Penodi, disgyblu, gwahardd dros dro a diswyddo staff prydau bwyd ysgolion2

1

Yn ddarostyngedig i reoliadau 3 a 4 a pharagraff (2), bydd yr awdurdod yn gyfrifol am benodi, disgyblu, gwahardd dros dro a diswyddo staff prydau bwyd ysgolion mewn ysgol.

2

Cyn arfer unrhyw swyddogaeth o dan y rheoliad hwn rhaid i'r awdurdod ymgynghori â chorff llywodraethu'r ysgol y mae'r aelod o staff prydau bwyd yr ysgol dan sylw yn gweithio ynddi i'r graddau y gwêl yr awdurdod yn dda.