Rheoliadau Datgymhwyso rhag Gofalu am Blant (Cymru) 2004
43. Yn Atodlen 1 i Reoliadau Datgymhwyso rhag Gofalu am Blant (Cymru) 2004(1)(tramgwyddau penodedig, personau perthnasol a restri perthnasol)—
(a)ar ôl paragraff 12 mewnosoder—
“12A. Tramgwydd mewn perthynas â gwasanaeth cartref gofal, gofal plant neu ofal dydd i blant, o dan neu yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o ddarpariaethau canlynol Deddf Diwygio’r Gwasanaethau Cyhoeddus (Yr Alban) 2010(2)—
(a)adran 78 (tramgwyddau o dan reoliadau);
(b)adran 80 (tramgwyddau ynglŷn â chofrestru); neu
(c)adran 81 (datganiadau ffug mewn ceisiadau).”;
(b)ar ôl paragraff 28(dd)—
(i)hepgorer “neu” a
(ii)mewnosoder—
“(dda)Deddf Diwygio’r Gwasanaethau Cyhoeddus (Yr Alban) 2010; neu”;
(c)ar ôl paragraff 30 mewnosoder—
“30A. Gwrthodwyd i’r person, ar unrhyw adeg gofrestru, fel darparydd asiantaeth gofal plant o dan adran 59 o Ddeddf Diwygio’r Gwasanaethau Cyhoeddus (Yr Alban) 2010 neu ddiddymwyd ei gofrestriad o dan adran 64 neu 65 o’r Ddeddf honno.”.
O.S. 2004/2695 (Cy.235), y mae iddi ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i’r Atodlen hon.