- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
TAI, CYMRU MEWNFUDO, CYMRU
Wedi'i wneud
30 Mawrth 2000
Yn dod i rym
1 Ebrill 2000
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Personau sy'n Ddarostyngedig i Reolaeth Fewnfudo (Llety Awdurdodau Tai) (Cymru) 2000 a daw i rym ar 1 Ebrill 2000.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.
2. The classes of persons specified in Articles 3 and 4 of the Persons subject to Immigration Control (Housing Authority Accommodation and Homelessness) Order 2000(3) are specified for the purposes of Section 118(1) of the Immigration and Asylum Act 1999 in relation to Wales and expressions used in those Articles have the meaning given to them by Article 2 of that Order.
3. Mae Gorchymyn Llety Tai (Personau sy'n Ddarostyngedig i Reolaeth Fewnfudo) (Diwygio) (Cymru) 1999(4) wedi'i ddiddymu ac mae'r gorchmynion a bennir ym mharagraffau (a), (b) ac (c) o Erthygl 10 o Orchymyn Personau sy'n Ddarostyngedig i Reolaeth Ymfudo (Llety Awdurdodau Tai a Digartrefedd) 2000 wedi'u diddymu mewn perthynas â Chymru.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5).
D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
30 Mawrth 2000
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae adran 118 o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999 (“Deddf 1999”) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod tai sicrhau, cyn belled ag y bo'n ymarferol, na fydd tenantiaeth ar lety mewn ty sy'n cael ei ddarparu o dan Ran II o Ddeddf Tai 1985, heblaw llety sy'n cael ei ddyrannu o dan Ran VI o Ddeddf Tai 1996, na thrwydded i'w feddiannu, yn cael ei roi i berson sy'n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo oni bai bod y person hwnnw yn perthyn i ddosbarth a bennir mewn gorchymyn a wneir, mewn perthynas â Chymru, gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, neu oni bai bod y denantiaeth, neu'r drwydded i feddiannu, yn cael ei roi yn unol â threfniadau a wneir o dan adran 95 o Ddeddf 1999.
Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu ar gyfer pennu'r dosbarthiadau o bersonau a bennir at ddibenion adran 118 o Ddeddf 1999 mewn perthynas â Lloegr gan Orchymyn Personau sy'n Ddarostyngedig i Reolaeth Ymfudo (Llety Awdurdodau Tai a Digartrefedd) 2000 at y dibenion hynny mewn perthynas â Chymru hefyd.
1999 p. 33. Mae adrannau 118 a 119 yn ail-ddeddfu, gyda newidiadau, adran 9 o Ddeddf Lloches a Mewnfudo 1996 (p. 49) fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Tai 1996 (p.52), Atodlen 16, paragraff 3 ac Atodlen 19, Rhannau VII ac VIII.
Mewn perthynas ag adran 9 o Ddeddf Lloches a Mewnfudo 1996, gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac adran 17 o Ddeddf Dehongli 1978 (p.30).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: