xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2001 Rhif 1111 (Cy. 55)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth Ysgolion) (Cymru) (Diwygio) 2001

Wedi'u gwneud

15 Mawrth 2001

Yn dod i rym

1 Medi 2001

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannnau 537(1) a (4) a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996(1) ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2), mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ar ôl ymgynghori â'r personau hynny yr oedd yn ymddangos iddo fod ymgynghori â hwy yn ddymunol, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth Ysgolion) (Cymru) (Diwygio) 2001 a deaunt i rym ar 1 Medi 2001.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygio Rheoliadau

2.—(1Diwygir Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth Ysgolion) (Cymru) 1999(3) fel a ganlyn.

(2Ar ôl paragraff 14 o Atodlen 3 i'r Rheoliadau hynny mewnosodwch—

14A.  Particulars of any special arrangements for the admission of disabled pupils to the school and for enabling such pupils to have access to any part of the school premises, together with particulars of any steps which have been taken to prevent disabled pupils from being treated less favourably than pupils who are not disabled.

14B.  Particulars of any policies adopted by the governing body of the school with respect to equal opportunities.

14C.  A description in general terms of the arrangements made for the security of the pupils and staff at the school and the school premises.

14D.  A summary of the provisions contained in the home-school agreement adopted by the governing body of the school under section 110(1) of the 1998 Act..

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4).

Dafydd Elis Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

15 Mawrth 2001

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth Ysgolion) (Cymru) 1999 sy'n darparu (ymhlith pethau eraill) ar gyfer yr wybodaeth y mae'n rhaid ei chynnwys ym mhrosbectws yr ysgol. Mae pedair eitem ychwanegol mewn perthynas â threfniadau ar gyfer disgyblion anabl, polisïau cyfleoedd cyfartal, diogelwch yr ysgol a'r cytuneb cartref-ysgol a fabwysiadayd gan yr ysgol bellach i gael eu cynnwys ym mhrosbectws yr ysgol - gweler Rheoliad 2.

(1)

1996 p.56. Diwygiwyd adran 537(4) gan baragraff 37 o Atodlen 7 i Ddeddf Addysg 1997 ac adran 537(1) gan baragraff 152 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998. Ar gyfer ystyr “prescribed” a “regulations” gweler adran 579(1) o Ddeddf 1996.

(2)

Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).