Search Legislation

Rheoliadau Mabwysiadu Plant o Wledydd Tramor (Cymru) 2001

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2001 Rhif 1272 (Cy.71)

PLANT A PHERSONAU IFANC, CYMRU

Rheoliadau Mabwysiadu Plant o Wledydd Tramor (Cymru) 2001

Wedi'u gwneud

29 Mawrth 2001

Yn dod i rym

30 Ebrill 2001

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 9(2) a (3) o Ddeddf Mabwysiadu 1976 (1) ac sydd bellach yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â Chymru(2)) a phob pŵ er arall sy'n galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn y cyswllt hwnnw:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Mabwysiadu Plant o Wledydd Tramor (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 30 Ebrill 2001.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn —

  • ystyr “darpar fabwysiadydd” (“prospective adopter”) yw person sy'n preswylio fel arfer yn Ynysoedd Prydain(3) sydd, ar unrhyw adeg, yn dod â phlentyn sy'n preswylio fel arfer y tu allan i'r ynysoedd hynny i mewn i'r Deyrnas Unedig er mwyn ei fabwysiadu (heblaw mabwysiadu gan riant, gwarcheidwad neu berthynas);

  • mae i “panel mabwysiadu” yr un ystyr ag “adoption panel” yn Rheoliadau 1983;

  • ystyr “Rheoliadau 1983” (“the 1983 Regulations”) yw Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 1983(4);

  • ystyr “Rheoliadau 2001” (“the 2001 Regulations”) yw Rheoliadau Mabwysiadu Plant o Wledydd Tramor 2001(5).

Dyletswyddau asiantaeth fabwysiadu a swyddogaethau panel mabwysiadu mewn perthynas â darpar fabwysiadydd

3.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys —

(a)i awdurdod lleol(6) y mae darpar fabwysiadydd wedi cyflwyno cais iddo am gael ei asesu yn unol â rheoliad 3(2)(a) o Reoliadau 2001; a

(b)i gymdeithas fabwysiadu a gymeradwywyd(7)) sydd wedi cytuno i asesu darpar fabwysiadydd sydd wedi cyflwyno cais iddi yn unol â'r rheoliad hwnnw.

(2Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu(8) asesu darpar fabwysiadydd yn unol â rheoliadau 8 (dyletswyddau asiantaeth fabwysiadu mewn perthynas â darpar fabwysiadydd(9) ac 8A (collfarnau troseddol darpar fabwysiadydd)(10) o Reoliadau 1983.

(3Rhaid i banel mabwysiadu y cyfeirir achos darpar fabwysiadydd ato ystyried yr achos a gwneud argymhelliad i'r asiantaeth fabwysiadu sy'n cyfeirio'r achos ynghylch a yw'r darpar fabwysiadydd yn addas i fod yn rhiant sy'n mabwysiadu, yn unol â rheoliad 10 (swyddogaethau panel mabwysiadu)(11) o Reoliadau 1983.

(4Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu —

(a)gwneud penderfyniad ynghylch addasrwydd y darpar fabwysiadydd i fod yn rhiant sy'n mabwysiadu a hysbysu'r darpar fabwysiadydd am y penderfyniad, yn unol â rheoliad 11A (penderfyniadau a hysbysiadau asiantaethau mabwysiadu - darpar fabwysiadwyr)(12) o Reoliadau 1983; a

(b)pan fydd yr asiantaeth wedi penderfynu cymeradwyo'r darpar fabwysiadydd yn un sy'n addas i fod yn rhiant sy'n mabwysiadu, hysbysu Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ysgrifenedig am y penderfyniad hwnnw a darparu iddo —

(i)yr holl wybodaeth a ystyriwyd gan y panel mabwysiadu cyn gwneud argymhelliad i'r asiantaeth a yw'r darpar fabwysiadydd yn addas i fod yn rhiant sy'n mabwysiadu; a

(ii)unrhyw wybodaeth arall mewn perthynas ag achos y darpar fabwysiadydd y bydd arno ei hangen.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(13).

Dafydd Elis Thomas

Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru

29 Mawrth 2001

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn pennu'r weithdrefn sydd i'w dilyn gan asiantaethau mabwysiadu a phaneli mabwysiadu yng Nghymru mewn perthynas ag asesu person sy'n dymuno mabwysiadu plentyn o wledydd tramor a'i gymeradwyo. Mae'r gweithdrefnau asesu a chymeradwyo yr un fath â'r rhai a nodir yn Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 1983 mewn perthynas â darpar fabwysiadydd sy'n dymuno mabwysiadu plentyn sy'n preswylio fel arfer yn Ynysoedd Prydain.

Mae'r Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol hefyd i asiantaethau mabwysiadu yng Nghymru ddarparu gwybodaeth benodedig i Gynulliad Cenedlaethol Cymru pan fyddant yn penderfynu cymeradwyo darpar fabwysiadydd plentyn o wledydd tramor yn un sy'n addas i fod yn rhiant sy'n mabwysiadu.

(1)

1976 p.36 (“Deddf 1976”). Mae swyddogaethau'r Gwasanaeth Mabwysiadu sydd wedi'u nodi yn adran 1 o Ddeddf 1976, y mae'r pwerau o dan adran 9(2) a (3) o Ddeddf 1976 yn cael eu harfer mewn perthynas â hwy, wedi'u diwygio gan adran 9 o Ddeddf Mabwysiadu (Agweddau Rhyngwladol) 1999 (p.18)(“Deddf 1999”). Deuir ag adran 9 o Ddeddf 1999 i rym ar 30 Ebrill 2001 gan O.S. 2001/1279.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 9(2) a (3) o Ddeddf 1976 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo.

(3)

Drwy gyfeirio at adran 5 o Ddeddf Dehongli 1978 (p.30) ac Atodlen 1 iddi, ystyr “Ynysoedd Prydain” yw Cymru, Lloegr, Yr Alban, Gogledd Iwerddon, Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

(4)

O.S. 1983/1964, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1997/649 ac O.S. 1997/2308.

(6)

Mae i “awdurdod lleol” yr un ystyr ag i “local authority” yn adran 72(1) o Ddeddf 1976.

(7)

Mae i “cymdeithas fabwysiadu a gymeradwywyd” yr un ystyr ag i “approved adoption society” yn adran 72(1) o Ddeddf 1976.

(8)

Mae i “asiantaeth fabwysiadu” yr un ystyr ag i “adoption agency” yn adran 1(4) o Ddeddf 1976, sef awdurdod lleol neu gymdeithas fabwysiadu a gymeradwywyd.

(9)

Diwygiwyd rheoliad 8 gan O.S. 1997/2308.

(10)

Mewnosodwyd rheoliad 8A gan O.S. 1997/2308.

(11)

Diwygiwyd rheoliad 10 gan O.S. 1997/649.

(12)

Mewnosodwyd rheoliad 11A gan O.S. 1997/649 ac fe'i diwygiwyd gan O.S. 1997/2308.

(13)

1998 p.38.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources