2000 Rhif 1036 (Cy. 67)

TAI, CYMRU MEWNFUDO, CYMRU

Gorchymyn Personau sy'n Ddarostyngedig i Reolaeth Fewnfudo (Llety Awdurdodau Tai) (Cymru) 2000

Wedi'i wneud

Yn dod i rym

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 118 a 166(3) o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 19991 ac a freiniwyd yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru2.