Search Legislation

Gorchymyn BG plc (Gwerth Ardrethol) (Cymru) 2000

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2000 Rhif 352 (Cy. 10)

ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU

Gorchymyn BG plc (Gwerth Ardrethol) (Cymru) 2000

Wedi'i wneud

31 Ionawr 2000

Yn dod i rym

1 Ebrill 2000

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 140(4) a 143(1) a (2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988(1) a pharagraff 3(2) o Atodlen 6 iddi, ac a freiniwyd ynddo bellach i'r graddau y mae'n arferadwy yng Nghymru(2).

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn BG plc (Gwerth Ardrethol) (Cymru) 2000 a daw i rym ar 1 Ebrill 2000

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru'n unig.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn –

  • ystyr “BG plc” (“BG plc”) yw'r cwmni a gofrestir yn yr enw hwnnw ar 9 Tachwedd 1999;

  • ystyr “blwyddyn” (“year”) yw blwyddyn ariannol daladwy;

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988; ac

  • ystyr “hereditamentau nwy Cymru” (“Welsh Gas hereditaments”) yw hereditamentau annomestig a feddiennir (neu, os nas meddiennir, a berchnogir) gan BG plc y mae'n ofynnol iddynt yn rhinwedd rheoliad 3(1) o Reoliadau Rhestr Ardrethu Canolog (Cymru) 1999(3) a Rhan 3 o'r Atodlen iddynt gael eu dangos ar y rhestr ardrethu canolog; ac

Gwerth ardrethol

3.  Yn achos hereditamentau nwy Cymru, ni fydd paragraffau 2 i 2B(4) o Atodlen 6 i'r Ddeddf yn gymwys mewn unrhyw flwyddyn sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2000 ac mewn unrhyw flwyddyn o'r fath gwerth ardrethol hereditamentau nwy Cymru fydd £32,059,000.

Diddymu ac eithrio

4.—(1 Yn ddarostyngedig i baragraff (2), diddymir drwy hyn Gorchymyn British Gas plc (Gwerthoedd Ardrethol) 1994(5) o'r 1 Ebrill 2000 ymlaen.

(2Bydd Gorchymyn British Gas plc (Gwerthoedd Ardrethol) 1994 yn parhau'n effeithiol ar ac ar ôl 1 Ebrill 2000 at ddibenion neu ddibenion sy'n gysylltiedig ag—

(a)unrhyw newid i restr mewn grym yn union cyn 1 Ebrill 2000; neu

(b)unrhyw ddarpariaeth a wnaed o dan reoliadau a wnaed o dan adran 58(6) o'r Ddeddf (darpariaeth arbennig ar gyfer 1995 ymlaen) ynglŷn â'r swm taladwy am hereditament am gyfnod perthnasol fel y'i ddiffinnir yn yr adran honno.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(7).

Dafydd Elis Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

31 Ionawr 2000

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

O dan baragraff 3(2) o Atodlen 6 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, caiff yr Ysgrifennydd Gwladol drwy orchymyn ddarparu, yn achos hereditamentau annomestig sydd i'w dangos ar y rhestr ardrethu canolog i Gymru nad yw rheolau arferol prisio ar gyfer ardrethu a gynhwysir ym mharagraffau 2 i 2B o'r Atodlen honno yn gymwys, ac yn lle hynny eu gwerth ardrethol fydd y swm a bennir yn y gorchymyn neu'r hyn a benderfynir yn unol â rheolau a ragnodir. Breinir y pwerau hyn bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae'n ofynnol i hereditamentau nwy a feddiennir (neu, os nas meddiennir, a berchnogir) gan BG plc (sydd wedi disodli British Gas plc at y dibenion hyn) i gael eu dangos ar y rhestr ardrethu canolog a luniwyd ar 1 Ebrill 2000, yn rhinwedd Rheoliadau Rhestr Ardrethu Canolog (Cymru) 1999. Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu nad yw paragraffau 2 i 2B yn gymwys i'r hereditamentau hynny.

Ar gyfer y flwyddyn sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2000 pennir £32,059,000 fel gwerth ardrethol yr hereditamentau nwy a leolir yng Nghymru. Bydd y gwerth ardrethol hwn yn gymwys hefyd am y blynyddoedd sy'n dilyn.

Mae Erthygl 3(1) yn diddymu Gorchymyn British Gas plc (Gwerthoedd Ardrethol) 1994 o'r 1 Ebrill 2000 ymlaen. Bydd y darpariaethau hyn yn dal i fod yn weithredol i'r dibenion a grybwyllir yn erthygl 3(2).

(1)

1988 c. 41. Section 143(2) is amended by paragraph 72(2) of Schedule 5 to the Local Government and Housing Act 1989 (c. 42). Paragraph 3(2) of Schedule 6 is amended by paragraph 38(13) of Schedule 5 to the 1989 Act. See section 146(6) of the 1988 Act for the definition of “prescribed”.

(2)

See the National Assembly for Wales (Transfer of Functions) Order 1999 (S.I. 1999/672).

(4)

Paragraph 2 is amended by, and paragraphs 2A and 2B are inserted by, paragraph 38(3) to (11) of Schedule 5 to the Local Government and Housing Act 1989.

(5)

S.I. 1994/3283.

(6)

Section 58 is amended by paragraph 68 of Schedule 13 to the Local Government Finance Act 1992 (c. 14) and section 2 of the Non-Domestic Rating Act 1994.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources