Search Legislation

Rheoliadau Cyfyngu Pithio (Cymru) 2001

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2001 Rhif 1303 (Cy. 80)

BWYD, CYMRU

ANIFEILIAID, CYMRU

IECHYD ANIFEILIAID

Rheoliadau Cyfyngu Pithio (Cymru) 2001

Wedi'u gwneud

22 Mawrth 2001

Yn dod i rym

(a) yn achos pob darpariaeth heblaw rheoliad 3

1 Ebrill 2001

(b) yn achos rheoliad 3

1 Gorffennaf 2001

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) mewn perthynas â mesurau sy'n ymwneud â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd gan weithredu ar y cyd i arfer y pwerau sydd wedi'u rhoi iddynt gan yr adran honno bellach yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfyngu Pithio (Cymru) 2000.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

(3Yn achos pob darpariaeth heblaw rheoliad 3, daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2001. Daw rheoliad 3 i rym ar 1 Gorffennaf 2001.

Cyfyngu Pithio

2.—(1Ni chaiff neb bithio unrhyw anifail buchol, defeidiog neu afraidd cyn ei gigyddio i gael ei fwyta gan bobl neu gan anifeiliaid.

(2At ddibenion y rheoliadau hyn, “pithio” anifail yw torri ei feinwe nerfol canolog, ar ôl ei stynio, ag offeryn hir ar siâp rhoden a roddir i mewn i geudod y benglog.

(3Bydd unrhyw berson sy'n torri paragraff (1) yn euog o dramgwydd.

Gwaredu anifeiliaid a bithiwyd yn anghyfreithlon

3.  Os oes unrhyw anifail buchol, defeidiog neu afraidd wedi'i bithio yn groes i reoliad 2(1), bernir bod pob rhan o'i garcas (ac eithrio'r croen)—

(a)yn “deunydd risg penodedig” yn unol â'r diffiniad o “specified risk material” yn rheoliad 2(1) o Rheoliadau Deunydd Risg Penodedig 1997(3); a

(b)yn “deunydd risg penodedig” yn unol â'r diffiniad o “specified risk material” yn erthygl 2(1) o Orchymyn Deunydd Risg Penodedig 1997 (4).

Diwygiad i Reoliadau Lles Anifeiliaid (Cigyddio neu Ladd) 1995

4.  I'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, mae Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Cigyddio neu Ladd) 1995(5) wedi'u diwygio drwy fewnosod y rheoliad canlynol yn union ar ôl rheoliad 3 (cymhwyso ac esemptiadau)—

Immobilisation after stunning

3A.(1) Nothing in these Regulations shall be taken as permitting the immobilisation, on after 1st April 2001, of any bovine, ovine or caprine animal prior to slaughtering it for human or animal consumption.

(2) In paragraph (1), the “immobilisation” of an animal means the laceration, after stunning, of its central nervous tissue by means of an elongated rod-shaped instrument introduced into the cranial cavity..

Pwerau arolygwyr

5.—(1Os gofynnir iddo wneud hynny, bydd gan arolygydd, ar ôl cyflwyno rhyw ddogfen sydd wedi'i dilysu'n briodol ac sy'n dangos ei awdurdod, hawl ar bob adeg resymol i fynd i unrhyw dir neu adeilad (heblaw adeilad domestig nad yw'n cael ei ddefnyddio mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn) er mwyn darganfod a yw rheoliad 2(1) yn cael neu wedi cael ei dorri.

(2Ym mharagraff (1), ystyr “arolygydd” yw person a benodir yn arolygydd at ddibenion y Rheoliadau hyn gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, y Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd, neu awdurdod lleol.

(3Ym mharagraffau (2) (4) ac yn rheoliad 8, ystyr “awdurdod lleol” yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru.

(4Bernir bod unrhyw berson a benodir yn arolygydd at ddibenion Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981(6) gan—

(a)awdurdod lleol; neu

(b)Cynulliad Cenedlaethol Cymru (p'un ai gan weithredu ar y cyd ag unrhyw un o Weinidogion y Goron neu beidio), neu

(c)y Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd (p'un ai gan weithredu ar y cyd ag unrhyw un o Weinidogion y Goron neu â Chynulliad Cenedlaethol Cymru neu beidio)

wedi'i benodi yn arolygydd at ddibenion y Rheoliadau hyn gan yr awdurdod hwnnw neu yn ôl fel y digwydd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu yn ôl fel y digwydd gan y Gweinidog hwnnw.

Rhwystro

6.—(1Ni chaiff neb—

(a)rhwystro yn fwriadol unrhyw berson sydd wrthi yn gweithredu'r Rheoliadau hyn;

(b)methu, heb esgus rhesymol, â rhoi i unrhyw berson sydd wrthi'n gweithredu'r Rheoliadau hyn unrhyw gymorth neu wybodaeth y gall y person hwnnw ofyn yn rhesymol amdano neu amdani er mwyn cyflawni ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn; neu

(c)darparu gwybodaeth y mae'n gwybod ei bod yn ffug neu'n gamarweiniol i unrhyw berson sydd wrthi'n gweithredu'r Rheoliadau hyn;

a bydd unrhyw berson sy'n torri'r rheoliad hwn neu'n methu â chydymffurfio ag ef yn euog o dramgwydd.

(2Rhaid peidio â dehongli dim ym mharagraff (1)(b) uchod fel pe bai'n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson ateb unrhyw gais am wybodaeth a allai daflu bai arno pe bai'n gwneud hynny.

Cosbi

7.—(1Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan reoliad 6(1)(a) neu(b) yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol neu i garchar am gyfnod na fydd yn fwy na thri mis neu'r ddau.

(2Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan reoliad 2(1) neu reoliad 6(1)(c) yn agored—

(a)o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn fwy na'r uchafswm statudol neu i garchar am gyfnod na fydd yn fwy na thri mis neu'r ddau;

(b)o'i gollfarnu ar dditiad, i ddirwy neu i garchar am gyfnod heb fod yn fwy na dwy flynedd neu'r ddau.

Gorfodi

8.  Caiff y Rheoliadau hyn eu gorfodi—

(a)gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd mewn perthynas ag adeiladau a drwyddedir o dan y Rheoliadau Cig Ffres (Hylendid ac Archwilio) 1995(7), a

(b)gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd (neu Gynulliad Cenedlaethol Cymru a'r Gweinidog a enwyd yn gweithredu ar y cyd) neu gan yr awdurdod lleol perthnasol mewn perthynas ag unrhyw adeiladau eraill.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(8)

D. Elis Thomas

Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru

22 Mawrth 2001

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru yn unig, yn rhoi ei heffaith yng Nghymru i Erthygl 5 o Gyfarwyddeb y Comisiwn 2000/418/EC (OJ Rhif L158, 30.6.2000, t.70).

2.  Mae'r Rheoliadau hyn—

(a)yn gwahardd defnyddio'r dechneg o'r enw “pithio” wrth gigyddio anifeiliaid o deulu'r ychen, teulu'r ddafad neu deulu'r afr i gael eu bwyta gan bobl neu gan anifeiliaid (rheoliad 2(1));

(b)yn darparu y bernir bod carcas (heblaw croen) anifail a bithiwyd yn anghyfreithlon yn ddeunydd risg penodedig (rheoliad 3);

(c)yn gwneud diwygiad canlyniadol i Reoliadau Lles Anifeiliaid (Cigyddio neu Ladd) 1995 i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru (rheoliad 4);

(ch)yn rhoi pŵ er mynediad i bersonau a benodir yn arolygwyr gan yr awdurdod gorfodi perthnasol (rheoliad 5);

(d)yn creu tramgwyddau a chosbau (rheoliadau 2(3), 6 a 7);

(dd)yn pennu pwy sydd i'w gorfodi (rheoliad 8).

3.  Mae'r Rheoliadau hyn (heblaw Rheoliad 3, sy'n dod i rym ar 1 Gorffennaf 2001) yn dod i rym ar 1 Ebrill 2001.

4.  Mae arfarniad rheoleiddiol ar gyfer y Rheoliadau hyn wedi'i baratoi yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 ac wedi'i osod yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 1, Southgate House, Caerdydd CF10 1EN.

(3)

O.S. 1997/2965, a ddiwygiwyd gan O.S. 1997/3062, O.S. 1998/2405 (a ddiwygiwyd ei hun gan O.S. 1998/2431), O.S. 1999/539 ac, mewn perthynas â Chymru, gan O.S. 2000/2659 (Cy.172) ac O.S. 2000/3387 (Cy.224).

(4)

O.S. 1997/2964, a ddiwygiwyd mewn perthynas â Chymru gan O.S. 2000/2811 ac O.S. 2000/3387 (Cy.224).

(5)

O.S. 1995/731, a ddiwygiwyd gan O.S. 1999/400 ac O.S. 2001/656.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources