Search Legislation

Rheoliadau Taliadau Cymunedol, Y Dreth Gyngor ac Ardrethu Annomestig (Gorfodi) (Llysoedd Ynadon) (Cymru) 2001

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2001 Rhif 1076 (Cy. 52)

TALIADAU CYMUNEDOL, CYMRU

Y DRETH GYNGOR, CYMRU

ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU

Rheoliadau Taliadau Cymunedol, Y Dreth Gyngor ac Ardrethu Annomestig (Gorfodi) (Llysoedd Ynadon) (Cymru) 2001

Wedi'u gwneud

13 Mawrth 2001

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan baragraffau 1 a 13(b) o Atodlen 4 a pharagraff 1 o Atodlen 9 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988(1) a pharagraffau 1(1) a 13(b) o Atodlen 4 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992(2) a phob pŵ er arall sy'n galluogi'r Ysgrifennydd Gwladol yn y cyswllt hwnnw ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(3).

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Taliadau Cymunedol, Y Dreth Gyngor ac Ardrethu Annomestig (Gorfodi) (Llysoedd Ynadon) (Cymru) 2001 .

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2001.

(3Daw rheoliad 3 i rym ar y diwrnod y daw adran 90 (trosglwyddo swyddogaethau clercod i brif weithredwyr) o Ddeddf Cyfle i Gael Cyfiawnder 1999 i rym(4)).

(4Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygio'r Rheoliadau

2.—(1Ym mhob un o'r darpariaethau y mae paragraff (2) yn gymwys iddi, yn lle “stipendiary magistrate” rhowch “District Judge (Magistrates' Courts)”(5).

(2Dyma'r darpariaethau y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddynt:

(a)rheoliad 47(2) o Reoliadau Taliadau Cymunedol (Gweinyddu a Gorfodi) 1989(6);

(b)rheoliad 21(2) o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestrau Lleol) 1989(7)); ac

(c)rheoliad 53(2) o Reoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992(8).

3.—(1Ym mhob un o'r darpariaethau y mae paragraff (2) yn gymwys iddynt, yn lle “clerk of the court” rhowch “justices' chief executive for the court” (9)).

(2Dyma'r darpariaethau y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddynt:

(a)rheoliad 52(4) o Reoliadau Taliadau Cymunedol (Gweinyddu a Gorfodi) 1989 (10);

(b)rheoliad 23 (4) o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestrau Lleol) 1989(11)); ac

(c)rheoliad 57(3) o Reoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992(12)).

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(13).

D.Elis Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

13 Mawrth 2001

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau, sy'n dod i rym yn unol â rheoliad 1, yn diwygio, mewn perthynas â Chymru, yr offerynnau canlynol, sef,

  • Rheoliadau Taliadau Cymunedol (Gweinyddu a Gorfodi) 1989;

  • Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestrau Lleol) 1989;

  • Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992;

a hynny er mwyn cymryd i ystyriaeth ddyfodiad i rym adran 78 o Ddeddf Cyfle i Gael Cyfiawnder 1999 (p.22), ac Atodlen 11 iddi, sy'n uno'r fainc ynadon cyflogedig ac yn ei hailenwi, ac adran 90 o'r Ddeddf honno ac Atodlen 13 iddi sy'n darparu ar gyfer trosglwyddo swyddogaethau gweinyddol clercod ustusiaid i brif weithredwyr ustusiaid.

Mewn perthynas â Lloegr mae darpariaeth gyfatebol wedi'i gwneud ar gyfer uno'r fainc ynadon cyflogedig a'i hailenwi gan Reoliadau Taliadau Cymunedol, Y Dreth Gyngor ac Ardrethu Annomestig (Gorfodi) (Llysoedd Ynadon) (Lloegr) 2000 (O.S. 2000/2026) ac i'w gwneud gan reoliadau pellach ar gyfer trosglwyddo swyddogaethau gweinyddol clercod ustusiaid i brif weithredwyr ustusiaid.

(1)

1988 p.41. Diddymwyd adran 22 yr oedd Atodlen 4 yn effeithiol odani gan adran 117(2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (p.14), ac Atodlen 14 iddi, ond o dan adran 118(1) o'r Ddeddf 1992 honno nid yw'r diddymu i effeithio ar weithrediad y darpariaethau hynny mewn perthynas ag unrhyw dâl cymunedol ar gyfer diwrnod cyn 1 Ebrill 1993 neu mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn ariannol sy'n dechrau cyn y dyddiad hwnnw.

(3)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladoly cyfeirir atynt, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(4)

1999 p.22. Daw adran 90 i rym ar y diwrnod a bennir gan yr Arglwydd Ganghellor drwy orchymyn o dan adran 108(1).

(5)

Mae Adran 78 o Ddeddf Cyfle i Gael Cyfiawnder 1999 yn rhoi yn lle adrannau 11 i 20 o Ddeddf Ynadon Heddwch 1997 (p.25), sy'n darparu ar gyfer ynadon cyflogedig, adrannau 10A i 10E newydd sy'n darparu ar gyfer Barnwyr Rhanbarth (Llysoedd Ynadon) yn eu lle. Mae paragraff 22 o Atodlen 14 i'r Ddeddf 1999 honno yn darparu bod unrhyw berson sy'n ynad cyflogedig neu'n ynad cyflogedig metropolitanaidd yn union cyn y daw adran 78 i rym i gael ei drin (oni fyddai'n ofynnol ymddiswyddo bryd hynny oherwydd oedran) fel un sydd wedi'i benodi'n Farnwr Dosbarth (Llys Ynadon) bryd hynny.

(6)

O.S. 1989/438, y mae diwygiadau iddynt nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(7)

O.S. 1989/1058, y mae diwygiadau iddynt nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(8)

O.S. 1992/613, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(9)

Mae adran 90(5) o Ddeddf Cyfle i Gael Cyfiawnder 1999 yn darparu mai holl swyddogaethau clercod ustusiaid yw eu swyddogaethau gweinyddol at ddibenion yr adran honno ar wahân i'r rhai sy'n swyddogaethau cyfreithiol o fewn yr ystyr a roddir iddynt gan adran 48(2) o Ddeddf Ynadon Heddwch 1997 (p.25) fel y'i hamnewidiwyd gan adran 89(1) o'r Ddeddf 1999 honno.

(10)

O.S. 1989/438, y mae diwygiadau iddynt nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(11)

O.S. 1989/1058, y mae diwygiadau iddynt nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(12)

O.S. 1992/613, y mae diwygiadau iddynt nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(13)

1998 p.38.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources