xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2LLYWODRAETHU YSGOLION

PENNOD 1FFEDEREIDDIO YSGOLION A GYNHELIR

12Gweithredu cynigion o dan adran 11

(1)Mae'r adran hon yn gymwys i gynigion o dan adran 11.

(2)Rhaid i gynigion sydd wedi eu cadarnhau gael eu gweithredu gan y personau a grybwyllir yn is-adran (3), yn ôl eu trefn, i'r graddau (os o gwbl) y mae'r cynigion yn darparu i bob un ohonynt wneud hynny.

(3)Dyma'r personau—

(a)yr awdurdod lleol sy'n cynnal ysgol sy'n ddarostyngedig i'r cynigion;

(b)corff llywodraethu ysgol sy'n ddarostyngedig i'r cynigion;

(c)unrhyw bersonau eraill a ragnodir.

(4)Rhaid gweithredu cynigion sydd wedi eu cadarnhau fel y'u cadarnhawyd, yn ddarostyngedig i'r is-adrannau a ganlyn.

(5)Ar gais personau rhagnodedig, caiff yr awdurdod lleol a wnaeth y cynigion—

(a)addasu'r cynigion ar ôl ymgynghori ag unrhyw bersonau a ragnodir, a

(b)os cafodd unrhyw gadarnhad ei roi yn ddarostyngedig i ddigwyddiad penodedig, bennu dyddiad diweddarach erbyn pryd y mae'n rhaid i'r digwyddiad o dan sylw ddigwydd.

(6)Caiff awdurdod lleol a wnaeth y cynigion benderfynu bod is-adran (2) i beidio â bod yn gymwys i'r cynigion os caiff ei fodloni—

(a)y byddai gweithredu'r cynigion yn afresymol o anodd, neu

(b)bod yr amgylchiadau wedi newid cymaint ers i'r cadarnhad gael ei roi y byddai'n amhriodol gweithredu'r cynigion.

(7)Os yw'n ofynnol o dan reoliadau iddo wneud hynny, rhaid i awdurdod lleol ymgynghori neu sicrhau cydsyniad unrhyw bersonau a ragnodir cyn gwneud penderfyniad o dan is-adran (6).