mae'n rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu awdurdod yn ysgrifenedig—

(a)os ydynt dan rwymedigaeth o dan is-adran (1) i ystyried cais am amrywiad ehangu;

(b)os ydynt yn penderfynu o dan is-adran (2) ystyried cais o'r fath, neu

(c)os ydynt dan rwymedigaeth o dan is-adran (2) i wrthod ystyried cais.

(4)Mae'r diwrnod ar ôl y diwrnod yr anfonwyd hysbysiad o dan is-adran (3)(a) neu (b) i'w drin fel y dyddiad y penderfynodd Gweinidogion Cymru ystyried y cais.

(5)Os bydd awdurdod tai lleol yn darparu gwybodaeth bellach o dan adran 27 cyn bod Gweinidogion Cymru wedi penderfynu ystyried cais, mae'r wybodaeth honno i'w thrin fel petai'n ffurfio rhan o'r cais.

12Penderfyniad Gweinidogion Cymru ar y cais

(1)Mae'r adran hon yn gymwys pan fydd Gweinidogion Cymru yn ystyried cais awdurdod tai lleol am amrywiad ehangu yn unol ag adran 11(1) neu (2).

(2)Caiff Gweinidogion Cymru wrthod y cais (heb ystyried a yw is-adran (2) yn ei gwneud yn ofynnol iddynt ei ganiatáu ai peidio) os ydynt o'r farn—

(a)bod yr awdurdod wedi methu â chydymffurfio â gofyniad a osodwyd o dan adran 27 mewn perthynas â'r cais, neu

(b)pan fo'n ofynnol i'r awdurdod gael strategaeth ynghylch tai o dan adran 87(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003, bod y strategaeth, i'r graddau y mae'n ymwneud â'r anghydbwysedd rhwng y galw am dai cymdeithasol yn ardal yr awdurdod a'r cyflenwad ohonynt, yn annigonol.

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â gwneud penderfyniad o dan is-adran (2)(b) onid ydynt wedi ystyried—

(a)unrhyw ddatganiad y mae'n ofynnol i'r awdurdod ei baratoi o dan adran 87(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003, a

(b)unrhyw wybodaeth arall y mae Gweinidogion Cymru o'r farn ei bod yn berthnasol.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru ganiatáu'r cais—

(a)os ydynt yn cytuno â barn yr awdurdod ynghylch pam mae'r cyflwr a ddisgrifir yn adran 8(2) yn bodoli;

(b)os ydynt yn cytuno â barn yr awdurdod bod yr amrywiad yn ymateb priodol i'r ffaith bod yr awdurdod wedi dod i'r casgliad fod y cyflwr yn bodoli;

(c)os ydynt wedi eu bodloni bod cynigion yr awdurdod a gynhwysir yn ei gais yn unol ag adran 10(2)(d) yn debygol o gyfrannu at leihad yn yr anghydbwysedd rhwng y galw am dai cymdeithasol a'r cyflenwad ohonynt o fewn ardal yr awdurdod, a

(d)os ydynt wedi eu bodloni bod yr awdurdod, cyn gwneud y cais, wedi cydymffurfio â'i rwymedigaeth i gynnal ymgynghoriad o dan adran 9.

(5)Os oes unrhyw un neu ragor o baragraffau (a) i (d) o is-adran (4) heb ei fodloni, rhaid i Weinidogion Cymru wrthod y cais.

(6)Rhaid i Weinidogion ganiatáu neu wrthod cais yn unol â'r adran hon o fewn chwe mis sy'n dechrau ar y dyddiad y gwnaethant benderfynu ystyried y cais (gweler adran 11(4)).

(7)Nid effeithir ar ddilysrwydd penderfyniad Gweinidogion Cymru gan fethiant i gydymffurfio ag is-adran (6).

13Dyroddi cyfarwyddyd a amrywiwyd i gynnwys elfennau ehangu

(1)Pan fo Gweinidogion Cymru yn caniatáu cais awdurdod tai lleol o dan adran 12, rhaid iddynt ddyroddi yn ysgrifenedig gyfarwyddyd a amrywiwyd—

(a)sy'n dynodi'n eglur yr ardal y mae'n gymwys iddi;

(b)sy'n datgan a yw'r cyfarwyddyd yn gymwys i bob tŷ annedd perthnasol o fewn yr ardal honno ai peidio;

(c)os nad yw'r cyfarwyddyd yn gymwys i bob tŷ annedd perthnasol o fewn yr ardal honno, sy'n disgrifio'n eglur y math neu'r mathau o dŷ annedd perthnasol y mae'n gymwys iddo neu iddynt;

(d)sy'n datgan y cyfnod y mae i gael effaith ynddo.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â dyroddi cyfarwyddyd o dan yr adran hon sy'n wahanol mewn unrhyw ddull sylweddol i'r drafft o'r cyfarwyddyd sydd yng nghais yr awdurdod tai lleol yn unol ag adran 10(2)(a).

14Amrywiad lleihau: pŵer i wneud cais

(1)Caiff awdurdod tai lleol wneud cais i Weinidogion Cymru am amrywiad lleihau i gyfarwyddyd a ddyroddwyd o dan y Rhan hon—

(a)os dyroddwyd y cyfarwyddyd mewn ymateb i gais a wnaed gan yr awdurdod, a

(b)os yw'r awdurdod yn dod i'r casgliad fod y cyflwr a ddisgrifir yn is-adran (2) yn bodoli.

(2)Y cyflwr yw naill ai—

(a)nad yw'r galw am dai cymdeithasol sy'n dod o fewn elfennau lleihau'r amrywiad yn sylweddol uwch nac yn debygol o fod yn sylweddol uwch na'r cyflenwad o dai cymdeithasol, neu

(b)hyd yn oed os yw'r galw yn sylweddol uwch neu'n debygol o fod yn sylweddol uwch na'r cyflenwad, nad yw'r anghydbwysedd rhwng y galw a'r cyflenwad yn debygol o gynyddu o ganlyniad i arfer yr hawl i brynu a hawliau cysylltiedig.

15Cais am amrywiad lleihau

(1)Mae'r adran hon yn gosod y gofynion sydd i'w bodloni mewn cais gan awdurdod tai lleol i Weinidogion Cymru am amrywiad lleihau i gyfarwyddyd a ddyroddwyd o dan y Rhan hon.

(2)Rhaid i'r cais—

(a)cynnwys drafft o'r cyfarwyddyd (fel y byddid yn ei amrywio pe caniateid y cais) a fyddai, pes cynhwysid mewn cais am gyfarwyddyd o dan adran 3, yn cydymffurfio â gofynion adran 3(2)(a), a

(b)esbonio pam y mae'r awdurdod wedi dod i'r casgliad fod y cyflwr a ddisgrifir yn adran 14(2) yn bodoli.

16Penderfyniad Gweinidogion Cymru ar y cais

(1)Caiff Gweinidogion Cymru wrthod cais awdurdod tai lleol am amrywiad lleihau (heb ystyried a yw is-adran (2) yn ei gwneud yn ofynnol iddynt ei ganiatáu ai peidio) os ydynt o'r farn bod yr awdurdod wedi methu â chydymffurfio â gofyniad a osodir o dan adran 27 mewn perthynas â'r cais.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru ganiatáu'r cais os ydynt yn cytuno â barn yr awdurdod bod y cyflwr a ddisgrifir yn adran 14(2) yn bodoli ac os nad yw Gweinidogion Cymru yn cytuno â hynny, rhaid iddynt wrthod y cais.

17Dyroddi cyfarwyddyd a amrywiwyd i gynnwys elfennau lleihau

(1)Pan fo Gweinidogion Cymru yn caniatáu cais awdurdod tai lleol o dan adran 16, rhaid iddynt ddyroddi yn ysgrifenedig gyfarwyddyd a amrywiwyd—

(a)sy'n dynodi'n eglur yr ardal y mae'n gymwys iddi;

(b)sy'n datgan a yw'r cyfarwyddyd yn gymwys i bob tŷ annedd perthnasol o fewn yr ardal honno ai peidio;

(c)os nad yw'r cyfarwyddyd yn gymwys i bob tŷ annedd perthnasol o fewn yr ardal honno, sy'n disgrifio'n eglur y math neu'r mathau o dŷ annedd perthnasol y mae'n berthnasol iddo neu iddynt;

(d)sy'n datgan y cyfnod y mae i gael effaith ynddo.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â dyroddi cyfarwyddyd o dan yr adran hon sy'n wahanol mewn unrhyw ddull sylweddol i'r drafft o'r cyfarwyddyd sydd yng nghais yr awdurdod tai lleol yn unol ag adran 15(2)(a).

PENNOD 3ESTYN CYFARWYDDYD I ATAL DROS DRO YR HAWL I BRYNU A HAWLIAU CYSYLLTIEDIG

18Cais am estyniad: pŵer i wneud cais

(1)Caiff awdurdod tai lleol wneud cais i Weinidogion Cymru am estyniad i'r cyfnod y mae cyfarwyddyd a ddyroddwyd o dan y Rhan hon i gael effaith ynddo—

(a)os yw'r awdurdod, o fewn y cyfnod o chwe mis sy'n rhagflaenu'r cais, wedi cwblhau ymgynghoriad yn unol ag adran 19, a

(b)os, yng ngoleuni'r ymgynghoriad hwnnw, ac ar ôl ystyried unrhyw wybodaeth berthnasol arall, daw'r awdurdod i'r casgliad bod y cyflwr o bwysau oherwydd prinder tai yn parhau i fodoli.

(2)Caiff awdurdod tai lleol wneud cais am estyniad i gyfarwyddyd sydd eisoes wedi cael ei estyn ond ni chaiff cyfarwyddyd estynedig gael effaith y tu hwnt i gyfnod o ddeng mlynedd o'r dyddiad y dyroddwyd y cyfarwyddyd o dan adran 6.

19Cais am estyniad: ymgynghori

(1)Mae'r adran hon yn darparu ar gyfer yr ymgynghoriad y mae'n rhaid i awdurdod tai lleol ei gynnal cyn y caiff wneud cais i Weinidogion Cymru am estyniad i'r cyfnod y mae cyfarwyddyd a ddyroddwyd o dan y Rhan hon i gael effaith ynddo.

(2)Rhaid i'r ymgynghoriad geisio barn ynghylch a oes angen gwneud cais am estyniad i'r cyfnod y mae'r cyfarwyddyd i gael effaith ynddo.

(3)Ymgynghorer â'r personau a ganlyn—

(a)pob darparydd tai cymdeithasol—

(i)y mae'n ymddangos i'r awdurdod ei fod yn landlord ar dŷ annedd a leolir yn ardal yr awdurdod (ond nid oes angen i'r awdurdod ymgynghori ag ef ei hun), a

(ii)y mae'r awdurdod o'r farn yr effeithid arno pe bai ei gais am estyniad i'r cyfarwyddyd yn cael ei ganiatáu;

(b)unrhyw gorff neu gyrff yr ymddengys i'r awdurdod ei fod neu eu bod yn cynrychioli buddiannau tenantiaid tai annedd o fewn ardal yr awdurdod—

(i)pan fo landlordiaid y tai annedd hynny yn ddarparwyr tai cymdeithasol, a

(ii)pan fo'r awdurdod o'r farn yr effeithid ar denantiaid y tai annedd hynny pe bai ei gais am estyniad i gyfarwyddyd yn cael ei ganiatáu;

(c)unrhyw awdurdod tai lleol arall y mae ei hardal yn gyfagos i'r ardal y bwriedir i'r cyfarwyddyd estynedig fod yn gymwys iddi, a

(d)unrhyw bersonau eraill y mae'r awdurdod o'r farn ei bod yn briodol ymgynghori â hwy.

20Cais am estyniad

(1)Mae'r adran hon yn gosod y gofynion sydd i'w bodloni mewn cais gan awdurdod tai lleol i Weinidogion Cymru am estyniad i gyfarwyddyd a ddyroddwyd o dan y Rhan hon.

(2)Rhaid i'r cais—

(a)esbonio pam y mae'r awdurdod wedi dod i'r casgliad bod y cyflwr o bwysau oherwydd prinder tai yn bodoli;

(b)esbonio pam y mae'r awdurdod o'r farn y byddai estyniad i'r cyfnod y mae cyfarwyddyd i gael effaith ynddo yn ymateb priodol i'r ffaith ei fod wedi dod i'r casgliad bod y cyflwr o bwysau oherwydd prinder tai yn bodoli;

(c)esbonio pa gamau eraill y mae'r awdurdod wedi eu cymryd i leihau'r anghydbwysedd rhwng y galw am dai cymdeithasol a'r cyflenwad ohonynt o fewn ardal yr awdurdod ers i'r cyfarwyddwyd gael ei ddyroddi o dan adran 6;

(d)esbonio pa gamau eraill y mae'r awdurdod yn bwriadu eu cymryd i leihau'r anghydbwysedd rhwng y galw am dai cymdeithasol a'r cyflenwad ohonynt o fewn ei ardal yn ystod cyfnod arfaethedig yr estyniad;

(e)disgrifio'r hyn a wnaeth yr awdurdod i gyflawni ei rwymedigaeth i ymgynghori o dan adran 19, ac

(f)datgan cyfnod arfaethedig yr estyniad (a rhaid iddo beidio â bod yn hwy na phum mlynedd ar ôl y dyddiad y byddai'r cyfarwyddyd, oni bai am y Bennod hon, yn peidio â chael effaith).

21Penderfyniad Gweinidogion Cymru ar y cais

(1)Caiff Gweinidogion Cymru wrthod cais awdurdod tai lleol am estyniad i'r cyfnod y mae cyfarwyddyd a ddyroddwyd o dan y Rhan hon i gael effaith ynddo (heb iddynt ystyried a yw is-adran (3) yn ei gwneud yn ofynnol iddynt ei ganiatáu ai peidio) os yw Gweinidogion Cymru o'r farn—

(a)bod yr awdurdod wedi methu â chydymffurfio â gofyniad a osodwyd o dan adran 27 mewn perthynas â'r cais, neu

(b)pan fo'n ofynnol i'r awdurdod gael strategaeth ynghylch tai o dan adran 87(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003, bod y strategaeth, i'r graddau y mae'n ymwneud â'r anghydbwysedd rhwng y galw am dai cymdeithasol yn ardal yr awdurdod a'r cyflenwad ohonynt, yn annigonol.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â gwneud penderfyniad o dan is-adran (1)(b) onid ydynt wedi ystyried—

(a)unrhyw ddatganiad y mae'n ofynnol i'r awdurdod ei baratoi o dan adran 87(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003, a

(b)unrhyw wybodaeth arall y mae Gweinidogion Cymru o'r farn ei bod yn berthnasol.

(3)Mae'n rhaid i Weinidogion Cymru ganiatáu'r cais—

(a)os ydynt yn cytuno â barn yr awdurdod ynghylch pam y mae'r cyflwr o bwysau oherwydd prinder tai yn bodoli;

(b)os ydynt yn cytuno â barn yr awdurdod bod yr estyniad arfaethedig i'r cyfnod y mae'r cyfarwyddyd i gael effaith ynddo yn ymateb priodol i'r ffaith bod yr awdurdod wedi dod i'r casgliad bod y cyflwr o bwysau oherwydd prinder tai yn bodoli;

(c)os ydynt wedi eu bodloni fod yr awdurdod, cyn gwneud y cais, wedi cydymffurfio â'i rwymedigaeth i gynnal ymgynghoriad o dan adran 19;

(d)os ydynt wedi eu bodloni fod y camau a gymrwyd gan yr awdurdod i leihau'r anghydbwysedd rhwng y galw am dai cymdeithasol a'r cyflenwad ohonynt er pan ddyroddwyd y cyfarwyddyd o dan adran 6 wedi bod yn ddigonol, ac

(e)os ydynt wedi eu bodloni bod cynigion yr awdurdod a gynhwysir yn ei gais yn unol ag adran 20(2)(d) yn debygol o gyfrannu at leihad yn yr anghydbwysedd rhwng y galw am dai cymdeithasol a'r cyflenwad ohonynt o fewn ardal yr awdurdod.

(4)Os nad yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni fod y camau a gymrwyd gan yr awdurdod i leihau'r anghydbwysedd rhwng y galw am dai cymdeithasol a'r cyflenwad ohonynt er pan ddyroddwyd y cyfarwyddyd o dan adran 6 wedi bod yn ddigonol, caniateir iddynt wrthod y cais.

(5)Os na fodlonir unrhyw un neu ragor o baragraffau (a) i (c) neu (e) yn is-adran (3), rhaid i Weinidogion Cymru wrthod y cais.

22Dyroddi cyfarwyddyd wedi ei ymestyn

(1)Os yw Gweinidogion Cymru yn caniatáu cais awdurdod tai lleol o dan adran 21, rhaid iddynt ddyroddi yn ysgrifenedig gyfarwyddyd wedi ei newid—

(a)sy'n datgan y dyddiad y mae i beidio â chael effaith (sef y dyddiad a bennir yng nghais yr awdurdod o dan adran 20(2)(f)), a

(b)sydd ym mhob dull arall yn cyfateb yn union i'r cyfarwyddyd y gwnaed y cais yn ei gylch (y “cyfarwyddyd a ddisodlwyd”).

(2)Bydd cyfarwyddyd a ddyroddir o dan yr adran hon yn cael effaith o'r dyddiad pan fydd y cyfarwyddyd a ddisodlwyd yn peidio â chael effaith.

PENNOD 4DIRYMU CYFARWYDDYD I ATAL DROS DRO YR HAWL I BRYNU A HAWLIAU CYSYLLTIEDIG

23Dirymu cyfarwyddyd: pŵer i wneud cais

(1)Caiff awdurdod tai lleol wneud cais i Weinidogion Cymru i ddirymu cyfarwyddyd a ddyroddwyd o dan y Rhan hon os yw'r awdurdod yn dod i'r casgliad bod y cyflwr a ddisgrifir yn is-adran (2) yn bodoli.

(2)Y cyflwr yw naill ai—

(a)nad yw'r galw am dai cymdeithasol y mae'r cyfarwyddyd yn ymwneud ag ef yn sylweddol uwch nac yn debygol o fod yn sylweddol uwch na'r cyflenwad o dai cymdeithasol, neu

(b)hyd yn oed os yw'r galw yn sylweddol uwch neu'n debygol o fod yn sylweddol uwch na'r cyflenwad, nad yw'r anghydbwysedd rhwng y galw a'r cyflenwad yn debygol o gynyddu o ganlyniad i arfer yr hawl i brynu a hawliau cysylltiedig.

24Cais i ddirymu

Rhaid i gais awdurdod tai lleol i Weinidogion Cymru i ddirymu cyfarwyddyd a ddyroddwyd o dan y Rhan hon fod yn ysgrifenedig a rhaid iddo esbonio pam y mae'r awdurdod wedi dod i'r casgliad bod y cyflwr a ddisgrifir yn adran 23(2) yn bodoli.

25Penderfyniad Gweinidogion Cymru ar y cais

(1)Caiff Gweinidogion Cymru wrthod cais awdurdod tai lleol o dan adran 23 (heb iddynt ystyried a yw is-adran (2) yn ei gwneud yn ofynnol iddynt ei ganiatáu ai peidio) os ydynt o'r farn bod yr awdurdod wedi methu â chydymffurfio â gofyniad a osodwyd o dan adran 27 mewn perthynas â'r cais.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru ganiatáu'r cais os ydynt yn cytuno â chasgliad yr awdurdod ynghylch pam y mae'r cyflwr a ddisgrifir yn adran 23(2) yn bodoli.

(3)Os yw Gweinidogion Cymru yn caniatáu'r cais, rhaid iddynt hysbysu'r awdurdod yn ysgrifenedig o'r ffaith honno a bydd y cyfarwyddyd yn peidio â chael effaith ar y dyddiad y rhoddir y cyfryw hysbysiad.

PENNOD 5CEISIADAU: DARPARIAETHAU CYFFREDINOL

26Tynnu cais yn ôl

Ar unrhyw adeg cyn bod Gweinidogion Cymru wedi gwneud penderfyniad ar gais awdurdod tai lleol am gyfarwyddyd, neu am ddirymu cyfarwyddyd, o dan y Rhan hon, caiff yr awdurdod a wnaeth y cais ei dynnu'n ôl drwy hysbysiad ysgrifenedig.

27Darparu gwybodaeth bellach

(1)Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i awdurdod tai lleol ddarparu gwybodaeth bellach yn ychwanegol at yr wybodaeth a roddwyd mewn cais am gyfarwyddyd, neu am ddirymu cyfarwyddyd, o dan y Rhan hon.

(2)Mae'r pŵer o dan is-adran (1) yn arferadwy os yw Gweinidogion Cymru yn rhesymol o'r farn bod gwybodaeth bellach yn ofynnol er mwyn iddynt benderfynu a ddylid ystyried cais yr awdurdod neu ddyfarnu cais yr awdurdod.

28Cyhoeddi cyfarwyddiadau

(1)Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl dyroddi cyfarwyddyd o dan y Rhan hon, rhaid i'r awdurdod tai lleol a wnaeth gais am y cyfarwyddyd ei gyhoeddi ym mha ddull bynnag sy'n briodol yn ei dyb ef.

(2)Rhaid i'r awdurdod hefyd gymryd camau rhesymol eraill i ddwyn cyfarwyddyd, neu ddirymiad cyfarwyddyd, a ddyroddwyd o dan y Rhan hon i sylw personau y mae'n debygol y bydd yn effeithio arnynt.

29Cyfyngu ar geisiadau dro ar ôl tro

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru wedi gwrthod caniatáu cais awdurdod tai lleol am gyfarwyddyd o dan y Rhan hon.

(2)Pan fo'r is-adran hon yn gymwys, rhaid i'r awdurdod tai lleol a wnaeth y cais beidio â gwneud cais, yn ystod y cyfnod o ddwy flynedd yn dechrau gyda dyddiad y gwrthodiad, am gyfarwyddyd sy'n sylweddol yr un fath â'r cyfarwyddyd y gwrthodwyd y cais ar ei gyfer.

(3)Mae is-adran (4) yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru wedi dyroddi cyfarwyddyd o dan adran 6 (y “cyfarwyddydd perthnasol”) (p'un a fu amrywiad o dan adran 13 neu 17 neu estyniad o dan adran 22 ai peidio).

(4)Pan fo'r is-adran hon yn gymwys, rhaid i'r awdurdod tai lleol, yn ystod y cyfnod a ddisgrifir yn is-adran (5), beidio â gwneud cais o dan adran 1 am gyfarwyddyd arall sy'n sylweddol yr un fath â'r cyfarwyddyd perthnasol.

(5)Mae'r cyfnod y cyfeirir ato yn is-adran (4)—

(a)yn dechrau ar y dyddiad y mae'r cyfarwyddyd perthnasol yn cael effaith, a

(b)yn dod i ben ddwy flynedd ar ôl y dyddiad y mae'r cyfarwyddyd perthnasol yn peidio â chael effaith.

(6)Mewn achos lle y bu amrywiad o dan adran 13 neu 17, mae'r cyfeiriadau yn is-adran (4) a (5)(b) at y cyfarwyddyd perthnasol yn gyfeiriad at y cyfarwyddyd sydd yn cael effaith ar ôl yr amrywiad.

(7)Mewn achos lle y bu estyniad o dan adran 22, mae'r cyfeiriad yn is-adran (5)(b) at yr amser pan fo'r cyfarwyddyd perthnasol yn peidio â chael effaith yn gyfeiriad at yr amser pan fo'r cyfarwyddyd yn peidio â chael effaith yn unol â'r estyniad.

30Canllawiau

Wrth arfer ei swyddogaethau o dan adrannau 3, 10, 15, 20 a 24, rhaid i awdurdod tai lleol roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir o bryd i'w gilydd yn ysgrifenedig gan Weinidogion Cymru.

PENNOD 6DIWYGIADAU I DDEDDF TAI 1985

31Canlyniad i benderfyniad gan Weinidogion Cymru i ystyried ceisiadau penodol

(1)Mae Deddf Tai 1985 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Mewnosoder y canlynol ar ôl adran 122 o Ddeddf Tai 1985—

122AApplications to suspend the right to buy etc in parts of Wales: effect on claims to exercise the right

(1)Subsection (2) applies if—

(a)the Welsh Ministers are considering a local housing authority’s application for a direction (“the draft direction”) in accordance with section 4(1) or (2) or 11(1) or (2) of the Housing (Wales) Measure 2011;

(b)a claim to exercise the right to buy is made under section 122(1) in respect of a dwelling-house to which—

(i)in the case of an application which is being considered in accordance with section 4(1) or (2) of the 2011 Measure, the draft direction applies, or

(ii)in the case of an application which is being considered in accordance with section 11(1) or (2) of the 2011 Measure, the enlarging elements (within the meaning of section 7 of that Measure) of the draft direction apply;

(c)the claim was made after the date on which the Welsh Ministers decided to consider the application for the proposed direction, and

(d)the application has not been determined or withdrawn.

(2)The claim to exercise the right to buy shall be stayed unless withdrawn by the tenant under section 122(3).

(3)If the Welsh Ministers refuse to issue the direction, the stay shall be lifted on the date of refusal.

(4)If the application for the direction is withdrawn, the stay shall be lifted on the date of withdrawal.

(5)If the Welsh Ministers have not granted or rejected an application for a direction within six months beginning with the date on which they decided to consider the application (see sections 4(4) and 11(4) of the 2011 Measure), the stay shall be lifted on the day after the end of that period.

(6)If a claim to exercise the right to buy is stayed at the time the Welsh Ministers grant an application for a direction, the claim is deemed not to have been made.

(7)This section does not affect the computation of any period under Schedule 4.

(3)Yn adran 124 (hysbysiad y landlord yn derbyn neu'n gwadu'r hawl i brynu)—

(a)yn is-adran (1), mewnosoder “or (3)” ar ôl “subsection (2)”;

(b)ar ôl is-adran (2) mewnosoder—

(3)But the period for serving a notice in a case where the stay of a claim to exercise the right to buy has been lifted under subsection (3), (4) or (5) of section 122A is four weeks beginning with the lifting date where the requirement of section 119 is satisfied by a period or periods during which the landlord was the landlord on which the tenant’s notice under section 122 was served, and eight weeks beginning with the lifting date in any other case.

(4)Yn adran 153A (hysbysiadau y tenant am oedi), yn is-adran (1)(a), mewnosoder “or (3)” ar ôl “subsection (2)”.

32Effaith cyfarwyddyd i atal dros dro yr hawl i brynu

(1)Mae Deddf Tai 1985 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 122 (hysbysiad y tenant yn hawlio arfer yr hawl i brynu), ar ddechrau is-adran (1), mewnosoder “Unless section 122B applies”.

(3)Ar ôl adran 122A (a fewnosodir gan adran 31 o'r Mesur hwn) mewnosoder y canlynol—

122BSuspension of the right to buy in parts of Wales

(1)This section applies to a secure tenant of a dwelling-house to which a direction having effect under Part 1 of the Housing (Wales) Measure 2011 applies.

(2)While the direction has effect, the tenant may not claim to exercise the right to buy under section 122.

(3)This section does not affect the computation of any period in accordance with Schedule 4.

PENNOD 7AMRYWIOL

33Dehongli Rhan 1

(1)Onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall, mae i ymadrodd a ddefnyddir yn y Rhan hon sy'n cyfateb i ymadrodd Saesneg yn Neddf Tai 1985 yr un ystyr yn y Rhan hon ag sydd i'r ymadrodd cyfatebol Saesneg yn y Ddeddf honno.

(2)At ddibenion y Rhan hon—

  • ystyr “awdurdod tai lleol” (“local housing authority”) yw awdurdod tai lleol yng Nghymru;

  • mae i “cyflwr o bwysau oherwydd prinder tai” (“housing pressure condition”) yr ystyr a roddir gan adran 1(2);

  • mae i “hawliau cysylltiedig” (“related rights”) yr ystyr a roddir i “hawliau sy'n gysylltiedig â'r hawl i brynu” (gweler adran 1(3));

  • ystyr “tai cymdeithasol” (“social housing”) yw unrhyw dai a ddarperir gan ddarparydd tai cymdeithasol.

(3)At ddibenion y Rhan hon, ystyr “tŷ annedd perthnasol”, mewn perthynas â chais am gyfarwyddyd, neu gyfarwyddyd a ddyroddwyd, o dan y Rhan hon yw—

(a)tŷ annedd—

(i)y mae ei landlord yn ddarparydd tai cymdeithasol, a

(ii)y mae gan y tenant iddo yr hawl i brynu, neu hawl sy'n gysylltiedig â'r hawl i brynu, neu fe fyddai ganddo hawl o'r fath petai'n bodloni'r amodau sy'n arwain at hawl o'r fath, a

(b)mae'n cynnwys tŷ annedd sy'n bodloni gofynion paragraff (a) ar ôl y dyddiad y gwneir y cais am gyfarwyddyd ar ei gyfer.

(4)At ddibenion y Rhan hon, ystyr “darparydd tai cymdeithasol” yw—

(a)awdurdod lleol, a

(b)person (heblaw awdurdod lleol)—

(i)sy'n darparu tai, neu

(ii)y mae ganddo swyddogaethau sy'n ymwneud â dyrannu tai,

ar gyfer pobl nad yw'r farchnad dai fasnachol yn diwallu eu hanghenion yn ddigon da;

ond mae awdurdod lleol neu'r cyfryw berson arall yn ddarparydd tai cymdeithasol dim ond i'r graddau y mae'n darparu tai, neu fod ganddo swyddogaethau sy'n ymwneud â dyrannu tai.

34Gorchmynion canlyniadol etc

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy orchymyn wneud y cyfryw ddarpariaeth ag a ystyrir yn briodol gan Weinidogion Cymru o ganlyniad i unrhyw ddarpariaeth a wneir gan y Rhan hon, neu er mwyn rhoi effaith lawn i'r ddarpariaeth honno.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru drwy orchymyn wneud y cyfryw ddarpariaeth y mae Gweinidogion Cymru yn barnu ei bod yn briodol ar gyfer cymhwyso neu ymestyn unrhyw ddarpariaeth a wnaed gan y Rhan hon (gydag addasiadau neu hebddynt) i unrhyw ddarpariaeth ynghylch neu sy'n berthynol i hawl sy'n gysylltiedig â'r hawl i brynu.

(3)Mae'r pwerau o dan is-adrannau (1) a (2) yn cynnwys gwneud darpariaeth sy'n diwygio, yn diddymu neu'n dirymu unrhyw ddarpariaeth (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt)—

(a)mewn unrhyw Ddeddf Seneddol neu Fesur Cynulliad Cymru (gan gynnwys y Mesur hwn), a

(b)mewn is-ddeddfwriaeth.

(4)Yn yr adran hon mae i “is-ddeddfwriaeth” yr un ystyr ag sydd i “subordinate legislation” yn Neddf Dehongli 1978.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Show Explanatory Notes for Sections: Displays relevant parts of the explanatory notes interweaved within the legislation content.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Assembly Government department responsible for the subject matter of the Measure to explain what the Measure sets out to achieve and to make the Measure accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Measures of the National Assembly for Wales.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources