xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
3.—(1) Ym mhob un o'r darpariaethau y mae paragraff (2) yn gymwys iddynt, yn lle “clerk of the court” rhowch “justices' chief executive for the court” (1)).
(2) Dyma'r darpariaethau y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddynt:
(a)rheoliad 52(4) o Reoliadau Taliadau Cymunedol (Gweinyddu a Gorfodi) 1989 (2);
(b)rheoliad 23 (4) o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestrau Lleol) 1989(3)); ac
(c)rheoliad 57(3) o Reoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992(4)).
Mae adran 90(5) o Ddeddf Cyfle i Gael Cyfiawnder 1999 yn darparu mai holl swyddogaethau clercod ustusiaid yw eu swyddogaethau gweinyddol at ddibenion yr adran honno ar wahân i'r rhai sy'n swyddogaethau cyfreithiol o fewn yr ystyr a roddir iddynt gan adran 48(2) o Ddeddf Ynadon Heddwch 1997 (p.25) fel y'i hamnewidiwyd gan adran 89(1) o'r Ddeddf 1999 honno.
O.S. 1989/438, y mae diwygiadau iddynt nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.
O.S. 1989/1058, y mae diwygiadau iddynt nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.
O.S. 1992/613, y mae diwygiadau iddynt nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.