Search Legislation

Rheoliadau Prisio ar gyfer Ardrethu (Peiriannau a Pheirianwaith) (Cymru) 2000

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2000 Rhif 1097 (Cy. 75)

ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU

Rheoliadau Prisio ar gyfer Ardrethu (Peiriannau a Pheirianwaith) (Cymru) 2000

Wedi'u gwneud

31 Mawrth 2000

Yn dod i rym

1 Ebrill 2000

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 143(2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988(1) a pharagraff 2(8) o Atodlen 6 iddi, a phob pŵ er arall a oedd yn galluogi'r Ysgrifennydd Gwladol yn y cyswllt hwnnw, a freiniwyd bellach yn y Cynulliad Cenedlaethol:

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru yn unig, yw Rheoliadau Prisio ar gyfer Ardrethu (Peiriannau a Pheirianwaith) (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2000.

Tybiaethau rhagnodedig am beiriannau a pheirianwaith

2.  At ddibenion penderfynu gwerth ardrethol hereditament am unrhyw ddiwrnod ar 1 Ebrill 2000 neu wedi hynny, wrth gymhwyso darpariaethau is-baragraffau (1) i (7) o baragraff 2 o Atodlen 6 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988–

(a)mewn perthynas â hereditament y mae peiriannau neu beirianwaith arno neu ynddo sy'n perthyn i unrhyw un o'r dosbarthiadau a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn, dyma'r tybiaethau rhagnodedig:

(i)mae unrhyw beiriannau neu beirianwaith o'r fath yn rhan o'r hereditament; a

(ii)nid oes gan werth unrhyw beiriannau a pheirianwaith arall unrhyw effaith ar y rhent sydd i'w amcangyfrif yn unol â gofynion paragraff 2(1); a

(b)mewn perthynas ag unrhyw hereditament arall, y dybiaeth ragnodedig yw nad oes gan werth unrhyw beiriannau neu beirianwaith unrhyw effaith ar y rhent sydd i'w amcangyfrif felly.

Rhoi manylion ysgrifenedig

3.  Rhaid i'r swyddog prisio, pan ofynnir iddo yn ysgrifenedig gan feddiannydd unrhyw hereditament i wneud hynny, roi manylion ysgrifenedig i'r person hwnnw i ddangos pa beiriannau a pheirianwaith y tybir, yn unol â rheoliad 2(a), eu bod yn ffurfio rhan o'r hereditament, neu a dybir bod unrhyw beiriannau a pheirianwaith penodol yn ffurfio rhan o'r hereditament.

Diddymu ac arbedion

4.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), diddymir Rheoliadau Prisio ar gyfer Ardrethu (Peiriannau a Pheirianwaith) 1994 (“Rheoliadau 1994”)(2).

(2Bydd Rheoliadau 1994 yn para i gael effaith at ddibenion penderfynu gwerth ardrethol hereditament ar gyfer unrhyw ddiwrnod cyn 1 Ebrill 2000.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3).

D.Elis Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

31 Mawrth 2000

Rheoliad 2

ATODLENDOSBARTHIADAU O BEIRIANNAU A PHEIRIANWAITH Y TYBIR EU BOD YN RHAN O'R HEREDITAMENT

DOSBARTH 1

Y peiriannau a'r peirianwaith (heblaw peiriannau a pheirianwaith a eithrir) a bennir yn Nhabl 1 isod (ynghyd ag unrhyw gyfarpar a strwythurau sy'n ategol i'r peiriannau neu'r peirianwaith hynny ac a bennir yn y Rhestr Ategolion a nodir isod) a ddefnyddir neu y bwriedir eu defnyddio yn bennaf neu yn unig mewn cysylltiad â chynhyrchu pŵ er, storio pŵ er, y newid pŵer yntaf neu â'r prif drosglwyddiad pŵer yn yr hereditament neu arno.

Yn y Dosbarth hwn —

(a)ystyr “newidydd” yw unrhyw beiriannau sy'n newid gwasgedd neu amledd neu ffurf cerrynt pŵer trydan i wasgedd neu amledd neu ffurf arall ar gerrynt, ac eithrio unrhyw beiriannau o'r fath sy'n ffurfio rhan annatod o eitem o beiriannau neu beirianwaith sydd yn yr hereditament neu arno ar gyfer gweithrediadau gweithgynhyrchu neu brosesau masnachu;

(b)ystyr “newid pŵer cyntaf” yw newid pŵer trydan mewn unrhyw ffordd drwy gyfrwng newidydd ar unrhyw bwynt yn y prif drosglwyddiad pŵer;

(c)ystyr “prif drosglwyddiad pŵer” yw pob trosglwyddiad pŵ er o'r peiriannau cynhyrchu neu o'r pwynt cyflenwi yn yr hereditament neu arno hyd at a chan gynnwys —

(i)yn achos pŵer trydan, y bwrdd dosbarthu cyntaf;

(ii)yn achos trosglwyddiad ag echel neu olwynion, unrhyw ysgogiad gyriant-echel neu yriant-olwyn oddi wrth y pen-symudydd;

(iii)yn achos pŵer hydrolig neu niwmatig, y pwynt lle mae'r prif gyflenwad yn darfod, heb gynnwys unrhyw gangen o bibell wasanaethu sy'n gysylltiedig â phrif gyflenwad o'r fath;

(iv)mewn achos lle caiff pŵer ei drosglwyddo i hereditament arall, heb iddo fel arall basio y tu hwnt i derfynau'r prif drosglwyddiad pŵer, y pwynt lle mae'r pŵer yn pasio o'r hereditament; a

(ch)ystyr “peiriannau a pheirianwaith a eithrir” yw peiriannau a pheirianwaith ar hereditament a ddefnyddir neu y bwriedir eu defnyddio ar gyfer cynhyrchu, storio, newid neu drosglwyddo pŵer, a hynny pan yw'r pŵer yn bennaf neu yn unig ar gyfer ei ddosbarthu i'w werthu i ddefnyddwyr.

TABL 1

(a)Boeleri stêm (gan gynnwys eu gosodiadau) a simneiau, ffliwiau a dalyddion llwch neu raean a ddefnyddir mewn cysylltiad â'r boeleri hynny; ffwrneisi; tanwyr mecanyddol; chwistrellyddion, chwythellion, llosgyddion a ffroenellau; uwchdwymyddion; pympiau a gwresogyddion dŵr porthi; cynilyddion; cronaduron; dadawyryddion; tanciau chwythu ymaith; retortau nwy a chyfarpar trydanu; cynyrchyddion a generaduron.

(b)Injenni stêm; tyrbinau stêm, tyrbinau nwy; injenni mewndanio; injenni aer-poeth; injenni bario.

(c)Dynamos cerrynt parhaus a dynamos cerrynt eiledol; cyplynnau i injenni a thyrbinau; offer cyffroi meysydd; cydbwysyddion tair-gwifren neu gydbwysyddion cydweddau.

(ch)Batris storio â standiau ac ynysyddion, switsys rheoli, cyfnerthwyr a chysylltiadau sy'n ffurfio rhan o unrhyw offer felly.

(d)Newidyddion statig; newidyddion awto; generaduron modur; trawsnewidwyr modur; trawsnewidwyr amdro; transfertyddion; unionwyr; trawsnewidwyr cydweddau; newidwyr amledd.

(dd)Ceblau a dargludyddion; switsfyrddau, byrddau dosbarthu, paneli rheoli a'r holl switsgêr a chyfarpar arall ar unrhyw offer o'r fath.

(e)Olwynion dŵr; tyrbinau dŵr; ramiau; injenni llywodraethu; fflodiardau; goferydd; tanciau ymchwydd; cwndidau; cafnau; llifddorau.

(f)Injenni pwmpio ar gyfer pŵer hydrolig; injenni hydrolig; dwysyddion hydrolig; cronaduron hydrolig.

(ff)Cywasgyddion aer; injenni aer cywasg.

(g)Melinau gwynt.

(ng)Echelau, cyplyddion, cydwyr, tröellyriannau, pwlïau ac olwynion.

(h)Moduron stêm neu foduron eraill a ddefnyddir neu y bwriedir eu defnyddio yn bennaf neu yn unig ar gyfer gyrru unrhyw beiriannau a pheirianwaith o fewn y Dosbarth hwn.

(i)Ero-generaduron; tyrbinau gwynt.

(j)Batris haul; paneli haul.

DOSBARTH 2

Y peiriannau a'r peirianwaith a bennir yn Nhabl 2 isod (ynghyd â'r cyfarpar a'r strwythurau sy'n ategol i'r peiriannau neu'r peirianwaith hynny ac a bennir ym mharagraff 2 o'r Rhestr Ategolion a nodir isod) a ddefnyddir neu y bwriedir eu defnyddio mewn cysylltiad â gwasanaethau i'r hereditament neu i ran ohono, heblaw unrhyw beiriannau neu beirianwaith o'r fath sydd yn yr hereditament neu arno ac a ddefnyddir neu y bwriedir eu defnyddio mewn cysylltiad â gwasanaethau yn bennaf neu yn unig fel rhan o weithrediadau gweithgynhyrchu neu brosesau masnachu.

Yn y Dosbarth hwn, ystyr “gwasanaethau” yw gwresogi, oeri, awyru, goleuo, draenio neu gyflenwi dŵr a diogelu rhag tresmasu, niwed troseddol, lladrad, tân neu berygl arall.

TABL 2

CYFFREDINOL

(a)Unrhyw rai o'r peiriannau a pheirianwaith a bennir yn Nhabl 1 ac unrhyw foduron a ddefnyddir neu y bwriedir eu defnyddio yn bennaf neu yn unig ar gyfer gyrru unrhyw rai o'r peiriannau a pheirianwaith o fewn paragraffau (b) i (dd) o'r Tabl hwn.

GWRESOGI, OERI AC AWYRU

(i)Twymyddion dŵr.

(ii)Talcenni a maniffoldiau; falfiau gostwng gwasgedd stêm; caloriffyddion; rheiddiaduron; paneli gwresogi; ffwrneisi aer poeth â dwythellau a rhwyllau dosbarthu.

(iii)Rheolyddion gwasgedd nwy; llosgwyr nwy; twymyddion a rheiddiaduron nwy a'r ffliwiau a'r simneiau a ddefnyddir mewn cysylltiad ag unrhyw offer o'r fath.

(iv)Socedi plygiau ac allanfeydd eraill; twymyddion trydan.

(v)Peiriannau oeri.

(vi)Sgriniau dŵr; chwistrellyddion dŵr.

(vii)Ffaniau a chwythwyr.

(viii)Derbynfeydd aer, sianeli, dwythellau, rhwyllau, lwfrau ac allanfeydd.

(ix)Peiriannau ar gyfer hidlo, golchi, sychu, cynhesu, oeri, lleithio, disawru a phersawru, ac ar gyfer triniaethau bacteriolegol a chemegol ar gyfer aer.

(x)Pibellau a choiliau pan ddenyddir hwy i beri symud neu gynorthwyo symud aer.

GOLEUO

(i)Rheolyddion gwasgedd nwy; llosgyddion nwy.

(ii)Socedi plygiau ac allanfeydd eraill; lampau trydan.

TRAENIO

(ch)Pympiau a chyfarpar codi arall; tanciau; sgriniau; peiriannau a pheirianwaith trin carthion.

CYFLENWI DŴ R

(d)Pympiau a chyfarpar arall i godi dŵ r; llifddorau; tanciau, hidlwyr a pheiriannau a pheirianwaith eraill ar gyfer storio a thrin dŵ r.

DIOGELU RHAG PERYGLON

(dd)Tanciau; lagwnau; cronfeydd; pympiau, hydrantau a monitorau; systemau larymau tân; systemau diogelu a gostegu tanau a ffrwydriadau; byndiau; waliau diogelu rhag chwythfa; bermiau; dargludyddion mellt; systemau diogelu a larymau; ffosydd; dyfrffosydd; crugiau; rhwystrau; drysau; clwydi; gatiau tro; caeadau; dellt; ffensys.

RHESTR ATEGOLION

1.  Unrhyw rai o'r peiriannau a'r peirianwaith canlynol a ddefnyddir neu y bwriedir eu defnyddio yn bennaf neu yn unig mewn cysylltiad â thrafod, paratoi neu storio tanwydd y mae ei angen ar gyfer cynhyrchu neu storio pŵ er yn yr hereditament neu arno —

craeniau gyda'u crafangwyr neu eu bwcedi; dyfeisiau i droi tryciau neu wagenni; systemau codi a chludo, gan gynnwys winshys pŵ er, llusgwyr, codwyr, dirwynlathau, cludwyr, cludyddion, teithwyr, craeniau, bwcedi sy'n ffurfio rhan gysylltiedig o unrhyw system felly, ac unrhyw beiriannau pwyso a ddefnyddir mewn cysylltiad â system felly; gwahanwyr magnetig; sychwyr; torwyr; malurwyr; bynceri; dalyddion-nwy; tanciau.

2.  Unrhyw rai o'r peiriannau a'r peirianwaith canlynol a ddefnyddir neu y bwriedir eu defnyddio yn bennaf neu yn unig fel rhan o unrhyw beiriannau a pheirianwaith sydd o fewn Dosbarth 1 neu Ddosbarth 2 neu mewn cysylltiad â hwy neu fel atogolyn iddynt —

(i)sylfeini, gosodiadau, nenbontydd, cynheiliaid, platfformau a llwyfannau ar gyfer peiriannau a pheirianwaith;

(ii)peiriannau cyddwyso stêm, cywasgwyr, dihysbyddwyr, silindrau a llestri storio, ffaniau, pympiau ac alldaflwyr, cyfarpar trin lludw;

(iii)teithwyr a chraeniau;

(iv)systemau iro; systemau daearu; systemau oeri;

(v)pibellau, dwythellau, falfiau, trapiau, gwahanwyr, hidlwyr, oeryddion, sgriniau, cyfarpar puro a thriniaethau eraill, anweddyddion, tanciau, blychau gwacáu a thawelyddion, wasieri, sgwrwyr, cyddwysyddion, twymyddion aer a dirlenwyr aer;

(vi)beltiau, rhaffau, cadwyni a chynheiliaid ar gyfer echelydd;

(vii)ceblau, dargludyddion, gwifrau, pibelli, tiwbiau, cwndidau, casinau, polion, cynheiliaid, ynysyddion, blychau cyswllt a blychau terfyn;

(viii)offer a chyfarpar sydd ynghlwm wrth y peiriannau a'r peirianwaith, gan gynnwys cyfrifiaduron, mesuryddion, medryddion, offer mesur a chofnodi, rheolyddion awtomatig neu reolyddion wedi'u rhaglennu, dangosyddion tymheredd, larymau a relaiau.

DOSBARTH 3

Yr eitemau canlynol —

(a)llinellau rheilffyrdd a thramffyrdd (heblaw cledrau a ddefnyddir yn unig at drosglwyddo pŵ er), ac offer perthnasol a feddiennir ynghyd â'r llinellau a'r cledrau hynny;

Yn y paragraff hwn, ystyr ‘offer perthnsasol’ yw —

(i)sylfeini a chynheiliaid cledrau;

(ii)sliperi, gosodiadau a ffitiadau;

(iii)byfferau, croesfâu a phwyntiau;

(iv)cynheiliaid gwifrau pŵer a nenbontydd gwifrau pŵ er;

(v)nenbontydd signalau; a

(vi)rhwystrau, clwydi a chroesfannau.

(b)lifftiau, codwyr, dirwynlathau, grisiau symudol a llwybrau symudol;

(c)ceblau, gwifrau a dargludyddion (neu unrhyw system o eitemau o'r fath) —

(i)a leolir mewn hereditament neu arno a ddefnyddir neu y bwriedir ei ddefnyddio mewn cysylltiad â throsglwyddo, dosbarthu neu gyflenwi trydan, a

(ii)a ddefnyddir neu y bwriedir eu defnyddio mewn cysylltiad â throsglwyddo, dosbarthu neu gyflenwi o'r fath,

heblaw'r eitemau hynny neu'r rhannau o'r eitemau hynny sydd neu a gynhwysir mewn offer a ddefnyddir neu y bwriedir eu defnyddio yn bennaf neu yn unig ar gyfer switsio neu newid trydan;

(ch)polion, pyst, peilonau, tyrau, pibelli, dwythellau, cwndidau, mesuryddion ac unrhyw gynheiliaid a sylfeini cysylltiol, a ddefnyddir neu y bwriedir eu defnyddio mewn cysylltiad ag unrhyw rai o'r eitemau a gynhwysir yn (c) uchod;

(d)ceblau, ffeibrau, gwifrau a dargludyddion, neu unrhyw system o eitemau o'r fath, neu unrhyw ran o eitemau felly neu system felly, a ddefnyddir neu y bwriedir eu defnyddio mewn cysylltiad â throsglwyddo signalau cyfathrebu, ac a gynhwysir mewn offer ac a leolir o fewn tir ac adeiladau.

Yn y paragraff hwn

(i)ystyr “tir ac adeiladau” yw unrhyw hereditament a ddefnyddir, neu y bwriedir ei ddefnyddio, yn bennaf neu yn unig ar gyfer prosesu neu drosglwyddo signalau cyfathrebu, heb gynnwys unrhyw ran o hereditament o'r fath y mae ynddo offer a ddefnyddir yn bennaf ar gyfer prosesu signalau cyfathrebu;

(ii)ystyr “prosesu signalau cyfathrebu” yw trawsnewid un math o signal cyfathrebu yn fath arall, neu gyfeirio signalau cyfathrebu drwy switsio;

(iii)mae “offer a ddefnyddir yn bennaf ar gyfer prosesu signalau cyfathrebu” yn cynnwys

  • y rhan honno o unrhyw gebl, ffibr, gwifren neu ddargludydd cysylltiol sy'n ymestyn o bwynt y trawsnewid neu'r switsio hyd at y gyffordd neu'r ffrâm ddosbarthu neu derfynu gyntaf; a'r

  • rhan honno o unrhyw gebl, ffibr, gwifren neu ddargludydd cysylltiol sy'n ymestyn o'r gyffordd neu'r ffrâm ddosbarthu neu derfynu olaf hyd at bwynt y trawsnewid neu'r switsio;

(dd)polion, pyst, tyrau, mastiau, rheiddiaduron mast, pibellau, dwythellau a chwndidau ac unrhyw gynheiliaid a sylfeini cysylltiol, a ddefnyddir neu y bwriedir eu defnyddio mewn cysylltiad ag unrhyw rai o'r eitemau a gynhwysir yn (d) uchod;

(e)piblinell sef pibell neu system o bibellau ar gyfer cludo unrhyw beth, nad yw —

(i)yn draen neu'n garthffos; neu

(ii)yn biblinell sy'n ffurfio rhan o offer tir ac adeiladau perthnasol ac a leolir yn gyfan gwbl oddi mewn iddynt;

ynghyd ag unrhyw offer perthnasol a feddiennir gyda'r biblinell; a lle mae piblinell yn ffurfio rhan o offer tir ac adeiladau perthnasol ac y'i lleolir yn rhannol o fewn ac yn rhannol y tu allan iddynt, ac eithrio —

(a)yn achos piblinell ar gyfer cludo unrhyw beth i'r tir ac adeiladau, gymaint o'r biblinell ag sy'n ymestyn o'r falf reoli gyntaf ar y tir ac adeiladau; a

(b)yn achos piblinell ar gyfer cludo unrhyw beth o'r tir ac adeiladau, gymaint o'r biblinell ag sy'n ymestyn hyd at y falf reoli olaf ar y tir ac adeiladau;

ond heb eithrio cymaint o'r biblinell ag sy'n cynnwys y falf reoli gyntaf neu'r olaf fel y bo'r achos.

Yn y paragraff hwn —

  • ystyr “offer perthnasol” yw —

    (i)

    sylfeini, cynheiliaid, gosodiadau, siambrau, tyllau archwilio, nenbontydd pibellau, pontydd pibellau, cwndidau, tyllau archwilio a dwythellau;

    (ii)

    falfiau a rheolyddion llif;

    (iii)

    mesuryddion, pympiau a chywasgwyr aer (gan gynnwys y moduron a gynhwysir yn unrhyw offer o'r fath) a

    (iv)

    cyfarpar sy'n rhoi amddiffyniad cathodig i bibell neu systemau o bibelli;

  • ystyr “tir ac adeiladau perthnasol” yw ffatri neu ddepo storio petrolewm, mwynglawdd, chwarel neu faes mwynau neu storfa nwy naturiol neu gyfleuster prosesu neu safle cadw nwy. At y diben hwn —

    (i)

    ystyr “ffatri” yw'r ystyr a roddir i “factory” yn Neddf Ffatrïoedd 1961(4);

    (ii)

    ystyr “mwynglawdd” ac ystyr “chwarel” yw'r ystyron a roddir i “mine” a “quarry” yn Neddf Mwyngloddiau a Chwareli 1954(5);

    (iii)

    ystyr “maes mwynau” yw ardal sy'n cynnwys cloddfa sef ffynnon neu dwll turio neu ffynnon a thwll turio gyda'i gilydd, neu system o gloddfeydd felly, a ddefnyddir er mwyn pwmpio neu godi heli neu olew neu i dynnu nwy naturiol neu nwy tirlenwi, a chymaint o'r arwynebedd (gan gynnwys adeiladau, strwythurau a gweithfeydd arno) sy'n amgylchynu neu'n cyffinio â'r gloddfa neu'r system ag a feddiennir, ynghyd â'r gloddfa neu'r system, at ddibenion gweithio'r gloddfa neu'r system;

    (iv)

    mae “storfa nwy naturiol neu gyfleuster prosesu” yn cynnwys tir ac adeiladau a ddefnyddir neu y bwriedir eu defnyddio yn bennaf neu yn unig ar gyfer prosesu, storio neu newid gwasgedd nwy naturiol;

    (v)

    ystyr “depo storio petrolewm” yw tir ac adeiladau a ddefnyddir yn bennaf ar gyfer storio petrolewm neu gynhyrchion petrolewm (gan gynnwys cemegau sy'n deillio o betrolewm) neu ddeunyddiau a ddefnyddir wrth weithgynhyrchu cynhyrchion petrolewm (gan gynnwys cemegau sy'n deillio o betrolewm);

    (f)

    dorau dociau a lociau, a chesonau.

DOSBARTH 4

Yr eitemau a bennir yn Nhablau 3 a 4 isod, ac eithrio —

(a)unrhyw eitem o'r fath nad yw, ac nad yw o natur, adeilad neu strwythur;

(b)unrhyw ran o eitem o'r fath nad yw'n ffurfio rhan annatod o eitem o'r fath gan nad yw'n adeilad neu strwythur neu gan nad yw o natur adeilad neu strwythur;

(c)cymaint o unrhyw leinin rhag tân neu leinin arall sy'n ffurfio rhan o unrhyw beiriannau neu beirianwaith a adnewyddir fel arfer, yn sgil ei ddefnydd normal ar ôl cyfnod o lai na hanner cant o wythnosau;

(ch)unrhyw eitem yn Nhabl 4 nad yw ei chynhwysedd ciwbig (o'i mesur yn allanol gan hepgor sylfeini, gosodiadau, cynheiliaid ac unrhyw beth nad yw'n rhan annatod o'r eitem) yn fwy na phedwar can metr ciwbig ac y gellir ei symud yn rhwydd o un safle a'i hailgodi yn ei chyflwr gwreiddiol ar safle arall heb chwalu'n sylweddol unrhyw strwythur sy'n ei hamgylchynu.

TABL 3

Argaeaeu.

Byndiau.

Cafnau, cwndidau a dwythellau.

Casinau a leinwyr ffynhonnau.

Craeniau sefydlog.

Dyfeisiau i droi tryciau neu wagenni.

Ffwrneisi chwythfa.

Ffyrnau colsio.

Lifftiau llongau ac angorfeydd adeiladu.

Mastiau (gan gynnwys rhaffau tynhau) a thyrau ar gyfer signalau cyfathrebu neu radar.

Pen gwaith ar gyfer —

  • Mwyngloddiau, chwareli a phyllau;

  • Ffynhonnau.

Pontydd, twneli, leininau twneli, cynheiliaid twneli a thraphontydd.

Pontynau arnofiol, ynghyd ag unrhyw bontydd neu bomprenni nad ydynt o natur dros dro a ddefnyddir mewn cysylltiad â'r pontynau hynny.

Pyllau oeri.

Simneiau a ffliwiau.

Sylfeini, gosodiadau, nenbontydd sefydlog, cynheiliaid, rhodfeydd, grisffyrdd, canllawiau, brigdrawstiau, llwyfannau, glanfeydd a phlatfformau.

Telesgopau radio.

Trawsdrowyr a throfyrddau.

Tyllau archwilio, gwelyau a chilfachau.

Tyrau falfiau.

Tyrbinau a generaduron.

TABL 4

Adweithyddion a llestri gwasgedd adweithyddion.

Anweddwyr.

Biniau a hoprannau.

Boeleri.

Bynceri.

Cerwyni.

Ciwpolâu.

Cronaduron hydrolig.

Cronfeydd dŵ r.

Crynhowyr asid.

Cyddwysyddion a sgwrwyr.

Cyflymyddion.

Cynilyddion, cyfnewidwyr gwres, adferyddion, atgynhyrchwyr ac uwchdwymyddion.

Difawyr a llosgyddion sbwriel.

Distyll-lestri.

Generaduron, puryddion, glanhawyr, dalyddion a chynhyrchwyr nwy.

Golchfeydd glo.

Hidlwyr a gwahanwyr.

Llosgyddion, trawsnewidwyr, ffwrneisi, odynau, stofiau a ffyrnau.

Oeryddion, lledoeryddion a throchoeryddion.

Retortau.

Sbardunau.

Seiclonau.

Seilos.

Siamberi a llestri.

Tanciau.

Twneli gwynt.

Tyrau a cholofnau.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diddymu, gydag effaith o 1 Ebrill 2000 ymlaen, Reoliadau Prisio ar gyfer Ardrethu (Peiriannau a Pheirianwaith) 1994 ac yn eu disodli â darpariaethau sy'n adlewyrchu argymhellion a geir yn Adroddiad y Pwyllgor Ymgynghorol Arbenigol a gadeiriwyd gan Mr Derek Wood CBE CF (Cm 4283). Adolygodd y Pwyllgor ardrethu peiriannau a pheirianwaith gyda golwg ar ei ddiweddaru a'i gysoni ledled y Deyrnas Unedig. Mae'r Rheoliadau, sy'n gymwys i Gymru yn unig, yn pennu'r peiriannau a'r peirianwaith y tybir o 1 Ebrill 2000 ymlaen eu bod yn rhan o hereditament at ddibenion prisio ar gyfer ardrethu annomestig.

(1)

1988 p.41. Diwygiwyd paragraff 2(8) o Atodlen 6 gan baragraff 38(8) o Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p.42). Gweler adran 146(6) ar gyfer y diffiniad o "prescribed". Datganolwyd y pwerau hyn, mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672); gweler y cyfeiriad at Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 yn Atodlen 1.

(2)

O.S. 1994/2680, sy'n parhau effaith Rheoliadau Prisio ar gyfer Ardrethu (Peiriannau a Pheirianwaith) 1989 (O.S. 1989/441) ynglŷn ag unrhyw ddiwrnod cyn 1 Ebrill 1995.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources