2001 Rhif 1232 (Cy.66)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Darpariaethau Arbelydru Bwyd (Cymru) 2001

Wedi'u gwneud

Yn dod i rym

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 16(1) a (3), 17(1), 18(1), 19(1)(b), 26, 45 a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 19901 a pharagraffau 1 a 4(b) o Atodlen 1 iddi, ar ôl iddo roi sylw yn unol ag adran 48A o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghori yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol: