Search Legislation

Rheoliadau'r Premiwm Cigydda (Cymru) 2001

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2001 Rhif 1332 (Cy.82)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau'r Premiwm Cigydda (Cymru) 2001

Wedi'u gwneud

27 Mawrth 2001

Yn dod i rym

25 Ebrill 2001

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) mewn perthynas â pholisi amaethyddiaeth cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran 2(2) a enwyd, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Rhan IRhagarweiniad

Enwi a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Premiwm Cigydda (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 25 Ebrill 2001.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall—

  • ystyr “anifail buchol” (“bovine animal) yw anifail o'r rhywogaeth fuchol ddomestig;

  • ystyr “anifail premiwm” (“premium animal) yw anifail premiwm mewn oed, llo premiwm ac anifail premiwm hŷn;

  • ystyr “anifail premiwm hŷn” (“premium older animal) yw anifail buchol y mae neu y bydd cais wedi'i gyflwyno mewn perthynas ag ef ac sy'n cael ei gigydda ar y diwrnod ar ôl cyrraedd deg mis ar hugain oed, neu wedyn;

  • ystyr “anifail premiwm mewn oed” (“premium adult animal) yw anifail buchol sy'n wyth mis oed o leiaf adeg ei gigydda ac y mae neu y bydd cais wedi'i gyflwyno mewn perthynas ag ef, heblaw anifail premiwm hŷn;

  • mae i “awdurdod cymwys perthnasol” yr un ystyr â “relevant competent authority” yn y Rheoliadau IACS;

  • ystyr “y Bwrdd” (“the Board”) yw Bwrdd Ymyrraeth Cynnyrch Amaethyddol a sefydlwyd o dan adran 6 o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972;

  • ystyr “cais” (“claim) yw cais am y premiwm cigydda;

  • ystyr “ceisydd” (“claimant) yw cynhyrchydd sy'n cyflwyno cais;

  • ystyr “cofrestru” (“register) yw cofrestru lladd-dy yn unol â rheoliad 14 a dehonglir “wedi'i gofrestru” yn unol â hynny;

  • ystyr “cyfnod cadw” (“retention period) yw'r isafswm cyfnod, y cyfeirir ato yn Erthygl 37 o Reoliad y Comisiwn 2342/1999, y mae'n rhaid i geisydd gadw anifail premiwm ar ei gyfer, sef—

    (a)

    un mis yn achos llo premiwm llai na thri mis oed adeg ei gigydda, a

    (b)

    dau fis yn achos unrhyw anifail premiwm arall;

    mae i “cynhyrchydd” yr un ystyr â “producer” ym Mhennod 1 o Deitl 1 i Reoliad y Cyngor 1254/1999;

  • ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

  • ystyr “daliad” (“holding) yw'r holl unedau cynhyrchu a reolir gan gynhyrchydd sydd wedi'u lleoli o fewn y Deyrnas Unedig;

  • ystyr “dogfen ceisydd” (“claimant’s document) yw unrhyw un o'r dogfennau neu'r cofnodion canlynol, yn ysgrifenedig neu wedi'i chadw drwy gyfrwng cyfrifiadur—

    (a)

    unrhyw basbort gwartheg neu ddull adnabod arall a gymeradwywyd;

    (b)

    unrhyw ddogfen weinyddol genedlaethol, fel y'i diffinnir yn rheoliad 2(1) o Reoliadau'r Premiwm Arbennig Cig Eidion 1996(3);

    (c)

    unrhyw gofrestr a gedwir i gydymffurfio ag Erthygl 7(1) a (4) o Reoliad 1760/2000;

    (ch)

    unrhyw gofnod a wneir o dan Erthygl 5 o Orchymyn Anifeiliaid Buchol (Cofnodion, Adnabod a Symud) 1995(4);

    (d)

    unrhyw gofnod a wneir o dan Erthygl 9 o Orchymyn Anifeiliaid Buchol (Adnabod, Marcio a Chofnodion Bridio) 1990(5); ac

    (dd)

    unrhyw lyfr, cofrestr (heblaw cofrestr y cyfeirir ati yn is-baragraff (c) o'r diffiniad hwn), bil, anfoneb, cyfrif, derbynneb, tystysgrif, taleb, gohebiaeth neu ddogfen neu gofnod arall ynghylch anifail buchol;

  • ystyr “dogfen lladd-dy” (“slaughterhouse document) yw unrhyw lyfr, cofrestr, bil, anfoneb, cyfrif, derbynneb, taleb, gohebiaeth neu ddogfen neu gofnod arall ynghylch busnes neu weithrediadau lladd-dy neu ynghylch unrhyw anifail premiwm a gigyddwyd yno neu y daethpwyd ag ef yno i'w gigydda, yn ysgrifenedig neu wedi'i gadw drwy gyfrwng cyfrifiadur, ac mae'n cynnwys y cofnod o rifau tagiau clust, rhifau lladd a dyddiadau cigydda y cyfeirir ato ym mharagraff 1 o'r Atodlen;

  • ystyr “dull adnabod arall a gymeradwywyd” (“other approved identification) yw dull adnabod a gymeradwywyd ac sy'n ofynnol o dan erthygl 4(1) o Orchymyn Anifeiliaid Buchol (Adnabod, Marcio a Chofnodion Bridio) 1990 heblaw rhif tag clust;

  • ystyr “dulliau bwydo atodol anaddas” (“unsuitable supplementary feeding methods) yw rhoi bwyd atodol (heblaw i gynnal da byw yn ystod tywydd annormal) mewn ffordd sy'n arwain at niwed i'r llystyfiant wrth i dda byw sathru neu ddamsang ormod ar y tir neu wrth i gerbydau rigoli'r tir ormod;

  • mae i “gohebiaeth electronig” yr un ystyr ag “electronic communication” yn Neddf Cyfathrebu Electronig 2000(6));

  • ystyr “gorbori” (“overgrazing”) yw pori tir â da byw mewn niferoedd sy'n amharu ar dwf, ansawdd neu gyfansoddiad rhywogaethau'r llystyfiant (heblaw llystyfiant sydd fel rheol yn cael ei bori nes ei ddinistrio) ar y tir hwnnw i raddau arwyddocaol a dehonglir “wedi'i orbori” yn unol â hynny;

  • ystyr “gweithredydd lladd-dy” (“slaughterhouse operator) yw person sy'n cynnal busnes lladd-dy neu gynrychiolydd person o'r fath a awdurdodwyd yn briodol;

  • ystyr “llo premiwm” (“premium calf) yw anifail buchol sy'n un mis oed o leiaf, ond yn llai na saith mis oed adeg ei gigydda a gyda phwysau carcas sy'n llai na 160 kilogram, ac y mae neu y bydd cais wedi'i gyflwyno mewn perthynas ag ef;

  • ystyr “mesur rheoli penodedig” (“specified control measure) yw unrhyw wiriad y mae'n ofynnol i Aelod-wladwriaeth ei gynnal o dan Erthygl 6 o Reoliad y Comisiwn 3887/92;

  • ystyr “pasbort gwartheg” (“cattle passport), mewn perthynas ag anifail premiwm—

    (a)

    yr oedd Gorchymyn Pasbortau Gwartheg 1996(7) yn gymwys iddo, yw pasbort gwartheg fel y'i diffinnir yn erthygl 2(2) o'r Gorchymyn hwnnw;

    (b)

    yr oedd Erthygl 6(1) o Reoliad y Cyngor 820/97 yn gymwys iddo, yw pasbort gwartheg dilys a roddwyd yn unol â'r Erthygl honno; ac

    (c)

    y mae Erthygl 6(1) o Reoliad 1760/2000 yn gymwys iddo, yw pasbort gwartheg dilys a roddwyd yn unol â'r Erthygl honno;

  • ystyr “person awdurdodedig” (“authorised person) yw person sydd wedi'i awdurdodi gan y Bwrdd, yn gyffredinol neu'n arbennig, i weithredu, mewn materion sy'n codi o dan y Rheoliadau hyn, p'un a yw'n un o swyddogion y Bwrdd hwnnw neu beidio;

  • ystyr “premiwm cigydda” (“slaughter premium”) yw premiwm a roddir yn unol ag Erthygl 11 o Reoliad y Cyngor 1254/1999 i gynhyrchydd sy'n cadw anifeiliaid buchol ar ei ddaliad, ar ôl i anifail buchol gael ei gigydda;

  • ystyr “rheolau'r Gymuned” (“the Community rules) yw'r rheolau ynghylch y premiwm cigydda a nodir yn Erthyglau 11, 21 a 23 o Reoliad y Cyngor 1254/1999 a Phennod V o Reoliad y Comisiwn 2342/1999 a'r rheolau ynghylch cynhwysion ceisiadau a nodir yn Erthygl 5 ac ynghylch lleihau cymorth y Gymuned a nodir yn Erthyglau 10, 10b, 10c a 10d o Reoliad y Comisiwn 3887/92;

  • ystyr “Rheoliad y Comisiwn 2342/1999” (“Commission Regulation 2342/1999”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2342/1999 sy'n nodi rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1254/1999 ar y gyd-drefniadaeth ar gyfer y farchnad cig eidion a chig llo o ran cynlluniau premiwm (8) (fel y'i diwygiwyd gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1042/2000(9)) a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1900/2000(10);

  • ystyr “Rheoliad y Comisiwn 3887/92” (“Commission Regulation 3887/92”) yw Rheoliad y Comisiwn (EEC) Rhif 3887/92 sy'n nodi rheolau manwl ar gyfer cymhwyso'r system integredig gweinyddu a rheoli ar gyfer rhai o gynlluniau cymorth y Gymuned(11)h);

  • ystyr “Rheoliad y Cyngor 820/97” (“Council Regulation 820/97”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 820/97 yn sefydlu system ar gyfer adnabod a chofrestru anifeiliaid buchol ac ynghylch labelu cynhyrchion cig eidion(12);

  • ystyr “Rheoliad y Cyngor 1254/1999” (“Council Regulation 1254/1999”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1254/1999 ynghylch y gyd-drefniadaeth ar gyfer y farchnad cig eidion a chig llo(13));

  • ystyr “Rheoliad 1760/2000” (“Regulation 1760/2000”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1760/2000 Senedd Ewrop a'r Cyngor yn sefydlu system ar gyfer adnabod a chofrestru anifeiliaid buchol ac yn ei gwneud yn ofynnol labelu cig eidion a chynhyrchion cig eidion ac yn diddymu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 820/97(14);

  • ystyr “Rheoliadau IACS” (“the IACS Regulations) yw Rheoliadau System Integredig Gweinyddu a Rheoli 1993(15);

  • ystyr “rhif lladd” (“kill number”) yw'r rhif, sy'n unigryw i bob anifail premiwm, a roddir mewn lladd-dy ar gyfer cigydda'r anifail hwnnw;

  • ystyr “rhif tag clust” (“eartag number”) yw—

    (a)

    y rhif ar dag clust sydd wedi'i gyplysu ag anifail buchol fel y dull adnabod a gymeradwywyd ac sy'n angenrheidiol o dan erthygl 4(1) o Orchymyn Anifeiliaid Buchol (Adnabod, Marcio a Chofnodion Bridio) 1990, neu

    (b)

    rhif tag clust fel y'i diffinnir yn erthygl 2(1) o Orchymyn Anifeiliaid Buchol (Cofnodion, Adnabod a Symud) 1995, neu

    (c)

    y cod adnabod unigryw y cyfeirir ato yn Erthygl 4(1) o Reoliad 1760/2000,yn ôl fel y digwydd;

  • ystyr “swyddog” (“officer) yw cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg i geisydd neu i weithredwr lladd-dy sy'n gorff corfforaethol, neu unrhyw berson sy'n honni ei fod yn gweithredu mewn unrhyw swyddogaeth o'r fath.

(2Mae cyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at unrhyw beth a wneir yn ysgrifenedig neu a gynhyrchir ar ffurf ysgrifenedig yn cynnwys cyfeiriad at ohebiaeth electronig sydd wedi'i chofnodi ac felly yn gallu cael ei hatgynhyrchu wedyn.

(3Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at offeryn y Gymuned yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y mae wedi'i ddiwygio ar y dyddiad y gwneir y Rheoliadau hyn.

(4Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at reoliad neu Ran â rhif (heb gyfeiriad at offeryn penodol) yn gyfeiriad at y rheoliad neu'r Rhan sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn ac mae unrhyw gyfeiriad at yr Atodlen yn gyfeiriad at yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

Rhan IIAmodau ar gyfer talu'r premiwm cigydda

Cymhwyso rheoliadau 4 i 11 ac 20 (pan fydd yn ymwneud â Rhan II)

3.  Mae Rheoliadau 4 i 11, ac (i'r graddau y mae'n ymwneud â hysbysiadau a gyflwynir o dan reoliad 8(1) neu (3)) rheoliad 20, yn gymwys i geiswyr a meddianwyr tir i'r graddau mai'r Cynulliad Cenedlaethol yw'r awdurdod cymwys perthnasol mewn perthynas â'u daliadau at ddibenion Rheoliadau IACS.

Gwneud cais am y premiwm cigydda

4.—(1Rhaid i gais mewn perthynas â llo premiwm, anifail premiwm mewn oed ac anifail premiwm hŷn gael ei gyflwyno i'r Bwrdd a rhaid i bob cais fod ar unrhyw ffurf a chynnwys unrhyw fanylion, yn ychwanegol at yr wybodaeth sy'n ofynnol o dan reolau'r Gymuned, ac unrhyw ddogfennau, y bydd y Bwrdd yn gofyn yn rhesymol amdanynt.

(2Gyda chais mewn perthynas â llo premiwm sy'n bum mis oed o leiaf adeg ei gigydda, rhaid anfon y cofnod ysgrifenedig ynghylch ei gigydda y cyfeirir ato ym mharagraff 5 o'r Atodlen.

(3Caiff cais a gyflwynir yn unol â pharagraff (1) fod yn gais mewn perthynas ag unrhyw nifer o loi premiwm, anifeiliaid premiwm mewn oed neu anifeiliaid premiwm hŷn, yn ôl fel y digwydd.

Y cyfnod ar gyfer cyflwyno ceisiadau

5.  Rhaid i gais gael ei gyflwyno i'r Bwrdd, o fewn cyfnod sy'n dechrau ar y diwrnod ar ôl diwedd y cyfnod cadw am yr anifail premiwm y gwneir y cais mewn perthynas ag ef ac sy'n dod i ben—

(a)chwe mis wedyn, neu

(b)ar ddiwedd mis Chwefror yn y flwyddyn galendr yn dilyn y flwyddyn galendr y cafodd yr anifail premiwm hwnnw ei gigydda ynddi,

p'un bynnag sydd gyntaf.

Cyfyngiad ar nifer y ceisiadau

6.  Ni fydd gan geisydd hawl i gyflwyno mwy nag—

(a)deuddeg cais mewn perthynas â lloi premiwm, a

(b)deuddeg cais mewn perthynas ag anifeiliaid premiwm mewn oed, ac

(c)deuddeg cais mewn perthynas ag anifeiliaid premiwm hŷn

sy'n cael eu cigydda mewn unrhyw un flwyddyn galendr.

Cigydda mewn lladd-dai cofrestredig

7.—(1Ni roddir premiwm cigydda i unrhyw geisydd am gigydda anifail premiwm oni bai bod yr amodau a bennir ym mharagraff (2) wedi'u bodloni.

(2Dyma'r amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)—

(a)yn achos cigydda anifail premiwm heblaw llo premiwm, ei fod wedi'i gigydda mewn lladd-dy sydd wedi'i gofrestru ar gyfer cigydda anifeiliaid premiwm heblaw lloi premiwm gan y Bwrdd—

(i)yn unol â rheoliad 14; neu

(ii)yn unol ag unrhyw ddeddfiad sy'n rhoi pŵ er cofrestru cyfatebol mewn perthynas â lladd-dai yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon mewn telerau sydd o ran eu sylwedd yn union yr un fath â'r telerau a geir yn rheoliadau 13 i 19 ac yn yr Atodlen;

a

(b)yn achos cigydda llo premiwm, ei fod wedi'i gigydda mewn lladd-dy sydd wedi'i gofrestru ar gyfer cigydda lloi premiwm gan y Bwrdd—

(i)yn unol â rheoliad 14; neu

(ii)yn unol ag unrhyw ddeddfiad sy'n rhoi pŵ er cofrestru cyfatebol mewn perthynas â lladd-dai yn Lloegr, yr Alban, neu Ogledd Iwerddon mewn telerau sydd o ran eu sylwedd yn union yr un fath â'r telerau a geir yn rheoliad 13 i 19 ac yn yr Atodlen.

Gorbori

8.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), os bydd y Bwrdd o'r farn bod unrhyw barsel o dir yn cael ei orbori, caiff gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r meddiannydd gan bennu uchafswm yr anifeiliaid a all gael eu pori a'u cadw ar y parsel hwnnw yn y flwyddyn galendr ganlynol.

(2Pennir yr uchafswm y cyfeirir ato ym mharagraff (1) drwy gymryd i ystyriaeth yr amgylchiadau hynny a bennir yn yr hysbysiad.

(3Os yw hysbysiad mewn perthynas â pharsel o dir wedi'i gyflwyno gan y Bwrdd o'r blaen o dan baragraff (1) neu gan y Cynulliad Cenedlaethol dan unrhyw ddarpariaeth a bennir ym mharagraff (5), caiff y Bwrdd gyflwyno hysbysiad pellach o dan baragraff (1) mewn perthynas ag ef heb iddo fod o'r farn ei fod yn cael ei orbori.

(4Os yw hysbysiad mewn perthynas â pharsel o dir wedi'i gyflwyno gan y Bwrdd o dan baragraff (1) neu (3) neu gan y Cynulliad Cenedlaethol dan unrhyw ddarpariaeth a bennir ym mharagraff (5), rhaid i'r Bwrdd beidio â thalu, neu os yw eisoes wedi'i dalu, adennill, unrhyw bremiwm cigydda sy'n daladwy neu a dalwyd ar y nifer hwnnw o anifeiliaid premiwm a gafodd eu pori a'u cadw yno yn y flwyddyn galendr y cyhoeddwyd yr hysbysiad hwnnw yn ei gylch, a fyddai, o'u hychwanegu at y nifer o anifeiliaid arall (gan gynnwys anifeiliaid premiwm) a borwyd ac a gynhaliwyd yno yn y flwyddyn honno, yn golygu eu bod yn mynd ymhellach na'r uchafrif anifeiliaid a bennwyd yn yr hysbysiad.

(5Y darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (3) a (4) yw'r canlynol—

(a)rheoliad 11 o Reoliadau Cynllun Premiwn Arbennig Eidion 1996;

(b)rheoliad 3A o Reoliadau Premiwm Buchod Sugno 1993(16);

(c)rheoliad 3A o Reoliadau Premiwm Blynyddol Defaid 1992(17);

(6Caiff y Bwrdd beidio a thalu, neu adennill, premiwm cigydda os yw'n fodlon bod unrhyw amod arall yn yr hysbysiad wedi'i dorri.

Dulliau bwydo atodol anaddas

9.—(1Os bydd ceisydd, mewn unrhyw flwyddyn galendr, yn defnyddio dulliau bwydo atodol anaddas, caiff y Bwrdd—

(a)yn unol â pharagraff (2), leihau swm y premiwm cigydda a fyddai fel arall yn daladwy i'r ceisydd neu ei ddal yn ôl; neu

(b)os yw'r premiwm cigydda wedi'i dalu i'r ceisydd eisoes, adennill unrhyw bremiwm cigydda a dalwyd felly;

mewn perthynas ag anifeiliaid premiwm a gafodd eu cigydda yn y flwyddyn honno.

(2Os na chafodd y ceisydd ei gosbi am ddefnyddio dulliau bwydo atodol anaddas o dan baragraff (1) neu o dan unrhyw un o'r darpariaethau a bennir ym mharagraff (3) yn y flwyddyn galendr flaenorol, gall swm y premiwm cigydda y cyfeirir ato ym mharagraff (1) gael ei ostwng deg y cant; os cafodd y ceisydd ei gosbi felly yn y flwyddyn galendr flaenorol, ond nid yn y flwyddyn galendr cyn honno, gall y swm hwnnw gael ei ostwng ugain y cant; ac os cafodd y ceisydd ei gosbi felly ymhob un o'r ddwy flwyddyn galendr flaenorol, gall y swm hwnnw gael ei ddal yn ôl.

(3Y darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) yw—

(a)rheoliad 12 o Reoliadau Cynllun Premiwm Arbennig Cig Eidion 1996;

(b)rheoliad 3B o Reoliadau Premiwm Buchod Sugno 1993; a

(c)rheoliad 3B o Reoliadau Premiwm Blynyddol Defaid 1992.

Dal y premiwm cigydda yn ôl a'i adennill

10.  Caiff y Bwrdd ddal yn ôl, neu adennill ar gais, y cyfan neu unrhyw ran o unrhyw bremiwm cigydda a hawliwyd oddi wrtho neu a roddwyd ganddo o dan unrhyw un o'r amgylchiadau canlynol—

(a)os na fyddai, neu os nad yw, rhoi premiwm cigydda i'r ceisydd o dan sylw yn cydymffurfio â rheolau'r Gymuned;

(b)os nad oedd anifail premiwm, ar unrhyw adeg rhwng cyflwyno'r cais mewn perthynas ag ef a'i gigydda—

(i)yn destun adnabyddiaeth a gymeradwywyd yn unol â gofynion erthygl 4(1) o Orchymyn Anifeiliaid Buchol (Adnabod, Marchnata a Chofnodion Bridio) 1990; neu

(ii)wedi'i adnabod â thag clust yn unol ag erthygl 8 neu 9 o Orchymyn Anifeiliaid Buchol (Cofnodion, Adnabod a Symud) 1995; neu

(iii)wedi'i gofrestru yn unol â rheoliad 5 o Reoliadau Gwartheg (Cofrestru Anifeiliaid Hŷn) (Cymru) 2000(18); neu yn unol ag unrhyw ddarpariaethau ar gyfer cofrestru o'r fath a gynhwysir yn unrhyw reoliadau cyfatebol sy'n gymwys yn Lloegr, yr Alban neu Gogledd Iwerddon; neu

(iv)wedi'i adnabod a'i gofrestru yn unol â Rheoliad y Cyngor 820/97 a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2629/97 sy'n nodi rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 820/97 ynghylch tagiau clust, cofrestrau daliadau a phasbortau yn fframwaith y system ar gyfer adnabod a chofrestru anifeiliaid buchol(19); neu

(v)wedi'i adnabod a'i gofrestru yn unol â Rheoliad 1760/2000;

(c)os nad yw'r amodau a bennir yn rheoliad 7(2) wedi'u bodloni;

(ch)os yw'r ceisydd o dan sylw, neu swyddog, gweithiwr cyflogedig, gwas neu asiant i'r ceisydd hwnnw, yn fwriadol yn rhwystro person awdurdodedig, neu berson sy'n mynd gyda pherson awdurdodedig ac yn gweithredu o dan ei gyfarwyddiadau, rhag arfer unrhyw bŵ er a roddir gan reoliadau 24 neu 25, neu'n methu heb esgus rhesymol â chydymffurfio â gofyniad a wneir gan berson awdurdodedig o dan reoliad 25, neu â chais a wneir gan berson awdurdodedig o dan reoliad 26; a

(d)os yw'r ceisydd, gyda'r bwriad o gaffael taliad premiwn cigydda iddo'i hun neu unrhyw berson arall, yn fwriadol neu'n ddi-hid, wedi gwneud datganiad neu roi unrhyw wybodaeth sy'n ffug neu'n gamarweiniol mewn manylyn perthnasol.

Cyfradd llog

11.  Os yw'r Bwrdd yn adennill y cyfan neu unrhyw ran o unrhyw bremiwm cigydda yn unol â rheoliad 10, oni bai bod y swm a adenillir wedi'i dalu yn sgil gwall ar ei ran, bydd ganddo hawl hefyd i godi llog a'i adennill ar gais ar y swm a adenillir yn ôl y gyfradd o un y cant uwchlaw Cyfradd Cynnig Cyd-fanciau Llundain tri mis sterling fesul dydd am y cyfnod rhwng y talu a'r adennill.

Rhan IIICofrestru lladd-dai

Cymhwyso rheoliadau 13 i 19 ac 20 (pan fydd yn ymwneud â Rhan III)

12.  Mae rheoliadau 13 i 19, ac (i'r graddau y mae'n ymwneud â hysbysiadau a gyflwynir o dan reoliad 15 neu 17) rheoliad 20, yn gymwys i ladd-dai yng Nghymru.

Gwneud cais am gofrestru

13.—(1Caiff gweithredydd lladd-dy wneud cais i'r Bwrdd am gofrestru lladd-dy i gigydda anifeiliaid premiwm heblaw lloi premiwm, neu loi premiwm, neu'r ddau.

(2Rhaid i gais o dan baragraff (1)—

(a)bod yn ysgrifenedig;

(b)bod yn yr iaith Saesneg neu'r iaith Gymraeg:

(c)cael ei lofnodi gan y gweithredydd lladd-dy neu ar ei ran;

(ch)cynnwys enw, neu enw busnes, a chyfeiriad y gweithredydd lladd-dy;

(d)enwi'r lladd-dy y mae'r cais yn ymwneud ag ef;

(dd)nodi'r anifeiliaid premiwm y gwneir y cais am gofrestru ar eu cyfer;

(e)cynnwys ymrwymiad—

(i)os caiff y lladd-dy ei gofrestru, a chyhyd ag y caiff y lladd-dy ei gofrestru, i gigydda anifeiliaid premiwm heblaw lloi premiwm, y cydymffurfir â'r amodau a nodir yn Rhan 1 o'r Atodlen; a

(ii)os caiff y lladd-dy ei gofrestru a chyhyd ag y caiff lladd-dy ei gofrestru, i gigydda lloi premiwm, y cydymffurfir â'r amodau a nodir yn Rhannau I a II o'r Atodlen.

Cofrestru lladd-dai

14.  Os caiff cais sy'n cydymffurfio â rheoliad 13(2) ei gyflwyno o dan reoliad 13(1), rhaid i'r Bwrdd gofrestru'r lladd-dy a enwir ynddo i gigydda'r anifeiliaid premiwm a nodir yn unol â rheoliad 13(2)(dd) drwy nodi'r lladd-dy, ynghyd â nodyn o'r anifeiliaid premiwm a nodwyd felly, ar restr, y mae'n rhaid i'r Bwrdd ei chadw, o'r lladd-dai sydd wedi'u cofrestru fel hyn.

Torri'r amodau cofrestru

15.  Os nad yw'r Bwrdd wedi'i fodloni bod yr amodau a nodir yn Rhan I o'r Atodlen yn cael eu bodloni mewn lladd-dy cofrestredig, neu fod yr amodau a nodir yn Rhan II o'r Atodlen yn cael eu bodloni mewn lladd-dy sydd wedi'i gofrestru ar gyfer cigydda lloi premiwm, caiff gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i weithredydd y lladd-dy—

(a)yn datgan ei fod yn bwriadu dileu cofrestriad y lladd-dy am nad yw wedi'i fodloni bod yr amodau a nodir yn yr Atodlen yn cael eu bodloni yno;

(b)yn pennu'r amodau nad yw'r Bwrdd wedi'i fodloni mewn perthynas â hwy, y camau y mae'n ofynnol i weithredydd y lladd-dy eu cymryd er mwyn eu bodloni, ac amser rhesymol o ddwy wythnos o leiaf y mae'n rhaid i'r gweithredydd lladd-dy gymryd y camau hynny o'i fewn; ac

(c)yn datgan y caiff cofrestriad y lladd-dy ei ddileu os nad yw wedi'i fodloni pan ddaw'r amser rhesymol hwnnw i ben fod y camau angenrheidiol wedi'u cymryd.

Dileu cofrestriad

16.  Yn unol â'r weithdrefn yn rheoliad 17, caiff y Bwrdd ddileu cofrestriad lladd-dy—

(a)os yw'r Bwrdd wedi cyflwyno hysbysiad ysgrifenedig ar weithredydd y lladd-dy yn unol â rheoliad 15 a'i fod yn dal heb ei fodloni, pan ddaw'r amser rhesymol y cyfeirir ato yn rheoliad 15(b) i ben, fod yr amodau a bennir yn yr hysbysiad wedi'u bodloni; neu

(b)os yw gweithredydd y lladd-dy, neu unrhyw swyddog, gweithiwr cyflogedig, gwas neu asiant i weithredydd y lladd-dy wedi'i gollfarnu am dramgwydd mewn perthynas ag unrhyw gais.

Y weithdrefn ar gyfer dileu

17.—(1Rhaid i'r Bwrdd ddileu cofrestriad lladd-dy drwy gyflwyno hysbysiad dileu yn unol â pharagraff (2) a dileu'r lladd-dy oddi ar y rhestr sy'n cael ei chadw gan y Bwrdd o dan reoliad 14.

(2Rhaid i hysbysiad dileu o dan baragraff (1) gael ei gyflwyno i weithredydd y lladd-dy a rhaid iddo ddatgan—

(a)bod cofrestriad y lladd-dy ar gyfer cigydda anifeiliaid premiwm wedi'i ddileu, a

(b)na roddir unrhyw bremiwm cigydda am gigydda unrhyw anifail buchol a gaiff ei gigydda yn y lladd-dy oni bai ac hyd nes i'r lladd-dy gael ei gofrestru eto.

Arddangos hysbysiad dileu

18.  Os yw cofrestriad lladd-dy wedi'i ddileu yn unol â rheoliad 16, rhaid i weithredydd y lladd-dy ganiatáu i berson awdurdodedig ddodi copi o'r hysbysiad dileu yno mewn man amlwg y mae'n hawdd i bob person sy'n dod ag anifeiliaid i'r lladd-dy ei weld a rhaid iddo ei gadw yn y fan honno mewn cyflwr clir a darllenadwy nes bod blwyddyn o ddyddiad y dileu wedi dod i ben neu nes i'r lladd-dy gael ei gofrestru eto, p'un bynnag sydd gyntaf.

Cofrestru ar ôl dileu

19.—(1Os yw cofrestriad lladd-dy wedi'i ddileu yn unol â rheoliad 16, rhaid i'r Bwrdd beidio â'i gofrestru eto oni bai bod y Bwrdd wedi'i fodloni bod yr amodau a nodir yn Rhan I ac, os yw'r gweithredydd lladd-dy yn gwneud cais am gofrestru'r lladd-dy ar gyfer cigydda lloi premiwm, Rhan II o'r Atodlen yn cael eu bodloni yno.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (1) beth bynnag, os yw cofrestriad lladd-dy wedi'i ddileu yn unol â rheoliad 16(b) caiff y Bwrdd wrthod ei gofrestru eto nes bod unrhyw gyfnod, heb fod yn fwy na chwe mis ar ôl y dyddiad dileu, y mae'r Bwrdd yn credu ei fod yn rhesymol yn amgylchiadau'r achos yn dod i ben.

Rhan IVHysbysiadau

Cyflwyno hysbysiadau

20.  Gall unrhyw hysbysiad y mae'n ofynnol ei gyflwyno i feddiannydd parsel o dir yn unol a rheoliad 8(1) neu (3) neu i weithredydd lladd-dy yn unol a rheoliad 15 neu reoliad 17 gael ei gyflwyno—

(a)drwy fynd ag ef ato neu ati;

(b)drwy ei adael yn ei breswylfa neu ei fan busnes diwethaf, neu, os yw wedi rhoi cyfeiriad ar gyfer cyflwyno'r hysbysiad, yn y cyfeiriad hwnnw;

(c)drwy ei anfon mewn llythyr cofrestredig a dalwyd ymlaen llaw, neu drwy'r gwasanaeth dosbarthiad cofnodedig, wedi'i gyfeirio ato neu ati yn ei breswylfa neu ei fan busnes arferol neu'r un diwethaf a oedd yn hysbys neu, os yw wedi rhoi cyfeiriad ar gyfer cyflwyno'r hysbysiad, yn y cyfeiriad hwnnw; neu

(ch)yn achos corff corfforaethol, drwy fynd ag ef at ysgrifennydd neu glerc y corff corfforaethol yn ei swyddfa gofrestredig neu ei brif swyddfa, neu drwy ei anfon mewn llythyr cofrestredig a dalwyd ymlaen llaw, neu drwy'r gwasanaeth dosbarthiad cofnodedig, wedi'i gyfeirio at ysgrifennydd neu glerc y corff corfforaethol hwnnw yn y swyddfa honno.

Rhan VGorfodi

Cymhwyso rheoliadau 22 i 30

21.  Mae rheoliadau 22 i 30 yn gymwys—

(a)i'r graddau y maent yn ymwneud â cheiswyr, i'r graddau mai'r Cynulliad Cenedlaethol yw'r awdurdod cymwys perthnasol mewn perthynas â'u daliadau at ddibenion Rheoliadau IACS; a

(b)i'r graddau y maent yn ymwneud â lladd-dai, mewn perthynas â lladd-dai yng Nghymru.

Cadw cofnodion

22.  Rhaid i geisydd gadw unrhyw lyfr, cofrestr (heblaw cofrestr sy'n cael ei chadw i gydymffurfio ag Erthygl 7(1) a (4) o Reoliad 1760/2000), bil, anfoneb, cyfriflen, derbynneb, tystysgrif, taleb, gohebiaeth neu ddogfen neu gofnod arall ynghylch anifail premiwm y mae wedi cyflwyno cais mewn perthynas ag ef am gyfnod o bedair blynedd o'r dyddiad y cafodd y cais ei gyflwyno.

Arfer pwerau gan bersonau awdurdodedig

23.  Caiff person awdurdodedig, ar ôl dangos rhyw ddogfen a ddilyswyd yn briodol os gofynnir iddo wneud hynny, a honno'n dangos ei awdurdod, arfer pwerau a roddir gan reoliadau 24 a 25, ar bob adeg resymol, er mwyn—

(a)gweithredu unrhyw fesur rheoli penodedig; neu

(b)darganfod a oes tramgwydd o dan reoliad 28 wrthi'n cael ei gyflawni neu wedi'i gyflawni; neu

(c)sicrhau bod premiwm cigydda wedi'i roi, neu i gael ei roi, yn unol â'r canlynol yn unig—

(i)rheolau'r Gymuned; a

(ii)gofynion rheoliadau 8 a 9.

Pwerau i gael mynediad ac i archwilio

24.—(1Caiff person awdurdodedig fynd ar unrhyw dir, heblaw tir sy'n cael ei ddefnyddio yn annedd yn unig, sydd, neu y mae'n credu'n rhesymol ei fod—

(a)yn cael ei feddiannu gan geisydd neu ei ddefnyddio ganddo neu ganddi i gadw anifeiliaid buchol; neu

(b)yn cael ei ddefnyddio ar gyfer lladd-dy, neu mewn cysylltiad ag un.

(2Caiff person awdurdodedig sydd wedi mynd ar unrhyw dir yn rhinwedd y rheoliad hwn—

(a)archwilio a dilysu arwynebedd y tir neu unrhyw ran ohono;

(b)archwilio unrhyw adeilad, strwythur neu offer, gan gynnwys offer pwyso, ar y tir;

(c)archwilio a chyfrif unrhyw anifeiliaid buchol ar y tir a darllen eu tagiau clust neu eu marciau adnabod eraill;

(ch)archwilio unrhyw garcas, neu ran o garcas, o unrhyw anifail buchol ar y tir;

(d)gwneud unrhyw weithgaredd arall sy'n fesur rheoli penodedig; ac

(dd)archwilio'r tir er mwyn penderfynu a yw wedi'i orbori neu a oes dulliau bwydo atodol anaddas wedi'u defnyddio arno.

(3Caiff person awdurdodedig sy'n mynd ar dir yn rhinwedd y rheoliad hwn fynd ag unrhyw bersonau eraill sy'n gweithredu o dan ei gyfarwyddiadau y mae'n credu bod eu hangen gydag ef neu hi.

Pwerau mewn perthynas â dogfennau

25.  Caiff person awdurdodedig—

(a)ei gwneud yn ofynnol i geisydd neu unrhyw swyddog, gweithiwr cyflogedig, gwas neu asiant i geisydd gyflwyno unrhyw ddogfen sy'n perthyn i'r ceisydd sydd yn ei feddiant neu o dan ei reolaeth a rhoi unrhyw wybodaeth ychwanegol ym meddiant y person hwnnw neu o dan ei reolaeth ynghylch cais y bydd y person awdurdodedig yn gofyn yn rhesymol amdanynt;

(b)ei gwneud yn ofynnol i weithredydd lladd-dy neu unrhyw swyddog, gweithiwr cyflogedig, gwas neu asiant i weithredydd lladd-dy gyflwyno unrhyw ddogfen lladd-dy yn ei feddiant neu o dan ei reolaeth a rhoi unrhyw wybodaeth ychwanegol ym meddiant y person hwnnw neu o dan ei reolaeth ynghylch busnes neu weithrediadau lladd-dy neu ynghylch unrhyw anifail buchol sydd wedi'i gigydda neu wedi'i gludo yno i'w gigydda y bydd y person awdurdodedig yn gofyn yn rhesymol amdanynt;

(c)archwilio unrhyw ddogfen ceisydd y cyfeirir ati yn is-baragraff (a), neu unrhyw ddogfen lladd-dy y cyfeirir ati yn is-baragraff (b), ac, os yw'n cael ei chadw drwy gyfrwng cyfrifiadur, mynd at unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw offer neu ddeunyddiau cysylltiedig sy'n cael neu sydd wedi cael eu defnyddio mewn cysylltiad â'r ddogfen ceisydd honno, neu'r ddogfen lladd-dy honno, yn ôl fel y digwydd, a'u harchwilio ac edrych i weld sut y maent yn gweithio;

(ch)gwneud unrhyw gopïau o unrhyw ddogfen ceisydd y cyfeirir ati yn is-baragraff (a), neu unrhyw ddogfen lladd-dy y cyfeirir ati yn is-baragraff (b), y gwêl yn dda; a

(d)cipio a chadw unrhyw ddogfen ceisydd y cyfeirir ati yn is-baragraff (a), neu unrhyw ddogfen lladd-dy y cyfeirir ati yn is-baragraff (b), y mae ganddo neu ganddi reswm dros gredu y gallant fod yn ofynnol fel tystiolaeth mewn achos mewn perthynas â chais ac, os yw unrhyw ddogfen ceisydd neu ddogfen lladd-dy o'r fath yn cael ei chadw drwy gyfrwng cyfrifiadur, ei gwneud yn ofynnol ei chyflwyno ar ffurf a all gael ei chymryd i ffwrdd.

Cymorth i bersonau awdurdodedig

26.  Rhaid i geisydd, gweithredydd lladd-dy, unrhyw swyddog, gweithiwr cyflogedig, gwas neu asiant i geisydd neu i weithredydd lladd-dy ac unrhyw berson sydd â gofal anifeiliaid ar dir yr eir arno yn unol â rheoliad 24 roi i berson awdurdodedig y cymorth y mae'n gofyn yn rhesymol amdano i'w alluogi i arfer unrhyw bŵ er a roddir gan reoliad 24 neu 25 ac yn benodol, mewn perthynas ag unrhyw anifail buchol, rhaid iddynt drefnu bod yr anifail hwnnw'n cael ei osod mewn lloc a'i gadw'n ddiogel os gofynnir felly.

Tramgwyddo

27.  Bydd yn drosedd i berson—

(a)methu â chydymffurfio â rheoliad 22 heb esgus rhesymol;

(b)os yw cofrestriad lladd-dy ar gyfer cigydda anifeiliaid premiwm wedi'i ddileu, gwneud y canlynol heb esgus rhesymol—

(i)methu â chaniatáu i berson awdurdodedig ddodi copi o'r hysbysiad dileu yno mewn man amlwg y mae'n hawdd i bob person sy'n dod ag anifeiliaid i'r lladd-dy ei weld; neu

(ii)methu â chadw'r copi hwnnw o'r hysbysiad dileu yn y fan honno mewn cyflwr clir a darllenadwy nes bod blwyddyn o ddyddiad y dileu wedi dod i ben neu nes i'r lladd-dy gael ei gofrestru eto, p'un bynnag fydd gyntaf, neu newid neu ddifwyno'r hysbysiad;

(c)rhwystro person awdurdodedig yn fwriadol wrth iddo arfer pŵ er a roddir gan reoliad 24 neu 25;

(ch)methu, heb esgus rhesymol, â chydymffurfio â gofyniad a wneir o dan reoliad 25 neu gais a wneir o dan reoliad 26; neu

(d)gwneud datganiad, yn fwriadol neu'n ddi-hid neu roi unrhyw wybodaeth sy'n ffug neu'n gamarweiniol mewn manylyn perthnasol os yw'r datganiad yn cael ei wneud neu os yw'r wybodaeth yn cael ei rhoi er mwyn sicrhau bod premiwm cigydda'n cael ei roi iddo'i hun neu i unrhyw berson arall.

Cosbi

28.—(1Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan reoliad 27(a), (b), (c) neu (ch) yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.

(2Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan reoliad 27(d) yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.

Terfyn amser ar gyfer erlyn

29.—(1Gall achos ynglŷn â thramgwydd o dan reoliad 27, gael ei ddwyn, yn ddarostyngedig i baragraff (2), o fewn y cyfnod o chwe mis o'r dyddiad y caiff yr erlynydd wybod am dystiolaeth sy'n ddigonol yn ei farn ef neu hi i haeddu achos.

(2Ni all achos o'r fath gael ei ddwyn yn rhinwedd y rheoliad hwn fwy na deuddeng mis ar ôl i'r tramgwydd gael ei gyflawni.

(3At ddibenion y rheoliad hwn, bydd tystysgrif a lofnodir gan neu ar ran yr erlynydd ac yn datgan y dyddiad y cafodd wybod am dystiolaeth a oedd yn ddigonol yn ei farn ef neu hi i haeddu'r achos yn dystiolaeth ddigamsyniol o'r ffaith honno.

(4Bernir bod tystysgrif sy'n datgan y mater hwnnw ac sy'n ymhonni ei bod wedi'i llofnodi felly wedi'i llofnod felly oni phrofir i'r gwrthwyneb.

Tramgwyddau cyrff corfforaethol

30.—(1Pan yw corff corfforaethol yn euog o dramgwydd o dan reoliad 27, a phan brofir bod y tramgwydd hwnnw wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad swyddog i'r corff corfforaethol, neu y gellir ei briodoli i unrhyw esgeulustod ar ei ran, bydd y person hwnnw, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o'r tramgwydd ac yn agored i achos a chosb yn unol â hynny.

(2At ddibenion paragraff (1), ystyr “swyddog” mewn perthynas â chorff corfforaethol y rheolir ei faterion gan ei aelodau, yw aelod o'r corff corfforaethol hwnnw.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(20).

D. Elis Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

27 Mawrth 2001

Rheoliadau 4(2), 7(2) a 13(2)(g)

ATODLENAMODAU Y MAE'N RHAID I LADD-DAI COFRESTREDIG GYDYMFFURFIO Å HWY

RHAN 1

Amodau sy'n gymwysadwy at bob anifail premiwm

1.  Rhaid i'r gweithredydd lladd-dy wneud cofnod cywir, ar gyfer pob diwrnod, yn ysgrifenedig neu drwy gyfrwng cyfrifiadur, o rif lladd, dyddiad cigydda ac (yn ddarostyngedig i baragraff 2) rhif tag clust pob anifail premiwm sy'n cael ei ladd ar y diwrnod hwnnw.

2.  Os nad oes gan anifail premiwm rif tag clust, ond ei fod wedi'i farcio â dull adnabod arall a gymeradwywyd neu fod dull adnabod arall a gymeradwywyd ar gael gydag ef, rhaid i'r gweithredydd lladd-dy nodi copi o'r dull adnabod arall a gymeradwywyd yn y cofnod y cyfeirir ato ym mharagraff 1 yn lle'r rhif tag clust.

3.  Rhaid i'r gweithredydd lladd-dy gadw'r cofnodion y cyfeirir atynt ym mharagraff 1 a phob dogfen lladd-dy arall, ac eithrio tagiau clust, pasbortau gwartheg a dulliau adnabod eraill a gymeradwywyd, tan 31 Rhagfyr yn y drydedd flwyddyn ar ôl y flwyddyn y cawsant eu creu, neu y daethant i law'r gweithredydd, p'un bynnag yw'r hwyraf.

4.  Rhaid i'r gweithredydd lladd-dy sicrhau bod person awdurdodedig sy'n bresennol yn y lladd-dy, neu sy'n cyfathrebu â'r lladd-dy, yn cael arfer y pwerau a roddir gan reoliadau 24 a 25, y cydymffurfir ag unrhyw ofyniad a wneir gan berson awdurdodedig o dan reoliad 25 a bod cymorth yn cael ei roi iddo neu iddi yn unol â rheoliad 26.

RHAN II

Amodau sy'n gymwysadwy at loi premiwm sy'n cael eu cigydda yn bum mis neu'n chwe mis oed

5.  Ar ôl cigydda llo premiwm sy'n bum mis oed o leiaf, rhaid i'r gweithredydd lladd-dy roi cofnod ysgrifenedig i'r person y prynodd y llo oddi wrtho, neu y lladdodd y llo ar ei ran, yn ôl fel y digwydd, a hwnnw'n dangos—

(a)enw a chyfeiriad y lladd-dy;

(b)rhif tag clust y llo premiwm;

(c)ei rif lladd;

(ch)dyddiad ei gigydda;

(d)pwysau'r carcas; ac

(dd)a gafodd y carcas ei bwyso—

(i)ar ôl cael ei oeri neu yn gynnes; a

(ii)gyda'r afu, yr arennau a braster yr arennau neu hebddynt.

6.—(1Pwysau'r carcas a gyflwynir âr ôl ei flingo, ei ddiberfeddu a'i waedu, heb y pen a'r traed, a hynny mewn cilogramau ar ôl ei oeri, neu ei bwysau cynnes mewn cilogramau cyn gynted â phosibl ar ôl ei gigydda wedi'u gostwng dau y cant, yw pwysau'r carcas y cyfeirir atynt ym mharagraff 5(d) o'r Atodlen hon.

(2Os cyflwynir y carcas heb yr afu, yr arennau neu fraster yr arennau, rhaid cynyddu ei bwysau yn ôl y canlynol—

(a)3.5 cilogram am yr afu;

(b)0.5 cilogram am yr arennau; ac

(c)3.5 cilogram am fraster yr arennau.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n dod i rym ar 25 Ebrill 2001, yn nodi mesurau gweithredu cenedlaethol ar gyfer y cynllun premiwm cigydda ar gyfer anifeiliaid buchol a gyflwynwyd gan Erthygl 11 o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1254/1999 ar y gyd-drefniadaeth ar gyfer y farchnad cig eidion a chig llo (OJ Rhif L160, 26.6.1999, t.21). Maent yn darparu ar gyfer gweinyddiaeth y cynllun mewn perthynas â daliadau a leolir yn gyfan gwbl yng Nghymru, a hefyd daliadau sydd yn rhannol yng Nghymru ac yn rhannol mewn man arall yn y Deyrnas Unedig, os yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cytuno y bydd y Bwrdd Ymmyrraeth Cynnyrch Amaethyddol yn gyfrifol am brosesu cais y ffermwr am y premiwm (rheoliadau 3 i 11). Maent yn darparu hefyd ar gyfer gorfodi'r cynllun mewn perthynas â daliadau o'r fath (rheoliadau 21 i 30).

Mae'r darpariaethau ynghylch y gwaith gweinyddu yn sefydlu'r weithdrefn ar gyfer cyflwyno ceisiadau am y premiwm (rheoliadau 4, 5 a 6), yn gosod sancsiynau am orbori a defnyddio dulliau bwydo atodol anaddas (a gynhwysir yn un o amodau'r cynllun yn rhinwedd Erthygl 3 o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1259/1999 sy'n sefydlu rheolau cyffredin ar gyfer cynlluniau cymorth uniongyrchol o dan y polisi amaethyddol cyffredin (OJ Rhif L160, 26.6.1999, t.113)) (rheoliadau 8 a 9), ac yn darparu ar gyfer dal y premiwm cigydda yn ôl neu ei adennill os caiff rheolau'r cynllun eu torri (rheoliadau 10 ac 11). I fod yn gymwys i gael y premiwm cigydda, mae rheoliad 7 yn ei gwneud yn ofynnol bod rhaid i anifeiliaid gael eu cigydda mewn lladd-dai sydd wedi'u cofrestru gyda'r Bwrdd Ymyrraeth Cynnyrch Amaethyddol. Mae rheoliadau 12 i 19 yn darparu ar gyfer cofrestru lladd-dai a leolir yng Nghymru; o'r rhain, mae rheoliadau 13, 14, a 19 yn nodi'r weithdrefn ar gyfer cofrestru a rheoliadau 15 i 18 yr amgylchiadau a'r weithdrefn ar gyfer dileu cofrestriad. Mae'r amodau y mae'n rhaid i ladd-dai cofrestredig gydymffurfio â hwy wedi'u nodi yn yr Atodlen i'r Rheoliadau. Mae'r darpariaethau ar gyfer gorfodi yn rheoliadau 21 i 31 hefyd yn gymwys mewn perthynas â chofrestru fel hyn.

Mae'r darpariaethau ynghylch gorfodi yn ei gwneud yn ofynnol i geiswyr gadw cofnodion penodol (rheoliad 22) ac yn rhoi pwerau mynediad, pwerau archwilio a phwerau casglu tystiolaeth i bersonau awdurdodedig (rheoliadau 24 a 25). Mae'r rhain yn cynnwys y pwerau sy'n angenrheidiol o dan Erthygl 6 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 3887/92 sy'n nodi rheolau manwl ar gyfer defnyddio'r system integredig gweinyddu a rheoli ar gyfer cynlluniau cymorth Cymunedol penodol. Ymdrin â thramgwyddo a chosbi y mae rheoliadau 28 i 30.

Mae Arfarniad Rheoleiddio wedi'i baratoi ar gyfer y Rheoliadau hyn, ac mae copi ohono ar gael oddi wrth Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Yr Adran Amaethyddiaeth, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(1)

Yn rhinwedd Gorchymyn y Cymunedau Ewropeaidd (Dynodi) (Rhif 3) (O.S.1999/2788) (“y Gorchymyn”). Mae pŵ er y Cynulliad Cenedlaethol, fel corff sydd wedi'i ddynodi mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, i wneud rheoliadau sy'n gymwys i ddaliadau sy'n cynnwys tir a leolir o fewn y Deyrnas Unedig ond y tu allan i Gymru wedi'i gadarnhau gan baragraff 2(b) o Atodlen 2 i'r Gorchymyn.

(3)

O.S. 1996/3241, a ddiwygiwyd gan O.S. 1999/1179.

(4)

O.S. 1995/12, a ddiddymwyd yn rhannol gan O.S. 1998/871.

(5)

O.S. 1990/1867, a ddiwygiwyd gan O.S. 1993/503 ac a ddiddymwyd gan O.S. 1995/12.

(7)

O.S. 1996/1686, a ddiddymwyd gan O.S. 1998/871.

(8)

OJ Rhif L281, 4.11.1999, t.30.

(9)

OJ Rhif L118, 19.5.2000, t.4.

(10)

OJ Rhif L228, 8.9.2000, t.25.

(11)

OJ Rhif L391, 31.12.92, t.36, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2801/1999 (OJ Rhif L340, 31.12.1999, t.29).

(12)

OJ Rhif L117, 7.5.1997, t.1, a ddiddymwyd gan Reoliad EC Rhif 1760/2000 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L204, 11.8.2000, t.1).

(13)

OJ Rhif L160, 26.6.1999, t.21.

(14)

OJ Rhif L204, 11.8.2000, t.1.

(16)

O.S. 1993/1441, fel y'i diwygiwyd gan 1994/1528, 1995/15, 1995/1446, 1996/1448 a 1997/249.

(17)

O.S. 1992/2677, fel y'i diwygiwyd gan 1994/2741, 1995/2779, 1996/49 a 1997/2500.

(19)

OJ Rhif L354, 30.12.97, t.19.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources