2000 Rhif 1026 (Cy.62)(C.26)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Gorchymyn Deddf Iechyd 1999 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2000

Wedi'i wneud

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru'n gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 63(1) a 66(2) o Ddeddf Iechyd 19991:

Enwi, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd 1999 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2000.

2

Yn y Gorchymyn hwn —

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Iechyd 1999;

  • ystyr “Deddf 1977” (“the 1977 Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 19772.

3

Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.

Diwrnod penodedig2

1

1 Ebrill 2000 yw'r diwrnod penodedig y daw darpariaethau'r Ddeddf a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn i rym i'r graddau a bennir yno.

2

Er bod paragraff (1) yn dod â diddymiad paragraffau 19 a 20 o Atodlen 2 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 19903 i rym, bydd y darpariaethau hynny yn parhau i gael effaith mewn perthynas â nwyddau neu wasanaethau a ddarparwyd cyn y diddymu.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19984)

D. Elis ThomasLlywydd Y Cynulliad Cenedlaethol

ATODLENDarpariaethau'r Ddeddf sy'n dod i rym ar 1 Ebrill 2000

Erthygl 2(1)

  • Adran 1 (Diddymu'r gyfraith ynglŷn â phractisiau sy'n dal cronfeydd)

  • Adran 11 (Pwyllgorau Cynrychioliadol Lleol) (ac eithrio bod y cyfeiriadau yn is-adran (3) o adran 44 o Ddeddf 1977 a fewnosodwyd gan is-adran (4), at drefniadau a wnaed o dan adran 28C o Ddeddf 1977 yn cael eu dwyn i rym at ddibenion cynlluniau peilot yn unig o dan Ran I o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 1997)

  • Adran 65(1) (Diwygio deddfiadau) (i'r graddau y mae'n ymweud â darpariaethau Atodlen 4 i'r Ddeddf a bennir isod)

  • Atodlen 4 —

    • paragraff 4 (i'r graddau y mae'n ymwneud â pharagraffau 8, 24 a 27(a) isod)

    • paragraff 8 (i'r graddau y mae'n ymwneud â phractisiau deiliad-cronfa)

    • paragraff 24

    • paragraff 27(a) (i'r graddau y mae'n golygu amnewid paragraffau (b) i (d) o adran 91(3) o Ddeddf 1977 ac eithrio i'r graddau y mae'r paragraffau hynny'n ymwneud ag Ymddiriedolaethau Gofal Sylfaenol)

    • paragraff 71(a) a (b)

    • paragraff 74 (i'r graddau y mae'n ymwneud â pharagraffau 83(6) ac 84 isod)

    • paragraff 83(6)

    • paragraff 84

    • paragraff 85(4)

    • paragraff 90

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dod â darpariaethau pellach Deddf Iechyd 1999 i rym mewn perthynas â Chymru.

Mae'r Gorchymyn yn darparu ar gyfer cychwyn y darpariaethau sydd —

a

yn dileu'r cronfeydd a ddelir gan YC (adran 1);

b

yn caniatáu ar gyfer diwygio'r gynrychiolaeth ar Bwyllgorau Deintyddol a Meddygol Lleol; ac

c

yn gwneud diwygiadau manwl i ddeddfwriaeth y Gwasanaeth Iechyd Gwladol o ganlyniad i'r uchod, er mwyn cymryd i ystyriaeth bellach y diwygiadau i'r darpariaethau ynghylch sefydlu Ymddiriedolaethau NHS ac i'r pwerau ar gyfer gwneud cyfarwyddiadau a gychwynnwyd gan Orchymyn Deddf Iechyd 1999 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 1999 ac mewn perthynas â thalu am nwyddau a gwasanaethau penodol a gyflawnir heblaw o dan gontract NHS.

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn.)

Daethpwyd â darpariaethau canlynol Deddf Iechyd 1999 i rym, neu maent i ddod i rym, mewn perthynas â Chymru drwy orchymyn cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.

Yn ogystal â'r darpariaethau a restrir isod, daethpwyd ag amryw ddarpariaethau eraill i rym mewn perthynas â Lloegr drwy orchmynion cychwyn O.S.1999/2177, 2342, 2540 a 2793 ac mewn perthynas â'r Alban drwy orchymyn cychwyn O.S.A. 1999/90.

Darpariaeth

Dyddiad Cychwyn

Rhif yr O.S.

a.12

1.12.99

1999/3184 (Cy.42) (C.82)

a.13 i 18

1.11.99

1999/3184 (Cy.42) (C.82)

a.19

1.11.99

1999/2793 (C.69)

a.20 (yn rhannol)

1.11.99

1999/2793 (C.69)

a.23 to 25

1.11.99

1999/2793 (C.69)

a.28 (yn rhannol)

1.11.99

1999/3184 (Cy.42) (C.82)

a.41

1.4.2000

1999/2793 (C.69)

a.42 to 44

1.10.99

1999/2540 (C.64)

a.65(1) (yn rhannol)

1.11.99

1999/3184 (Cy.42) (C.82)

(yn rhannol)

1.11.99

1999/2793 (C.69)

(yn rhannol)

1.12.99

1999/3184 (Cy.42) (C.82)

(yn rhannol)

4.1.2000

1999/2342 (C.60)

(yn rhannol)

1.4.2000

1999/2342 (C.60)

(yn rhannol)

1.4.2000

1999/2793 (C.69)

a.65(2) (yn rhannol)

1.11.99

1999/2793 (C.69)

(yn rhannol)

1.4.2000

1999/2793 (C.69)

Atodlen 2

1.11.99

1999/2793 (C.69)

Atodlen 4

paragraff 4 (yn rhannol)

1.11.99

1999/3184 (Cy.42) (C.82)

(yn rhannol)

1.12.99

1999/3184 (Cy.42) (C.82)

(yn rhannol)

1.4.2000

1999/2793 (C.69)

paragraff 5

1.12.99

1999/3184 (Cy.42) (C.82)

paragraff 6

1.12.99

1999/3184 (Cy.42) (C.82)

paragraff 9 (yn rhannol)

1.12.99

1999/3184 (Cy.42) (C.82)

paragraff 12 (yn rhannol)

1.12.99

1999/3184 (Cy.42) (C.82)

paragraff 15 (yn rhannol)

1.12.99

1999/3184 (Cy.42) (C.82)

paragraff 26

1.12.99

1999/3184 (Cy.42) (C.82)

paragraff 27(b)

1.4.2000

1999/2793 (C.69)

paragraff 30 (yn rhannol)

1.12.99

1999/3184 (Cy.42) (C.82)

paragraff 31 (yn rhannol)

1.12.99

1999/3184 (Cy.42) (C.82)

paragraff 32

1.12.99

1999/3184 (Cy.42) (C.82)

paragraff 34(b)

1.12.99

1999/3184 (Cy.42) (C.82)

paragraff 37 (yn rhannol)

1.11.99

1999/3184 (Cy.42) (C.82)

(yn rhannol)

1.12.99

1999/3184 (Cy.42) (C.82)

paragraff 38 (yn rhannol)

1.12.99

1999/3184 (Cy.42) (C.82)

(yn rhannol)

1.4.2000

1999/2793 (C.69)

paragraff 39

1.12.99

1999/3184 (Cy.42) (C.82)

paragraffau 65 to 69

1.4.2000

1999/2793 (C.69)

paragraff 73

1.4.2000

1999/2342 (C.60)

paragraff 74 (yn rhannol)

1.11.99

1999/2793 (C.69)

(yn rhannol)

1.12.99

1999/3184 (Cy.42) (C.82)

(yn rhannol)

4.1.2000

1999/2342 (C.60)

(yn rhannol)

1.4.2000

1999/2342 (C.60)

paragraff 75

1.12.99

1999/3184 (Cy.42) (C.82)

paragraff 76(a) (yn rhannol)

1.11.99

1999/2793 (C.69)

(yn rhannol)

4.1.2000

1999/2342 (C.60)

paragraff 76(b)

1.12.99

1999/3184 (Cy.42) (C.82)

paragraff 79

1.11.99

1999/3184 (Cy.42) (C.82)

paragraff 81 (yn rhannol)

1.11.99

1999/2793 (C.69)

paragraff 82

1.4.2000

1999/2342 (C.60)

paragraff 83 (yn rhannol)

1.12.99

1999/3184 (Cy.42) (C.82)

paragraff 85 (yn rhannol)

4.1.2000

1999/2342 (C.60)

paragraff 86

1.4.2000

1999/2342 (C.60)

paragraff 88 (yn rhannol)

1.12.99

1999/3184 (Cy.42) (C.82)

Atodlen 5 (yn rhannol)

1.11.99

1999/2793 (C.69)

(yn rhannol)

1.4.2000

1999/2793 (C.69)