Gorchymyn Deddf Iechyd 1999 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2000

Offerynnau Statudol Cymru

2000 Rhif 1026 (Cy.62)(C.26)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Gorchymyn Deddf Iechyd 1999 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2000

Wedi'i wneud

27 Mawrth 2000

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru'n gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 63(1) a 66(2) o Ddeddf Iechyd 1999(1):

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd 1999 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2000.

(2Yn y Gorchymyn hwn —

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Iechyd 1999;

  • ystyr “Deddf 1977” (“the 1977 Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977(2).

(3Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.

Diwrnod penodedig

2.  

(11 Ebrill 2000 yw'r diwrnod penodedig y daw darpariaethau'r Ddeddf a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn i rym i'r graddau a bennir yno.

(2Er bod paragraff (1) yn dod â diddymiad paragraffau 19 a 20 o Atodlen 2 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990(3) i rym, bydd y darpariaethau hynny yn parhau i gael effaith mewn perthynas â nwyddau neu wasanaethau a ddarparwyd cyn y diddymu.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4))

D. Elis Thomas

Llywydd Y Cynulliad Cenedlaethol

27 Mawrth 2000

Erthygl 2(1)

ATODLENDarpariaethau'r Ddeddf sy'n dod i rym ar 1 Ebrill 2000

  • Adran 1 (Diddymu'r gyfraith ynglŷn â phractisiau sy'n dal cronfeydd)

  • Adran 11 (Pwyllgorau Cynrychioliadol Lleol) (ac eithrio bod y cyfeiriadau yn is-adran (3) o adran 44 o Ddeddf 1977 a fewnosodwyd gan is-adran (4), at drefniadau a wnaed o dan adran 28C o Ddeddf 1977 yn cael eu dwyn i rym at ddibenion cynlluniau peilot yn unig o dan Ran I o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 1997)

  • Adran 65(1) (Diwygio deddfiadau) (i'r graddau y mae'n ymweud â darpariaethau Atodlen 4 i'r Ddeddf a bennir isod)

  • Atodlen 4 —

    • paragraff 4 (i'r graddau y mae'n ymwneud â pharagraffau 8, 24 a 27(a) isod)

    • paragraff 8 (i'r graddau y mae'n ymwneud â phractisiau deiliad-cronfa)

    • paragraff 24

    • paragraff 27(a) (i'r graddau y mae'n golygu amnewid paragraffau (b) i (d) o adran 91(3) o Ddeddf 1977 ac eithrio i'r graddau y mae'r paragraffau hynny'n ymwneud ag Ymddiriedolaethau Gofal Sylfaenol)

    • paragraff 71(a) a (b)

    • paragraff 74 (i'r graddau y mae'n ymwneud â pharagraffau 83(6) ac 84 isod)

    • paragraff 83(6)

    • paragraff 84

    • paragraff 85(4)

    • paragraff 90

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dod â darpariaethau pellach Deddf Iechyd 1999 i rym mewn perthynas â Chymru.

Mae'r Gorchymyn yn darparu ar gyfer cychwyn y darpariaethau sydd —

a.yn dileu'r cronfeydd a ddelir gan YC (adran 1);

b.yn caniatáu ar gyfer diwygio'r gynrychiolaeth ar Bwyllgorau Deintyddol a Meddygol Lleol; ac

c.yn gwneud diwygiadau manwl i ddeddfwriaeth y Gwasanaeth Iechyd Gwladol o ganlyniad i'r uchod, er mwyn cymryd i ystyriaeth bellach y diwygiadau i'r darpariaethau ynghylch sefydlu Ymddiriedolaethau NHS ac i'r pwerau ar gyfer gwneud cyfarwyddiadau a gychwynnwyd gan Orchymyn Deddf Iechyd 1999 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 1999 ac mewn perthynas â thalu am nwyddau a gwasanaethau penodol a gyflawnir heblaw o dan gontract NHS.

Nodyn Orchymyn Cychwyn Blaenorol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn.)

Daethpwyd â darpariaethau canlynol Deddf Iechyd 1999 i rym, neu maent i ddod i rym, mewn perthynas â Chymru drwy orchymyn cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.

Yn ogystal â'r darpariaethau a restrir isod, daethpwyd ag amryw ddarpariaethau eraill i rym mewn perthynas â Lloegr drwy orchmynion cychwyn O.S.1999/2177, 2342, 2540 a 2793 ac mewn perthynas â'r Alban drwy orchymyn cychwyn O.S.A. 1999/90.

DarpariaethDyddiad CychwynRhif yr O.S.
a.121.12.991999/3184 (Cy.42) (C.82)
a.13 i 181.11.991999/3184 (Cy.42) (C.82)
a.191.11.991999/2793 (C.69)
a.20 (yn rhannol)1.11.991999/2793 (C.69)
a.23 to 251.11.991999/2793 (C.69)
a.28 (yn rhannol)1.11.991999/3184 (Cy.42) (C.82)
a.411.4.20001999/2793 (C.69)
a.42 to 441.10.991999/2540 (C.64)
a.65(1) (yn rhannol)1.11.991999/3184 (Cy.42) (C.82)
(yn rhannol)1.11.991999/2793 (C.69)
(yn rhannol)1.12.991999/3184 (Cy.42) (C.82)
(yn rhannol)4.1.20001999/2342 (C.60)
(yn rhannol)1.4.20001999/2342 (C.60)
(yn rhannol)1.4.20001999/2793 (C.69)
a.65(2) (yn rhannol)1.11.991999/2793 (C.69)
(yn rhannol)1.4.20001999/2793 (C.69)
Atodlen 21.11.991999/2793 (C.69)
Atodlen 4
paragraff 4 (yn rhannol)1.11.991999/3184 (Cy.42) (C.82)
(yn rhannol)1.12.991999/3184 (Cy.42) (C.82)
(yn rhannol)1.4.20001999/2793 (C.69)
paragraff 51.12.991999/3184 (Cy.42) (C.82)
paragraff 61.12.991999/3184 (Cy.42) (C.82)
paragraff 9 (yn rhannol)1.12.991999/3184 (Cy.42) (C.82)
paragraff 12 (yn rhannol)1.12.991999/3184 (Cy.42) (C.82)
paragraff 15 (yn rhannol)1.12.991999/3184 (Cy.42) (C.82)
paragraff 261.12.991999/3184 (Cy.42) (C.82)
paragraff 27(b)1.4.20001999/2793 (C.69)
paragraff 30 (yn rhannol)1.12.991999/3184 (Cy.42) (C.82)
paragraff 31 (yn rhannol)1.12.991999/3184 (Cy.42) (C.82)
paragraff 321.12.991999/3184 (Cy.42) (C.82)
paragraff 34(b)1.12.991999/3184 (Cy.42) (C.82)
paragraff 37 (yn rhannol)1.11.991999/3184 (Cy.42) (C.82)
(yn rhannol)1.12.991999/3184 (Cy.42) (C.82)
paragraff 38 (yn rhannol)1.12.991999/3184 (Cy.42) (C.82)
(yn rhannol)1.4.20001999/2793 (C.69)
paragraff 391.12.991999/3184 (Cy.42) (C.82)
paragraffau 65 to 691.4.20001999/2793 (C.69)
paragraff 731.4.20001999/2342 (C.60)
paragraff 74 (yn rhannol)1.11.991999/2793 (C.69)
(yn rhannol)1.12.991999/3184 (Cy.42) (C.82)
(yn rhannol)4.1.20001999/2342 (C.60)
(yn rhannol)1.4.20001999/2342 (C.60)
paragraff 751.12.991999/3184 (Cy.42) (C.82)
paragraff 76(a) (yn rhannol)1.11.991999/2793 (C.69)
(yn rhannol)4.1.20001999/2342 (C.60)
paragraff 76(b)1.12.991999/3184 (Cy.42) (C.82)
paragraff 791.11.991999/3184 (Cy.42) (C.82)
paragraff 81 (yn rhannol)1.11.991999/2793 (C.69)
paragraff 821.4.20001999/2342 (C.60)
paragraff 83 (yn rhannol)1.12.991999/3184 (Cy.42) (C.82)
paragraff 85 (yn rhannol)4.1.20001999/2342 (C.60)
paragraff 861.4.20001999/2342 (C.60)
paragraff 88 (yn rhannol)1.12.991999/3184 (Cy.42) (C.82)
Atodlen 5 (yn rhannol)1.11.991999/2793 (C.69)
(yn rhannol)1.4.20001999/2793 (C.69)