2001 Rhif 1076 (Cy. 52)
TALIADAU CYMUNEDOL, CYMRU
Y DRETH GYNGOR, CYMRU
ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU
Rheoliadau Taliadau Cymunedol, Y Dreth Gyngor ac Ardrethu Annomestig (Gorfodi) (Llysoedd Ynadon) (Cymru) 2001
Wedi'u gwneud
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan baragraffau 1 a 13(b) o Atodlen 4 a pharagraff 1 o Atodlen 9 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 19881 a pharagraffau 1(1) a 13(b) o Atodlen 4 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 19922 a phob pŵ er arall sy'n galluogi'r Ysgrifennydd Gwladol yn y cyswllt hwnnw ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru3.