(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau, sy'n dod i rym yn unol â rheoliad 1, yn diwygio, mewn perthynas â Chymru, yr offerynnau canlynol, sef,

  • Rheoliadau Taliadau Cymunedol (Gweinyddu a Gorfodi) 1989;

  • Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestrau Lleol) 1989;

  • Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992;

a hynny er mwyn cymryd i ystyriaeth ddyfodiad i rym adran 78 o Ddeddf Cyfle i Gael Cyfiawnder 1999 (p.22), ac Atodlen 11 iddi, sy'n uno'r fainc ynadon cyflogedig ac yn ei hailenwi, ac adran 90 o'r Ddeddf honno ac Atodlen 13 iddi sy'n darparu ar gyfer trosglwyddo swyddogaethau gweinyddol clercod ustusiaid i brif weithredwyr ustusiaid.

Mewn perthynas â Lloegr mae darpariaeth gyfatebol wedi'i gwneud ar gyfer uno'r fainc ynadon cyflogedig a'i hailenwi gan Reoliadau Taliadau Cymunedol, Y Dreth Gyngor ac Ardrethu Annomestig (Gorfodi) (Llysoedd Ynadon) (Lloegr) 2000 (O.S. 2000/2026) ac i'w gwneud gan reoliadau pellach ar gyfer trosglwyddo swyddogaethau gweinyddol clercod ustusiaid i brif weithredwyr ustusiaid.