Offerynnau Statudol Cymru
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Wedi'u gwneud
13 Mawrth 2001
Yn dod i rym
1 Ebrill 2001
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd gan baragraff 10(1) o Atodlen 5 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977(1) i'r Ysgrifennydd Gwladol ac a freiniwyd bellach yn y Cynulliad Cenedlaethol(2) ar ôl ymgynghori yn unol â pharagraff 11(1) o'r Atodlen honno â chyrff sy'n cael eu cydnabod gan y Cynulliad Cenedlaethol fel rhai sy'n cynrychioli personau sy'n debygol o gael eu heffeithio, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:—
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Proffesiynau sy'n Atodol i Feddygaeth) (Cymru) 2000, a deuant i rym ar 1 Ebrill 2001.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y prif Reoliadau” yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Proffesiynau sy'n Atodol i Feddygaeth) 1974(3).
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
2.—(1) Diwygir rheoliad 3 o'r prif Reoliadau (cyflogi swyddogion) fel a ganlyn:
(2) Ym mharagraff (1), yn lle “radiographer or remedial gymnast” rhoddir “or radiographer”(4).
(3) Ar ôl paragraff (1), mewnosodir y paragraff canlynol —
“(1A) No person shall be employed as an officer of an authority to which this regulation applies, in the capacity of prosthetist and orthotist or arts therapist unless —
(a)that person is registered in respect of that profession; or
(b)that person has never been registered as a prosthetist and orthotist or arts therapist, but who, immediately before 1 April 2001, was employed in that capacity by an authority, in England or Wales, to which this regulation applies.”.
(4) Yn lle paragraff (2) rhoddir —
“(2) The authorities to which this regulation applies are —
(a)Health Authorities;
(b)Special Health Authorities.”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5).
D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
13 Mawrth 2001
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Proffesiynau sy'n Atodol i Feddygaeth) 1974 (y “prif Reoliadau”).
Estynnwyd Deddf Proffesiynau sy'n Atodol i Feddygaeth 1960 (“y Ddeddf”) ym 1997 i gynnwys prosthetegwyr ac orthotegwyr a therapyddion celfyddydau ymhlith y proffesiynau sy'n cael eu rheoleiddio o dan y Ddeddf.
Mae'r Rheoliadau hyn yn ychwanegu'r proffesiynau hynny at y rhai y gwaherddir eu cyflogi gan Awdurdodau Iechyd ac Awdurdodau Iechyd Arbennig at ddibenion darparu gwasanaethau o dan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, ac eithrio pan gynhwyswyd eu henwau yn y gofrestr a gedwir yn unol ag adran 2(1) o'r Ddeddf gan y Byrddau sy'n cadw cofrestrau ar gyfer y proffesiynau hynny, neu pan y'u cyflogid yn y swyddi hynny yn union cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym.
Yn ychwanegol, mae rheoliad 2(2) yn dileu'r cyfeiriad at gymnastwyr adferol o'r prif Reoliadau am nad yw'r Ddeddf bellach yn cynnwys y proffesiwn hwn ar wahân. Daeth yn rhan o broffesiwn y ffisiotherapyddion.
Diweddarwyd rhestr yr awdurdodau y mae'r prif Reoliadau'n gymwys iddynt gan reoliad 2(4).
1977 p.49; gweler adran 128(1) fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) adran 26(2)(g) ac (i), ar gyfer y diffinadau o “prescribed” a “regulations”. Diwygiwyd paragraff 10(1) o Atodlen 5 gan Ddeddf Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Dyfarniadau Nawdd Cymdeithasol 1983 (p.41), Atodlen 6, paragraff 3; gan Ddeddf Iechyd a Nawdd Cymdeithasol 1984 (p.48), Atodlen 3, paragraff 14, ac Atodlen 8, Rhan I; a chan Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17), Atodlen 1, paragraff 60(c).
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan y darpariaethau y gwneir y rheoliadau hyn o danynt i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosgwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).
O.S. 1974/494, a ddiwygiwyd gan O.S. 1978/1090, 1982/288 ac 2000/523.
Dileodd O.S. 1986/630 gymnastwyr adferol o'r rhestr o broffesiynau y mae Deddf Proffesiynau sy'n Atodol i Feddygaeth 1960 (p.66) yn gymwys iddynt.