Search Legislation

Mesur Diogelwch ar Gludiant i Ddysgwyr (Cymru) 2011

Statws

This is the original version (as it was originally enacted).

Legislation Crest

Mesur Diogelwch ar Gludiant i Ddysgwyr (Cymru) 2011

2011 mccc 6

Mesur gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i ddarparu am ddiogelwch ar gludiant a ddarperir neu a sicrheir fel arall gan awdurdodau lleol neu gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir at ddibenion sicrhau bod plant yn mynychu mannau lle y cânt eu haddysgu neu eu hyfforddi; ac at ddibenion cysylltiedig.

Mae'r Mesur hwn, a basiwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 22 Mawrth 2011 ac a gymeradwywyd gan Ei Mawrhydi yn Ei Chyngor ar 10 Mai 2011, yn deddfu'r darpariaethau a ganlyn:

1Gofyniad am wregysau diogelwch ar fysiau a ddefnyddir yn gludiant i ddysgwyr

Ar ôl adran 14 o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 rhodder—

Diogelwch ar gludiant i ddysgwyr

14AGofyniad am wregysau diogelwch ar fysiau a ddefnyddir yn gludiant i ddysgwyr

(1)Rhaid i gorff perthnasol sicrhau bod pob bws a ddefnyddir yn gludiant i ddysgwyr y mae'n ei ddarparu neu yn ei sicrhau fel arall yn un y mae gwregys diogelwch wedi ei ffitio i bob sedd deithiwr.

(2)Rhaid i berson sy'n darparu cludiant i ddysgwyr a sicrheir gan gorff perthnasol sicrhau bod pob bws a ddefnyddir ar gyfer cludiant o'r fath yn un y mae gwregys diogelwch wedi ei ffitio i bob sedd deithiwr.

(3)Mae person sy'n methu â chydymffurfio ag is-adran (1) neu (2) yn cyflawni tramgwydd ac yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 4 ar y raddfa safonol.

(4)Mae'n amddiffyniad i ddangos bod y methiant i gydymffurfio ag is-adran (1) neu (2) wedi ei gyfiawnhau oherwydd amgylchiadau eithriadol.

(5)Nid oes dim yn yr adran hon i'w ddehongli fel petai'n gosod safonau technegol ar gyfer gwneuthuriad neu gyfarpar cerbyd sy'n wahanol i'r safonau a fyddai neu a allai fod yn gymwys mewn modd arall i'r cerbyd hwnnw yn rhinwedd unrhyw ddeddfiad neu unrhyw ofyniad yng nghyfraith yr Undeb Ewropeaidd sy'n uniongyrchol gymwysadwy.

(6)Yn yr adran hon—

  • ystyr “bws” yw cerbyd modur sydd wedi ei wneuthur neu wedi ei addasu i gario mwy nag wyth o deithwyr ar eu heistedd yn ychwanegol at y gyrrwr;

  • ystyr “deddfiad” yw unrhyw un o'r canlynol, pryd bynnag y'i pasiwyd neu y'i gwnaed—

    (a)

    Deddf Seneddol;

    (b)

    is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan Ddeddf Seneddol;

    (c)

    darpariaeth mewn unrhyw Ddeddf neu is-ddeddfwriaeth o'r fath;

  • ystyr “gwregys diogelwch” yw gwregys sydd wedi ei fwriadu ar gyfer ei wisgo gan berson mewn cerbyd ac sydd wedi ei ddylunio i atal neu leihau anafiadau i'r sawl sy'n ei wisgo os bydd damwain i'r cerbyd..

2Rhagor o ddarpariaethau ar gyfer y disgrifiadau o gerbydau y caniateir eu defnyddio yn gludiant i ddysgwyr

Ar ôl adran 14A o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 rhodder—

Diogelwch ar gludiant i ddysgwyr

14BRhagor o ddarpariaethau ar gyfer y disgrifiadau o gerbydau y caniateir eu defnyddio yn gludiant i ddysgwyr

(1)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth bellach er mwyn—

(a)ei gwneud yn ofynnol i gorff perthnasol sicrhau mai dim ond cerbydau o ddisgrifiadau rhagnodedig a ddefnyddir yn gludiant i ddysgwyr y mae yn ei ddarparu neu yn ei sicrhau fel arall;

(b)ei gwneud yn ofynnol i berson sy'n darparu cludiant i ddysgwyr a sicrheir gan gorff perthnasol ddefnyddio cerbydau o ddisgrifiadau rhagnodedig yn unig;

(c)darparu am dramgwyddau troseddol a chosbau am dorri gofynion a osodir o dan yr adran hon.

(2)Caiff rheoliadau o dan baragraffau (a) a (b) o is-adran (1) ddisgrifio cerbydau drwy gyfeirio at wneuthuriad, cyfarpar neu nodweddion eraill cerbyd..

3Recordio delweddau gweledol neu sain ar gludiant i ddysgwyr

Ar ôl adran 14B o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 rhodder—

14CRecordio delweddau gweledol neu sain ar gludiant i ddysgwyr

(1)Caiff rheoliadau—

(a)ei gwneud yn ofynnol i drefniadau rhagnodedig gael eu gwneud i recordio delweddau gweledol neu sain o ddigwyddiadau sy'n digwydd ar gludiant i ddysgwyr a ddarperir neu a sicrheir fel arall gan gorff perthnasol;

(b)darparu ynghylch defnyddio, storio a chadw delweddau gweledol neu sain a recordir ar gludiant i ddysgwyr a ddarperir neu a sicrheir gan gorff perthnasol;

(c)darparu am dramgwyddau troseddol a chosbau am dorri gofynion a osodir o dan yr adran hon.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) (ymhlith pethau eraill) roi pwerau neu ddyletswyddau ar unrhyw un o'r canlynol—

(a)corff perthnasol;

(b)person sy'n darparu cludiant i ddysgwyr a sicrheir gan gorff perthnasol.

(3)Ni chaiff rheoliadau o dan is-adran (1) awdurdodi na'i gwneud yn ofynnol bod recordio yn digwydd mewn ffordd sydd wedi ei chynllunio i sicrhau nad yw personau sy'n ddarostyngedig iddo yn gwybod ei fod neu y gall fod yn digwydd..

4Asesiad risg diogelwch o gludiant i ddysgwyr

Ar ôl adran 14C o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 rhodder—

14DAsesiad risg diogelwch o gludiant i ddysgwyr

(1)Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i gorff perthnasol gynnal asesiadau risg diogelwch o'r cludiant i ddysgwyr y mae yn ei ddarparu neu yn ei sicrhau fel arall.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1)—

(a)gosod gofynion ynghylch natur yr asesiad i'w gynnal;

(b)ei gwneud yn ofynnol i lunio a chyhoeddi adroddiadau;

(c)rhagnodi ffurf a dull y cyhoeddi;

(d)rhagnodi pa mor aml y mae'n rhaid cynnal yr asesiadau..

5Hyfforddi gyrwyr

Ar ôl adran 14D o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 rhodder—

14EHyfforddi gyrwyr

(1)Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i gorff perthnasol sy'n darparu neu yn sicrhau fel arall bod cludiant i ddysgwyr yn cael ei ddarparu sicrhau bod gyrwyr cerbydau a ddefnyddir at y cyfryw gludiant wedi cwblhau hyfforddiant rhagnodedig i safon ragnodedig.

(2)Caniateir rhagnodi hyfforddiant a safonau drwy gyfeirio at ddogfen a gyhoeddir, fel a bennir yn y rheoliadau, gan Weinidogion Cymru.

(3)Yn yr adran hon ystyr “hyfforddiant” yw hyfforddiant am ddiogelwch ar gludiant i ddysgwyr a gweithio gyda phlant..

6Goruchwylwyr ar gludiant i ddysgwyr

Ar ôl adran 14E o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 rhodder—

14FGoruchwylwyr ar gludiant i ddysgwyr

(1)Caiff rheoliadau ddarparu ar gyfer goruchwylio dysgwyr sy'n defnyddio cludiant i ddysgwyr a ddarperir neu a sicrheir fel arall gan gorff perthnasol.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) (ymhlith pethau eraill)—

(a)rhoi pwerau i gorff perthnasol neu osod dyletswyddau arno;

(b)darparu ynghylch hyfforddiant i bersonau sy'n goruchwylio dysgwyr..

7Cosbau sifil

(1)Ar ôl adran 14F o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 rhodder—

14GCosbau sifil

Mae i Atodlen A1 effaith..

(2)Mae i Atodlen y Mesur hwn effaith.

8Awdurdod gorfodi

Ar ôl adran 14G o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 rhodder—

14HAwdurdod gorfodi

(1)Caiff rheoliadau benodi person neu gorff (gan gynnwys Gweinidogion Cymru) i fod yn awdurdod gorfodi.

(2)Caniateir penodi mwy nag un person neu gorff yn awdurdod gorfodi.

(3)Caiff rheoliadau roi pwerau i awdurdod gorfodi neu osod dyletswyddau arno i orfodi darpariaeth a wneir gan adran 14A a chan reoliadau o dan adrannau 14B a 14C ac Atodlen A1 a chânt (ymhlith pethau eraill)—

(a)rhoi pŵer i awdurdod gorfodi i awdurdodi person (y cyfeirir ato yn y Mesur hwn fel “arolygydd”) i arfer y pwerau yn adrannau 14I a 14J,

(b)gwneud addasiadau i unrhyw ddeddfiad sy'n gymwys i'r awdurdod gorfodi, neu

(c)darparu i'r cyfryw ddeddfiad fod yn gymwys, gyda neu heb addasiadau, at ddibenion adran 14A a rheoliadau o dan adrannau 14B a 14C, yr adran hon ac Atodlen A1.

(4)Mae cyfeiriadau yn y Mesur hwn at awdurdod gorfodi yn gyfeiriadau at berson neu gorff a benodir o dan yr adran hon ac maent yn cynnwys person a benodir gan awdurdod gorfodi.

(5)Yn yr adran hon mae “deddfiad” yn cynnwys—

(a)deddfiad pryd bynnag y'i pasiwyd neu y'i gwnaed,

(b)deddfiad a geir mewn Mesur neu Ddeddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, ac

(c)darpariaeth a geir mewn is-ddeddfwriaeth o fewn ystyr is-ddeddfwriaeth yn Neddf Dehongli 1978 (gan gynnwys is-ddeddfwriaeth a wneir o dan Fesur neu Ddeddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru)..

9Pŵer mynediad

Ar ôl adran 14H o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 rhodder—

14IPŵer mynediad

(1)Mae'r adran hon yn gymwys i—

(a)cerbyd neu unrhyw fangre dan berchnogaeth neu reolaeth corff perthnasol;

(b)cerbyd neu fangre sy'n dod o fewn is-adran (2).

(2)Cerbyd neu fangre sy'n dod o fewn yr is-adran hon yw—

(a)y rhai a ddefnyddir, neu y bwriedir eu defnyddio, gan unrhyw berson mewn cysylltiad â darparu cludiant i ddysgwyr a ddarperir neu a sicrheir fel arall gan gorff perthnasol, neu

(b)y rhai y mae arolygydd yn credu yn rhesymol eu bod yn cael eu defnyddio felly, neu y bwriedir eu defnyddio felly.

(3)Caiff arolygydd ar unrhyw adeg resymol—

(a)cadw cerbyd yn gaeth;

(b)mynd i gerbyd neu fangre.

(4)Ond nid yw'r pŵer yn is-adran (3) yn cynnwys y pŵer i fynd i fangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu'n bennaf yn annedd breifat.

(5)Rhaid i arolygydd sy'n arfer unrhyw bŵer a roddir o dan is-adran (3) neu adran 14J, os bydd yn ofynnol iddo wneud hynny, ddangos dogfen a awdurdodwyd yn briodol sy'n dangos bod gan yr arolygydd yr awdurdod i wneud felly..

10Pŵer arolygu

Ar ôl adran 14I o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 rhodder—

14JPŵer arolygu

(1)Caiff arolygydd sy'n cadw cerbyd yn gaeth neu yn mynd i mewn i gerbyd neu fangre o dan adran 14I—

(a)arolygu'r cerbyd neu'r fangre;

(b)arolygu unrhyw ddogfennau neu gofnodion sy'n ymwneud â darparu cludiant i ddysgwyr, cymryd copïau ohonynt a mynd â hwy o'r cerbyd neu'r fangre;

(c)arolygu unrhyw eitem arall a mynd ag ef o'r cerbyd neu'r fangre.

(2)Mae'r pŵer yn is-adran (1)(b) yn cynnwys—

(a)pŵer i'w gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sy'n dal dogfennau neu gofnodion a gedwir yn y cerbyd neu'r fangre neu sy'n gyfrifol am y dogfennau neu'r cofnodion hynny i'w dangos hwy, a

(b)o ran cofnodion a gedwir yn gyfrifiadurol, pŵer i'w gwneud yn ofynnol dangos y cofnodion ar ffurf y mae modd eu darllen a mynd â hwy i ffwrdd.

(3)Nid yw'r pŵer yn is-adran (1)(b) yn cynnwys pŵer—

(a)sy'n ei gwneud yn ofynnol i berson ddangos unrhyw ddogfennau neu gofnodion y gellid cynnal hawliad am fraint broffesiynol gyfreithiol mewn cysylltiad â hwy mewn achos cyfreithiol, neu

(b)i gymryd copïau o'r cyfryw ddogfennau neu gofnodion neu i fynd â hwy i ffwrdd.

(4)Mewn cysylltiad ag arolygu'r cyfryw ddogfennau, caiff arolygydd—

(a)mynd at unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw gyfarpar neu ddeunydd cysylltiedig sydd yn ei dyb ef yn cael neu wedi cael ei ddefnyddio mewn cysylltiad â'r dogfennau ac arolygu a gwirio gweithrediad y cyfrifiadur, y cyfarpar cysylltiedig neu'r deunydd, a

(b)ei gwneud yn ofynnol i berson o fewn is-adran (5) roi unrhyw gymorth rhesymol a all fod yn ofynnol at y diben hwnnw.

(5)Mae person o fewn yr is-adran hon—

(a)os y person hwnnw yw'r person sy'n defnyddio'r cyfrifiadur neu a'i defnyddiodd neu'r person y defnyddir neu y defnyddiwyd y cyfrifiadur ar ei ran, neu

(b)os yw'r person hwnnw yn berson sydd â gofal y cyfrifiadur, y cyfarpar neu'r deunydd, neu'n ymwneud fel arall â'u gweithrediad.

(6)Caiff arolygydd sy'n cadw cerbyd yn gaeth neu'n mynd i gerbyd neu fangre ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson roi unrhyw gyfleusterau neu gymorth iddo o ran materion o fewn rheolaeth y person ag sy'n angenrheidiol er mwyn ei alluogi i arfer pwerau o dan adran 14I neu'r adran hon.

(7)Bydd unrhyw berson sydd, heb esgus rhesymol—

(a)yn rhwystro arolygydd rhag arfer unrhyw bŵer o dan adran 14I neu'r adran hon, neu

(b)yn methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir o dan yr adran hon,

yn euog o dramgwydd ac yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 4 ar y raddfa safonol..

11Y pŵer i fynnu gwybodaeth

Ar ôl adran 14J o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 rhodder—

14KY pŵer i fynnu gwybodaeth

(1)Caiff awdurdod gorfodi ar unrhyw adeg ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson a bennir yn is-adran (2) roi iddo unrhyw wybodaeth, dogfennau, cofnodion neu eitemau eraill—

(a)sy'n ymwneud â darparu cludiant i ddysgwyr, a

(b)sydd, ym marn yr awdurdod gorfodi, yn angenrheidiol neu'n hwylus i'w cael at ddibenion ei swyddogaethau fel yr awdurdod gorfodi.

(2)Y personau y cyfeirir atynt yn is-adran (1) yw—

(a)corff perthnasol;

(b)unrhyw berson sy'n darparu cludiant i ddysgwyr a sicrheir gan gorff perthnasol.

(3)Mae'r pŵer yn is-adran (1) yn cynnwys, mewn perthynas â gwybodaeth, dogfennau neu gofnodion a gedwir yn gyfrifiadurol, y pŵer i'w gwneud yn ofynnol eu darparu ar ffurf y mae modd eu darllen a mynd â hwy i ffwrdd.

(4)Nid yw'r pŵer yn is-adran (1) yn cynnwys pŵer i'w gwneud yn ofynnol bod gwybodaeth, dogfennau neu gofnodion y gellid cynnal hawliad am fraint broffesiynol gyfreithiol mewn cysylltiad â hwy mewn achos cyfreithiol yn cael eu darparu.

(5)Mae unrhyw berson sydd heb esgus rhesymol yn methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir yn rhinwedd yr adran hon yn euog o dramgwydd ac yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 4 ar yr raddfa safonol..

12Tramgwyddau: atebolrwydd swyddogion a phartneriaid

Ar ôl adran 14K o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 mewnosoder—

14LTramgwyddau: atebolrwydd swyddogion a phartneriaid

(1)Pan brofir bod tramgwydd o dan adran 14A, 14B neu 14C a gyflawnir gan gorff corfforaethol wedi ei gyflawni gyda chydsyniad neu gydgynllwyn swyddog o'r corff corfforaethol, neu i'w briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran swyddog o'r corff corfforaethol, caiff rheoliadau ddarparu y bydd y swyddog yn atebol yn ogystal â'r corff corfforaethol ei hun.

(2)Pan brofir bod tramgwydd o dan adran 14A, 14B neu 14C a gyflawnir gan bartneriaeth wedi ei gyflawni gyda chydsyniad neu gydgynllwyn partner yn y bartneriaeth, neu i'w briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran partner yn y bartneriaeth, caiff rheoliadau ddarparu y bydd y partner yn atebol yn ogystal â'r bartneriaeth ei hun..

13Rheoliadau: ymgynghori

Ar ôl 14L o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) mewnosoder—

14MRheoliadau: ymgynghori

Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â phob awdurdod lleol ac ag unrhyw bersonau eraill y mae yn eu barn hwy yn briodol ymgynghori â hwy cyn gwneud unrhyw reoliadau o dan adrannau 14B i 14F, adran 14H neu 14L neu Atodlen A1..

14 Dehongli

Ar ôl adran 14M o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 mewnosoder—

14NDehongli adrannau 14A i 14K

(1)Mae'r adran hon yn gymwys at ddibenion adrannau 14A i 14K.

(2)Mae pob un o'r canlynol yn “gorff perthnasol”—

(a)awdurdod lleol;

(b)corff llywodraethu ysgol a gynhelir.

(3)Ystyr “cludiant i ddysgwyr” yw cludiant i'w gwneud yn hwylus i blentyn fynychu unrhyw fan perthnasol lle y caiff addysg neu hyfforddiant; ond nid yw'n cynnwys cludiant a ddarperir er mwyn teithio yn ystod y dydd rhwng mannau perthnasol neu rhwng safleoedd gwahanol o'r un sefydliad.

(4)Nid yw'r weithred o wneud unrhyw un o'r trefniadau a ganlyn i'w hystyried, ynddi'i hun, fel petai'n darparu cludiant i ddysgwyr neu'n sicrhau fel arall bod cludiant i ddysgwyr yn cael ei ddarparu.

(5)Y trefniadau a grybwyllir yn is-adran (4) yw—

(a)trefniadau i dalu'r cyfan neu unrhyw ran o dreuliau teithio rhesymol person;

(b)trefniadau i dalu lwfansau mewn cysylltiad â defnyddio cludiant.

(6)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, ddiwygio is-adran (3) yn y fath fodd ag i hepgor y geiriau o “ond nid yw'n cynnwys” hyd at ddiwedd yr is-adran..

15Darpariaethau cyffredinol am orchmynion a rheoliadau

(1)Diwygier adran 27 o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 (gorchmynion a rheoliadau) fel a ganlyn.

(2)Yn is-adran (2)—

(a)ym mharagraff (a), ar ôl “neu” rhodder “ddosbarthau ar achos neu ddibenion gwahanol neu”;

(b)ar ôl paragraff (a) mewnosoder—

(aa)i wneud darpariaeth yn ddarostyngedig i esemptiadau neu eithriadau penodedig;;

(c)ym mharagraff (b), ar ôl “achosion” mewnosoder “neu ddosbarthau ar achos”.

(3)Yn is-adran (3), hepgorer “adran 7 neu adran 8” a rhodder “7, 8, 14B, 14C, 14D, 14E, 14F, 14H neu 14L neu Atodlen A1”.

(4)Ar ôl is-adran (4), mewnosoder—

(4A)Wrth gymhwyso is-adran (4) i reoliadau a wneir o dan adrannau 14B i 14F, adran 14H neu 14L neu Atodlen A1 mae'r cyfeiriad at “y Mesur hwn” yn is-adran (4) i'w ddehongli fel cyfeiriad at Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2011..

(5)Yn is-adran (7)—

(a)ym mharagraff (d) hepgorer “neu”;

(b)ar ôl paragraff (d) mewnosoder—

(da)rheoliadau o dan adran 14B, 14C, 14D, 14E, 14F, 14H neu 14L neu Atodlen A1, neu

(db)gorchymyn o dan adran 14N(6)..

16 Cychwyn

(1)Mae adran 1 yn dod i rym ar 1 Hydref 2014.

(2)Daw gweddill darpariaethau'r Mesur hwn i rym ar ddiwedd cyfnod o ddau fis sy'n dechrau ar y diwrnod y caiff y Mesur hwn ei gymeradwyo gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor.

17Enw byr

Enw'r Mesur hwn yw Mesur Diogelwch ar Gludiant i Ddysgwyr (Cymru) 2011.

(a gyflwynwyd gan adran 7)

ATODLENCOSBAU SIFILl

Diwygiadau i Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008

Ar ôl adran 29 o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 mewnosoder—

(a gyflwynwyd gan adran 14G)

ATODLEN A1COSBAU SIFIL

Cosbau sifil

1(1)Caiff rheoliadau ddarparu ynghylch cosbau sifil am dorri rheoliadau diogelwch.

(2)At ddibenion yr Atodlen hon, mae person yn torri rheoliadau diogelwch os yw'r person, o dan amgylchiadau a bennir—

(a)yn methu â chydymffurfio â gofyniad a wneir gan neu o dan reoliadau diogelwch, neu

(b)yn rhwystro neu'n methu â chynorthwyo awdurdod gorfodi.

(3)Yn yr Atodlen hon—

  • ystyr “cosb sifil” yw—

    (a)

    cosb ariannol benodedig (gweler paragraff 2),

    (b)

    gofyniad yn ôl disgresiwn (gweler paragraff 4),

    (c)

    hysbysiad stop (gweler paragraff 7), neu

    (d)

    ymgymeriad gorfodi (gweler paragraff 11);

  • ystyr “rheoliadau diogelwch” yw rheoliadau a wneir o dan adran 14B neu 14C.

Cosbau ariannol penodedig

2(1)Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth sy'n rhoi'r pŵer i awdurdod gorfodi i osod drwy hysbysiad gosb ariannol benodedig ar berson sy'n torri rheoliadau diogelwch.

(2)Ni chaiff y rheoliadau roi'r cyfryw bŵer ond mewn perthynas ag achos pan fo'r awdurdod gorfodi wedi ei fodloni yn ôl pwysau tebygolrwydd fod y rheoliadau wedi eu torri.

(3)At ddibenion yr Atodlen hon, gofyniad i dalu cosb i awdurdod gorfodi a'r gosb honno yn un o swm a bennir neu y penderfynir arno yn unol â'r rheoliadau yw “cosb ariannol benodedig”.

(4)Ni chaiff y rheoliadau ddarparu am osod cosb ariannol benodedig uwch na £5,000.

Cosbau ariannol penodedig: y weithdrefn

3(1)Rhaid i ddarpariaeth o dan baragraff 2 sicrhau—

(a)pan fo awdurdod gorfodi yn bwriadu gosod cosb ariannol benodedig ar berson, bod rhaid i'r awdurdod gorfodi gyflwyno hysbysiad o'r hyn a fwriedir (“hysbysiad o fwriad”) i'r person hwnnw a'r hysbysiad hwnnw'n cydymffurfio ag is-baragraff (2),

(b)bod yr hysbysiad o fwriad hefyd yn cynnig y cyfle i'r person ei ryddhau ei hun o'i atebolrwydd i dalu'r gosb ariannol benodedig drwy dalu swm penodedig (y mae'n rhaid iddo fod yn llai na swm y gosb neu gyfwerth â'r swm hwnnw),

(c)os nad yw'r person yn ei ryddhau ei hun o'r atebolrwydd yn y ffordd hon—

(i)y caiff y person gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau ysgrifenedig i'r awdurdod gorfodi mewn perthynas â'r bwriad i osod cosb ariannol benodedig, a

(ii)ar ddiwedd y cyfnod ar gyfer cyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau, bod rhaid i'r awdurdod gorfodi benderfynu p'un ai gosod y gosb ariannol benodedig ai peidio,

(d)pan fo'r awdurdod gorfodi yn penderfynu gosod y gosb ariannol benodedig, bod yr hysbysiad sy'n ei gosod (“yr hysbysiad terfynol”) yn cydymffurfio ag is-baragraff (4), ac

(e)bod y person y gosodir cosb ariannol benodedig arno yn cael apelio yn erbyn y penderfyniad i'w osod.

(2)I gydymffurfio â'r is-baragraff hwn, rhaid i'r hysbysiad o fwriad gynnwys gwybodaeth am—

(a)y seiliau dros y bwriad i osod y gosb ariannol benodedig,

(b)effaith talu'r swm y cyfeirir ato yn is-baragraff (1)(b),

(c)yr hawl i gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau,

(d)yr amgylchiadau pryd na chaiff yr awdurdod gorfodi osod y gosb ariannol benodedig,

(e)y cyfnod pryd y caniateir i berson ei ryddhau ei hun o'i atebolrwydd i dalu'r gosb ariannol benodedig, nas caniateir i fod yn fwy na'r cyfnod o 28 diwrnod sy'n dechrau ar y diwrnod pryd y cafwyd yr hysbysiad o fwriad, ac

(f)y cyfnod pryd y caniateir cyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau, nas caniateir i fod yn fwy na'r 28 diwrnod sy'n dechrau ar y diwrnod y cafwyd yr hysbysiad o fwriad.

(3)Rhaid i ddarpariaeth yn unol ag is-baragraff (1)(c)(ii) gynnwys darpariaeth am amgylchiadau pryd na chaniateir i'r awdurdod gorfodi benderfynu gosod cosb ariannol benodedig.

(4)I gydymffurfio â'r is-baragraff hwn rhaid i'r hysbysiad terfynol y cyfeirir ato yn is-baragraff (1)(d) gynnwys gwybodaeth am—

(a)y seiliau dros osod y gosb,

(b)sut y caniateir i'r taliad gael ei wneud,

(c)y cyfnod pryd y mae'n rhaid gwneud y taliad,

(d)unrhyw ddisgowntiau am wneud taliadau cynnar neu gosbau am wneud taliadau hwyr,

(e)hawliau apelio, ac

(f)canlyniadau peidio â thalu.

(5)Rhaid i ddarpariaeth yn unol ag is-baragraff (1)(e) sicrhau bod y seiliau y caniateir i berson apelio arnynt yn erbyn penderfyniad gan yr awdurdod gorfodi yn cynnwys y canlynol—

(a)bod y penderfyniad wedi ei wneud ar sail camgymeriad ffeithiol;

(b)bod y penderfyniad yn anghywir o ran y gyfraith;

(c)bod y penderfyniad yn afresymol.

Gofynion yn ôl disgresiwn

4(1)Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth sy'n rhoi'r pŵer i awdurdod gorfodi osod, drwy hysbysiad, un neu ragor o ofynion yn ôl disgresiwn ar berson sy'n torri rheoliadau diogelwch.

(2)Ni chaiff y rheoliadau roi'r cyfryw bŵer ond mewn perthynas ag achos pan fo'r awdurdod gorfodi wedi ei fodloni yn ôl pwysau tebygolrwydd fod y rheoliadau wedi eu torri.

(3)At ddibenion yr Atodlen hon ystyr “gofyniad yn ôl disgresiwn” yw—

(a)gofyniad i dalu cosb ariannol i awdurdod gorfodi o swm y caniateir i'r awdurdod gorfodi ei benderfynu, neu

(b)gofyniad i gymryd unrhyw gamau a bennir gan awdurdod gorfodi, cyn pen cyfnod a bennir gan yr awdurdod gorfodi, er mwyn sicrhau nad yw'r toriad yn parhau neu'n digwydd eto.

(4)Yn yr Atodlen hon—

  • ystyr “cosb ariannol amrywiadwy” yw gofyniad y cyfeirir ato yn is-baragraff (3)(a);

  • ystyr “gofyniad heb fod yn ariannol yn ôl disgresiwn” yw gofyniad y cyfeirir ato yn is-baragraff (3)(b).

(5)Rhaid i'r rheoliadau, mewn perthynas â phob math o doriad o reoliadau diogelwch y caniateir gosod cosb amrywiadwy amdano—

(a)pennu'r gosb uchaf y caniateir ei gosod am doriad o'r math hwnnw, neu

(b)darparu am benderfynu'r gosb uchaf honno yn unol â'r rheoliadau.

(6)Ni chaiff y rheoliadau ganiatáu gosod gofynion yn ôl disgresiwn ar berson ar ragor nag un achlysur mewn perthynas â'r un weithred neu anwaith.

Gofynion yn ôl disgresiwn: y weithdrefn

5(1)Rhaid i ddarpariaeth o dan baragraff 4 sicrhau—

(a)pan fo awdurdod gorfodi yn bwriadu gosod gofyniad yn ôl disgresiwn ar berson, bod rhaid i'r awdurdod gorfodi gyflwyno hysbysiad o'r hyn a fwriedir (“hysbysiad o fwriad”) i'r person hwnnw a'r hysbysiad hwnnw yn cydymffurfio ag is-baragraff (2),

(b)y caiff y person hwnnw gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau ysgrifenedig i'r awdurdod gorfodi mewn perthynas â'r bwriad i osod gofyniad yn ôl disgresiwn,

(c)ar ôl diwedd y cyfnod ar gyfer cyflwyno'r cyfryw sylwadau a gwrthwynebiadau, rhaid i'r awdurdod gorfodi benderfynu p'un ai—

(i)i osod y gofyniad yn ôl disgresiwn, gyda neu heb addasiadau, neu

(ii)i osod unrhyw ofyniad arall yn ôl disgresiwn y mae gan yr awdurdod gorfodi y pŵer i'w osod o dan baragraff 4,

(d)pan fo'r awdurdod gorfodi yn penderfynu gosod gofyniad yn ôl disgresiwn, bod yr hysbysiad sy'n ei osod (yr “hysbysiad terfynol”) yn cydymffurfio ag is-baragraff (4), ac

(e)bod y person y gosodir gofyniad yn ôl disgresiwn arno yn cael apelio yn erbyn y penderfyniad i'w osod.

(2)I gydymffurfio â'r is-baragraff hwn, rhaid i'r hysbysiad o fwriad gynnwys gwybodaeth am—

(a)y seiliau dros y bwriad i osod y gofyniad yn ôl disgresiwn;

(c)yr hawl i gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau;

(c)yr amgylchiadau pryd na chaiff yr awdurdod gorfodi osod y gofyniad yn ôl disgresiwn;

(d)y cyfnod pryd y caniateir cyflwyno sylwadau ac gwrthwynebiadau, nas caniateir i fod yn fwy na'r 28 diwrnod sy'n dechrau ar y diwrnod y cafwyd yr hysbysiad o fwriad.

(3)Rhaid i ddarpariaeth yn unol ag is-baragraff (1)(c) gynnwys darpariaeth am amgylchiadau pryd na chaniateir i'r awdurdod gorfodi benderfynu gosod gofyniad yn ôl disgresiwn.

(4)I gydymffurfio â'r is-baragraff hwn rhaid i'r hysbysiad terfynol y cyfeirir ato yn is-baragraff (1)(d) gynnwys gwybodaeth am—

(a)y seiliau dros osod y gofyniad yn ôl disgresiwn,

(b)pan fo'r gofyniad yn ôl disgresiwn yn gosb ariannol amrywiadwy—

(i)sut y caniateir i'r taliad gael ei wneud,

(ii)y cyfnod pryd y mae'n rhaid gwneud y taliad, a

(iii)unrhyw ddisgowntiau am wneud taliadau cynnar neu gosbau am wneud taliadau hwyr,

(c)hawliau apelio, a

(d)canlyniadau peidio â chydymffurfio.

(5)Rhaid i ddarpariaeth yn unol ag is-baragraff (1)(e) sicrhau bod y seiliau y caniateir i berson apelio arnynt yn erbyn penderfyniad gan yr awdurdod gorfodi yn cynnwys y canlynol—

(a)bod y penderfyniad wedi ei wneud ar sail camgymeriad ffeithiol;

(b)bod y penderfyniad yn anghywir o ran y gyfraith;

(c)yn achos cosb ariannol amrywiadwy, bod swm y gosb yn afresymol;

(d)yn achos gofyniad heb fod yn ariannol yn ôl disgresiwn, bod natur y gofyniad yn afresymol;

(e)bod y penderfyniad yn afresymol am unrhyw reswm arall.

Gofynion yn ôl disgresiwn: gorfodi

6(1)Caiff darpariaeth o dan baragraff 4 gynnwys darpariaeth i berson dalu cosb ariannol (“cosb am beidio â chydymffurfio”) i awdurdod gorfodi os yw'r person yn methu â chydymffurfio â gofyniad heb fod yn ariannol yn ôl disgresiwn a osodir ar y person.

(2)Caiff darpariaeth o dan is-baragraff (1)—

(a)pennu swm y gosb am beidio â chydymffurfio neu ddarparu i'r swm hwnnw gael ei benderfynu yn unol â'r rheoliadau, neu

(b)darparu i'r swm gael ei benderfynu gan yr awdurdod gorfodi neu drwy rhyw ffordd arall.

(3)Os yw rheoliadau yn gwneud darpariaeth o fewn is-baragraff (2)(b), rhaid iddynt, mewn perthynas â phob math o fethiant y caniateir gosod cosb am beidio â chydymffurfio—

(a)pennu'r gosb uchaf y caniateir ei gosod am fethiant o'r math hwnnw, neu

(b)darparu am benderfynu'r gosb uchaf honno yn unol â'r rheoliadau.

(4)Rhaid i ddarpariaeth o dan is-baragraff (1) sicrhau —

(a)bod y gosb am beidio â chydymffurfio yn cael ei gosod drwy hysbysiad a gyflwynir gan yr awdurdod gorfodi, a

(b)bod y person y gosodir hi arno yn cael apelio yn erbyn yr hysbysiad hwnnw.

(5)Rhaid i ddarpariaeth yn unol â pharagraff (b) o is-baragraff (4) sicrhau bod y seiliau y caniateir i berson apelio arnynt yn erbyn hysbysiad y cyfeirir ato yn yr is-baragraff hwnnw yn cynnwys y canlynol—

(a)bod y penderfyniad i gyflwyno'r hysbysiad wedi ei seilio ar gamgymeriad ffeithiol;

(b)bod y penderfyniad yn anghywir o ran y gyfraith;

(c)bod y penderfyniad yn annheg neu'n afresymol am unrhyw reswm (gan gynnwys, mewn achos pan benderfynwyd swm y gosb am beidio â chydymffurfio gan yr awdurdod gorfodi, bod y swm yn afresymol).

Hysbysiadau stop

7(1)Caiff y rheoliadau roi i awdurdod gorfodi y pŵer i gyflwyno hysbysiad stop i berson.

(2)At ddibenion yr Atodlen hon “hysbysiad stop” yw hysbysiad sy'n atal person rhag cyflawni gweithgaredd a bennir yn yr hysbysiad hyd nes i'r person gymryd y camau a bennir yn yr hysbysiad.

(3)Ni chaiff darpariaeth o dan y paragraff hwn ond rhoi'r cyfryw bŵer mewn perthynas ag achos sy'n dod o fewn is-baragraff (4) neu (5).

(4)Mae achos yn dod o fewn yr is-baragraff hwn pan fo—

(a)y person yn cyflawni'r gweithgaredd,

(b)yr awdurdod gorfodi yn credu'n rhesymol bod y gweithgaredd fel y'i cyflawnir gan y person hwnnw yn achosi, neu'n peri risg arwyddocaol o achosi, niwed difrifol i iechyd pobl, ac

(c)yr awdurdod gorfodi yn credu bod y gweithgaredd fel y'i cyflawnir gan y person hwnnw yn cynnwys neu'n debygol o gynnwys toriad yn y rheoliadau a wneir o dan adran 14B gan y person hwnnw.

(5)Mae achos yn dod o fewn yr is-baragraff hwn pan fo'r awdurdod gorfodi yn credu'n rhesymol—

(a)bod y person yn debygol o gyflawni'r gweithgaredd,

(b)y bydd y gweithgaredd, o'i gyflawni yn y ffordd y mae'r person hwnnw yn debygol o'i gyflawni, yn achosi, neu'n peri risg arwyddocaol o achosi, niwed difrifol i iechyd pobl, ac

(c)y bydd y gweithgaredd, o'i gyflawni yn y ffordd y mae'r person hwnnw yn debygol o'i gyflawni yn cynnwys neu'n debygol o gynnwys toriad yn y rheoliadau o dan adran 14B gan y person hwnnw.

(6)Rhaid i'r camau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (2) fod yn gamau i ddileu neu leihau'r niwed neu'r risg o niwed y cyfeirir ato yn is-baragraff (4)(b) neu (5)(b).

Hysbysiadau stop: y weithdrefn

8(1)Rhaid i ddarpariaeth o dan baragraff 7 sicrhau'r canlyniadau yn is-baragraff (2) mewn achos pan fo hysbysiad stop yn cael ei gyflwyno.

(2)Dyma'r canlyniadau hynny—

(a)rhaid i'r hysbysiad stop gydymffurfio ag is-baragraff (3),

(b)caiff y person y cyflwynir ef iddo apelio yn erbyn y penderfyniad i'w gyflwyno,

(c)pan fo'r awdurdod gorfodi, ar ôl i'r hysbysiad gael ei gyflwyno, yn fodlon bod y person wedi cymryd y camau a bennir yn yr hysbysiad, rhaid i'r awdurdod gorfodi ddyroddi tystysgrif i ardystio i'r perwyl hwnnw (“tystysgrif gwblhau”),

(d)mae'r hysbysiad yn peidio â bod yn effeithiol wrth i dystysgrif gwblhau gael ei dyroddi,

(e)caiff y person y cyflwynwyd yr hysbysiad iddo wneud cais ar unrhyw bryd am dystysgrif gwblhau,

(f)rhaid i'r awdurdod gorfodi benderfynu p'un ai i ddyroddi tystysgrif gwblhau ai peidio a hynny cyn pen 14 o ddiwrnodau ar ôl i'r cyfryw gais gael ei wneud, ac

(g)caiff y person y cyflwynwyd yr hysbysiad iddo apelio yn erbyn penderfyniad i beidio â dyroddi tystysgrif gwblhau.

(3)I gydymffurfio â'r is-baragraff hwn rhaid i hysbysiad stop gynnwys gwybodaeth am—

(a)y seiliau dros gyflwyno'r hysbysiad,

(b)hawliau apelio, ac

(c)canlyniadau peidio â chydymffurfio.

(4)Rhaid i ddarpariaeth yn unol ag is-baragraff (2)(b) sicrhau bod y seiliau y caiff person apelio arnynt yn erbyn penderfyniad gan yr awdurdod gorfodi i gyflwyno hysbysiad stop yn cynnwys y canlynol—

(a)bod y penderfyniad wedi ei wneud ar sail camgymeriad ffeithiol;

(b)bod y penderfyniad yn anghywir o ran y gyfraith;

(c)bod y penderfyniad yn afresymol;

(d)bod unrhyw gam a bennir yn yr hysbysiad yn afresymol;

(e)nad yw'r person wedi torri'r rheoliadau ac ni fyddai wedi eu torri pe na bai'r hysbysiad stop wedi ei gyflwyno;

(f)unrhyw seiliau eraill a bennir.

(5)Rhaid i ddarpariaeth yn unol ag is-baragraff (2)(g) sicrhau bod y seiliau y caniateir i berson apelio arnynt yn erbyn penderfyniad gan yr awdurdod gorfodi i beidio â dyroddi tystysgrif gwblhau yn cynnwys y canlynol—

(a)bod y penderfyniad wedi ei wneud ar sail camgymeriad ffeithiol;

(b)bod y penderfyniad yn anghywir o ran y gyfraith;

(c)bod y penderfyniad yn annheg neu'n afresymol.

Hysbysiadau stop: digolledu

9(1)Rhaid i ddarpariaeth o dan baragraff 7 sy'n rhoi pŵer i awdurdod gorfodi i gyflwyno hysbysiad stop i berson gynnwys darpariaeth i'r awdurdod gorfodi ddigolledu'r person am y golled a ddioddefodd o ganlyniad i gyflwyno'r hysbysiad.

(2)Caiff darpariaeth o dan is-baragraff (1) ddarparu am ddigollediad—

(a)mewn achosion rhagnodedig yn unig;

(b)mewn perthynas â disgrifiadau rhagnodedig o golled yn unig.

(3)Rhaid i ddarpariaeth o dan is-baragraff (1) sicrhau bod y person y cyflwynir yr hysbysiad stop iddo yn gallu apelio yn erbyn—

(a)penderfyniad gan y rheoleiddiwr i beidio â dyfarnu digollediad, neu

(b)penderfyniad gan y rheoleiddiwr ar swm y digollediad.

Hysbysiadau stop: gorfodi

10(1)Rhaid i ddarpariaeth o dan baragraff 7 sy'n rhoi pŵer i awdurdod gorfodi i gyflwyno hysbysiad stop ddarparu, pan na fo person y cyflwynwyd hysbysiad iddo yn cydymffurfio ag ef, bod y person yn euog o dramgwydd ac yn agored—

(a)ar gollfarn ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol, neu garchar am gyfnod nad yw'n hwy na deuddeng mis, neu'r ddau, neu

(b)o'i gollfarnu ar dditiad, i garchar am gyfnod nad yw'n hwy na dwy flynedd, neu ddirwy, neu'r ddau.

(2)Wrth gymhwyso'r adran hon mewn perthynas â thramgwydd a gyflawnwyd cyn cychwyn adran 154(1) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003, mae'r cyfeiriad yn is-baragraff (1)(a) at ddeuddeng mis i'w ddarllen fel cyfeiriad at chwe mis.

Ymgymeriadau gorfodi

11(1)Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth—

(a)i alluogi awdurdod gorfodi i dderbyn ymgymeriad gorfodi oddi wrth berson mewn achos pan fo gan yr awdurdod gorfodi seiliau rhesymol dros amau bod y person wedi mynd yn groes i gyfyngiad neu ofyniad a osodwyd mewn rheoliadau diogelwch, a

(b)bod i dderbyn yr ymgymeriad y canlyniadau yn is-baragraff (4).

(2)At ddibenion y Rhan hon, mae “ymgymeriad gorfodi” yn ymgymeriad i gymryd unrhyw gamau a bennir yn yr ymgymeriad yn cyfnod a bennir felly.

(3)Rhaid i'r camau a bennir mewn ymgymeriad gorfodi fod—

(a)yn gamau i sicrhau nad yw'r weithred o fynd yn groes i'r cyfyngiad neu'r gofyniad yn parhau nac yn digwydd eto, neu

(b)yn gamau o ddisgrifiad rhagnodedig.

(4)Y canlyniadau yn yr is-baragraff hwn yw, oni bai bod y person y derbynnir yr ymgymeriad oddi wrtho wedi methu â chydymffurfio â'r ymgymeriad neu unrhyw ran ohono—

(a)ni chaniateir i'r person hwnnw gael ei gollfarnu o dramgwydd o dan reoliadau diogelwch mewn cysylltiad â'r weithred neu'r anwaith y mae'r ymgymeriad yn ymwneud â hi neu ag ef,

(b)ni chaiff yr awdurdod gorfodi osod unrhyw gosb ariannol benodedig ar y person hwnnw y byddai ganddo fel arall y pŵer i'w gosod yn rhinwedd paragraff 2 mewn cysylltiad â'r weithred honno neu'r anwaith hwnnw, ac

(c)ni chaiff yr awdurdod gorfodi osod unrhyw ofyniad yn ôl disgresiwn ar y person hwnnw y byddai ganddo fel arall y pŵer i'w osod yn rhinwedd paragraff 4 mewn cysylltiad â'r weithred honno neu'r anwaith hwnnw.

(5)Caiff y rheoliadau (ymhlith pethau eraill) gynnwys darpariaeth—

(a)am y weithdrefn i wneud ymgymeriad;

(b)am delerau ymgymeriad;

(c)am gyhoeddi ymgymeriad gan awdurdod gorfodi;

(d)am amrywio ymgymeriad;

(e)am amgylchiadau pryd y caniateir ystyried bod person wedi cydymffurfio ag ymgymeriad;

(f)am fonitro cydymffurfiaeth ag ymgymeriad gan awdurdod gorfodi;

(g)am ardystio gan awdurdod gorfodi y bu cydymffurfio ag ymgymeriad;

(h)am apelau yn erbyn gwrthod rhoi'r cyfryw ardystiad;

(i)mewn achos pan fo person wedi rhoi gwybodaeth anghywir, gamarweiniol neu anghyflawn mewn perthynas â'r ymgymeriad, am i'r person hwnnw gael ei ystyried yn un nad yw wedi cydymffurfio ag ef;

(j)mewn achos pan fo person wedi cydymffurfio yn rhannol ond ddim yn llawn ag ymgymeriad, i'r gydymffurfiaeth rannol gael ei chymryd i ystyriaeth wrth osod unrhyw gosb droseddol neu gosb arall ar y person;

(k)at ddibenion galluogi cychwyn achos troseddol yn erbyn person mewn cysylltiad â mynd yn groes i'r gofyniad neu'r cyfyngiad os digwydd i ymgymeriad gael ei dorri neu i ran ohono gael ei thorri;

(l)i estyn unrhyw gyfnod pryd y caniateir cychwyn yr achos hwnnw ynddo.

Cyfuno cosbau

12Ni chaniateir gwneud darpariaeth o dan y paragraffau a bennir mewn cofnod yng ngholofn 1 o'r tabl a ganlyn mewn perthynas â'r un math o doriad o reolau diogelwch oni bai bod yr amodau cyntaf a'r ail amodau a roddir yn y cofnodion cyfatebol yng ngholofnau 2 a 3 yn cael eu bodloni.

TABL
Colofn 1Colofn 2Colofn3
Paragraffau o'r Atodlen honYr Amod CyntafYr Ail Amod
Paragraffau 2 a 4Rhaid i'r ddarpariaeth sicrhau na chaiff yr awdurdod gorfodi gyflwyno hysbysiad o fwriad y cyfeirir ato ym mharagraff 3(1)(a) i berson mewn perthynas â thoriad pan fo gofyniad yn ôl disgresiwn wedi ei osod ar y person hwnnw mewn perthynas â'r un toriad.

Rhaid i'r ddarpariaeth sicrhau na chaiff yr awdurdod gorfodi gyflwyno hysbysiad o fwriad y cyfeirir ato ym mharagraff 5(1)(a) i berson mewn perthynas â thoriad pan fo—

(a)

cosb ariannol benodedig wedi ei gosod ar y person hwnnw mewn perthynas â'r un toriad, neu

(b)

y person wedi ei ryddhau ei hun o'i atebolrwydd i dalu cosb ariannol benodedig mewn perthynas â'r toriad yn unol â pharagraff 3 (1)(b).

Paragraffau 2 a 7Rhaid i'r ddarpariaeth sicrhau na chaiff yr awdurdod gorfodi gyflwyno hysbysiad o fwriad y cyfeiriwyd ato ym mharagraff 3(1)(a) i berson mewn perthynas â thoriad pan fo hysbysiad stop wedi ei gyflwyno mewn perthynas â'r un toriad.

Rhaid i'r ddarpariaeth sicrhau na chaiff yr awdurdod gorfodi gyflwyno hysbysiad stop i berson mewn perthynas â thoriad pan fo—

(a)

cosb ariannol benodedig wedi ei gosod ar y person hwnnw mewn perthynas â'r un toriad, neu

(b)

y person wedi ei ryddhau ei hun o'i atebolrwydd i dalu cosb ariannol benodedig mewn perthynas â'r toriad yn unol â pharagraff 3 (1)(b).

Paragraffau 4 a 7Rhaid i'r ddarpariaeth sicrhau na chaiff yr awdurdod gorfodi gyflwyno hysbysiad o fwriad y cyfeirir ato ym mharagraff 5(1)(a) i berson mewn perthynas â thoriad pan fo hysbysiad stop wedi ei gyflwyno mewn perthynas â'r un toriad.Rhaid i'r ddarpariaeth sicrhau na chaiff yr awdurdod gorfodi gyflwyno hysbysiad stop i berson mewn perthynas â thoriad pan fo gofyniad yn ôl disgresiwn wedi ei osod ar y person hwnnw mewn perthynas â'r un toriad.
Cosbau ariannol

13(1)Os yw'r rheoliadau yn rhoi pŵer i awdurdod gorfodi i'w gwneud yn ofynnol i berson dalu cosb ariannol benodedig, cosb ariannol amrywiadwy neu gosb am beidio â chydymffurfio o dan baragraff 6(1), cânt gynnwys darpariaeth—

(a)am ddisgowntiau talu'n gynnar;

(b)am dalu llog neu gosbau ariannol eraill am dalu'r gosb yn hwyr, a chyfanswm y llog hwnnw neu'r cosbau ariannol eraill hynny heb fod yn fwy na swm y gosb honno;

(c)am orfodi'r gosb.

(2)Caiff darpariaeth o dan is-baragraff (1)(c) gynnwys—

(a)darpariaeth i'r awdurdod gorfodi adennill y gosb, ac unrhyw log neu gosb ariannol arall am dalu'n hwyr, fel dyled sifil;

(b)darpariaeth i'r gosb, ac unrhyw log neu gosb ariannol arall am dalu'n hwyr fod yn adenilladwy, ar orchymyn llys, fel petai'n daladwy o dan orchymyn llys.

Adennill costau

14(1)Caiff darpariaeth o dan baragraff 4 gynnwys darpariaeth i awdurdod gorfodi ei gwneud yn ofynnol, drwy hysbysiad, i berson y gosodir gofyniad yn ôl disgresiwn arno dalu'r costau yr aeth yr awdurdod gorfodi iddynt mewn perthynas â gosod y gofyniad yn ôl disgresiwn hyd at yr amser y gosodwyd ef.

(2)Yn is-baragraff (1), mae'r cyfeiriad at gostau yn cynnwys yn (ymhlith pethau eraill)—

(a)costau ymchwilio;

(b)costau gweinyddu;

(c)costau cael cyngor arbenigol (gan gynnwys cyngor cyfreithiol).

(3)Rhaid i ddarpariaeth o dan y paragraff hwn sicrhau, mewn unrhyw achos pryd y cyflwynir hysbysiad sy'n gwneud talu costau yn ofynnol—

(a)bod yr hysbysiad yn pennu'r swm sydd i'w dalu;

(b)y gellir ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod gorfodi ddarparu dadansoddiad manwl o'r swm hwnnw;

(c)nad yw'r person y mae'n ofynnol iddo dalu costau yn atebol am dalu unrhyw gostau a ddangosir gan y person fel rhai yr aethpwyd iddynt yn ddiangen;

(d)bod y person y mae'n ofynnol iddo dalu costau yn cael apelio yn erbyn—

(i)penderfyniad yr awdurdod gorfodi i osod y gofyniad i dalu costau;

(ii)penderfyniad yr awdurdod gorfodi am swm y costau hynny.

(4)Caiff darpariaeth o dan y paragraff hwn gynnwys y ddarpariaeth y cyfeirir ati ym mharagraff 13(1)(b) ac (c) a (2).

(5)Rhaid i ddarpariaeth o dan y paragraff hwn sicrhau ei bod yn ofynnol i'r awdurdod gorfodi gyhoeddi canllawiau am sut y bydd yr awdurdod gorfodi yn arfer y pŵer a roddir gan y ddarpariaeth.

Apelau

15(1)Ni chaiff rheoliadau ddarparu am apelio ac eithrio i—

(a)y Tribiwnlys Haen Gyntaf, neu

(b)tribiwnlys arall a grëwyd o dan ddeddfiad (o fewn ystyr adran 14H(5)).

(2)Yn is-baragraff (1)(b) nid yw “tribiwnlys” yn cynnwys llys barn arferol.

(3)Os yw'r rheoliadau yn darparu am apêl mewn perthynas â gosod unrhyw ofyniad neu gyflwyniad unrhyw hysbysiad, cânt gynnwys—

(a)darpariaeth sy'n atal y gofyniad neu'r hysbysiad dros dro wrth aros i'r apêl ddod i ben;

(b)darpariaeth am bwerau'r tribiwnlys yr apelir iddo;

(c)darpariaeth am sut y mae adennill unrhyw swm sy'n daladwy yn unol â phenderfyniad gan y tribiwnlys hwnnw.

(4)Mae'r ddarpariaeth y cyfeirir ati yn is-baragraff (3)(b) yn cynnwys darpariaeth sy'n rhoi i'r tribiwnlys yr apelir iddo bŵer—

(a)i dynnu'r gofyniad neu'r hysbysiad yn ôl;

(b)i gadarnhau'r gofyniad neu'r hysbysiad;

(c)i gymryd y camau y gallai'r awdurdod gorfodi eu cymryd mewn perthynas â'r weithred neu'r anwaith sy'n arwain at y gofyniad neu'r hysbysiad;

(d)i anfon y penderfyniad ynghylch p'un ai i gadarnhau'r gofyniad neu'r hysbysiad ai peidio, neu unrhyw fater sy'n ymwneud â'r penderfyniad hwnnw, yn ôl i'r awdurdod gorfodi;

(e)i ddyfarnu costau.

Cyhoeddusrwydd am osod cosbau sifil

16(1)Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth sy'n galluogi awdurdod gorfodi i roi hysbysiad cyhoeddusrwydd i berson y gosodwyd cosb sifil arno yn unol â rheoliadau o dan yr Atodlen hon.

(2)Mae “hysbysiad cyhoeddusrwydd” yn hysbysiad sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r person roi cyhoeddusrwydd—

(a)i'r ffaith bod y gosb sifil wedi ei gosod, a

(b)i unrhyw wybodaeth arall a bennir yn y rheoliadau,

mewn unrhyw ffordd a bennir yn yr hysbysiad.

(3)Caiff y rheoliadau ddarparu i hysbysiad cyhoeddusrwydd—

(a)pennu amser i gydymffurfio â'r hysbysiad, a

(b)ei gwneud yn ofynnol i'r person y rhoddir ef iddo roi tystiolaeth i'r awdurdod gorfodi ei fod wedi cydymffurfio erbyn yr amser a bennir yn yr hysbysiad.

(4)Caiff y rheoliadau ddarparu, os bydd person yn methu â chydymffurfio â hysbysiad cydymffurfio, bod awdurdod gorfodi yn cael—

(a)rhoi cyhoeddusrwydd i'r wybodaeth y mae'n ofynnol rhoi cyhoeddusrwydd iddi gan yr hysbysiad, a

(b)adennill costau gwneud hynny oddi wrth y person hwnnw.

Personau sy'n agored i gosbau sifil

17Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth am y personau sy'n agored i gosbau sifil o dan yr Atodlen hon a chânt (ymhlith pethau eraill) ddarparu—

(a)i swyddogion corff corfforaethol fod yn atebol yn ogystal â'r corff corfforaethol ei hun, a

(b)i bartneriaid partneriaeth fod yn atebol yn ogystal â'r bartneriaeth ei hun,

yn yr amgylchiadau a bennir.

Canllawiau ynghylch defnyddio cosbau sifil

18(1)Pan fo pŵer yn cael ei roi i awdurdod gorfodi gan y rheoliadau i osod cosb sifil mewn perthynas â thoriad o reoliadau o dan yr Atodlen hon, rhaid i'r ddarpariaeth sy'n rhoi'r pŵer sicrhau bod—

(a)rhaid i'r awdurdod gorfodi gyhoeddi canllawiau am ddefnydd yr awdurdod gorfodi o'r gosb sifil,

(b)rhaid i'r canllawiau gynnwys yr wybodaeth berthnasol,

(c)rhaid i'r awdurdod gorfodi adolygu'r canllawiau pan fo hynny'n briodol,

(d)rhaid i'r awdurdod gorfodi ymgynghori â'r bobl a bennir yn y ddarpariaeth cyn cyhoeddi unrhyw ganllawiau neu ganllawiau wedi eu hadolygu, ac

(e)rhaid i'r awdurdod gorfodi roi sylw i'r canllawiau neu i'r canllawiau wedi eu hadolygu wrth arfer swyddogaethau'r awdurdod gorfodi.

(2)Yn achos canllawiau sy'n ymwneud â chosb ariannol benodedig, yr wybodaeth berthnasol y cyfeirir ati yn is-baragraff (1)(b) yw gwybodaeth am—

(a)yr amgylchiadau pryd y mae'r gosb yn debygol o gael ei gosod,

(b)yr amgylchiadau pryd na chaniateir gosod y gosb,

(c)swm y gosb,

(d)sut y caniateir i berson ei ryddhau ei hun o'r gosb ac effaith y rhyddhad hwnnw, ac

(e)hawliau i gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau a hawliau apelio.

(3)Yn achos canllawiau sy'n ymwneud â gofyniad yn ôl disgresiwn, yr wybodaeth berthnasol y cyfeirir ati yn is-baragraff (1)(b) yw gwybodaeth am—

(a)yr amgylchiadau pryd y mae'r gofyniad yn debygol o gael ei osod,

(b)yr amgylchiadau pryd na chaniateir gosod y gofyniad,

(c)yn achos cosb ariannol amrywiadwy, y materion y mae'n debygol y cânt eu cymryd i ystyriaeth gan yr awdurdod gorfodi wrth benderfynu swm y gosb (gan gynnwys, pan fo hynny'n berthnasol, unrhyw ddisgownt am adrodd yn wirfoddol am fethu â chydymffurfio), a

(d)hawliau i gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau a hawliau apelio.

Cyhoeddi camau gorfodi

19(1)Pan fo pŵer yn cael ei roi i awdurdod gorfodi gan y rheoliadau i osod cosb sifil mewn perthynas â thorri rheoliadau diogelwch, rhaid i'r ddarpariaeth sy'n rhoi'r pŵer, yn ddarostyngedig i'r paragraff hwn, sicrhau bod rhaid i'r awdurdod gorfodi gyhoeddi adroddiadau o bryd i'w gilydd sy'n pennu—

(a)yr achosion pryd y gosodwyd y gosb sifil, a

(b)pan fo'r gosb yn gosb ariannol benodedig, yr achosion pryd y rhyddhawyd yr atebolrwydd i dalu'r gosb yn unol â pharagraff 3(1)(b).

(2)Yn is-baragraff (1)(a), nid yw'r cyfeiriad at achosion pryd y gosodwyd y gosb sifil yn cynnwys achosion pan fo'r gosb sifil wedi ei gosod ond wedi ei gwrthdroi ar apêl.

(3)Nid oes angen i'r ddarpariaeth sy'n rhoi'r pŵer sicrhau'r canlyniad yn is-baragraff (1) mewn achosion pan fo'r awdurdod perthnasol yn ystyried y byddai'n anaddas i wneud hynny.

Cydymffurfio ag egwyddorion rheoleiddiol

20Rhaid i awdurdod gorfodi weithredu yn unol â'r egwyddorion a ganlyn—

(a)dylai gweithgareddau rheoleiddiol gael eu cyflawni mewn ffordd sy'n dryloyw, atebol, cymesur a chyson;

(b)dim ond at achosion pryd y mae angen camau gweithredu y dylid targedu gweithgareddau rheoleiddiol.

Adolygu

21(1)Rhaid i Weinidogion Cymru yn unol â'r paragraff hwn adolygu gweithrediad unrhyw ddarpariaeth a wnaed ganddynt i roi pŵer i awdurdod gorfodi (gan eu cynnwys hwy eu hunain) osod cosb sifil mewn perthynas â thorri rheoliadau diogelwch.

(2)Rhaid i'r adolygiad ddigwydd cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl diwedd y cyfnod o dair blynedd sy'n dechrau ar y diwrnod pryd y daw'r ddarpariaeth i rym.

(3)Rhaid i'r adolygiad ystyried yn benodol a yw'r ddarpariaeth wedi rhoi ei hamcanion ar waith yn effeithlon ac yn effeithiol.

(4)Wth gynnal adolygiad o dan y paragraff hwn, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r personau y mae'n briodol yn eu barn hwy i ymgynghori â hwy.

(5)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi canlyniadau adolygiad o dan y paragraff hwn.

(6)Rhaid i Weinidogion Cymru osod copi o adolygiad o dan y paragraff hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Atal dros dro

22(1)Pan fo Gweinidogion Cymru wedi gwneud darpariaeth sy'n rhoi pŵer i awdurdod gorfodi heblaw hwy eu hunain i osod cosb sifil mewn perthynas â thorri rheoliadau diogelwch, caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo'r awdurdod gorfodi—

(a)pan fo'r pŵer yn bŵer i osod cosb ariannol benodedig, i beidio â chyflwyno unrhyw hysbysiad pellach o fwriad y cyfeirir ato ym mharagraff 3(1)(a) mewn perthynas â thoriad o'r math hwnnw;

(b)pan fo'r pŵer yn bŵer i osod gofyniad yn ôl disgresiwn, i beidio â chyflwyno unrhyw hysbysiad pellach o fwriad y cyfeirir ato ym mharagraff 5(1)(a) mewn perthynas â thoriad o'r math hwnnw;

(c)pan fo'r pŵer yn bŵer i osod hysbysiad stop, i beidio â chyflwyno unrhyw hysbysiadau stop pellach mewn perthynas â thoriad o'r math hwnnw;

(d)pan fo'r pŵer yn bŵer i dderbyn ymgymeriad gorfodi, i beidio â derbyn unrhyw ymgymeriad pellach mewn perthynas â thoriad o'r math hwnnw.

(2)Ni chaiff Gweinidogion Cymru ond roi cyfarwyddyd o dan is-baragraff (1) mewn perthynas â thorri rheoliadau diogelwch os ydynt wedi eu bodloni bod yr awdurdod gorfodi wedi methu ar fwy nag un achlysur—

(a)â chydymffurfio ag unrhyw ddyletswydd a osodir arno o dan yr Atodlen hon neu yn ei rhinwedd mewn perthynas â thoriad o'r math hwnnw,

(b)â gweithredu yn unol â'r canllawiau a gyhoeddodd o dan baragraff 18 mewn perthynas â thoriad o'r math hwnnw, neu

(c)â gweithredu yn unol â'r egwyddorion y cyfeirir atynt ym mharagraff 20 neu egwyddorion eraill o arferion gorau mewn perthynas â gorfodi'r gyfraith o ran toriad o'r math hwnnw.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru drwy gyfarwyddyd ddirymu cyfarwyddyd a roddir ganddynt o dan is-baragraff (1) os ydynt wedi eu bodloni bod yr awdurdod gorfodi wedi cymryd y camau priodol i unioni'r methiant yr oedd y cyfarwyddyd yn ymwneud ag ef.

(4)Cyn rhoi cyfarwyddyd o dan is-baragraff (1) neu (3) rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori—

(a)â'r awdurdod gorfodi, a

(b)ag unrhyw bersonau eraill y mae'n briodol ymgynghori â hwy yn eu barn hwy.

(5)Pan fo Gweinidogion Cymru yn rhoi cyfarwyddyd o dan yr adran hon, rhaid iddynt osod copi gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(6)Pan fo Gweinidogion Cymru yn rhoi cyfarwyddyd o dan yr adran hon, rhaid i'r awdurdod gorfodi—

(a)cyhoeddi'r cyfarwyddyd mewn ffordd sy'n briodol yn marn Gweinidogion Cymru, a

(b)cymryd unrhyw gamau eraill sy'n briodol ym marn yr awdurdod gorfodi neu y gall Gweinidogion Cymru eu gwneud yn ofynnol er mwyn dwyn y cyfarwyddyd at sylw personau eraill y mae'n debygol y bydd yn effeithio arnynt.

Talu cosbau i Gronfa Gyfunol Cymru

23Pan fo awdurdod gorfodi heblaw Gweinidogion Cymru, yn unol ag unrhyw ddarpariaeth a wneir o dan yr Atodlen hon, yn cael—

(a)cosb ariannol benodedig, cosb ariannol amrywiadwy neu gosb am beidio â chydymffurfio,

(b)unrhyw log neu gosb ariannol arall am dalu'r cyfryw gosb yn hwyr, neu

(c)swm a delir er mwyn i berson ei ryddhau ei hun o'r atebolrwydd i dalu cosb ariannol benodedig,

rhaid i'r awdurdod gorfodi ei dalu i Gronfa Gyfunol Cymru..

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Show Explanatory Notes for Sections: Displays relevant parts of the explanatory notes interweaved within the legislation content.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Assembly Government department responsible for the subject matter of the Measure to explain what the Measure sets out to achieve and to make the Measure accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Measures of the National Assembly for Wales.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources