RHAN 1CYDLAFURIO GAN GYRFF ADDYSG
I1I21Cyrff addysg
At ddibenion y Rhan hon, ystyr “corff addysg” yw—
a
awdurdod lleol yng Nghymru;
b
corff llywodraethu ysgol a gynhelir yng Nghymru;
c
corfforaeth addysg bellach (fel y diffinnir “further education corporation” gan adran 17(1) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992) yng Nghymru;
d
corff llywodraethu sefydliad dynodedig (fel y diffinnir “designated institution” gan adran 28(4) o'r Ddeddf honno) yng Nghymru, sydd—
i
yn gorff a ymgorfforwyd yn rhinwedd adran 143(5) o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000, a
ii
yn darparu addysg lawnamser yn unig neu'n bennaf i bersonau sydd dros oedran ysgol gorfodol ond nad ydynt eto'n 19 oed.