xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2001 Rhif 1203 (Cy. 64 )

ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU

Rheoliadau Ardrethu Annomestig(Newid Rhestri ac Apelau)(Diwygio) (Cymru) 2001

Wedi'u gwneud

27 Mawrth 2001

Yn dod i rym

1 Ebrill 2001

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 55(2) a (6), 140 a 143(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988(1) sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru(2):

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestri ac Apelau) (Diwygio) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2001.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygio Rheoliadau 1993

2.—(1Mae Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestri ac Apelau) 1993(3) yn cael eu diwygio yn unol â'r paragraff canlynol.

(2Yn Rheoliad 13A(4)) (yr amser y daw'r newid yn effeithiol: cyffredinol)—

(a)ym mharagraff (5), ar ôl “paragraphs (7),”, rhowch “(7A),” a

(b)ar ôl paragraff (7), mewnosodwch—

(7A) For the purpose of paragraph (5), where an alteration is made in pursuance of a proposal served after 31st March 2001 but before 1st July 2001 and the circumstances giving rise to the alteration first arose after 31st December 2000 but before 1st April 2001, then the proposal shall be treated as served on 31st March 2001.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5).

D.Elis Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

27 Mawrth 2001

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n dod i rym ar 1 Ebrill 2001, yn diwygio ymhellach ar Reoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestri ac Apelau) 1993 mewn perthynas â Chymru.

Mae Rheoliadau 1993 yn ymwneud â newid rhestri ardrethu annomestig sy'n cael eu llunio o dan Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988.

Maent yn cynnwys darpariaeth bod newid mewn rhestr sydd wedi'i llunio ar 1 Ebrill 2000 neu ar ôl hynny, a hwnnw'n cael ei wneud ar sail newid perthnasol mewn amgylchiadau, yn dod yn effeithiol o'r diwrnod cyntaf y cododd yr amgylchiadau sy'n arwain at y newid yn y rhestr neu o'r diwrnod cyntaf yn y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn cael ei gyflwyno, p'un bynnag yw'r olaf. Oherwydd hyn, ni fydd y newid yn y rhestr yn dod yn effeithiol o'r diwrnod cyntaf y cododd y newid amgylchiadau oni fydd y cynnig yn cael ei gyflwyno cyn diwedd y flwyddyn ariannol y digwyddodd y newid amgylchiadau gyntaf.

Os yw'r rhestr a gafodd ei llunio ar 1 Ebrill 2000 yn cael ei newid yn sgil cynnig ar sail newid perthnasol mewn amgylchiadau a gododd gyntaf ar ddiwrnod ar ôl 31 Rhagfyr 2000 ond cyn 1 Ebrill 2001, yna mae'r Rheoliadau hyn yn golygu y bydd y newid yn y rhestr yn effeithiol o'r dyddiad hwnnw ymlaen os caiff y cynnig ei gyflwyno cyn 1 Gorffennaf 2001.

(2)

Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).

(4)

Mewnosodwyd Rheoliad 13A, mewn perthynas â Chymru, gan Reoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestri ac Apelau) (Diwygio) (Cymru) 2000 (O.S. 2000/792) (Cy. 29).