Search Legislation

Gorchymyn Deddf Dysgu a Medrau 2000 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2001

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2001 Rhif 1274 (Cy. 73 ) (C. 46 )

ADDYSG, CYMRU

CYFLOGAETH A HYFFORDDIANT, CYMRU

Gorchymyn Deddf Dysgu a Medrau 2000 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2001

Wedi'i wneud

22 Mawrth 2001

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 154(2), (4), (7) ac (8) o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000(1):

Enwi a dehongli a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Dysgu a Medrau 2000 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2001.

(2Yn y Gorchymyn hwn:

  • ystyr “Deddf 1992” (“the 1992 Act”) yw Deddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(2);

  • ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Dysgu a Medrau 2000.

(3Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru, a daw'r darpariaethau a bennir yn yr Atodlen i rym mewn perthynas â Chymru oni nodir fel arall.

Y darpariaethau sy'n dod i rym

2.—(1Daw'r darpariaethau yn Neddf 2000 a bennir yn Rhan I o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2001.

(2Daw'r darpariaethau yn Neddf 2000 a bennir yn Rhan II o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Medi 2001.

Darpariaethau Trosiannol ac Eithriadau

3.—(1Yn yr erthygl hon —

  • ystyr “y Cyngor newydd” (“the new Council”) yw Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant;

  • ystyr “yr hen Gyngor” (“the old Council”) yw Cyngor Cyllido Addysg Bellach Cymru.

(2Heb ragfarnu paragraff 11 o Atodlen 10 i Ddeddf 2000, bydd i unrhyw beth a wnaed cyn 1 Ebrill 2001 gan yr hen Gyngor yn unol ag adran 51 o Ddeddf 1992 effaith fel pe bai wedi'i wneud gan y Cyngor newydd.

(3Os oes unrhyw ddarpariaeth yn offeryn neu erthyglau llywodraethu unrhyw sefydliad yn y sector addysg bellach (o fewn ystyr adran 91(3) o Ddeddf 1992) yn darparu y dylai unrhyw beth gael ei wneud yn unol â gofynion yr hen Gyngor neu y dylai gydymffurfio â chyfarwyddiadau a roddwyd gan yr hen Gyngor, bydd i'r ddarpariaeth honno effaith, mewn perthynas ag unrhyw ofyniad a osodir neu unrhyw gyfarwyddyd a roddir ar neu ar ôl 1 Ebrill 2001 fel pe bai cyfeiriadau at yr hen Gyngor yn gyfeiriadau at y Cyngor newydd.

(4Bydd y pwerau a geir —

(a)yn adran 496 o Ddeddf Addysg 1996 fel y'i chymhwysid at yr hen Gyngor gan adran 56(3) o Ddeddf 1992, a

(b)yn adran 57(3) a (4) o Ddeddf 1992,

yn parhau yn arferadwy mewn perthynas ag unrhyw weithred (gan gynnwys methu â gweithredu) gan yr hen Gyngor cyn 1 Ebrill 2001 ond rhaid i unrhyw gyfarwyddyd a roddir o dan y pwerau hynny gael ei roi i'r Cyngor newydd.

4.  Ni fydd y diwygiad i adran 41(10) o Ddeddf 1992 a wnaed gan baragraff 26 o Atodlen 9 i Ddeddf 2000 yn effeithiol at ddibenion dyfarnu a gafodd unrhyw gontract a wnaed cyn 1 Ebrill 2001 ei wneud yn groes i adran 41 o Ddeddf 1992.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3).

D.Elis Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

22 Mawrth 2001

Erthygl 2

ATODLEN

RHAN IDarpariaethau sy'n dod i rym mewn perthynas â Chymru ar 1 Ebrill 2001

  • Adran 31.

  • Adran 32.

  • Adran 33.

  • Adran 34.

  • Adran 35.

  • Adran 37.

  • Adran 38.

  • Adran 39.

  • Adran 40.

  • Adran 41.

  • Adran 45.

  • Adran 50.

  • Adran 74.

  • Adran 75.

  • Adran 76.

  • Adran 77.

  • Adran 78.

  • Adran 79.

  • Adran 80.

  • Adran 81.

  • Adran 82.

  • Adran 83.

  • Adran 84.

  • Adran 85.

  • Adran 86.

  • Adran 88.

  • Adran 91.

  • Adran 99.

  • Adran 103(1), (2) a (3) i'r graddau y mae angen hynny at ddibenion adran 103(4)(b).

  • Adran 103(4).

  • Adran 110.

  • Adran 111.

  • Adran 112.

