1999 Rhif 3337 (Cy.45)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau Tir Gofal a Ffermio Organig (Diwygio) (Cymru) 1999

Wedi'u gwneud

Yn dod i rym

Gan ei fod wedi'i ddynodi1 at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf Cymunedau Ewrop 19722 mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 2(2) yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Teitl, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tir Gofal a Ffermio Organig (Diwygio) (Cymru) 1999 a deuant i rym ar 4 Rhagfyr 1999.

2

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Diwygio Rheoliadau Cynllun Tir Gofal (Land in Care) (Cymru) 19992

1

Diwygir Rheoliadau Cynllun Tir Gofal (Land in Care) (Cymru) 19993 yn unol â'r paragraffau canlynol.

2

Ar ôl is-baragraff (e) o baragraff (4) o reoliad 3 mewnosodir yr is-baragraff canlynol—

f

may include such other provision that may be agreed between the Countryside Council and the other party.

3

Yn is-baragraff (d) o baragraff (4) o reoliad 3 wedi'r gwahannod fe ddilëer y gair “and” ac yn is-baragraff (e) o'r un paragraff rhoddir y geiriau “activity; and” yn lle “activity.”.

4

Ar ôl rheoliad 9 mewnosodir y rheoliad canlynol—

Obligation to keep records9A

A Tir Gofal agreement holder shall keep for the duration of the Tir Gofal agreement any correspondence or other records relating to any management activity specified in Schedules 2 and 3 and any capital activity specified in Schedule 4.

5

Ym mharagraff (b) o reoliad 5, rhoddir “regulations 7, 8, 9A a 10” yn lle “regulations 7 and 8”.

Diwygio Rheoliadau Ffermio Organig (Cymru) 19993

1

Diwygir Rheoliadau Ffermio Organig 19994 yn unol â'r paragraffau canlynol.

2

Rhoddir yr is-baragraffau canlynol yn lle is-baragraffau (a) a (b) ym mharagraff (1) o reoliad (6)—

a

a certificate of registration has been given by the inspection authority in respect of the first organic parcel; and

b

the applicant makes a declaration that the inspection authority has approved a plan relating to the whole of the organic unit comprising the organic parcel to which the application relates.

3

Ar ôl rheoliad 6 mewnosodir y rheoliad canlynol—

Closing date for accepting applications for aid6A

1

The Assembly shall not accept an application for aid under these Regulations unless such application has been received by it before 4th December 1999.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cendlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19985

Dafydd Elis ThomasY Llywydd

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynllun Tir Gofal (Land in Care) (Cymru) 1999 (“Rheoliadau Tir Gofal”) a Rheoliadau Ffermio Organig (Cymru) 1999 (“y Rheoliadau Ffermio Organig”).

Mae'r Rheoliadau Tir Gofal yn cynnwys darpariaethau cynllun amaeth-amgylcheddol sy'n gweithredu'n rhannol raglen gylchfaol a gymeradwywyd gan y Comisiwn Ewropeaidd o dan Erthygl 7 o Reoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2078/92 (OJ Rhif L215, 30.7.92, t.85) ar ddulliau cynhyrchu amaethyddol sy'n cyd-fynd â'r gofynion ar gyfer diogelu'r amgylchedd a chynnal cefn gwlad (“y Rheoliad Amaeth-Amgylcheddol”). Mae'r Rheoliadau Tir Gofal yn darparu ar gyfer talu cymorth i unrhyw berson sy'n gwneud cytundeb Tir Gofal â Chyngor Cefn Gwlad Cymru.

Mae'r Rheoliadau Ffermio Organig yn darparu ar gyfer talu cymorth i ffermwyr sy'n ymrwymo i gyflwyno dulliau ffermio organig ac yn cydymffurfio ag amodau rheoli penodol, yn unol ag Erthygl 2(1)(a) a (d) y Rheoliad Amaeth-Amgylcheddol. Diddymwyd y Rheoliad Amaeth-Amgylcheddol gan Erthygl 55(1) o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1257/99 (OJ Rhif L160, 26.6.99 t.80), ond, yn rhinwedd Erthygl 55(3) o'r Rheoliad olaf, mae'r Rheoliad Amaeth-Amgylcheddol yn parhau i fod yn gymwys i'r camau a gaiff eu cymeradwyo gan y Comisiwn cyn 1 Ionawr 2000.

Mae'r rheoliadau hyn yn diwygio'r Rheoliadau Tir Gofal—

a

i ganiatáu i gytundeb Tir Gofal gynnwys unrhyw ddarpariaeth y cytunir arno rhwng Cyngor Cefn Gwlad Cymru a cheisydd Tir Gofal (rheoliad 2(2));

b

i osod rhwymedigaeth ar ddeiliad cytundeb Tir Gofal i gadw cofnodion (rheoliad 2(4)); ac

c

i wneud cydymffurfiad â'r gofyniad i gadw cofnodion (rheoliad 9A o'r Rheoliadau Tir Gofal a fewnosodir gan y Rheoliadau hyn) a'r rhwymedigaeth i ganiatáu mynediad ac archwiliad (rheoliad 10 o'r Rheoliadau Tir Gofal) yn amodau ar gyfer talu cymorth (rheoliad 2(5)).

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r Rheoliadau Ffermio Organig:

a

i ddileu'r gofyniad bod tystysgrif gofrestru ar gyfer y llain organig gyntaf a datganiad gan y ceisydd bod yr awdurdod archwilio wedi cymeradwyo cynllun ynglŷn â'r holl uned organig yn cael eu hamgáu gyda chais am gymorth (rheoliad 3(2)); a

b

i ddarparu na fydd y Cynulliad yn derbyn unrhyw geisiadau am gymorth a geir ar neu ar ôl 4 Rhagfyr 1999 (rheoliad 3(3)).