Search Legislation

Rheoliadau Cynhyrchion Llaeth (Hylendid) (Taliadau) (Diwygio) (Cymru) 2000

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2000 Rhif 1738 (Cy.121)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Cynhyrchion Llaeth (Hylendid) (Taliadau) (Diwygio) (Cymru) 2000

Wedi'u gwneud

19 Mai 2000

Yn dod i rym

20 Mai 2000

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 45 a 48(1)(b) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1), wedi rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, ac wedi ymgynghori yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Teitl, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynhyrchion Llaeth (Hylendid) (Taliadau) (Diwygio) (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 20 Mai 2000.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Diwygio Rheoliadau Cynhyrchion Llaeth (Hylendid) (Taliadau) 1995

2.  Diwygir Rheoliadau Cynhyrchion Llaeth (Hylendid) (Taliadau) 1995(2) (i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru) yn unol â rheoliadau 3 i 5 isod.

3.  Yn rheoliad 2 (dehongli) –

(a)caiff y diffiniad o “dairy farm visit” a'r diffiniadau cysylltiedig o “sampling dairy farm visit” a “general dairy farm visit” eu hepgor;

(b)caiff y diffiniad canlynol ei fewnosod ar ôl y diffiniad o “registered production holding” —

“sampling dairy farm visit” means a visit to a registered production holding by an inspector for the purpose of taking samples of milk for analysis and examination to ascertain whether paragraph 2(b) of Part I of Schedule 4 (as read with regulation 9(1)(d) and (2)(a)) to the principal Regulations is being complied with;.

4.  Yn rheoliad 3 (atebolrwydd i dalu taliadau) -

(a)Yn lle paragraff (1) rhoddir y paragraff canlynol.

(1) For the purposes of carrying out any sampling, analysis and examination of raw cow’s milk which is drinking milk in pursuance of regulation 16(3) of the principal Regulations and subject to paragraph (2) below, there shall be due from a specified producer to the Agency in respect of any sampling dairy farm visit a charge of £63.;

(b)ym mharagraff (2) caiff is-baragraff (a) ei hepgor.

5.  Caiff yr Atodlen ei hepgor.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3).

Dafydd Elis Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

19 Mai 2000

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynhyrchion Llaeth (Hylendid) (Taliadau) 1995, fel y'u diwygiwyd, (“Rheoliadau 1995”) mewn perthynas â Chymru.

Mae taliadau i'w talu gan gynhyrchwyr llaeth ar ddaliadau cofrestredig o dan Reoliadau 1995 mewn perthynas ag ymweliadau â ffermydd llaeth a gynhelir er mwyn darganfod a yw darpariaethau Rheoliadau Cynhyrchion Llaeth (Hylendid) (Taliadau) 1995, (O.S. 1995/1086, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1995/1763, 1996/1499, 1996/1699, 1997/1729, 1998/2424 a 2000/656) yn cael eu bodloni. Mae'r Rheoliadau hyn yn dileu'r atebolrwydd i dalu taliadau o'r fath, ac eithrio mewn perthynas ag ymweliadau at ddiben cymryd samplau o laeth yfed sydd yn laeth amrwd buchod i'w ddadansoddi a'i archwilio er mwyn gweld a yw'n cydymffurfio â'r darpariaethau yn y Rheoliadau hynny ynghylch meini prawf microbiolegol. Mae'r tâl yn yr achos hwnnw yn aros yn ddigyfnewid, sef £63 (rheoliadau 2 i 5).

Mae arfarniad rheoleiddiol yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 wedi'i baratoi. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd - Cymru, Llawr Cyntaf, Southgate House, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EN .

(1)

1990 p.16. Diwygiwyd adran 48 gan baragraff 21 o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (p.28). Trosglwyddwyd swyddogaethau a frieniwyd yng Ngweinidogion y Goron mewn perthynas â Chymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).

(2)

O.S. 1995/1122, y ceir diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources