Diwygio'r Rheoliadau

2.—(1Ym mhob un o'r darpariaethau y mae paragraff (2) yn gymwys iddi, yn lle “stipendiary magistrate” rhowch “District Judge (Magistrates' Courts)”(1).

(2Dyma'r darpariaethau y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddynt:

(a)rheoliad 47(2) o Reoliadau Taliadau Cymunedol (Gweinyddu a Gorfodi) 1989(2);

(b)rheoliad 21(2) o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestrau Lleol) 1989(3)); ac

(c)rheoliad 53(2) o Reoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992(4).

(1)

Mae Adran 78 o Ddeddf Cyfle i Gael Cyfiawnder 1999 yn rhoi yn lle adrannau 11 i 20 o Ddeddf Ynadon Heddwch 1997 (p.25), sy'n darparu ar gyfer ynadon cyflogedig, adrannau 10A i 10E newydd sy'n darparu ar gyfer Barnwyr Rhanbarth (Llysoedd Ynadon) yn eu lle. Mae paragraff 22 o Atodlen 14 i'r Ddeddf 1999 honno yn darparu bod unrhyw berson sy'n ynad cyflogedig neu'n ynad cyflogedig metropolitanaidd yn union cyn y daw adran 78 i rym i gael ei drin (oni fyddai'n ofynnol ymddiswyddo bryd hynny oherwydd oedran) fel un sydd wedi'i benodi'n Farnwr Dosbarth (Llys Ynadon) bryd hynny.

(2)

O.S. 1989/438, y mae diwygiadau iddynt nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(3)

O.S. 1989/1058, y mae diwygiadau iddynt nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(4)

O.S. 1992/613, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.