Search Legislation

Mesur Addysg (Cymru) 2011

Statws

This is the original version (as it was originally enacted).

RHAN 1CYDLAFURIO GAN GYRFF ADDYSG

1Cyrff addysg

At ddibenion y Rhan hon, ystyr “corff addysg” yw—

(a)awdurdod lleol yng Nghymru;

(b)corff llywodraethu ysgol a gynhelir yng Nghymru;

(c)corfforaeth addysg bellach (fel y diffinnir “further education corporation” gan adran 17(1) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992) yng Nghymru;

(d)corff llywodraethu sefydliad dynodedig (fel y diffinnir “designated institution” gan adran 28(4) o'r Ddeddf honno) yng Nghymru, sydd—

(i)yn gorff a ymgorfforwyd yn rhinwedd adran 143(5) o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000, a

(ii)yn darparu addysg lawnamser yn unig neu'n bennaf i bersonau sydd dros oedran ysgol gorfodol ond nad ydynt eto'n 19 oed.

2Amcan y cydlafurio

(1)Amcan y Rhan hon yw bod adnoddau cyhoeddus yn cael eu defnyddio'n effeithiol ac yn effeithlon gan gorff addysg mewn cysylltiad â darparu addysg a hyfforddiant sy'n addas at anghenion personau nad ydynt eto'n 19 oed.

(2)Cyfeirir at yr amcan hwn yn y Rhan hon fel “amcan y cydlafurio”.

3Dyletswydd corff addysg i gydlafurio

(1)Rhaid i gorff addysg ystyried o dro i dro a fyddai arfer ei bwerau cydlafurio yn hyrwyddo amcan y cydlafurio wrth iddo arfer ei swyddogaethau eraill.

(2)Os daw corff addysg i'r casgliad y byddai arfer pŵer cydlafurio yn hyrwyddo amcan y cydlafurio wrth iddo arfer ei swyddogaethau, rhaid iddo geisio arfer y pŵer, neu beri iddo gael ei arfer.

(3)Mae'r ddyletswydd yn is-adran (1) yn gymwys i'r cyrff a grybwyllir ym mharagraffau (c) a (d) o adran 1 i'r graddau y mae'n ymwneud â darparu addysg uwchradd ac addysg bellach sy'n addas at anghenion personau nad ydynt eto'n 19 oed.

(4)Nid yw'r ddyletswydd yn is-adran (1) yn lleihau effaith y dyletswyddau yn—

(a)adran 33K o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (cyflawni hawlogaethau cwricwlwm lleol ar gyfer myfyrwyr 16 i 18 oed: gweithio ar y cyd);

(b)adran 116J o Ddeddf Addysg 2002 (cyflawni hawlogaethau cwricwlwm lleol ar gyfer disgyblion yng Nghyfnod Allweddol 4: gweithio ar y cyd);

(c)adran 12 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 (dyletswydd i bwyso a mesur a fyddai arfer un o'i bwerau cydlafurio yn ei helpu i gyflawni ei ddyletswyddau at ddibenion dyletswyddau o dan y Mesur hwnnw).

4Ystyr “pwerau cydlafurio”

At ddibenion y Rhan hon, ystyr “pwerau cydlafurio” yw—

(a)y pwerau yn adran 5;

(b)yn achos awdurdod lleol—

(i)ei bŵer i awdurdodi person (neu gyflogeion y person) i arfer swyddogaeth ar ran yr awdurdod o dan orchymyn a wnaed o dan adran 70 o Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994;

(ii)ei bŵer o dan adran 101(1)(b) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau awdurdodau lleol);

(iii)pŵer gweithrediaeth yr awdurdod (neu bwyllgor neu aelod penodedig o'r weithrediaeth) i wneud trefniadau ar gyfer cyflawni ei swyddogaethau o dan reoliadau a wnaed o dan adran 19(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau gweithrediaeth awdurdod lleol gan awdurdod lleol arall etc);

(iv)pŵer awdurdod i wneud trefniadau ar gyfer cyflawni ei swyddogaethau o dan reoliadau a wnaed o dan adran 19(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau awdurdod lleol gan weithrediaeth etc awdurdod lleol arall).

5Pwerau cydlafurio

(1)Mae gan gorff addysg y pwerau yn is-adran (2) er mwyn cyflawni neu ei gwneud yn hwylus i gyflawni—

(a)ei ddyletswydd o dan adran 3,

(b)ei ddyletswydd o dan adran 33K o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000,

(c)ei ddyletswydd o dan adran 116J o Ddeddf Addysg 2002, neu

(d)dyletswydd corff addysg arall o dan y darpariaethau hynny.

(2)Y pwerau yw—

(a)darparu cymorth ariannol (p'un ai ar ffurf grant neu fenthyciad) i unrhyw berson;

(b)ymrwymo i drefniadau neu gytundebau ag unrhyw berson;

(c)cydweithredu â'r person hwnnw, neu hwyluso neu gydgysylltu ei weithgareddau;

(d)arfer (p'un ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd) unrhyw un neu rai o swyddogaethau unrhyw berson ar ran y person hwnnw;

(e)gwneud trefniadau i unrhyw un neu rai o swyddogaethau'r corff addysg gael ei gyflawni neu eu cyflawni gydag un neu ragor o gyrff addysg eraill, neu gan un neu ragor o gyrff addysg eraill;

(f)gwneud trefniadau i unrhyw un neu rai o swyddogaethau'r corff addysg gael ei gyflawni neu eu cyflawni gan gyd-bwyllgorau dau neu ragor o gyrff addysg;

(g)darparu staff, nwyddau, gwasanaethau neu lety i unrhyw berson;

(h)rhannu a defnyddio gwybodaeth er mwyn arfer unrhyw bwerau cydweithio.

(3)O ran y pwerau hyn—

(a)nid ydynt yn lleihau effaith unrhyw bwerau eraill corff addysg, a

(b)maent yn ddarostyngedig i ddarpariaeth a wneir o dan adran 6.

6Rheoliadau ynghylch y pŵer i gydlafurio

(1)Caiff rheoliadau ddarparu ar gyfer—

(a)yr amgylchiadau pan na fo'r ddyletswydd yn adran 3(1) yn gymwys;

(b)yr amgylchiadau pan na fo'n ofynnol i gorff addysg arfer pwerau cydlafurio, neu pan na chaniateir iddo eu harfer;

(c)swyddogaethau corff addysg na chaniateir eu dirprwyo o dan baragraffau (d), (e) ac (f) o adran 5(2);

(d)yr amodau y mae'n rhaid eu bodloni i arfer pwerau cydlafurio;

(e)y modd y mae swyddogaethau i'w cyflawni o dan drefniadau cydlafurio;

(f)unrhyw faterion eraill sy'n berthnasol i arfer pwerau cydlafurio.

(2)Caiff rheoliadau ddarparu ar gyfer y canlynol—

(a)bod cyrff addysg yn sefydlu cyd-bwyllgor o'r cyrff hynny at ddibenion trefniadau o dan adran 5(2)(f) (“cyd-bwyllgor”);

(b)penodi personau i wasanaethu ar gyd-bwyllgor (gan gynnwys darparu ynghylch y cyfyngiadau neu'r gofynion eraill sy'n ymwneud ag unrhyw benodiadau o'r fath) a'u diswyddo;

(c)penodi clerc i gyd-bwyllgor (gan gynnwys darparu ynghylch y cyfyngiadau neu'r gofynion eraill sy'n ymwneud ag unrhyw benodiad o'r fath) a diswyddo'r clerc;

(d)bod cyd-bwyllgor yn penodi un o'u plith i weithredu fel clerc at ddibenion cyfarfod pan fo'r clerc yn methu â bod yn bresennol;

(e)hawliau personau i fynychu cyfarfodydd cyd-bwyllgor;

(f)cyfyngiadau ar bersonau sy'n cymryd rhan mewn trafodion cyd-bwyllgor;

(g)diddymu cyd-bwyllgorau;

(h)is-bwyllgorau i gyd-bwyllgorau (gan gynnwys darpariaeth i swyddogaethau'r cyd-bwyllgor gael eu harfer gan is-bwyllgor a darpariaeth mewn perthynas ag is-bwyllgorau y caniateir ei gwneud mewn perthynas â chyd-bwyllgor o dan yr adran hon);

(i)materion eraill sy'n ymwneud â chyfansoddiad neu weithdrefn cyd-bwyllgor.

(3)Mae'r pŵer yn is-adran (4) yn gymwys mewn perthynas â'r canlynol—

(a)swyddogaethau'r cyrff addysg sydd i'w cyflawni o dan baragraffau (d), (e) ac (f) o adran 5(2);

(b)y cyrff addysg y mae'r swyddogaethau hynny i'w cyflawni ganddynt.

(4)Caiff rheoliadau ddarparu bod unrhyw ddeddfiad i gael effaith yn ddarostyngedig i'r holl addasiadau angenrheidiol yn y modd y mae'n gymwys mewn perthynas â'r swyddogaethau hynny a'r cyrff y maent i'w cyflawni ganddynt.

7Canllawiau

Wrth arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon, rhaid i gorff addysg roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir o dro i dro gan Weinidogion Cymru.

8Dehongli'r Rhan hon

Yn y Rhan hon—

  • mae i “amcan y cydlafurio” (“collaboration objective”) yr ystyr a roddir gan adran 2;

  • mae i “corff addysg” (“education body”) yr ystyr a roddir gan adran 1;

  • mae i “pwerau cydlafurio” (“powers of collaboration”) yr ystyr a roddir gan adran 4;

  • ystyr “swyddogaethau” (“functions”) yw pwerau a dyletswyddau, ac yn achos awdurdod lleol, pwerau a dyletswyddau sy'n swyddogaethau addysg;

  • ystyr “trefniadau cydlafurio” (“collaboration arrangements”) yw gweithgaredd a gyflawnir wrth arfer pwerau cydlafurio corff addysg;

  • ystyr “ysgol a gynhelir” (“maintained school”) yw ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol, ysgol arbennig gymunedol neu ysgol arbennig sefydledig, ysgol feithrin a gynhelir neu uned cyfeirio disgyblion.

9Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol

(1)Yn adran 57(5A) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992, yn lle “make collaboration arrangements (within the meaning of section 166 of the Education and Inspections Act 2006) with such bodies” rhodder “exercise powers under section 5(2)(b) to (f) and (h) of the Education (Wales) Measure 2011 to collaborate with such persons”.

(2)Yn adran 33K(5) o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000—

(a)ar ôl paragraff (b) mewnosoder—

(ba)arrangements made in exercise of the powers of collaboration described in section 4 of the Education (Wales) Measure 2011.;

(b)hepgorer paragraffau (c) a (d).

(3)Yn Neddf Addysg 2002—

(a)yn adran 26(a), ar ôl “schools” mewnosoder “in England”;

(b)yn adran 116J(5)—

(i)ar ôl paragraff (a) mewnosoder—

(aa)arrangements made in exercise of the powers of collaboration described in section 4 of the Education (Wales) Measure 2011.;

(ii)hepgorer paragraffau (b) ac (c).

(4)Yn adran 166(6) o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006—

(a)yn y diffiniad o “further education body”—

(i)ar ôl “(c.13))” mewnosoder “in England”;

(ii)ar ôl “section 28(4) of that Act)” mewnosoder “in England”;

(b)yn y diffiniad o “maintained school” ar ôl “means” mewnosoder “a school in England which is”;

(c)yn y diffiniad o “regulations” hepgorer “or the Assembly (in relation to Wales)”.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Show Explanatory Notes for Sections: Displays relevant parts of the explanatory notes interweaved within the legislation content.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Assembly Government department responsible for the subject matter of the Measure to explain what the Measure sets out to achieve and to make the Measure accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Measures of the National Assembly for Wales.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources