Search Legislation

Rheoliadau Addysg (Gwerthuso Athrawon Ysgol) (Cymru) 1999

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

1999 Rhif 2888 (Cy. 25)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Gwerthuso Athrawon Ysgol) (Cymru) 1999

Wedi'u gwneud

31 Awst 1999

Yn dod i rym

1 Medi 1999

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 49 a 63(3) o Ddeddf Addysg (Rhif 2) 1986(1), ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2) ac wedi ymgynghori yn unol ag adran 49(4) o'r Ddeddf â'r cymdeithasau hynny o awdurdodau lleol, a chynrychiolwyr athrawon, ag yr oedd yn ymddangos eu bod yn berthnasol phersonau eraill yr oedd yn ymddangos yn ddymunol ymgynghori â hwy:

Enwi, cychwyn, hyd a lled a darpariaeth drosiannol

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Gwerthuso Athrawon Ysgol) (Cymru) 1999 a deuant i rym ar 1 Medi 1999.

(2Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag athrawon ysgol mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru, ac, mewn perthynas â'r athrawon ysgol hynny, daw effaith Rheoliadau Addysg (Gwerthuso Athrawon Ysgol) 1991(3) (“Rheoliadau 1991”) i ben.

(3Bydd i unrhyw beth a wnaed cyn 1 Medi 1999 gan neu mewn perthynas ag athro o dan unrhyw ddarpariaeth a gynhwyswyd yn Rheoliadau 1991 effaith, ar y dyddiad hwnnw, fel pe bai wedi'i wneud o dan y darpariaethau cyfatebol yn y Rheoliadau hyn.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn, oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall —

  • mae i “athro cymwysedig” yr un ystyr â “qualified teacher” yn adran 218(2) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988(4);

  • ystyr “athro ysgol” yw athro cymwysedig a gyflogir mewn unrhyw un ysgol i weithio naill ai yn amser llawn neu heb fod yn llai na deugain y cant o amser llawn, ac eithrio ar gontract sy'n parhau am lai nag un flwyddyn ysgol;

  • ystyr “corff gwerthuso” yw:

    (a)

    yr awdurdod addysg lleol yn achos athro sy'n cael ei gyflogi mewn ysgol heblaw'r ysgol y mae paragraf (b) yn cyfeirio ati; a

    (b)

    corff llywodraethu'r ysgol yn achos athro sy'n cael ei gyflogi mewn ysgol a gynhelid gynt â grant;

  • ystyr “record gwerthuso” yw'r datganiadau gwerthuso a baratoir o dan Rheoliad 10(2) mewn perthynas ag athro ysgol;

  • ystyr “ysgol” yw ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol.

  • ystyr “ysgol a gynhelid gynt â grant” yw ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol a oedd yn union cyn 1 Medi 1999 yn ysgol a gynhelid â grant neu'n ysgol arbennig a gynhelid â grant.

(2Yn y Rheoliadau hyn, nid yw unrhyw gyfeiriad at ysgol gymunedol neu arbennig gymunedol, wirfoddol a reolir, wirfoddol a gynorthwyir, neu sefydledig neu arbennig sefydledig yn cynnwys unrhyw ysgol o'r fath sy'n ysgol a gynhelid gynt â grant.

Y ddyletswydd i werthuso

3.  Dyletswydd pob corff gwerthuso fydd sicrhau bod perfformiad yr athrawon ysgol y maent yn gorff gwerthuso ar eu cyfer wrth gyflawni eu dyletswyddau yn cael ei werthuso yn rheolaidd yn unol â'r Rheoliadau hyn.

Nodau gwerthuso

4.—(1Bydd y cyrff gwerthuso'n sicrhau bod gwerthuso yn helpu —

(a)athrawon ysgol yn eu datblygiad proffesiynnol a'u cynlluniau gyrfa; a

(b)y rhai sy'n gyfrifol am gymryd penderfyniadau ynghylch rheolaeth athrawon ysgol.

(2Wrth gyflawni eu dyletswydd o dan Reoliad 3, bydd y cyrff gwerthuso'n anelu at wella ansawdd addysg ar gyfer disgyblion, drwy helpu athrawon ysgol i wireddu eu potensial ac i gyflawni eu dyletswyddau'n fwy effeithiol.

(3Yn benodol, bydd gweithdrefnau gwerthuso'n anelu at —

(a)cydnabod cyrraeddiadau athrawon ysgol a'u helpu i nodi ffyrdd o wella'u medrau a'u perfformiad;

(b)helpu athrawon ysgol, cyrff llywodraethu ac awdurdodau addysg lleol (fel y bo'r achos) i benderfynu a fyddai newid yn eu dyletswyddau yn helpu datblygiad proffesiynol athrawon ysgol ac yn gwella'u rhagolygon gyrfa;

(c)nodi potensial athrawon ar gyfer datblygiad gyrfa, gan anelu at eu helpu, lle bo'n bosibl, drwy hyfforddiant mewn swydd priodol;

(d)helpu athrawon ysgol sy'n cael anawsterau gyda'u perfformiad, drwy ganllawiau, cwnsela a hyfforddi priodol;

(e)darparu gwybodaeth ar gyfer y rhai sy'n gyfrifol am gynnig tystlythyrau ar gyfer athrawon ysgol mewn perthynas â phenodiadau;

(f)gwella rheolaeth ysgolion.

(4Ni fydd gweithdrefnau gwerthuso'n ffurfio rhan o unrhyw weithdrefnau disgyblu neu ddiswyddo, ond fe all datganiadau gwerthuso gael eu defnyddio at y dibenion a bennir yn Rheoliad 14.

Y cylch gwerthuso

5.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2), (3) a (4), bydd cylch gwerthuso pob athro ysgol yn gyfnod parhaus o ddwy flynedd.

(2Os bydd yr athro ysgol yn symyd i swydd mewn ysgol arall neu i swydd newydd yn bennaeth, bydd y cylch gwerthuso yn dechrau eto.

(3Os bydd yr athro ysgol yn symud i swydd newydd yn yr un ysgol, gall y pennaeth benderfynu bod y cylch gwerthuso yn dechrau eto.

(4Os daw'r athro ysgol yn bennaeth dros dro, caiff y corff gwerthuso benderfynu —

(a)bod y cylch gwerthuso yn dechrau eto; a

(b)bod yr athro ysgol yn cael ei werthuso fel pennaeth.

6.  Dyletswydd y corff gwerthuso fydd sicrhau bod pob athro ysgol y maent yn gorff gwerthuso ar ei gyfer yn destun cylch gwerthuso, a bod y cylch gwerthuso, ar ôl ei ddechrau ar gyfer unrhyw athro ysgol, yn gylch di-dor.

7.  Dyletswydd corff llywodraethu ysgol heblaw ysgol a gynhelid gynt â grant fydd sicrhau y cydymffurfir, cyn belled ag y bo'n rhesymol ymarferol iddynt wneud hynny, yn eu hysgol â threfniadau yn unol â'r Rheoliadau hyn a wneir gan yr awdurdod addysg lleol sy'n cynnal yr ysgol a rhoi'r cymorth i'r awdurdod hwnnw y gofynnir yn rhesymol amdano mewn cysylltiad â'r trefniadau hynny.

Gweithdrefnau gwerthuso

8.—(1Bydd yr awdurdod addysg lleol yn penodi dau werthuswr ar gyfer pennaeth pob ysgol gymunedol, pob ysgol wirfoddol a reolir neu bob ysgol arbennig gymunedol a gynhelir ganddynt, wedi ymgynghori â chorff llywodraethu yr ysgol.

(2Bydd yr awdurdod addysg lleol a chorff llywodraethu ysgol wirfoddol a gynorthwyir, ysgol sefydledig neu ysgol arbennig sefydledig yn ceisio cytuno ar benodi dau werthuswr ar gyfer pennaeth yr ysgol. Yn niffyg cytundeb o'r fath, rhaid i'r awdurdod addysg lleol a'r corff llywodraethu benodi un gwerthuswr yr un.

(3Bydd corff llywodraethu ysgol a gynhelid gynt â grant yn penodi dau werthuswr ar gyfer pob pennaeth.

(4Bydd gwerthuswyr pennaeth yn cynnwys un person sy'n cael ei gyflogi neu sydd wedi cael ei gyflogi —

(a)yn achos gwerthuswr pennaeth ysgol gynradd, yn bennaeth ysgol gynradd;

(b)yn achos gwerthuswr pennaeth ysgol uwchradd, yn bennaeth ysgol uwchradd;

(c)yn achos gwerthuswr pennaeth ysgol arbennig, yn bennaeth ysgol arbennig, sut bynnag y caiff ei chynnal;

a'r rheiny, ym marn y corff gwerthuso, yn ystod y gyflogaeth honno wedi cael profiad sy'n berthnasol i amodau presennol yr ysgol lle cyflogir y pennaeth.

(5Yn ddarostyngedig i baragraff (6), rhaid i'r pennaeth benodi gwerthuswr (a all fod y pennaeth) i bob athro arall yn yr ysgol ag fe gaiff benodi gwerthuswr newydd yn lle un o'r gwerthuswyr presennol ar unrhyw adeg.

(6Caiff y corff gwerthuso benderfynu penodi dau werthuswr ar gyfer dirprwy bennaeth.

(7Caiff y person sy'n gyfrifol am benodi gwerthuswr pennaeth o dan y Rheoliad hwn benodi gwerthuswr newydd yn lle un o'r gwerthuswyr lle bo'n angenrheidiol.

(8Lle bo gwerthuswr wedi'i benodi gan awdurdod addysg lleol neu gan y corff llywodraethu, fel bo'r achos, o dan baragraff (2) mewn perthynas ag ysgol wirfoddol a gynorthwyir, ysgol sefydledig neu ysgol arbennig sefydledig, gwneir y penodiad y cyfeirir ato yn y paragraff blaenorol gan y person a wnaeth y penodiad blaenorol.

(9Bydd y cylch gwerthuso'n parhau er gwaethaf unrhyw newid gwerthuswr.

9.—(1Ar ddechrau neu tua dechrau'r cylch gwerthuso ar gyfer pennaeth, bydd y gwerthuswyr a'r pennaeth yn cyfarfod i gynllunio'r gwerthusiad a pharatoi ato.

(2Wrth werthuso athro ysgol nad yw'n bennaeth, yn ystod blwyddyn gyntaf y cylch gwerthuso, bydd y gwerthuswr yn arsylwi ar yr athro ysgol wrth iddo addysgu o leiaf ddwywaith.

(3Bydd o leiaf un o werthuswyr y pennaeth, yn ystod blwyddyn gyntaf y cylch gwerthuso yn arsylwi ar y pennaeth naill ai wrthi'n addysgu neu'n perfformio dyletswyddau eraill; bydd yr arsylwi hwn yn cynnwys arsylwi o leiaf ddwywaith gan yr un gwerthuswr.

(4Heb ymgynghori'n gyntaf â'r athro ysgol, ni chaiff y gwerthuswr sicrhau gwybodaeth, ysgrifenedig neu lafar, sy'n berthnasol i berfformiad yr athro ysgol, oddi wrth unrhyw bersonau eraill.

10.—(1Cyn diwedd blwyddyn gyntaf y cylch gwerthuso, bydd y gwerthuswr yn cynnal cyfweliad gwerthuso gyda'r athro ysgol gyda'r nod o adolygu gwaith yr athro ysgol, nodi cyrraeddiadau'r athro ysgol ac agweddau lle byddai datblygiadau pellach yn ddymunol, gan nodi unrhyw anghenion o ran hyfforddi a datblygu, a chan bennu targedau ar gyfer gweithredu am weddill y cylch gwerthuso.

(2Ar ôl pob cyfweliad gwerthuso, mewn ymgynghoriad a'r athro ysgol, bydd y gwerthuswr yn paratoi datganiad gwerthuso ysgrifenedig yn cofnodi'r prif bwyntiau a wnaed gan y gwerthuswr a'r athro ysgol yn y cyfweliad a'r casgliadau y daethpwyd iddynt, gan gynnwys unrhyw dargedau ar gyfer gweithredu sydd i'w cofnodi mewn atodiad ar wahân i'r datganiad gwerthuso (ond a fydd yn ffurfio rhan ohono).

(3O fewn ugain niwrnod gwaith o gael gweld y datganiad gwerthuso gyntaf, caiff yr athro ysgol ychwanegu sylwadau ysgrifenedig ato.

(4Bydd y gwerthuswr yn rhoi copi o'r datganiad gwerthuso i'r athro ysgol.

11.—(1Bydd gan athro ysgol hawl i gwyno am ddatganiad gwerthuso o fewn ugain niwrnod gwaith ar ôl cael ei weld gyntaf.

(2Os ceir cŵyn gan athro ysgol nad yw'n bennaeth, rhaid i'r pennaeth, neu os y pennaeth yw'r gwerthuswr, rhaid i'r corff gwerthuso benodi person sydd â gwybodaeth berthnasol neu brofiad perthnasol mewn addysg sydd heb gymryd rhan yn y gwerthusiad y cwynwyd amdano fel swyddog adolygu i gynnal adolygiad o'r gwerthusiad hwnnw.

(3Os ceir cŵyn gan bennaeth ysgol a gynhelid gynt â grant, ysgol gymunedol, ysgol wirfoddol a reolir neu ysgol arbennig gymunedol, bydd y corff gwerthuso'n penodi dau swyddog adolygu sydd heb gymryd rhan yn y gwerthusiad y cwynwyd amdano i gynnal adolygiad o'r gwerthusiad hwnnw.

(4Os ceir cŵyn gan bennaeth ysgol wirfoddol a gynorthwyir, ysgol sefydledig neu ysgol arbennig sefydledig, bydd yr awdurdod addysg lleol a'r corff llywodraethu yn ceisio cytuno ar benodi dau swyddog adolygu sydd heb gymryd rhan yn y gwerthusiad y cwynwyd amdano i gynnal adolygiad o'r gwerthusiad hwnnw. Yn niffyg cytundeb o'r fath, bydd yr awdurdod addysg lleol a'r corff llywodraethu'n penodi un swyddog adolygu yr un.

(5Bydd y swyddog adolygu'n cymryd i ystyriaeth unrhyw sylwadau a wneir gan yr athro ysgol.

(6Caiff y swyddog adolygu —

(a)gorchymyn bod y datganiad gwerthuso yn sefyll gyda'i sylwadau ei hun neu hebddynt; neu

(b)diwygio'r datganiad gwerthuso gyda chytundeb y gwerthuswr; neu

(c)gorchymyn bod y datganiad gwerthuso yn cael ei ddileu a gorchymyn gwerthusiad newydd.

(7Lle gorchmynir gwerthusiad newydd o dan baragraff 11(6)(c), penodir gwerthuswr newydd o dan Reoliad 8 a rhaid dilyn y weithdrefn werthuso o dan Reoliadau 9, 10 a 12.

12.—(1O leiaf unwaith cyn diwedd ail flwyddyn y cylch gwerthuso, bydd y gwerthuswr a'r athro ysgol yn cyfarfod i adolygu'r datganiad gwerthuso a'r cynnydd wrth gyrraedd unrhyw dargedau ar gyfer gweithredu ac i bennu targedau diwygiedig ar gyfer gweithredu.

(2Ar ôl y cyfarfod, mewn ymgynghoriad â'r athro ysgol, bydd y gwerthuswr yn paratoi nodyn ysgrifenedig (a fydd yn ffurfio rhan o'r datganiad gwerthuso) o'r prif bwyntiau a wnaed gan y gwerthuswr a'r athro ysgol ac o'r casgliadau y daethpwyd iddynt.

Defnyddio cofnodion gwerthuso a'u cadw

13.—(1Yn achos athro ysgol nad yw'n bennaeth —

(a)bydd y gwerthuswr yn rhoi copi o'r datganiad gwerthuso i bennaeth yr ysgol (os nad y pennaeth yw'r gwerthuswr);

(b)os gwneir cais, bydd y pennaeth yn rhoi copi o'r datganiad gwerthuso i Brif Swyddog Addysg yr awdurdod addysg lleol sy'n cynnal yr ysgol neu i unrhyw un o swyddogion yr awdurdod neu i unrhyw gynghorydd a ddynodir yn unswydd gan y Prif Swyddog Addysg;

(c)bydd y pennaeth yn rhoi copi i unrhyw swyddog adolygu o'r datganiad gwerthuso ac o unrhyw ddatganiad gwerthuso am y cylch gwerthuso blaenorol os yw hwnnw gan y pennaeth;

(d)bydd y pennaeth yn rhoi copi o unrhyw atodiad i'r datganiad gwerthuso sy'n cofnodi targedau ar gyfer gweithredu o dan Reoliad 10(2) i gadeirydd corff llywodraethu yr ysgol os gwneir cais.

(2Yn achos pennaeth —

(a)bydd y gwerthuswyr yn rhoi copi o'r datganiad gwerthuso i gadeirydd corff llywodraethu yr ysgol ac i Brif Swyddog Addysg yr awdurdod addysg lleol sy'n cynnal yr ysgol neu i unrhyw un o swyddogion neu i unrhyw gynghorydd i'r awdurdod a ddynodir yn unswydd gan y Prif Swyddog Addysg;

(b)bydd y Prif Swyddog Addysg yn rhoi copi i unrhyw swyddog adolygu o'r datganiad gwerthuso ac o unrhyw ddatganiad gwerthuso am y cylch gwerthuso blaenorol os yw hwnnw gan y Prif Swyddog Addysg.

(3Lle penodir gwerthuswr newydd heblaw ar ddechrau cylch gwerthuso, bydd y corff gwerthuso'n sicrhau ei fod yn cael copi o unrhyw ddatganiad gwerthuso cyfredol.

(4Cedwir datganiad gwerthuso gan y pennaeth am o leiaf dri mis ar ôl pennu manylion terfynol y datganiad gwerthuso nesaf.

14.—(1Gall gwybodaeth berthnasol o gofnodion gwerthuso gael ei chymryd i ystyriaeth gan benaethiaid, Prif Swyddogion Addysg neu unrhyw swyddogion neu gynghorwyr a ddynodir yn unswydd gan Brif Swyddog Addysg o dan Reoliad 13(1)(b) neu (2)(a) wrth gynghori'r rhai sy'n gyfrifol am gymryd penderfyniadau ar ddyrchafu, diswyddo neu ddisgyblu athrawon ysgol neu ar ddefnyddio unrhyw ddisgresiwn mewn perthynas â thâl.

(2Bydd y rhai sy'n gyfrifol am gynllunio hyfforddiant a datblygiad athrawon ysgol mewn ysgol (gan gynnwys swyddogion priodol neu gynghorwyr yr awdurdod addysg lleol sy'n cynnal yr ysgol) yn cael manylion unrhyw dargedau ar gyfer gweithredu sy'n ymwneud â hyfforddiant a datblygiad.

Llywydd,

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

31 Awst 1999

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn nodi'r trefniadau ar gyfer gwerthuso athrawon mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru a fydd mewn grym o 1 Medi 1999.

Maent yn disodli'r rheoliadau presennol sef Rheoliadau Addysg (Gwerthuso Athrawon Ysgol) 1991, sy'n cael eu gwneud o dan adrannau 49 a 63 o Ddeddf Addysg (Rhif 2) 1986, ac maent yn gymwys yng Nghymru a Lloegr.

Newidiodd Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 y fframwaith ar gyfer ysgolion ac felly ni fydd y mathau o ysgolion a ddiffinir yn rheoliadau 1991 yn bodoli bellach. Mae'r rheoliadau hyn yn cymhwyso'r trefniadau gwerthuso presennol i'r categorïau newydd o ysgolion cyn gynted ag y cânt eu sefydlu.

Yn sgil hynny, yr awdurdod addysg lleol fydd y corff gwerthuso i athrawon ym mhob ysgol a gynhelir, heblaw ysgolion a gynhelid gynt â grant ac ysgolion arbennig a gynhelid gynt â grant. Bydd y corff llywodraethu yn parhau i fod yn gorff gwerthuso i'r ysgolion a gynhelid gynt â grant ac ysgolion arbennig a gynhelid â grant. Caiff athrawon mewn ysgolion yn y categorïau newydd o ysgolion sefydledig ac ysgolion arbennig sefydledig eu trin yn yr un ffordd ag athrawon mewn ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir at ddibenion gwerthuso.

Mae'r Rheoliadau hefyd yn gwneud diwygiadau i gymryd i ystyriaeth dileu cyfnod prawf athrawon sydd newydd gymhwyso. Diwygir y diffiniad o “athro cymwysedig” am fod Rheoliadau Addysg (Athrawon) 1989, y cyfeiria'r diffiniad atynt, wedi'u diddymu a'u disodli.

(1)

1986 p.61 Diwygir adran 49 gan baragraffau 36 a 101 o Atodlen 12 i Ddeddf Diwygio Addysg 1988 (p.40), gan baragraff 23 o Atodlen 8 i Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p.13) a chan baragraff 14 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31). Diwygiwyd adran 63(3) gan baragraff 107 o Atodlen 19 i Ddeddf Addysg 1993 (p.35). Ar gyfer materion sydd i'w rhagnodi gweler adran 67(3) o Ddeddf 1986 (a ddiwygiwyd gan baragraff 66 o Atodlen 37 i Ddeddf Addysg 1996 (p.56) ac adran 579(1) o'r Ddeddf honno.

(2)

Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources