xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Mae'r adran hon yn gymwys i gyrff llywodraethu—
(a)dwy neu ragor o ysgolion a gynhelir,
(b)ffederasiwn sy'n bodoli eisoes ac un neu ragor o ysgolion a gynhelir, neu
(c)dau neu ragor o ffederasiynau sy'n bodoli eisoes.
(2)Caiff cyrff llywodraethu ddarparu i'w priod ysgolion gael eu ffedereiddio.
(3)Mae'r pŵer hwn yn ddarostyngedig i'r canlynol—
(a)cydymffurfio ag unrhyw amodau rhagnodedig, a
(b)arfer y pŵer yn unol ag unrhyw weithdrefn ragnodedig.
(1)Caiff awdurdod lleol wneud cynigion i ffedereiddio—
(a)dwy neu ragor o ysgolion a gynhelir;
(b)ffederasiwn sy'n bodoli eisoes ac un neu ragor o ysgolion a gynhelir;
(c)dau neu ragor o ffederasiynau sy'n bodoli eisoes.
(2)Rhaid i awdurdod lleol gyhoeddi cynigion a wneir o dan yr adran hon.
(3)Rhaid i awdurdod lleol, yn unol â rheoliadau, ymgynghori â'r personau canlynol ar y cynigion a gyhoeddir—
(a)cyrff llywodraethu ysgolion neu ffederasiynau i'w ffedereiddio;
(b)staff yr ysgolion;
(c)un neu ragor o gyrff (os oes) yr ymddengys i'r awdurdod eu bod yn cynrychioli buddiannau staff yr ysgolion;
(d)i'r graddau y mae'n ymarferol, disgyblion a gofrestrwyd yn yr ysgolion a'u rhieni.
(4)Nid yw is-adran (2) na (3) yn gymwys mewn perthynas â chynnig ar gyfer ffederasiwn a ffurfir o ysgolion bach yn unig.
(5)Mewn perthynas â chynnig ar gyfer ffederasiwn a ffurfir o ysgolion bach yn unig, rhaid i'r awdurdod lleol, yn unol â rheoliadau, ymgynghori â chyrff llywodraethu'r ysgolion dan sylw.
(6)Ystyr “ysgol fach” yn is-adrannau (4) a (5) yw ysgol a gynhelir sydd, ar y dyddiad y gwneir y cynnig o dan is-adran (1), yn ysgol fach a gynhelir yn ôl y diffiniad mewn gorchymyn o dan adran 15.
(7)Rhaid i awdurdod lleol, yn unol â rheoliadau, benderfynu p'un ai—
(a)cadarnhau cynigion, gyda neu heb addasiad neu'n ddarostyngedig i ddigwyddiad, neu
(b)eu tynnu'n ôl.
(8)Caiff awdurdod lleol wneud cynigion ar gyfer ffederasiwn sy'n cynnwys ysgol a gynhelir a honno'n ysgol nad yw'n ei chynnal cyhyd â bod yr awdurdod lleol sy'n cynnal yr ysgol yn cydsynio.
(9)Caiff awdurdod lleol wneud cynigion ar gyfer ffederasiwn sy'n cynnwys ysgol sefydledig neu wirfoddol cyhyd â bod y personau canlynol yn cydsynio—
(a)yn achos un o ysgolion yr Eglwys yng Nghymru neu un o ysgolion yr Eglwys Gatholig Rufeinig, yr awdurdod esgobaethol priodol, a
(b)yn achos unrhyw ysgol sefydledig neu wirfoddol arall, y person neu'r personau y penodwyd y llywodraethwyr sefydledig ganddynt.
(10)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth bellach ynghylch cynigion o dan yr adran hon ac (ymhlith pethau eraill) gwneud darpariaeth ynghylch—
(a)sicrhau cydsyniad personau rhagnodedig i wneud, cyhoeddi neu gadarnhau cynigion;
(b)yr wybodaeth sydd i'w chynnwys yn y cynigion, neu sydd i'w darparu mewn perthynas â hwy;
(c)cyhoeddi cynigion;
(d)ymgynghori ynghylch y cynigion;
(e)gwneud gwrthwynebiadau i'r cynigion neu sylwadau ar y cynigion;
(f)tynnu'r cynigion yn ôl neu eu haddasu;
(g)y modd y mae'r awdurdod lleol i gadarnhau'r cynigion.
(1)Mae'r adran hon yn gymwys i gynigion o dan adran 11.
(2)Rhaid i gynigion sydd wedi eu cadarnhau gael eu gweithredu gan y personau a grybwyllir yn is-adran (3), yn ôl eu trefn, i'r graddau (os o gwbl) y mae'r cynigion yn darparu i bob un ohonynt wneud hynny.
(3)Dyma'r personau—
(a)yr awdurdod lleol sy'n cynnal ysgol sy'n ddarostyngedig i'r cynigion;
(b)corff llywodraethu ysgol sy'n ddarostyngedig i'r cynigion;
(c)unrhyw bersonau eraill a ragnodir.
(4)Rhaid gweithredu cynigion sydd wedi eu cadarnhau fel y'u cadarnhawyd, yn ddarostyngedig i'r is-adrannau a ganlyn.
(5)Ar gais personau rhagnodedig, caiff yr awdurdod lleol a wnaeth y cynigion—
(a)addasu'r cynigion ar ôl ymgynghori ag unrhyw bersonau a ragnodir, a
(b)os cafodd unrhyw gadarnhad ei roi yn ddarostyngedig i ddigwyddiad penodedig, bennu dyddiad diweddarach erbyn pryd y mae'n rhaid i'r digwyddiad o dan sylw ddigwydd.
(6)Caiff awdurdod lleol a wnaeth y cynigion benderfynu bod is-adran (2) i beidio â bod yn gymwys i'r cynigion os caiff ei fodloni—
(a)y byddai gweithredu'r cynigion yn afresymol o anodd, neu
(b)bod yr amgylchiadau wedi newid cymaint ers i'r cadarnhad gael ei roi y byddai'n amhriodol gweithredu'r cynigion.
(7)Os yw'n ofynnol o dan reoliadau iddo wneud hynny, rhaid i awdurdod lleol ymgynghori neu sicrhau cydsyniad unrhyw bersonau a ragnodir cyn gwneud penderfyniad o dan is-adran (6).
O ran ffederasiwn—
(a)rhaid bod ganddo gorff llywodraethu sengl sydd wedi ei gyfansoddi o dan offeryn llywodraethu sengl;
(b)mewn achosion rhagnodedig, rhaid iddo gael ei drin fel ysgol sengl at ddibenion unrhyw ddeddfiadau a ragnodir, ac eithrio unrhyw ddeddfiad a gynhwysir [F1yn Rhan 3 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (trefniadaeth ysgolion) neu yn Rhan 3 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (derbyniadau i ysgolion)]
(1)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth—
(a)ynghylch diddymu cyrff llywodraethu adeg ffurfio ffederasiwn;
(b)sy'n galluogi corff llywodraethu ffederasiwn i barhau i fodoli fel corff corfforaethol pan fo un neu ragor o ysgolion yn ymuno â'r ffederasiwn neu'n ymadael ag ef;
(c)ynghylch ym mha amgylchiadau ac ym mha fodd y caniateir i ffederasiwn gael ei ddiddymu, neu i un neu ragor o ysgolion ymadael â ffederasiwn;
(d)sy'n galluogi corff llywodraethu ffederasiwn a ddiddymwyd i gael ei ddisodli naill ai gan gyrff llywodraethu ar gyfer pob un o'r ysgolion cyfansoddol neu gan gyrff llywodraethu sy'n cynnwys corff llywodraethu ffederasiwn newydd;
(e)ynghylch y trosi o un corff llywodraethu i un arall;
(f)ynghylch trosglwyddo eiddo, hawliau a rhwymedigaethau rhwng cyrff llywodraethu, neu rhwng awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu;
(g)ynghylch unrhyw faterion eraill sy'n ymwneud â ffederasiynau, ysgolion ffederal neu ffurfio neu ddiddymu ffederasiynau y mae Gweinidogion Cymru yn barnu eu bod yn briodol.
(2)Caiff rheoliadau a wneir yn rhinwedd is-adran (1)(f) mewn perthynas â throsglwyddo eiddo, hawliau a rhwymedigaethau—
(a)darparu bod materion rhagnodedig yn cael eu penderfynu gan Weinidogion Cymru,
(b)cymhwyso gydag addasiadau unrhyw ddarpariaeth yn Atodlen 10 i Ddeddf Diwygio Addysg 1988 (darpariaethau atodol mewn cysylltiad â throsglwyddiadau o dan y Ddeddf honno), neu
(c)gwneud darpariaeth sy'n cyfateb i'r hyn a wnaed gan unrhyw ddarpariaeth yn yr Atodlen honno.
(1)Caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth drwy orchymyn i ddiffinio ysgol fach a gynhelir drwy gyfeirio at nifer penodedig o ddisgyblion sydd wedi eu cofrestru mewn ysgol ar ddyddiad penodedig mewn unrhyw flwyddyn.
(2)Mae gorchymyn o dan yr adran hon yn gymwys at ddibenion darpariaeth o dan y Bennod hon.
(3)Yn yr adran hon, ystyr “penodedig” yw wedi ei bennu mewn gorchymyn a wnaed gan Weinidogion Cymru.
Rhagolygol
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Diwygiadau Testunol
F2A. 16 wedi ei hepgor (20.2.2014) yn rhinwedd Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (anaw 1), a. 100(4), Atod. 5 para. 13(2); O.S. 2014/178, ergl. 2(f) (ynghyd ag ergl. 3)
Gwybodaeth Cychwyn
I7A. 16 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 33(2)
Wrth arfer eu swyddogaethau o dan y Bennod hon, rhaid i awdurdod lleol a chorff llywodraethu ysgol a gynhelir roi sylw i ganllawiau a roddir o dro i dro gan Weinidogion Cymru.
(1)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth at ddibenion y Bennod hon i addasu unrhyw ddarpariaeth sydd wedi ei chynnwys yn—
[F3(a)Pennod 1 o Ran 2 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (ymyrryd ym materion rhedeg ysgolion a gynhelir), neu]
(b)adrannau 49 i 51 [F4o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998], ac Atodlen 15 iddi (dirprwyo ariannol),
wrth gymhwyso'r ddarpariaeth i ysgolion ffederal neu eu cyrff llywodraethu.
(2)Mae'r addasiadau y caniateir eu gwneud yn rhinwedd is-adran (1) yn cynnwys, ymhlith pethau eraill, addasiadau—
(a)sy'n galluogi'r pwerau a roddwyd gan y darpariaethau y cyfeiriwyd atynt yn yr is-adran honno i gael eu harfer mewn perthynas â'r holl ysgolion mewn ffederasiwn hyd yn oed os nad yw'r amgylchiadau, y mae'r pwerau yn arferadwy drwy gyfeirio atynt, yn bodoli ond mewn perthynas ag un neu ragor o'r ysgolion hynny, a
(b)sy'n ei gwneud yn ofynnol i ddosrannu unrhyw gostau neu dreuliau a dynnir gan gorff llywodraethu ffederasiwn.
(3)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth sy'n addasu unrhyw ddeddfiad sy'n ymwneud ag ysgolion o fewn categori penodol, neu â chyrff llywodraethu ysgolion o fewn categori penodol, wrth gymhwyso'r deddfiad i ysgolion sy'n ffurfio rhan o ffederasiwn neu i gyrff llywodraethu ffederasiynau.
(4)Yn is-adran (3), mae cyfeiriadau at gategorïau o ysgolion a gynhelir yn gyfeiriadau at y categorïau a nodir yn adran 20(1) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.
(1)Mae Deddf Addysg 2002 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Yn adran 19—
(a)yn is-adran (8), o flaen “Subsection (1)” mewnosoder “In relation to maintained schools in England,”;
(b)ar ôl is-adran (8), mewnosoder—
“(9)In relation to maintained schools in Wales, subsection (1) has effect subject to Chapter 1 of Part 2 of the Education (Wales) Measure 2011; and regulations under this section may include provision with respect to the governing bodies of federations (within the meaning of section 21(1) of that Measure).”
(3)Yn adran 20—
(a)yn is-adran (4), o flaen “Subsection (1)” mewnosoder “In relation to maintained schools in England,”;
(b)ar ôl is-adran (4), mewnosoder—
“(4A)In relation to maintained schools in Wales, subsection (1) has effect subject to Chapter 1 of Part 2 of the Education (Wales) Measure 2011; and regulations under subsection (2) may include provision with respect to instruments of government for federations (within the meaning of section 21(1) of that Measure).”
(4)Yn adran 24—
(a)yn is-adran (1)(a), ar ôl “schools” mewnosoder “in England”;
(b)yn is-adran (1)(b), ar ôl “schools” mewnosoder “in England”;
(c)yn is-adran (2), ar ôl “schools” mewnosoder “in England”;
(d)yn is-adran (4)(g) hepgorer “, or as the case may be the National Assembly for Wales,”;
(e)yn is-adran (5)(a) hepgorer “or the National Assembly for Wales”.
(5)Yn adran 25(1)—
(a)hepgorer paragraff (a);
(b)ym mharagraff (b), ar ôl “federated schools” mewnosoder “in England”.
(6)Yn adran 39(1), ar ôl “federated school” mewnosoder “in relation to England”.
(7)Ym mharagraff 5 o Atodlen 1, ar ôl is-baragraff (1) mewnosoder—
“(1A)Sub-paragraph (1) does not apply if—
(a)the school is a federated school in Wales, and
(b)immediately after the discontinuance date, there will be more than one other school remaining in the federation.
(1B)“Federation” in sub-paragraph (1A) means a group of schools that are federated by virtue of Chapter 1 of Part 2 of the Education (Wales) Measure 2011 or were federated by virtue of section 24 before the coming into force of that Chapter, and “federated school” means a school forming part of a federation.”
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(1)Yn y Bennod hon—
ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw awdurdod lleol yng Nghymru;
ystyr “ffederasiwn” (“federation”) yw grŵp o ysgolion yng Nghymru sydd wedi eu ffedereiddio yn rhinwedd y Bennod hon neu a oedd wedi eu ffedereiddio yn rhinwedd adran 24 o Ddeddf Addysg 2002 cyn i'r Bennod hon ddod i rym, ac ystyr “ysgol ffederal” (“federated school”) yw ysgol sy'n ffurfio rhan o ffederasiwn;
ystyr “ysgol a gynhelir” (“maintained school”) yw ysgol yng Nghymru sy'n ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol, ysgol gymunedol arbennig F6... neu ysgol feithrin a gynhelir.
(2)Mewn unrhyw ddeddfiad—
(a)mae unrhyw gyfeiriad at gorff llywodraethu neu lywodraethwyr ysgol i'w ddehongli, mewn perthynas ag ysgol ffederal, fel cyfeiriad at gorff llywodraethu neu lywodraethwyr y ffederasiwn, a
(b)mae unrhyw gyfeiriad at offeryn llywodraethu ysgol i'w ddehongli, mewn perthynas ag ysgol ffederal, fel cyfeiriad at offeryn llywodraethu'r ffederasiwn.