2001 Rhif 1111 (Cy. 55)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth Ysgolion) (Cymru) (Diwygio) 2001

Wedi'u gwneud

Yn dod i rym

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannnau 537(1) a (4) a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 19961 ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru2, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ar ôl ymgynghori â'r personau hynny yr oedd yn ymddangos iddo fod ymgynghori â hwy yn ddymunol, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth Ysgolion) (Cymru) (Diwygio) 2001 a deaunt i rym ar 1 Medi 2001.

2

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygio Rheoliadau2

1

Diwygir Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth Ysgolion) (Cymru) 19993 fel a ganlyn.

2

Ar ôl paragraff 14 o Atodlen 3 i'r Rheoliadau hynny mewnosodwch—

14A

Particulars of any special arrangements for the admission of disabled pupils to the school and for enabling such pupils to have access to any part of the school premises, together with particulars of any steps which have been taken to prevent disabled pupils from being treated less favourably than pupils who are not disabled.

14B

Particulars of any policies adopted by the governing body of the school with respect to equal opportunities.

14C

A description in general terms of the arrangements made for the security of the pupils and staff at the school and the school premises.

14D

A summary of the provisions contained in the home-school agreement adopted by the governing body of the school under section 110(1) of the 1998 Act.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19984.

Dafydd Elis ThomasLlywydd y Cynulliad Cenedlaethol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth Ysgolion) (Cymru) 1999 sy'n darparu (ymhlith pethau eraill) ar gyfer yr wybodaeth y mae'n rhaid ei chynnwys ym mhrosbectws yr ysgol. Mae pedair eitem ychwanegol mewn perthynas â threfniadau ar gyfer disgyblion anabl, polisïau cyfleoedd cyfartal, diogelwch yr ysgol a'r cytuneb cartref-ysgol a fabwysiadayd gan yr ysgol bellach i gael eu cynnwys ym mhrosbectws yr ysgol - gweler Rheoliad 2.