xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae adran 118 o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999 (“Deddf 1999”) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod tai sicrhau, cyn belled ag y bo'n ymarferol, na fydd tenantiaeth ar lety mewn ty sy'n cael ei ddarparu o dan Ran II o Ddeddf Tai 1985, heblaw llety sy'n cael ei ddyrannu o dan Ran VI o Ddeddf Tai 1996, na thrwydded i'w feddiannu, yn cael ei roi i berson sy'n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo oni bai bod y person hwnnw yn perthyn i ddosbarth a bennir mewn gorchymyn a wneir, mewn perthynas â Chymru, gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, neu oni bai bod y denantiaeth, neu'r drwydded i feddiannu, yn cael ei roi yn unol â threfniadau a wneir o dan adran 95 o Ddeddf 1999.

Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu ar gyfer pennu'r dosbarthiadau o bersonau a bennir at ddibenion adran 118 o Ddeddf 1999 mewn perthynas â Lloegr gan Orchymyn Personau sy'n Ddarostyngedig i Reolaeth Ymfudo (Llety Awdurdodau Tai a Digartrefedd) 2000 at y dibenion hynny mewn perthynas â Chymru hefyd.