  • Adran 123.

  • Adran 124.

  • Adran 125.

  • Adran 126.

  • Adran 127.

  • Adran 128.

  • Adran 129.

  • Adran 137.

  • Adran 138.

  • Adran 140(3).

  • Adran 140(4), (5) a (6) i'r graddau y mae eu hangen at ddibenion adran 140(3).

  • Adran 142.

  • Adran 143.

  • Adran 144.

  • Adran 149 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r darpariaethau yn Atodlen 9 a bennir isod.

  • Adran 153 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r darpariaethau yn Atodlen 11 a bennir isod.

  • Yn Atodlen 9—

    • paragraff 5,

    • paragraff 6,

    • paragraff 7,

    • paragraff 8,

    • paragraff 9,

    • paragraff 10,

    • paragraff 12,

    • paragraff 13,

    • paragraff 15,

    • paragraff 16,

    • paragraff 17,

    • paragraff 20,

    • paragraff 21(a),

    • paragraff 22,

    • paragraff 23,

    • paragraff 24,

    • paragraff 25,

    • paragraff 26,

    • paragraff 27,

    • paragraff 28,

    • paragraff 29,

    • paragraff 30,

    • paragraff 32,

    • paragraff 33,

    • paragraff 40,

    • paragraff 44(1) a (2),

    • paragraff 46,

    • paragraff 51,

    • paragraff 52(1) a (2),

    • paragraff 53,

    • paragraff 54,

    • paragraff 55,

    • paragraff 56,

    • paragraff 59,

    • paragraff 65,

    • paragraff 66,

    • paragraff 67 (5),

    • paragraff 68,

    • paragraff 72,

    • paragraff 73 ,

    • paragraff 74,

    • paragraff 75(a) a (b), ac (c) i'r graddau y mae'n ymwneud ag adran 34 o Ddeddf Medrau a Dysgu 2000,

    • paragraff 76,

    • paragraff 77,

    • paragraff 78,

    • paragraff 79,

    • paragraff 80,

    • paragraff 94.

  • Yn Atodlen 11 y diddymiadau i'r graddau y maent yn ymwneud â Chymru —

    • yn Neddf Blwydd-dâl 1972, Atodlen 1, yn y rhestr o “Other Bodies” y geiriau “Further Education Funding Council for Wales in receipt of remuneration”,

    • yn Neddf Anghymhwyso o Dŷ'r Cyffredin 1975, yn Rhan III o Atodlen I y geiriau “Any member of the Further Education Funding Council for Wales in receipt of remuneration.”,

    • yn Neddf Gwahaniaethau ar sail Rhyw 1975, adran 25(6)(d),

    • yn Neddf Cysylltiadau Hiliol 1976, adran 19(6)(d),

    • yn Neddf Diwygio Addysg 1988, yn adran 124(2)(b), y geiriau “,as defined by section 15(6) and (7) of the Education Act 1996”,

    • yn Neddf Addysg Bellach ac Uwch 1992, adrannau 1 i 9, adran 28(2)(b), adran 32(2A), adran 44(6), adran 45(6), yn adran 52(1) y gair “full-time”, yn adran 55 is-adrannau (1) i (3) a pharagraffau (a) a (b) o is-adran (7), adran 56, ac Atodlen 2,

    • yn Neddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995, adran 19(6)(f) ac adran 30(2) i (4),

    • yn Neddf Addysg 1996, adran 15, yn adran 509(1) paragraff (d) a'r gair “or” yn union cyn y paragraff hwnnw, a pharagraffau 70 a 112 o Atodlen 37,

    • yn Neddf Addysg 1997, yn adran 30, yn is-adran (1) y geiriau “,or by subsection(3)”, ac is adran (3),

    • yn Neddf y Comisiwn Archwilio 1998, yn y Tabl yn adran 36(1) y cofnod ynghylch cyngor cyllido addysg bellach, ac yn adran 36(2) y geiriau “or a further education funding council”,

    • yn Neddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998, adran 26(1) a (2), yn niffiniad “publicly-funded institution” yn adran 28(1)(a) y geiriau “5 or” a'r geiriau o “from a further” i “its costs”, ac adran 34,

    • yn Neddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, paragraffau 41 a 42 o Atodlen 30.

RHAN IIDarpariaethau sy'n dod i rym mewn perthynas â Chymru ar 1 Medi 2001

  • Adran 96.

  • Adran 100(2).

  • Adran 102.

  • Adran 103(5).

  • Adran 148.

  • Adran 149 i'r graddau y mae'n ymwneud â pharagraff 57 o Atodlen 9.

  • Adran 153 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r darpariaethau yn Atodlen 11 a bennir isod.

  • Yn Atodlen 9, paragraff 57.

  • Yn Atodlen 11, y diddymu i'r graddau y mae'n gymwys i Gymru —

    • yn Neddf Addysg 1996, yn adran 403(1) y geiriau “local education authority,”,

    • yn Neddf Addysg 1997, adran 37(1)-(4), ac yn adran 37(5) y geiriau “, which are superseded by this section,”.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dod â'r darpariaethau hynny yn Neddf Dysgu a Medrau 2000 a bennir yn Rhan I o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2001. Mae hefyd yn dod â'r darpariaethau hynny yn y Ddeddf honno a bennir yn Rhan II o'r Atodlen i'r Gorchymyn i rym, a hynny ar 1 Medi 2001. Ceir darpariaethau trosiannol ac mewn un achos mae yna eithriad yn gysylltiedig â'r cychwyn.

Esbonnir effaith y darpariaethau a bennir yn Rhan I o'r Atodlen isod.

Mae adrannau 31 a 32 yn nodi prif ddyletswyddau Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant mewn perthynas ag addysg a hyfforddiant i bersonau 16 i 19 oed, a'r rhai sydd dros 19 oed, yn eu tro. Mae adran 33 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cyngor annog unigolion a chyflogwyr i ymgymryd ag addysg a hyfforddiant ar ôl 16 oed, cymryd rhan ynddynt a chyfrannu at eu costau. Yn adrannau 34, 35 a 37 nodir pŵ er y Cyngor i sicrhau y darperir adnoddau ariannol ar gyfer darparwyr penodol addysg a hyfforddiant ar ôl 16 oed, rhoddir pŵ er i'r Cyngor osod amodau mewn cysylltiad â darpariaeth o'r fath ac i ddatblygu cynlluniau ar gyfer asesu perfformiad a chynnal profion moddion. Mae adran 38 yn rhoi pŵ er i'r Cyngor hybu Cyfrifon Dysgu Unigol ac mae adrannau 39 a 40 yn rhoi pŵ er iddo benodi aelodau i gyrff llywodraethu sefydliadau addysg bellach penodol, ac i wneud ymchwil ynghylch unrhyw fater sy'n berthnasol i'w swyddogaethau. Mae adran 41 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cyngor roi sylw i anghenion personau ag anawsterau dysgu wrth gyflawni dyletswyddau penodol ac mae adran 45 yn ei gwneud yn ofynnol iddo roi sylw i wybodaeth a roddir iddo gan unrhyw gorff a ddynodir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru at y diben hwnnw. Mae adran 50 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cyngor baratoi adroddiad blynyddol ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol ac anfon copi o'r adroddiad hwnnw i'r Cynulliad Cenedlaethol.

Yn adran 74 diffinnir termau sy'n berthnasol i arolygu. Mae adrannau 75 a 76 yn nodi cylch gwaith estynedig a swyddogaethau ychwanegol Prif Arolygydd Addysg a Hyfforddiant Ei Mawrhydi yng Nghymru. Mae adran 77 yn gosod dyletswydd ar y Prif Arolygydd i arolygu addysg a hyfforddiant y deuir â hwy o fewn cylch gwaith y Prif Arolygydd gan adran 75 ac mae adran 78 yn rhoi amryw byd o bwerau cyffredinol ynglŷn â chynghori a chyflwyno adroddiadau. Ymdrin â hawl mynediad y Prif Arolygydd y mae adran 79 ac mae adran 80 yn ei gwneud yn ofynnol bod darparydd addysg yn cynhyrchu cynllun gweithredu yn sgil cyhoeddi adroddiad ar arolygiad.

Mae adran 81 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Prif Arolygydd, ar gais Cynulliad Cenedlaethol Cymru, arolygu gwasanaethau addysgu, hyfforddi neu gynghori os yw'r rheiny'n cael eu darparu gan gyrff sydd hefyd yn darparu'r gwasanaeth gyrfaoedd yng Nghymru. Mae adran 82 yn rhoi pŵer i'r Prif Arolygydd, ar gais y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg a Chyflogaeth neu'r Arolygiaeth Dysgu Oedolion yn Lloegr, arolygu addysg a hyfforddiant yng Nghymru a ddarperir yn unol â threfniadau a wneir o dan adran 2 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973.

Mae adran 83 yn gwneud darpariaeth ar gyfer arolygiadau ardal, adran 84 yn ymdrin â chynlluniau gweithredu yn sgil arolygiadau o'r fath ac adran 85 yn rhoi pŵer i'r Cynulliad Cenedlaethol gyfarwyddo'r Prif Arolygydd i ymgymryd ag astudiaethau ar draws Cymru, neu y tu allan i Gymru, ar faterion sy'n ymwneud ag addysg a hyfforddiant ar ôl 16 oed.

Mae adran 86 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Prif Arolygydd gyflwyno adroddiad blynyddol i'r Cynulliad Cenedlaethol, ac mae adran 88 yn rhoi braint amodol i rannau penodol o adroddiad y Prif Arolygydd.

Yn adran 91 darperir ar gyfer diddymu Cyngor Cyllido Addysg Bellach Cymru ac ar gyfer breinio'i holl eiddo, hawliau a rhwymedigaethau yn y Cyngor. Gan hynny, 1 Ebrill 2001 yw'r ‘diwrnod penodedig' (‘appointed day') y cyfeirir ato yn adran 91.

Mae adran 99 yn awdurdodi'r Cynulliad Cenedlaethol i gymeradwyo cymwysterau allanol, neu i gadarnhau'r gymeradwyaeth y mae corff dynodedig wedi'i rhoi iddynt.

Mae adran 103(4) yn diwygio Deddf Addysg 1997 i ganiatáu i'r Cynulliad Cenedlaethol roi pwerau i Awdurdod Cwricwlwm, Cymwysterau ac Asesu Cymru mewn perthynas â datblygu, gosod a gweinyddu profion sy'n arwain at ennill cymwysterau allanol penodol. Mae hefyd yn dileu pwerau penodol nad ydynt yn berthnasol mwyach.

Mae adran 110 yn ailddiffinio addysg uwchradd i ganiatáu i sefydliad sy'n darparu addysg chweched dosbarth yn unig gael ei gynnal fel ysgol. Yn adrannau 111 a 112 diwygir y darpariaethau presennol i atal dod ag ysgolion chweched dosbarth i mewn i'r sector addysg bellach heb gydsyniad y corff llywodraethu a'r awdurdod addysg lleol.

Mae adrannau 123-129 yn gwneud darpariaeth ar gyfer gwasanaeth cymorth ieuenctid yng Nghymru. Mae adran 123 yn rhoi pwerau newydd i'r Cynulliad Cenedlaethol gyfarwyddo'r awdurdodau lleol yng Nghymru i ddarparu gwasanaethau cymorth ieuenctid ar gyfer pob person 11-25 oed, i sicrhau y cânt eu darparu, neu i gymryd rhan wrth eu darparu. Mae adran 124 yn nodi'r dyletswyddau a'r pwerau y mae eu hangen er mwyn galluogi'r awdurdodau lleol i gydymffurfio â'r cyfarwyddiadau hynny. Yn adran 125 gosodir dyletswydd ar yr awdurdodau lleol i ymgynghori cyn cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd. Mae adran 126 yn gosod dyletswyddau ar amryw byd o sefydliadau addysgol i roi gwybodaeth i ddarparwyr gwasanaethau cymorth ieuenctid a chaniatáu cyfle i weld disgyblion a myfyrwyr. Yn adrannau 127 a 128 nodir trefniadau arolygu ac yn adran 129 ceir darpariaethau atodol.

Mae adran 137 yn diwygio adran 508 o Ddeddf Addysg 1996 i ddileu dyletswydd yr awdurdodau addysg lleol i ddarparu gwasanaethau sy'n atodol i'w darpariaeth addysg bellach, gan roi pŵ er yn ei lle. Mae hyn yn adlewyrchu'r ffaith bod dyletswydd i ddarparu addysg bellach benodol wedi'i rhoi i Gyngor Cenedlaethol Addysg a Hyfforddiant Cymru yn lle'r awdurdodau addysg lleol.

Mae adran 138 yn galluogi cyrff cyhoeddus penodol sydd wedi'u rhestru i roi gwybodaeth am berson ifanc i awdurdod lleol neu i gorff sy'n ymwneud â darparu gwasanaethau cymorth ieuenctid, hyfforddiant neu yrfaoedd yng Nghymru.

Mae adran 140(3) yn rhoi pŵer i'r Cynulliad Cenedlaethol drefnu ar gyfer asesu'r rhai o dan 25 oed y mae ganddynt anawsterau dysgu ac sy'n derbyn addysg neu hyfforddiant ar ôl 16 oed, neu addysg uwch neu'n debyg o'u derbyn.

Mae adran 142 yn galluogi corfforaethau addysg bellach i ddarparu addysg uwchradd. Yn adran 143 darperir ar gyfer ymgorffori cyrff llywodraethu sefydliadau dynodedig. Mae adran 144 yn gosod gofynion ar sefydliadau dynodedig mewn perthynas â chael gwared ar dir.

Mae Atodlenni 9 ac 11 yn cynnwys diwygiadau canlyniadol a diddymiadau yn y drefn honno.

Esbonnir effaith y darpariaethau a bennir yn Rhan II o'r Atodlen isod.

Mae adran 96, ar y cyd ag adran 103(5), yn atal cyrff awdurdodedig (a ddiffinnir yn adran 100 i gynnwys awdurdodau addysg lleol a Chyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant) rhag ariannu cyrsiau sy'n arwain at gymwysterau allanol, oni bai bod y cymwysterau hynny wedi'u cymeradwyo. Mae'r cyfyngiad hwn yn gymwys i gyrsiau i'r rhai o dan 19 oed a ddarperir gan ysgol, sefydliad neu gyflogydd. (Mae'r cyfyngiad y mae'n disodli'n gymwys i gyrsiau i'r rhai sydd o oedran ysgol gorfodol ac a ddarperir gan ysgol yn unig.) Ceir darpariaethau ynghylch gorfodi yn adran 102.

Mae adran 148 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau addysg lleol, penaethiaid a chyrff llywodraethu i roi sylw i ganllawiau'r Cynulliad Cenedlaethol ynghylch addysg rhyw. Mae adran 148 hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi canllawiau sydd wedi'u cynllunio i sicrhau bod plant yn dysgu am bwysigrwydd priodas ac yn cael eu hamddiffyn rhag deunyddiau addysgu amhriodol.

Ceir diwygiad canlyniadol a diddymiadau yn y drefn honno yn Atodlenni 9 ac 11.

Nodyn Orchymyn Cychwyn Blaenorol

(Nid yw'r Nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Daethpwyd neu deuir â'r darpariaethau canlynol yn Neddf Dysgu a Medrau 2000 i rym, mewn perthynas â Chymru, gan orchmynion cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.

Y DdarpariaethY Dyddiad CychwynRhif yr O.S.
Adrannau 104, 105, 107 a 1083 Awst 20002000/2114 (C.56)
Adran 94 ac adran 149 i'r graddau y mae'n ymwneud â pharagraff 87 o Atodlen 9. Yn atodlen 9, paragraff 87.1 Medi 20002000/2114 (C.56)
Adrannau 30, 47, 49 a 51, ac adran 149 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r paragraffau yn Atodlen 9 a restrir isod. Atodlen 4. Yn Atodlen 9 paragraffau 3, 4 a 93.19 Medi 20002000/2540 (Cy.163) (C.70)
Adrannau 134-136 a 146, ac adran 149 i'r graddau y mae'n ymwneud â pharagraff 14 o Atodlen 9. Yn Atodlen 9, paragraff 14.1 Hydref 20002000/2559 (C.73)
Adrannau 42, 43, 44, 46, 48, 73, 87, 93, 95, 139, 141 a 145. Adran 149 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r paragraffau yn Atodlen 9 a restrir isod. Adran153 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r diddymiadau yn Atodlen 11 y cyfeirir atynt isod.Atodlen 5. Yn Atodlen 9, paragraffau 21(b), 34, 36, 44(3) a (4), 45, 64, 70, 81, 86, a 92. Yn Atodlen 11 y diddymiadau a bennir yno mewn perthynas â'r canlynol - Deddf Addysg Bellach ac Uwch 1992, adrannau 18 a 60A, ac Atodlen 5A, Deddf Addysg 1996, paragraff 113 o Atodlen 37, Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998, adrannau 19 a 22, Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, adrannau 125 a 126, ac Atodlen 27, Deddf Llywodraeth Cymru 1998, adran 104(4).1 Ionawr 20012000/3230 (Cy.213) (C.103)
Adran 149 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r paragraffau yn Atodlen 9 a restrir isod.Adran 153 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r didymiadau yn Atodlen lly cyfeirir atynt isod. Yn Atodlen 9, paragraffau 11, 35, 37-39, 41-43, 47-50, 52(3), 83 ac 88. Yn Atodlen 10, Rhan IV.Yn Atodlen ll,y diddymiadau a bennir yno mewn perthynas â'r canlynol— Deddf Addysg Bellach ac Uwch 1992, adran 91(2), Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, adran 142(1).1 Ebrill 20012001/654 (C.25)

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources