RHAN 2LLYWODRAETHU YSGOLION
PENNOD 1FFEDEREIDDIO YSGOLION A GYNHELIR
12Gweithredu cynigion o dan adran 11
1
Mae'r adran hon yn gymwys i gynigion o dan adran 11.
2
Rhaid i gynigion sydd wedi eu cadarnhau gael eu gweithredu gan y personau a grybwyllir yn is-adran (3), yn ôl eu trefn, i'r graddau (os o gwbl) y mae'r cynigion yn darparu i bob un ohonynt wneud hynny.
3
Dyma'r personau—
a
yr awdurdod lleol sy'n cynnal ysgol sy'n ddarostyngedig i'r cynigion;
b
corff llywodraethu ysgol sy'n ddarostyngedig i'r cynigion;
c
unrhyw bersonau eraill a ragnodir.
4
Rhaid gweithredu cynigion sydd wedi eu cadarnhau fel y'u cadarnhawyd, yn ddarostyngedig i'r is-adrannau a ganlyn.
5
Ar gais personau rhagnodedig, caiff yr awdurdod lleol a wnaeth y cynigion—
a
addasu'r cynigion ar ôl ymgynghori ag unrhyw bersonau a ragnodir, a
b
os cafodd unrhyw gadarnhad ei roi yn ddarostyngedig i ddigwyddiad penodedig, bennu dyddiad diweddarach erbyn pryd y mae'n rhaid i'r digwyddiad o dan sylw ddigwydd.
6
Caiff awdurdod lleol a wnaeth y cynigion benderfynu bod is-adran (2) i beidio â bod yn gymwys i'r cynigion os caiff ei fodloni—
a
y byddai gweithredu'r cynigion yn afresymol o anodd, neu
b
bod yr amgylchiadau wedi newid cymaint ers i'r cadarnhad gael ei roi y byddai'n amhriodol gweithredu'r cynigion.
7
Os yw'n ofynnol o dan reoliadau iddo wneud hynny, rhaid i awdurdod lleol ymgynghori neu sicrhau cydsyniad unrhyw bersonau a ragnodir cyn gwneud penderfyniad o dan is-adran (6).