Search Legislation

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Cyfradd y Disgownt ar gyfer 2001/2002) (Cymru) 2001

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2001 Rhif 1287 (Cy.75)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Cyfradd y Disgownt ar gyfer 2001/2002) (Cymru) 2001

Wedi'u gwneud

29 Mawrth 2001

Yn dod i rym

1 Ebrill 2001

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwer a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 49(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989(1) ac sydd wedi'i freinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y mae'n arferadwy yng Nghymru(2):

Enw, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Cyfradd y Disgownt ar gyfer 2001/2002) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2001.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Cyfradd y disgownt

2.  Saith y cant fydd cyfradd ganrannol y disgownt a ragnodir ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2001 at ddibenion adran 49 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3).

D.Elis Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

29 Mawrth 2001

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae Rhan IV o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 yn gwneud darpariaeth ar gyfer arian cyfalaf awdurdodau lleol.

Mae adran 49(2) o'r Ddeddf honno'n nodi fformwla ar gyfer penderfynu, at ddibenion Rhan IV, werth y gydnabyddiaeth sydd i'w rhoi gan awdurdod o dan drefniant credyd mewn unrhyw flwyddyn ariannol ar ôl y flwyddyn y daw'r trefniant i fodolaeth.

Un o'r elfennau sy'n ffurfio'r fformwla yw cyfradd ganrannol y disgownt a ragnodir ar gyfer blwyddyn ariannol.

Ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2001 mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi cyfradd ganrannol o saith y cant o ddisgownt sy'n 0.5 y cant yn llai na chyfradd y disgownt a ragnodwyd ar gyfer 2000/2001.

(2)

Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources