66. Yn Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymhwyso) (Cymru) 2010(1)—
(a)yn Atodlen 1 (gorchmynion etc mewn perthynas â gofal plant).
(i)ym mharagraff 17 (gwrthod neu ddiddymu cofrestriad)—
(aa)hepgorer “neu” pan fo’n digwydd ar ôl is-baragraff (d);
(bb)ar ôl is-baragraff (dd) mewnosoder—
“;neu
(e)Rhan 5 o Ddeddf Diwygio’r Gwasanaethau Cyhoeddus (Yr Alban) 2010.”;
(ii)ym mharagraff 20 (gwrthod neu anghymhwyso rhag cofrestriad)—
(aa)hepgorer “neu” pan fo’n digwydd ar ôl is-baragraff (f);
(bb)ar ôl is-baragraff (ff) mewnosoder—
“;neu
(g)Rhan 5 o Ddeddf Diwygio’r Gwasanaethau Cyhoeddus (Yr Alban) 2010.”;
(iii)ar ôl paragraff 23 (gwrthod neu ddiddymu cofrestriad) mewnosoder—
“23A. Gwrthod, ar unrhyw adeg, cais gan P i gofrestru fel darparwr asiantaeth gofal plant o dan adran 59 o Ddeddf Diwygio’r Gwasanaethau Cyhoeddus (Yr Alban) 2010 neu ddiddymu unrhyw gofrestriad o’r fath o dan adran 64 neu 65 o’r Ddeddf honno.”;
(b)yn Atodlen 2 (tramgwyddau statudol a ddiddymwyd) ar ôl paragraff 1(6) mewnosoder—
“(7) Tramgwydd o dan neu yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o adrannau canlynol Deddf Rheoleiddio Gofal (Yr Alban) 2001—
(a)adran 21 (tramgwyddau ynglŷn â chofrestru);
(b)adran 22 (datganiadau ffug mewn ceisiadau); neu
(c)adran 29(10) (tramgwyddau o dan reoliadau).”;
(c)yn Atodlen 3 (tramgwyddau penodedig) rhodder y canlynol yn lle paragraff 2(8) (tramgwyddau mewn perthynas â gwasanaeth cartref gofal, gwarchod plant neu ofal dydd i blant)—
“(8) Tramgwydd mewn perthynas â gwasanaeth cartref gofal, gofal plant neu ofal dydd i blant, o dan neu yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o adrannau canlynol Deddf Diwygio’r Gwasanaethau Cyhoeddus (Yr Alban) 2010—
(a)adran 78 (tramgwyddau o dan reoliadau);
(b)adran 80 (tramgwyddau ynglŷn â chofrestru); neu
(c)adran 81 (datganiadau ffug mewn ceisiadau).”.
O.S. 2010/1703 (Cy.163), y mae iddi ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i’r Atodlen hon.